Thursday, May 31, 2012

Crafu tros Gymru

Mae'n debyg y gallai'r Cynulliad grafu tros Gymru - yn wir ymddengys ei bod yn crafu tros Gymru ar raddfa grotesg ac eithafol mewn perthynas a Jiwbili Mrs Windsor. Gweler y rhodd isod mae'r ddeddfwrfa am ei anfon iddi.


Gobeithio na fydd Mrs Windsor yn chwydu ar ol darllen y ffasiwn druth crafllyd - mae'r ddynas mewn cryn oed, a byddai'n anffodus iawn petai rhodd y Cynulliad yn achosi niwed parhaol o rhyw fath iddi.

Ffigyrau'r mis

Mi fydd y cyfnod o gwmpas etholiad yn garedig iawn efo Blogmenai fel arfer - dyna pryd y bydd y darlleniad ar ei uchaf o beth coblyn. Doedd mis Mai ddim yn eithriad - cafwyd y ffigyrau  uchaf erioed. Gan nad oes unrhyw etholiadau ar y gorwel, mae'n dra phosibl y bydd rhai blynyddoedd yn mynd rhagddynt nes i ni gael ffigyrau mor uchel eto.


Wednesday, May 30, 2012

Costau'r Jiwbili a 'gwerth' y teulu brenhinol

Rwan bod y ffagl Olympaidd yn diflannu tuag at Loegr, bydd ein cyfryngau 'Cymreig' yn troi eu sylw tuag ar y jiwbili brenhinol. Mae rhai o'r cyfryngau hynny yn flin iawn oherwydd gwariant ar yr iaith Gymraeg. Felly efallai na fyddai'n ddrwg o beth i gael cip ar gost y jiwbili yn benodol a'r teulu brenhinol yn gyffredinol.


Yn ol astudiaeth diweddar gan Brand Finance mae'r ffigyrau yn rhai mawr.


Mrs Windsor a rhai o'i ffrindiau


Yn ol Brand Finance mae asedau 'cyffyrddiadwy'r' teulu yn dod i tua £18 biliwn.
Gellir ychwanegu £26 biliwn o asedau anuniongyrchol. Cyfanswm o £44 biliwn. Os ydych eisiau rhywbeth i gymharu hyn efo fo, £14.7 biliwn ydi cyfanswm cyllideb gyfredol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys fwy neu lai yr holl wariant yng Nghymru ar y Gwasanaeth Iechyd a'r Gwasanaeth Addysg i dair miliwn o bobl.

Mi fyddwn yn clywed hyd at syrffed yr holl les fydd y sioe yn ei wneud i'r diwydiant twristiaeth. Yn ol yr adroddiad £924 miliwn fydd cyfanswm hyn, tra bydd cost y gwyl y banc ychwanegol ynddo ei hun yn £1.2 biliwn.

'Dydi'r adroddiad ddim yn edrych ar gostu diogelwch - sy'n debygol o fod yn anferthol. Mae'n debyg y bydd yr holl sioe yn costio cannoedd o weithiau'r hyn roedd y Western Mail yn honni ydi cost cyfieithu cofnod y Cynulliad i'r Gymraeg. Ond peidiwch a disgwyl i'r Bib na'r Western Mail ddweud hynny wrthych.

Not our colours

Fyddwn i ddim yn gallu ei roi yn well fy hun.

Tuesday, May 29, 2012

Y cyfryngau a'r ffagl - eto fyth

Yn ol fy nghyfri fi Gary Owen sydd wedi ennill y gystadleuaeth chwyrn rhwng gweision cyflog y Bib i drydar neu ail drydar canmoliaeth i'r ffagl fwy na neb arall. 21 neges hyd yn hyn yn ol fy nghyfri. Os ydw i wedi tan gyfri cyfraniadau unrhyw un arall o'r hogiau neu'r genod, plis gadewch i mi wybod er mwyn i mi gael unioni'r cam.

Hefyd llongyfarchiadau i'r Bib am efelychu ymdriniaeth sensitif y Western Mail o'r iaith Gymraeg a chael dau nytar eithafol i fyllio ar eu gilydd am y pwnc ar Radio 2.

Mae'n dda o beth nad ydi Blogmenai yn rhoi lle i conspiracy theories - beth bynnag ydi hynny yn y Gymraeg. Byddai antics y cyfryngau tros yr wythnos neu ddwy diwethaf wedi bod yn wythien ffrwythlon iawn ar gyfer deunydd crai ar gyfer damcaniaethu felly.

Map y partis brenhinol

Os ydych chi wedi bod yn pendroni os ydi'ch sir yn lle mawr am bartis, neu'r teulu brenhinol - neu'r ddau, gallwch wirio hynny ar Datablog y Guardian.  Os nad oes gennych yr amynedd i ymbalfalu yno, 'dwi wedi dwyn eu map. 

Friday, May 25, 2012

BBC Cymru ar ei waethaf

'Dwi'n gwylio ymdriniaeth Wales Today o daith y ffagl Olympaidd trwy Gaerdydd wrth 'sgwennu hyn. Rwan 'dwi'n derbyn bod llawer o'r sawl sy'n edrych ar y sioe yn mwynhau a 'ballu - iawn, pawb at y peth y bo.

Ond yr hyn sydd yn fy mlino ydi'r ffaith bod yr amrywiaeth barn yng Nghymru a thu hwnt tuag at y gemau yn cael ei anwybyddu'n llwyr. Mae llawer o bobl yn amheus o'r holl sioe - rhai am resymau tebyg i'r rhesymau sydd wedi eu gwyntyllu yn y blog hwn, a rhai am resymau eraill - yn arbennig felly costau uchel y gemau mewn cyfnod o dorri a thocio ym mhob maes arall. Os nad ydych yn fy nghredu, gofynwch i bump neu chwech o bobl am eu barn ar y mater.

