Saturday, July 28, 2012

Allanoli gwasanaethau a thaflegrau niwclear.

'Dwi ddim yn siwr beth ydi'r term Cymraeg am outsourcing - allanoli o bosibl. Beth bynnag mae'n debyg gen i eich bod yn gwybod am yr hyn 'dwi'n son - y broses o roi cyfrifoldeb am wasanaethau cyhoeddus i'r sector preifat. Yn ol Golwg360 mae'r gyfrifoldeb sylweddol o gymryd gofal o daflegrau niwclear y DU yn yr Alban wedi ei allanoli i gwmni preifat ABL Alliance yn ddiweddar.

Mae cyd destun ehangach i hyn wrth gwrs. Rydym ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle mae mwy o allanoli i'r sector preifat yn mynd rhagddo na sydd wedi digwydd ers yr wyth degau. Mae'n debyg y bydd gwerth mwy na £4bn o gontractau yn cael eu harwyddo eleni yn unig. Mae llawer o'r contractau hyn yn rhai y byddai llawer ohonom yn eu hystyried yn rhai sy'n ymwneud a dyletswyddau creiddiol y wladwriaeth - plismona er enghraifft.

Syniadaeth wleidyddol sydd y tu ol i hyn oll - y gred bod cwmniau preifat o reidrwydd yn fwy effeithiol na sefydliadau cyhoeddus. Ond 'dydan ni ddim yn gorfod meddwl rhyw lawer i ddod ar draws esiamplau syfrdanol o fethiant gan gwmniau preifat i gynnig gwerth am arian wrth weinyddu gwasanaethau sydd wedi eu allanoli. Yr esiampl mwyaf diweddar ydi G4S - y cwmni a gafodd y gyfrifoldeb o sicrhau diogelwch yn ystod y Gemau Olympaidd yn Llundain. Er bod y cwmni wedi derbyn cymaint a £284m am eu 'gwasanaethau' mae'n debyg y bydd rhaid i'r heddlu a'r fyddin ddod o hyd i 20,000 o ddynion a merched i lenwi'r bylchau anferth yn narpariaeth G4S

Nid dyna'r esiampl waethaf o fethiant allanoli yn y DU - ddim o bell, bell ffordd. Arwyddodd llywodraeth Blair gontractau gwerth £12.7bn efo nifer o gwmniau technoleg gwybodaeth i ddarparu system gyfrifiadurol i'r gwasanaeth iechyd. Wnaeth pethau ddim gweithio o'r dechrau'n deg, ac yn y diwedd roedd rhaid rhoi'r gorau i'r ymarferiad yn llwyr.

'Does yna ddim llawer o dystiolaeth bod allanoli yn gweithio y tu allan i'r DU chwaith. Mewn astudiaeth gan sefydliad NFK yn Nenmarc yn ddiweddar edrychwyd ar holl allanoli'r wlad honno rhwng 2000 a 2011. Y casgliad oedd bod y broses yn creu man arbedion yn y tymor byr, ond bod y rheiny yn cael eu gor bwyso gan gostau uwch yn y tymor hirach ynghyd a chwymp posibl yn ansawdd y ddarpariaeth.

Rwan mae diogelu taflegrau niwclear yn joban go bwysig - ac mi fyddai dyn yn rhyw ddisgwyl y byddai'r wladwriaeth eisiau bod yn gwbl sicr ei bod yn cael ei gwneud yn effeithiol - mae darpariaeth niwclear y DU yn darged amlwg i derfysgwyr. Does yna ddim tystiolaeth y bydd edrych ar ol y taflegrau yn cael ei gwneud yn fwy effeithiol gan ABL Alliance - i'r gwrthwyneb - ac mae yna gryn dipyn o dystiolaeth hefyd y bydd cost effeithiolrwydd yn cael ei golli.

Esiampl hynod anymunol o ddogma yn cael ei roi o flaen diogelwch cyhoeddus mae gen i ofn.

