Friday, July 13, 2012

Is etholiadau Ynys Mon

'Dwi'n hwyr glas ar hon, ond llongyfarchiadau i Vaughan Hughes am ennill sedd i'r Blaid yn Llanbedrgoch, Ynys Mon.

Mae hyn yn gwneud iawn am y ffaith anffodus na lwyddwyd i gael ymgeisydd yn Llanfairpwll i amddiffyn sedd oedd yn perthyn i'r Blaid.

Cotterel Annibynnol 92
Gill UKIP 89
Hughes Plaid Cymru 182
Kilkelly Annibynnol 92

5 comments:

Anonymous said...

Efallai nad yw'n gall gofyn y cwestiwn hwn i un o'r enw Larsen!

Ai Vaughan Hughes oedd yr unig ymgeisydd Cymraeg ei iaith? Mae'r cyfenwau awgrymu bod hynny'n bosib.

Cwestiwn - ydy gallu ymgeisydd yn y Gymraeg yn ffactor bwysig mewn wardiau lle mae'r iaith ar drai?

Oedd hwn yn achos lle'r oedd y rheiny oedd yn medru'r Gymraeg yn cefnogi un ymgeisydd a phleidlais y di-gymraeg yn raniedig?

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn gwybod - ond mae yna lawer o bobl yn y Gogledd Orllewin sydd a chyfenwau tramor ond sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf - yn arbennig yn y trefi ac ardal y chwareli.

Cai Larsen said...

ON - dydi Durkin ddim yn gyfenw Cymreig - ond roedd rhagflaenydd Vaughan yn siarad Cymraeg yn iawn.

Anonymous said...

Rong.Dim Cymraeg o gwbl gan Durkin.

Cai Larsen said...

Ti'n iawn - am rhyw reswm mi gymysgis i fo efo Clive McGregor.

Sori Clive!