Ond 'dydi'r Bib ddim yn caniatau i sill o'r beirniadaethau hynny amharu iot ar eu hapusrwydd ecstatig. Maent yn hyrwyddo un barn gydag arddeliad lloerig, a 'dydyn nhw ddim hyd yn oed yn cydnabod bodolaeth y farn arall. Byddwn yn gweld yr un peth yn union ganddynt pan ddaw'n amser y jiwbili.

Os oes yna unrhyw un am weld gwir bwrpas y BBC yng Nghymru, rhowch y teledu ymlaen ac edrych ar Wales Today.

Cabinet newydd Cyngor Gwynedd

Dwi braidd yn hwyr ar hon, ond gwell hwyr na hwyrach am wn i.

Portffolio
Deilydd
Cynnwys
Arweinydd
Dyfed Edwards (PC Penygroes)
Arweiniad Strategol; Cynllunio Busnes
Dirprwy Arweinydd
Sian Gwenllian (PC Y Felinheli)
Cyfathrebu
Addysg
Sian Gwenllian
Addysg, Aelod Arweiniol Plant a Phobl Ifanc
Gofal
R H Wyn Williams (PC Abersoch)
Gwasanaethau Cymdeithasol; Iechyd (Strategol)
Amgylchedd
Gareth Roberts (PC Aberdaron)
Priffyrdd; Bwrdeistrefol; Trafnidiaeth; Ymgynghoriaeth
Amddifadedd
Brian Jones (Llafur Cwm y Glo)
Atal tlodi/Amddifadedd; Cydraddoldeb
Economi
John Wynn Jones (Plaid Cymru Hendre)
Economi; Adfywio; Caffael; Celfyddydau
Cynllunio
John Wyn Williams (Plaid Cymru Pentir)
Tai; Cynllunio; Cynllun Datblygu Lleol
Adnoddau
Peredur Jenkins  (Plaid Cymru Brithdir)
Cyllid; Adnoddau Dynol; Trawsffurfio
Gofal Cwsmer
Ioan Thomas (Plaid Cymru Menai)
Gofal Cwsmer; Democratiaeth a Chyfreithiol; Gwarchod y Cyhoedd, Y Gymraeg
Gwynedd Iach
Paul Thomas (Plaid Cymru Bowydd a Rhiw)
Hamdden; Gwynedd Iach; Gwasanaethau Ieuenctid; Darparu



Llogyfarchiadau i bawb.

Jonathan Jones a'r penderfyniad i guddio'r Ddraig

Mae'n ddiddorol nodi o Golwg bod Cyfarwyddwr Marchnata a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, Jonathan Jones o'r farn y bydd Gemau Olympaidd Llundain yn rhoi coblyn o hwb i Gymru.

Ymddengys ei fod yn credu hyn er gwaetha'r ffaith bod Pwyllgor y Gemau Olympaidd yn gwneud eu gorau i guddio bodolaeth Cymru oddi wrth weddill y Byd. Ychydig iawn o'r gweithgareddau sydd wedi eu lleoli yma, ond mae'r Ddraig wedi eu gwahardd o leoliadau'r rheiny - ac yn wir mae wedi ei gwahardd o Stadiwm y Mileniwm.

Ac os ceisiwch gario'r ffagl a'r Ddraig ar yr un pryd bydd 'swyddogion diogelwch' yn rhwygo'r faner genedlaethol o'ch dwylo.

Mae'r awdurdodau Olympaidd yn benderfynol o guddio bodolaeth Cymru - ac maent yn fodlon defnyddio bon braich i guddio ei bodolaeth.

Os caiff Cymru unrhyw fudd o'r gemau Olympaidd, bydd hynny er gwaethaf y sawl sy'n gyfrifol amdanynt.

Tuesday, May 22, 2012

Stori fach y Western Mail

Mae'r hyn sydd yn ein cythruddo yn aml yn dweud llawer iawn am ein daliadau gwaelodol, ac am wn i bod hynny mor wir am dim golygyddol papur newydd nag ydyw am unrhyw un arall.  Felly mae'n debyg gen i bod tudalen flaen y Western Mail heddiw yn adrodd cyfrolau am ddaliadau gwaelodol tim golygyddol y papur hwnnw.


Cyn dechrau efallai y dyliwn nodi nad oes gen i unrhyw broblem fel y cyfryw efo'r Western Mail, nag unrhyw bapur arall yn codi cwestiynau ynglyn a gwario ar gyfieithu i'r Gymraeg.  Mae sicrhau atebolrwydd gan gyrff cyhoeddus yn un o briod ddylerswyddau gwasg rydd.  Yr hyn sydd yn drawiadol  yma, fodd bynnag ydi ymdriniaeth y papur o'r stori.  Mae'r ffigwr o £400k yn cael ei greu o awyr iach, mae'r pennawd yn ymfflamychol ac yn bersonol, ac mae'n cael ei phloncio ar dudalen flaen y papur.  Hynny yw mae stori sydd yn ei hanfod yn un digon sensitif yn derbyn ymdriniaeth tabloid digon cras ac ansoffistigedig.  Mae'n amlwg bod tim golygyddol y Mail wedi cael y myll oherwydd bod pres yn cael ei Ŷwario ar gyfieithu i'r Gymraeg. Mae'n amlwg hefyd nad ydynt yn deall sensitifrwydd rhaniadau ieithyddol yng Nghymru.

