Wednesday, July 18, 2012

DET a'r chwip

Mae gwrthryfel meinciau cefn yn rhywbeth sy'n digwydd o bryd i'w gilydd - fel y gwelwyd yn San Steffan wythnos ddiwethaf. Diffyg mewn arweinyddiaeth gwleidyddol sy'n aml yn arwain at wrthryfeloedd sylweddol. Dyna arweiniodd at ddigwyddiadau diweddar San Steffan.

Yr hyn sy'n nodweddu gwrthryfel Dafydd Elis-Thomas ydi ei fod yn wrthryfel un dyn - a bod yr un dyn hwnnw nid yn unig yn atal ei bleidlais, ond yn mynd ati i fynegi barn negyddol ynglyn ag aeddfedrwydd ei blaid wrth y wasg. Mae hynny'n awgrymu nad diffyg arweinyddiaeth ydi'r broblem yn yr achos yma, ond rhywbeth arall.

Y broblem sylfaenol efo helynt diweddaraf aelod Meirion Dwyfor ydi ei fod yn awgrymu nad oes ganddo'r rhinweddau a'r ddisgyblaeth sydd eu hangen i fod yn rhan effeithiol o grwp gwleidyddol. Mae gwyleidd-dra yn rhinwedd sy'n cael ei thanbrisio yn rhy aml. Mae angen gwyleidd-dra arnom i allu cyd fyw yn hapus efo'r bobl o'n cwmpas, ac mae angen gwyleidd-dra arnom i fod yn rhan effeithiol o unrhyw grwp - gwleidyddol neu fel arall. Rydym angen gwyleidd-dra i sylweddoli y gall ein barn fod yn anghywir, ac i sylweddoli bod barn gyfansawdd grwp yr ydym yn perthyn iddo yn aml yn bwysicach na'n barn ni ein hunain.

Y ffaith syml ydi hyn - Leanne Wood ac nid Dafydd Elis-Thomas enillodd yr etholiad arweinyddol eleni. O ganlyniad nid Dafydd sy'n arwain y Blaid, ond Leanne. Efallai bod Dafydd o'r farn bod dal y llywodraeth i gyfrif yn dystiolaeth o anaeddfedrwydd, ac efallai ei fod o'r farn mai priod bwrpas y Blaid ydi cefnogi'r Blaid Lafur. Mae ganddo pob hawl i'w farn.

Ond y gwir amdani ydi bod trwch aelodaeth y Blaid wedi dangos trwy bleidlais bod ganddynt fwy o ffydd ym marn gwleidyddol Leanne nag ym marn gwleidyddol Dafydd Elis-Thomas. Efallai ei fod o'n meddwl mai fo sy'n gwybod orau - mae hynny'n ddigon teg.

Yr hyn sydd ddim yn ddigon teg mewn cyfundrefn bleidiol ydi i aelodau etholedig roi eu barn eu hunain uwchben barn y grwp maent yn perthyn iddo. Petai pawb o fewn grwp y Blaid yn gweithredu yn yr un ffordd, ac yn aros o'r Cynulliad i agor archfarchnad, urddo myfyrwyr, cynnal syrjeris neu beth bynnag pob tro mae'n meddwl ei fod o / hi ei hun yn 'gwybod yn well' na'r farn gyfansawdd, mi fyddai'r grwp yn gwbl aneffeithiol.

Mae perthyn i grwp gwleidyddol yn golygu bod rhaid i'w aelodau unigol dderbyn bod y farn gyfansawdd yn bwysicach na'r farn unigol. Os ydi grwp yn cynnwys aelodau sy'n ddigon trahaus i ddyrchafu eu barn unigol nhw uwchben barn y grwp, yna mae gan y grwp hwnnw broblemau. Mae'r problemau hynny'n waeth os oes gan y grwp aelodau sy'n ei feirniadu'n allanol yn ogystal ag yn fewnol.

6 comments:

Anonymous said...

mae llawer o wirionedd yn yr hyn rwyt yn ei ddweud, ond mae hyn oll eto yn dangos diffyg arweinyddiaeth y Blaid a go brin y ceid yr un canlyniad heddiw petai'r etholiad ar gyfer yr arweinyddiaeth ymlaen nawr. Mae'n hen hen bryd cael chydig o synnwyr cyffredin i bethau a byw mewn realiti gwleidyddol ac nid gweithredu ar sail agenda o ramant fod y tyroedd am ein dilyn i'r gorwel yn eu miloedd yn sgil chwifio y faner goch! Pleidlais Lafur fydd yn ennill yng Nghymru y blynyddoedd nesaf a gorau cyn gynted fydd pobl yn derbyn hynny fel y medrwn yna fynd yn ol i fod yn genedlaetholwyr a sosialwyr gwyrdd yn y traddodiad gorau a gosod agenda Cymreig. Scarsely belif ysywaeth !!

Anonymous said...

mae llawer o wirionedd yn yr hyn rwyt yn ei ddweud, ond mae hyn oll eto yn dangos diffyg arweinyddiaeth y Blaid a go brin y ceid yr un canlyniad heddiw petai'r etholiad ar gyfer yr arweinyddiaeth ymlaen nawr. Mae'n hen hen bryd cael chydig o synnwyr cyffredin i bethau a byw mewn realiti gwleidyddol ac nid gweithredu ar sail agenda o ramant fod y tyroedd am ein dilyn i'r gorwel yn eu miloedd yn sgil chwifio y faner goch! Pleidlais Lafur fydd yn ennill yng Nghymru y blynyddoedd nesaf a gorau cyn gynted fydd pobl yn derbyn hynny fel y medrwn yna fynd yn ol i fod yn genedlaetholwyr a sosialwyr gwyrdd yn y traddodiad gorau a gosod agenda Cymreig. Scarsely belif ysywaeth !!

Anonymous said...

Cam gwag anhygoel(arall)gan yr Arglwydd. Mae wedi troi trychineb PR posibl i'r Blaid Lafur yn fuddugoliaeth sicr iddynt. Druan o Leanne Wood. Dim mis mel, ac un llanast ar ol y llall.

Anonymous said...

Ddylsa ni ddim orfodi e allan or Blaid - dyma mae i eisiau.

Dychmygwch etholiad 2015 "ges i fy orfodi or Blaid a dyma pam dwin sefyll fel rywun annibynnol".

Na, cadwch o i fewn i'r Blaid ond gwneud pethau mor anodd a syn bosibl iddo ef.

Raid deud fy mod i wedi yn siomi yn DET. Dwi really yn. Dwin teimlo efallai y ddylsa e wedi ymddeol yn 2011 ac o leiaf gadael y Cynulliad yn urddasol gyda ryw fath o ffyddlondeb i'r Blaid. Mae'r flwyddyn yma wedi bod yn PR disaster i'r dyn - mae ganddo 3 mlynedd i newid hyn i aelodau'r Blaid - meddylia dafydd.

Anonymous said...

Newydd glywed fod DET wedi ymuno efo Llais Gwynedd.

Wedi cyfarfod Now Gwynys neithiwr yn Fic Llithfaen.

Anonymous said...

Mi glywais innau mai Gwilym Owen oedd yn codi rownd i'r tri ohonynt.