8 comments:

Anonymous said...

Mae dadansoddiad yr awdur yn rhy syml o lawer. Mae'r smonach yn aml iawn yn ganlyniad i flerwch, haerllugrwydd ac aneffeithlonrwydd y corff cyhoeddus sy'n comisiynu'r gwaith gan y sector breifat. Rhywbeth, mae gen i ofn, dwi wedi bod yn dyst iddo yn rhy aml.

Cai Larsen said...

Wel mae hynny yn wir ar adegau - ond mae yna resymau eraill hefyd. Y prif reswm ydi bod cystadleuaeth yn cael ei ddileu yn amlach na pheidio - a dyna'r unig beth sy'n rhoi mantais i'r sector breifat tros yr un cyhoeddus.

Ffordd arall o'i roi ydi hyn - mae cwmniau preifat yn pocedu'r elw tra bod y trethdalwr yn derbyn y risg.

Anonymous said...

Os ydi'r corff cyhoeddus yn arwyddo cytundeb sy'n sicrhau fod yr holl fudd yn mynd i bocedi'r contractwyr a fod yr holl risg yn disgyn ar ysgwyddau'r trethdalwr yna mae'n bryd iddyn nhw ffeindio staff sy'n gwybod sut i negydu.

Cai Larsen said...

Ydi mae hynny'n wir - ond wrth gwrs mae eu capasiti i wneud hynny yn cael ei leihau yn ddyddiol. Mae traean o aelodau gwasanaeth sifil San Steffan wedi, neu ar fin colli eu swyddi.

Yn ychwanegol at hynny mae rhai o'r contractau yma mor fawr nad ydi hi'n bosobl i neb ond cwmniau anferth roi bid i mewn. Mae 80% o gontractau yn cael eu hadnewyddu efo'r Un cyflenwyr .

Anonymous said...

Dwi'n derbyn mai nid mater o ddu a gwyn yw hyn. Dyw cyflenwyr allanol ddim wastad yn addas ond mae hefyd yn gam gwag i fodloni ar wasanaethau mewnol sydd byth yn cael eu herio.

Pads said...

Mae cwmniau preifat yn gweithio da mewn marchnad, ond gan amlaf does dim marchnad gystadleuol go iawn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Trwy allanoli, mae cyrff cyhoeddus yn colli eu harbenigrwydd mewnol. Dych chi'n cael "Lemon Market" - fel prynu car ail-law, mae'r gwerthwr yn gwybod mwy am y car (a cheir) na chi, felly mae'n gallu gorbriso a gwerthu rhywbeth anaddas i'ch anghenion.

Sut bydd eich staff yn gwybod am Dechnoleg Gwybodaeth os nad oes staff TG gyda chi?

Cai Larsen said...

'Dwi'n derbyn hynny i raddau. Mae allanoli yn gallu gweithio pan mae amrywiaeth o gwmniau yn gallu cynnig bid, a phan mae y risg o fethiant yn gorwedd yn sgwar ar ysgwyddau'r cwmni darparu.
Anhysb - Dwi'n derbyn mai nid mater o ddu a gwyn yw hyn. Dyw cyflenwyr allanol ddim wastad yn addas ond mae hefyd yn gam gwag i fodloni ar wasanaethau mewnol sydd byth yn cael eu herio.


Byddwn yn derbyn hynny i raddau.

Ond mi fyddwn i hefyd yn ychwanegu bod yna bethau na ddylid byth eu allanoli - diogelwch, plismona, amddiffyn ac

Mae rhai pethau'n fwy addas na'i gilydd ar gyfer allanoli - gwasanaethau gweinyddiaeth sylfaenol yn ymgeiswyr da er enghraifft.

10:59 PM

Cai Larsen said...

Pads - cweit - mae contractau o'r math yma yn aml yn hynod, hynod gymhleth.