Rwan mae sawl elfen i hyn oll.  Er enghraifft 'dydi'r papur ddim yn cwyno am y 'gwastraff arian' wrth gyfieithu hysbysebion y Cynulliad i'r Gymraeg - ond wedyn maen nhw'n uniongyrchol elwa o hynny.  Yn wir, oni bai am hysbysebion sector cyhoeddus mi fyddai'r Western Mail wedi mynd i ddifancoll ers blynyddoedd lawer.  'Dydyn nhw ddim chwaith yn cwyno am y £500m mae'r Gemau Olympaidd yn ei gostio i Gymru, na'r £60m y bydd y jiwbili yn ei gostio i Gymru, na'r miliynau di derfyn aeth i lawr y draen ar ryfeloedd di bwrpas. Mae yna weithien addawol iawn i'w chloddio ym maes gwastraff mewn llywodraeth leol, neu lywodraeth genedlaethol. Ond na, mae'r Wester Mail yn mynd ati i efelychu'r Daily Express neu'r Daily Mail mewn stori am wariant ar yr iaith Gymraeg. Dyma un o'r ychydig faterion mae tim golygyddol y papur yn teimlo'n gryf amdano.

A dyna ydi'r peth rhyfedd am hyn oll. Beth bynnag ydi ein barn am y Daily Mail, a'r Daily Express, maent yn bapurau efo tan yn eu boliau. Mae ganddynt gyfeiriad golygyddol clir sy'n cael ei fynegi mewn modd cwbl ddi flewyn ar dafod. Ceir ymdeimlad o genhadaeth. Yn yr ystyr yna maent yn hollol wahanol i'r Western Mail - papur digon llipa a di gyfeiriad o ran gwerthoedd golygyddol creiddiol. Ond pan mae'r Western Mail yn penderfynu mynd i lawr llwybr ei gefndryd Seisnig mae'n gwneud hynny mewn modd sy'n rhedeg yn gwbl groes i'w honiad i fod yn bapur 'cenedlaethol' Cymru. Mae yna rhywbeth yn bisar am y syniad o 'bapur cenedlaethol' yn erlid yr iaith genedlaethol. Hynny yw, mae'r stori tudalen flaen yn tanseilio'r ddelwedd mae'r papur yn ceisio ei meithrin, yn ogystal a phechu llawer o'r darllenwyr. Allwch chi ddychmygu'r Daily Express yn ymosod ar y teulu brenhinol, neu'r Daily Mail yn rhedeg stori ymfflamychol ar bobl gwyn, dosbarth canol, canol oed yn osgoi talu eu trethi? Mae'r hyn wnaeth y Western Mail yn ymdebygu i hynny.

A goblygiadau hyn oll? Yn ol pob tebyg fydd y Western Mail ddim efo ni fel papur dyddiol am hir. Mae'n weddol amlwg nad oes gan golygyddion y papur fawr o glem o pwy ydi eu darllenwyr, natur eu marchnad botensial na pa mor bwysig ydi hi i gadw delwedd a hunaniaeth gyson i bapur newydd. Neu mewn geiriau eraill, does ganddyn nhw fawr o syniad ynglyn a'r hyn maent yn ei wneud.

Monday, May 21, 2012

Argymhellion Cheryl Gillan ar gyfer y Cynulliad

Felly mae Cheryl Gillan yn argymell yr hyn roedd pawb yn disgwyl iddi ei awgrymu ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn y dyfodol. Ei bwriad ydi lleihau'r nifer o etholaethau uniongyrchol o 40 i 30 yn unol a'r newidiadau yn etholaethau San Steffan, tra'n cynyddu'r nifer sy'n cael eu hethol trwy'r rhestrau rhanbarthol o 20 i 30.


Rwan mae hyn yn fwy teg na'r hyn mae Llafur yn bygwth ei wneud - mabwysiadu dull fyddai'n caniatau i'r blaid honno gael hyd at 60% o'r seddi gyda 30% o'r pleidleisiau. Ond mae'n dal yn ddull diffygiol. Mae dau reswm am hyn. Yn gyntaf mae'n ddull sy'n gwobreuo methiant etholiadol, ac yn ail mae'n caniatau i bleidiau yn hytrach nag etholwyr ddewis pwy sy'n eistedd yn y Cynulliad. Yn wir penderfyniad criw bach o Doriaid sy'n eistedd ar Fwrdd Rheoli'r Blaid Doriaidd oedd yn gyfrifol am ddewis tua hanner eu ASau - gweithred cwbl ddi gywilydd o anemocrataidd sydd heb gael unrhyw sylw gan y cyfryngau prif lif yng Nghymru.

Argymhelliad Blogmenai ydi diddymu'r etholaethau Cynulliad presenol, cynyddu nifer yr ACau o 60 i 80, mabwysiadu trefn STV a defnyddio'r siroedd fel unedau etholiadol aml aelod. Gallai hyn olygu y byddai gan Ynys Mon ddau aelod, Gwynedd tri, Rhondda Cynon Taf pump a Chaerdydd saith.

Byddai nifer o fanteision i'r dull yma.

1. Mae'n lled gyfrannol.
2. Mae'n sicrhau bod cysylltiad gan pob aelod efo etholaeth.
3. Mae'n trosglwyddo grym oddi wrth beiriannau gwleidyddol i etholwyr.
4. Mae'n osgoi gormod o ffiniau etholiadol gwahanol.
5. Mae'n caniatau i gefnogwyr pleidiau gwahanol gael cynrychiolaeth lleol o'u plaid eu hunain. Byddai gan y Toriaid a Phlaid Cymru gynrychiolaeth yng Nghaerdydd, a byddai gan Llafur (mae'n debyg) gynrychiolaeth yng Ngwynedd.

