Tuesday, July 03, 2012

Y ffolderi coch a chostau eraill

Mae'n ddiddorol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu llywodraeth Cymru am wario cyfanswm o £648 ar ffolderi coch newydd i aelodau'r cabinet - mae hyn yn £72 y ffolder - ar yr un diwrnod a mae manylion gwariant teithio teulu Elizabeth Windsor ar gyfer y llynedd wedi ei ryddhau.

Yn ol y Guardian cafodd y trethdalwr y fraint o dalu £6.1m at gostau teithio'r teulu brenhinol am 2010 - 2011. Er enghraifft, talwyd £500.000 ar gostau Charles Windsor tra roedd hwnnw yn ymweld a'r Dwyrain Canol. Roedd ei frawd, Andrew yn rhatach o lawer - dim ond £350,000 oedd rhaid ei dalu arno fo i gyd efo'i gilydd - gan gynnwys £81,000 ar ymweliad a Saudi Arabia a £90,000 ar ymweliad a China. Ond yn anhygoel llwyddodd i wario £10,470 ar daith o Northolt i Belffast ac yn ol.

Costiodd 13 taith ar y tren 'brenhinol' £900,000 - neu £42 y filltir. Costiodd un daith o Ayr i Lundain gan Charles Windsor a'i wraig £38,106. Dylid nodi mai costau teithio yn unig ydi'r uchod - mae'r teulu 'brenhinol' yn cael aros am ddim mewn llysgenadaethau a phlasau wedi iddynt orffen teithio.

Mae'r holl wariant lloerig yma'n cymharu'n anffafriol iawn efo gwariant David Cameron. £500 dalodd hwnnw am daith ar yr Eurostar i gyfarfod a Sarkosy ym Mharis, a £2,000 i hedfan i Afghanistan. Costiodd taith awyren o Aberdeen i Lundain wedi'r terfysgoedd i Charles a Camilla £19,583 - cymaint ag y bydda'n ei gostio i Cameron fynd i Afghanistan ac yn ol ddeg gwaith.

Rwan - 'dwi'n gwybod nad cyfrifoldeb y Cynulliad ydi gwariant ar deithio'r Windsors, ond byddai'n ddiddorol gwybod beth ydi barn Andrew RT a'r hogiau am hynny - ond fyddwn i ddim yn dal fy ngwynt a bod yn onest.

6 comments:

Anonymous said...

Rhaid cofio hefyd am y costau 'diogelwch' anferthol, sydd byth yn cael eu datgelu. Mae pob clwb ffwtbol, er enghraifft, yn gorfod talu'n ddrud am wasanaeth yr heddlu ar bnawn Sadyrnau - ond nid felly'r Saxe-Coburg-Gothas.

Sawl miliwn y flwyddyn y mae hyn yn ei gostio i'r trethdalwr tybed ?
Dyna dy waith cartref am yr wythnos hon Cai!

WEDI CAEL DIGON said...

O myn brain i! Dyma ni off 'to. Mae'n ymddangos bod gan fy nhyd-bleidwyr obsesiwn efo trivia'r teulu brenhinol. Gadwch lonydd iddi nhw. Dwi am alw am gadoediad o fewn y Blaid, dim son am y Frenhines na'i theulu am weddill y flwyddyn. Onid oes 'na bethau mwy pwysig a pherthnasol i wleidyddiaeth yng Nhymru heddiw?

Anonymous said...

Na - mae angen beirniadu a gwatwar teulu brenhinol Lloegr yn ddi-baid.
Rhaid atgoffa pobl o beth yw hanfod cenedlaetholdeb Cymreig, a beth yw hanfodion Prydeindod. Dim ond dwy ochr i ffens sydd.

Anonymous said...

A faint gostiodd y syrcas na yng Nghaeredin heddiw, yn nhermau dillad gwirion, teithio, diogelwch, bwyd, diod ayyb ?

Gwil Bodorgan, Saxe-Coburg-Gotha, yn cael ei wneud yn farchog o'r Urdd hynafol honno - The Order of the Thistle.

Nain, Taid, a hanner y ffirm yno. Duw a'n helpo ni!
Fysa hi ddim yn rhatach ei urddo fo yn Llundain.

Anonymous said...

Ymchwil gan fudiad Republic, (gweler wefan ardderchog y mudiad hwn) yn dangos mai £202,400,000 yw gwir gost y frenhiniaeth bob blwyddyn.

ozplacement said...

Hello, I love reading through your blog, I wanted to leave a little comment to support you and wish you a good continuation. Wish you best of luck for all your best efforts.
Gas Placement