Ond 'dydw i ddim yn dal fy ngwynt mae gen i ofn. Y perygl ydi y byddwn naill a'n cael ein hunain efo trefn sy'n sicrhau mwyafrif llwyr i Lafur, neu un sy'n sicrhau bod yr Old Boys Club sy'n rhedeg y Blaid Doriaidd yng Nghymru mewn sefyllfa i roi swyddi fel ACau i'w mets. Mater o pa blaid fydd yn gwneud y penderfyniad ydi o mae gen i ofn.

Sunday, May 20, 2012

Leanne, Question Time a datblygu naratif effeithiol

Fydda i ddim yn gwylio Question Time yn aml iawn, ond mi wnes i wylio'r un diweddaraf oherwydd bod Leanne Wood yn ymddangos arno. Gallwch weld y rhaglen yma os ydych am wneudu hynny.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi i Leanne berfformio yn effeithiol iawn. Yr hyn sydd o fwy o ddiddordeb i mi fodd bynnag ydi'r math o naratif roedd yn ei ddefnyddio. Yr hyn roedd yn ei wneud oedd beirniadu'r pleidiau eraill o'r chwith - a thrwy hynny osod y Blaid i'r chwith o Lafur. Yn wyneb yr amgylchiadau yr ydym yn eu wynebu ar hyn o bryd roedd y safle hwnnw yn un digon poblogaidd. Gallai Leanne feirniadu'r camau mae'r llywodraeth yn eu cymryd i dorri'r dyledion sydd wedi adeiladu yn sgil yr hyn ddigwyddodd i'r banciau a thynnu sylw at ran Llafur mewn creu'r amgylchiadau a arweiniodd at hynny.

Rwan, does gen i ddim problem efo'r lleoliad yma. Mae ymateb hysteraidd rhai o'n cyfeillion Llafur i awgrymiadau gan Leanne Wood y dylid cael gwrthwynebiad unedig i bolisisau economaidd y llywodraeth glymblaid yn Llundain yn dystiolaeth o botensial hynny. Ond mae naratif y Blaid angen dimensiwn arall hefyd - a dimensiwn sy'n ymwneud a'n statws cyfansoddiadol ydi hwnnw. Naratif felly sy'n mynd i roi delwedd unigryw i'r Blaid.

Ystyrier am eiliad y cwestiwn ynglyn a rhoi lleiafswm pris i alcohol. Roedd yn amlwg bod Leanne yn anghyfforddus efo'r syniad, ac mae yna resymau da i fod yn anghyfforddus. Mae cyffuriau ar gael yn rhad yn y rhan fwyaf o gymdogaethau tlawd yng Nghymru, ac mae codi pris un cyffur (alcohol) yn debygol o hyrwyddo defnydd o gyffuriau sydd ar gael ar y farchnad ddu.

Rwan, un ffordd o briodi'r syniad o wneud alcohol yn ddrytach tra'n annog pobl i beidio defnyddio cyffuriau eraill ydi trwy ddefnyddio'r pres a godir trwy gynyddu pris alcohol i dalu am raglen i addysgu pobl sydd mewn sefyllfaoedd bregus ynglyn a pheryglon cyffuriau. Ond dydi hynny ddim yn bosibl oherwydd mai trwy drethu alcohol y gellid gwneud hynny, a 'does gan y Cynulliad ddim hawl i drethu. Y cwbl y gellid ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd fyddai creu cyfraith fyddai'n gorfodi perchnogion siopa i werthu am ddim llai na rhyw bris neu'i gilydd. Y gwerthwr fyddai'n cadw'r pres fyddai'n deillio.

Felly roedd y cwestiwn yn gyfle i dynnu sylw at fantais ymarferol sicrhau mwy o bwerau trethu i'r Cynulliad. Mae'n hawdd i mi siarad wrth gwrs, 'dwi wedi cael amser i feddwl am y peth. Ond dyma'r math o naratif sydd rhaid i'r Blaid ei datblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf - naratif sy'n pwysleisio y gallwn wneud pethau yn well - dim ond i ni ennill y grym i roi cyfle i ni wneud hynny.

Friday, May 18, 2012

Sut i ennill etholiadau mewn pum cam (cymharol) syml

Mi fydd adroddiad Eurfyl ap Gwilym ar ddatblygu'r Blaid yn dechrau cael ei weithredu yn y dyfodol agos. Tra fy mod yn croesawu llawer o'r camau a argymhellir yn yr adroddiad, mae dau beth yn fy mhoeni - cymhlethdod yr adroddiad, a'r diffyg tystiolaeth bod y camau a argymhellir wedi eu blaenoriaethu'n ofalus.

Yn y bon mae perfformio'n dda mewn etholiadau yn fater gweddol syml - neu o leiaf mae'n fater gweddol syml os ydym yn edrych ar ennill cefnogaeth etholiadol fel proses. Byddwn yn dadlau ei bod yn broses pum cam yn ei hanfod:

(1). Creu naratif neu naratifau sy'n apelio at garfannau sylweddol o bobl.
(2). Cyfathrebu'r naratif / naratifau efo'r carfannau hynny.
(3). Cadw mewn cysylltiad efo'r carfannau targed rhwng etholiadau.
(4). Dwysau'r cysylltiad yn y cyfnod sydd yn arwain at etholiad.
(5). Sicrhau bod cymaint a phosibl o aelodau'r carfannau targed yn pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad - neu'n gwneud hynny trwy'r post yn ystod y dyddiau cyn yr etholiad.

Mae pethau mor syml a hynny yn y bon. Ond dydi proses syml a phroses hawdd ddim yr un peth wrth gwrs. Mae angen strwythurau effeithiol cyn y gellir gweithredu pob un o'r camau uchod yn effeithiol - ac mae cryn dipyn o waith adeiladu i'w wneud ar holl strwythurau etholiadol y Blaid.

Mae'r ail broblem yn ymwneud a blaenoriaethu. Un o'r pethau nad yw'n glir i mi ynglyn a'r adroddiad ap Gwilym ydi bod yr holl argymhellion a gynigir ynddo wedi eu graddio yn ol pryd y dylid eu gweithredu. Mae'n haws gweithredu nifer cymharol fach o newidiadau nag ydi hi gweithredu nifer fawr ar yr un pryd. Yn wir yn amlach na pheidio mae ceisio gweithredu gormod o newidiadau efo'i gilydd yn wrth gynhyrchiol, ac yn arwain at ddim newid o gwbl.

Yr hyn sy'n anodd wrth flaenoriaethu ydi dewis pa newidiadau y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt? Mae dau ateb i'r cwestiwn hwnnw. Yn gyntaf mae'n weddol amlwg y dylid gweithredu newidiadau sy'n hawdd a di drafferth yn syth bin.

Yn ail dylid gweithredu'r newidiadau sy'n cael y mwyaf o effaith cyn rhai llai effeithiol. Gan mai llwyddiant etholiadol ydi'r bwriad yn y pen draw, awgrymaf y dylid defnyddio'r amlinelliad uchod o'r broses ennill pleidleisiau fel llinyn mesur wrth flaenori. Os ydi unrhyw newid arfaethedig yn symud un neu fwy o'r camau rwyf yn eu harenwi uchod ymlaen i raddau arwyddocaol, dylent dderbyn blaenoriaeth. Os nad ydynt, 'does yna ddim brys i'w gweithredu.

Thursday, May 17, 2012

Llongyfarchiadau_ _ _

_ _ _ i Dyfed Edwards (PC Penygroes) ar gael ei ethol yn arweinydd Cyngor Gwynedd, i Selwyn Griffiths (PC Borthygest) ar gael ei ethol yn gadeirydd y Cyngor a Huw Edwards (PC Cadnant) ar gael ei godi'n is gadeirydd.

Wednesday, May 16, 2012

Y Blaid a Llafur yn rheoli yng Ngwynedd

Felly Plaid Cymru a'r Blaid Lafur fydd yn rheoli yng Ngwynedd am y pum mlynedd nesaf - yn ol pob tebyg beth bynnag. Mae'r newyddion yn arbennig o arwyddocaol yng nghyd destun Gwynedd oherwydd bod y sir yn symud o gyfundrefn bwrdd i gyfundrefn cabinet. Prif effaith ymarferol hyn ydi canoli grym yn nwylo'r pleidiau sy'n rheoli. Yn y gorffennol roedd pob grwp (os oeddynt yn dewis anfon cynrychiolwyr i eistedd ar y bwrdd) yn rheoli ar y cyd. Yn yr ystyr yna, clymblaid eang sydd wedi rheoli Gwynedd ers 1999.

Efallai y bydd yn syndod i aelodau o'r Blaid o rannau eraill o Gymru - Caerfyrddin er enghraifft - bod y glymblaid yma wedi dod i fodolaeth, ond 'does yna ddim rhyw ddrwg deimlad mawr rhwng y ddwy blaid yng Ngwynedd, a 'does yna fawr o wrth Gymreicrwydd yn perthyn i'r Blaid Lafur yma.

Bydd Llafur yn cael cynnig 1 o'r 10 swydd yn y Cabinet a chadair un pwyllgor. Bydd Plaid Cymru yn dal y 9 swydd Cabinet arall. Bydd yna felly 41 o aelodau o'r grwpiau sy'n llywodraethu tra bod yna 33 o gynghorwyr yn perthyn i'r gwrthbleidiau. Mae un sedd i'w llenwi fis nesaf.

Felly mewn gwirionedd dyma'r mwyaf o rym mae'r Blaid erioed wedi ei gael ar Gyngor Gwynedd - ac mae'n gyfle i gyflawni amcanion ei maniffesto mewn ffordd mwy trylwyr nag oedd yn bosibl o dan yr hen drefn.

Felly pob lwc i arweinydd y Cyngor, Dyfed Edwards, y cabinet newydd a'r glymblaid tros y pum mlynedd nesaf. Bydd rheoli o dan yr amodau sy'n bodoli ar hyn o bryd yn heriol - ond mae'r gallu a'r ymroddiad i sicrhau chware teg i holl gymunedau Gwynedd ar gael o fewn y glymblaid. Bydd y drefn cabinet newydd yn gwneud joban anodd yn llawer haws nag y byddai wedi bod oddi tan yr hen drefn.

Tuesday, May 15, 2012

Y BMA a'i ragfarnau

Mae'n debyg gen i na fydd fawr neb sy'n gyfarwydd efo BMA Cymru yn synnu at eu hymateb i ymgynghoriad cwbl gymhedrol a di niwed y llywodraeth i gynllun i sicrhau darpariaeth deilwng i Gymry Cymraeg sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru. Yn wir hyd y gallaf farnu yr unig gyfeiriad at y Gymraeg sydd gan y corff ar ei wefan ydi eu datganiad o wrthwynebiad i gynllun gweithredu'r llywodraeth.

Yr hyn sy'n fwy o syndod, fodd bynnag,ydi goslef hysteraidd ac amrydedd y datganiad. Cymerer y canlynol er enghraifft:
An eastern valleys doctor, who did not want to be named, said that in 24 years of practice they had only met one person who spoke Welsh — and even they were not <


Rwan, mae'n hollol wir nad oes yna lawer o siaradwyr Cymraeg yn rhai o gymoedd y De Ddwyrain. Ond mae'n anhebygol bod yna gymdogaethau efo llai na 5% yn siarad Cymraeg yn byw ynddynt - mae 13% o bobl Blaenau Gwent hyd yn oed efo rhyw sgil neu'i gilydd yn y Gymraeg. Mae pob practis doctor efo cannoedd o gwsmeriaid yn ymweld a hi pob wythnos. Golyga hyn ei bod yn ystadegol amhosibl i ddatganiad mai un siaradwr Cymraeg a welwyd mewn pedair blynedd ar hugain fod yn wir. Mae'r gosodiad yr un mor gredadwy a honiad gan rhywun sy'n byw yng Nghaerdydd nad yw wedi dod ar draws unrhyw un sydd wedi ei eni y tu allan i'r DU mewn pedair blynedd ar hugain.

Ac wedyn dyna i ni hon:

In response to a government consultation, BMA Cymru Wales says if the ability to speak Welsh is seen as a priority it could make ‘current recruitment problems ... significantly worse’, particularly when recruiting overseas doctors.

Rwan 'dydi'r ddogfen mae'r BMA yn ymateb iddi ddim yn dweud y dylai'r Gymraeg fod yn amodol i gael swydd fel doctor, ond dydi hynny ddim yn atal y corff rhag awgrymu y gallai hyrwyddo'r Gymraeg ei gwneud yn anodd neu'n amhosibl i recriwtio doctoriaid. Codi bwganod ydi'r term 'dwi'n meddwl.

Mae pob cam yn natblygiad statws y Gymraeg yn ystod yr hanner canrif diwethaf wedi wynebu y cymysgedd rhyfedd yma o ffeithiau ffug a chodi bwganod. Er enghraifft yn ol y diweddar George Thomas, byddai cael arwyddion dwyieithog yn arwain at farwolaethau lu ar y ffyrdd, ac yn ol rhai o wrthwynebwyr cyfoes deddfu ieithyddol mae camau felly am anfon busnes oddi yma.

Mae yna reswm pam bod pobl yn gwneud datgyniadau di dystiolaeth a di sylwedd - mae'r sawl sydd yn eu gwneud yn ymarfer rhagfarn. Os ydi ein gwrthwynebiad i rhywbeth neu'i gilydd wedi ei seilio ar farn wrthrychol, rydym yn cyflwyno dadleuon gwrthrychol a chadarn i'w cefnogi. Pan y byddwn yn cael ein hunain yn gwrthwynebu rhywbeth oherwydd ein rhagfarnau, rydym yn cael ein gorfodi i gyflwyno dadleuon di sylwedd a gwan gefnogi ein barn. Cyflwyno dadleuon gwan a di sylwedd er mwyn cefnogi rhagfarnau mae'r BMA mae gen i ofn.

Swyddi yng Nghaernarfon - Rali

Rali cefnogi gweithwyr Scottish Power o flaen cofeb Lloyd George, Caernarfon Dydd Sadwrn, 19 Mai am 11 y bore

Dewch i ddangos gwrthwynebiad i fwriad y cwmni i symud 32 o swyddi o Gaernarfon i Wrecsam - ergyd arall i'r economi leol. Hefyd mae gweithwyr Caernarfon yn darparu gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid - mae amheuaeth y gall Scottish Power barhau gyda'r wasanaeth honno os byddan nhw'n symud.

Monday, May 14, 2012

Hwyl fawr Peter

Mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio Peter Hain fel gwleidydd o'r tu allan o Gymru aeth ati i ymgorffori holl dueddiadau anymunol y Blaid Lafur Gymreig - traha, llwytholdeb rhemp, rhagrith di feddwl a diffyg diddordeb llwyr mewn cyd weithredu efo elfennau gwleidyddol eraill yng Nghymru.

Bydd hefyd yn cael ei gofio fel gwleidydd oedd byth a hefyd ynghanol rhyw helynt neu'i gilydd - cymryd rhoddion ariannol o ffynonellau amheus ac anghofio eu datgan i'r awdurdodau priodol, defnyddio ei statws fel gweinidog y goron i hyrwyddo busnes ei wraig, ceisio hawlio treuliau ar ddau dy oedd wedi eu lleoli chwe milltir oddi wrth ei gilydd ar yr un pryd ac ati.

Er gwaethaf hyn oll mae'n dra phosibl y bydd y sawl sy'n 'sgwennu hanes Cymru yn y dyfodol yn garedig wrtho am un rheswm ac un rheswm yn unig - ei ran yn yr ymgyrch ddatganoli yn 1997. Hain oedd yn arwain yr ymgyrch Llafur, ac yn ei iard gefn yng Nghastell Nedd Port Talbot oedd y ganran 'Ia' ar ei huchaf. Bychan iawn oedd y mwyafrif tros Gymru, ac mae'n ddigon posibl na fyddai'r ateb wedi bod yn un cadarnhaol oni bai am Hain. Mae'n debyg bod datganoli yn symud ymhellach ac ynghynt na mae Hain yn gyfforddus na'n hapus efo fo - ond serch hynny mae wedi chwarae rhan pwysig i'n cael i'r man yr ydym ynddo heddiw.

Tybed pwy ddaw yn ei le? Mae Blogmenai yn cefnogi'r athrylith etholiadol a lwyddodd i golli'r Rhondda i Lafur yn ol yn 1999.

Sunday, May 13, 2012

Mwy o gobyldigwc o flog y Derwydd o Fon

Fydda i ddim yn ymweld a blog y Tori o Ynys Mon, Paul Williams ag y byddwn i, ond mi gefais gip ddoe. Yr hyn aeth a fy sylw oedd y blogiad ffuantus braidd yma.

Rwan mae Paul yn honni mai rhywun arall anhysbys sydd wedi 'sgwennu'r darn, ac os ydi o'n dweud hynny mae'n rhaid i ni dderbyn mai rhywun ag eithrio fo ei hun sy'n gyfrifol am y blogiad. Beth bynnag prif neges y darn ydi bod y Blaid yn colli tir ar lefel seneddol a lleol yng Ngwynedd a thu hwnt oherwydd mai pleidiau Prydeinig sy'n gwireddu agenda'r Blaid - pleidiau fel plaid Paul wrth gwrs.

Rwan, mae gan awdur y darn gymaint o hawl i'w farn na neb arall, ond yr hyn sydd yn fy mhoeni ydi'r defnydd o ffeithiau ac ystadegau ffug i gefnogi'r ddadl. Er enghraifft mae'r canlyniad cymharol agos yn Arfon yn etholiad cyffredinol 2010 yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth o ogwydd yn erbyn y Blaid yng Ngwynedd. Ond mewn gwirionedd gogwydd tuag at y Blaid o 3.7% a gafwyd yn etholaeth newydd Arfon o gymharu a chanlyniad damcaniaethol 2005. Does yna ddim cyfeiriad at fuddugoliaeth swmpus Ffred yn yr un etholaeth yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn ganlynol. Byddai hynny'n difetha'r propoganda.

Ceir cyfeiriadau at etholiadau a gollwyd gan y Blaid ar Fai 3 - Deiniolen, Bethel a Llanwnda, ond dim cyfeiriad at rai a enillwyd - Menai, Waunfawr, Gogledd Pwllheli, Brithdir ac ati. Ceir hefyd awgrym i'r Blaid symud yn ol rhwng etholiadau 2008 a 2012. Y gwrthwyneb sy'n wir. Enillwyd 35 sedd yn 2008 a 37 yn 2012.

Y gwir ydi nad oedd y Blaid yn rheoli'r hen Gyngor Gwynedd cyn 1999. Doedd gan y Blaid ddim mwyafrif yn y rhannau hynny o'r hen Wynedd a drosglwyddwyd i'r Gwynedd newydd chwaith. Doedd yna ddim mwyafrif - nag unrhyw beth tebyg i fwyafrif - yn y wardiau o gynghorau dosbarth Arfon, Meirion a Dwyfor a drosglwyddwyd i'r sir newydd chwaith. Doedd yna ddim mwyafrif nes i'r Cyngor newydd ddod i fodolaeth yn 1999.

Ers ffurfio'r Gwynedd newydd mae'r Blaid wedi ennill y canrannau canlynol o'r seddi oedd ar gael: 1999 - 52%, 2004 - 55%, 2008 - 46%, 2012 - 50%. Yn wir gellir dadlau mai tri phatrwm sy'n nodweddu hanes etholiadol Cyngor Gwynedd - llwyddiant rhannol Llais Gwynedd yn 2008 a 2012, cysondeb rhyfeddol y gynrychiolaeth Plaid Cymru ac Annibynnol a methiant llwyr y pleidiau unoliaethol i gystadlu. 'Dydi'r Toriaid erioed wedi ennill sedd, ac mae'r gynrychiolaeth Llafur wedi syrthio o 14.5% yn 1999 i 4.5% eleni, tra bod y gynrychiolaeth Lib Dem wedi syrthio o 7% i 1.5% tros yr un cyfnod.

Ymhellach ceir sylw bod nifer o wardiau trefol yn agos iawn. Mae hynny'n wir - ond roedd y wardiau agosaf yn tueddu i fod yn rhai a gollwyd o drwch blewyn gan y Blaid. Gallai mymryn o lwc fod wedi sicrhau'r etholiad gorau erioed i'r Blaid yng Ngwynedd. Collodd y Blaid mewn chwe gornest agos iawn - tair ym Mangor (ail sedd Menai), Garth a Dewi), Tregarth, Botwnnog a Nefyn. Byddai tua 100 pleidlais ychwanegol wedi ei ddosbarthu'n gywir yn y chwe sedd fod wedi sicrhau 58% o'r seddi ar y cyngor.

Mae gan flog Paul hanes o adeiladu naratifau gwleidyddol ar gobyldigwc ystadegol, ac rydym wedi edrych ar hynny yn y gorffennol. Dwi'n deall bod blogwyr eisiau gwthio eu gweledigaeth wleidyddol eu hunain - 'does yna neb yn fwy euog na fi o wneud hynny. Ond mae'n bwysig gwneud hynny ar sail ffeithiol. Un o gryfderau blogio gwleidyddol ydi bod gwybodaeth ar gael nad yw ar gael gan y cyfryngau prif lif. Mae cyflwyno gwybodaeth ffug yn niweidio hygrydedd y cyfrwng.

Friday, May 11, 2012

Da iawn Plaid Cymru Ceredigion

Felly mae'r Blaid am arwain yng Ngheredigion am y tro cyntaf. Mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol, ac wedi siom 2010 mae'n gam bras arall i'r cyfeiriad cywir i'r Blaid yn y sir.

Mae'n sicr mai'r Blaid fydd hefyd yn arwain yng Ngwynedd - er nad yw'n gwbl glir eto pwy arall fydd yn rheoli yma - os bydd unrhyw un.

Felly ar ol yr holl hw ha, arwain ar ddau gyngor fydd y Blaid yn 2012, yn union fel yn 2008. Y gwahaniaeth fydd mai Ceredigion ac nid Caerffili fydd un o'r ddau.

Thursday, May 10, 2012

Llongyfarchiadu Rhondda Cynon Taf

Mae'n beth anarferol i ardal Rhondda Cynon Taf i ddod ar ben unrhyw dabl - ar y gwaelod y byddan nhw fel rheol. Mae'n braf felly cael nodi iddynt ddod ben ac ysgwydd uwch ben pawb arall yn y tabl diweddaraf i gael ei ryddhu - cynghrair y partis brenhinol.

Yn ol y BBC - ffynhonell pob doethineb am faterion brenhinol - gwnaed cais am tua 300 o bartis yng Nghymru hyd yn hyn, ac roedd 58 o'r ceisiadau hynny yn RCT. Yr unig sir i ddod yn agos at y cyfanswm anrhydeddus hwnnw oedd Caerdydd gyda 40 cais.

Felly llongyarchiadau bois - mae'n dda gweld bod y fersiwn anarferol o Sosialaeth a arferir yn Ne Cymru yn dal yn fyw ac yn iach ac yn ysu am barti mawreddog.

Wednesday, May 09, 2012

'Vote Labour get Tory'

Mae'n debyg gen i bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gyfarwydd efo'r mantra hwnnw y bydd pobl yn  gadael y Toriaid i mewn os na fyddant yn pleidleisio i Lafur.  Y Blaid Lafur Gymreig sy'n gyfrifol amdano wrth gwrs, a chymaint eu defnydd o'r stori dylwyth teg nes peri i ddyn amau  weithiau os oes ganddynt unrhyw ddadl arall i gymell pobl i bleidleisio trostynt.

Ond mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur mewn rhannau eraill o'r DU yn fwy na pharod i daro bargen efo'r Toriaid os ydi hynny yn sicrhau eu bod yn cael eu bachau ar ychydig o rym.  Er mai'r SNP ydi plaid fwyaf Cyngor Stirling, mae'r ddwy blaid unoliaethol fawr wedi dod at eu gilydd i'w hatal rhag cymryd grym. 

Tybed os bydd Carwyn yn teimlo fel condemnio'r ffasiwn ymddygiad?  Na, efallai ddim - ymddengys nad ydi Toriaid yr Alban mor ddrwg na Thoriaid Cymru.

Monday, May 07, 2012

Scottish Power yng Nghaernarfon - diweddariad

Dwi'n deall bod camgymeriad yn y cyfeiriad ebost sy'n cael ei ddyfynu isod. Dylai ddarllen lynda.clayton@scottishpower.com
____________________________________________
From: WILLIAMS, Hywel
Sent: 06 May 2012 06:41
To: WILLIAMS, Hywel
Subject: Swyddi Scottish Power Caernarfon a'r llinell Gymraeg
Importance: High
 
 
Annwyl gyfaill
 
Mae Scottish Power am symud 32 o swyddi o Gaernarfon i Wrecsam, hynny yw o ran effaith diswyddo 32 o bobl lleol.
 
Bydd hyn yn fy marn i, yn peryglu eu gwasanaeth Cymraeg– gweler y neges isod (A neu B).
 
Dydd Mercher bydd cyfarfod pwysig mewnol gan SP i drafod  hyn.
 
Rwy’n gofyn i chi ddanfon naill ai neges A (gan gwsmeriaid SP) neu B (gan ddarpar gwsmeriaid) at y rheolwr allweddol Linda Clayton.
 
Yr oll sydd angen i chi ei wneud ydy
 
1.       Ychwanegu eich enw a’ch cyfeiriad i’r neges perthnasol i chi - A neu B 
 
2.       Dileu’r  neges arall (A neu B)
 
3.       Dileu y  neges hwn hwn
 
4.       Danfon eich neges at      linda.clayton@scottishpower.com
 
Gwaith munud neu ddau ydy hyn.
 
Meddyliwch am y 32 teulu sydd ar fin colli eu bywoliaeth.
 
Cefnogwch y Gymraeg.
 
Gweithredwch!
 
Yna danfonwch y neges yma yn ei grynswth at unrhywun arall  all helpu
 
Diolch o galon
 
Hywel
 
 
Dear Friend
 
Scottish Power are considering moving 32 jobs from Caernarfon to Wrecsam, in effect sacking 32 local people.
 
This, in my opinion, will endanger their Welsh language service – see the message below ( A or B).
 
On Wednesday there will be an important SP internal meeting on this.
 
I am asking you to send either message A ( for SP customers) or B (for potential customers) to the key SP manager Linda Clayton.
 
All you need to do is
 
1.       Add your name and address to the message that’s relevant to you ( A or B)
 
2.       Delete the other message (A or B)
 
3.       Delete this message
 
4.       Send your completed message to       linda.clayton@scottishpower.com
 
This will only take a minute or two.
 
Think of the 32 families facing losing their livelihoods.
 
Support the Welsh language line.
 
Go on – do it now !
 
Then send this message on to anyone else who might help.
 
Many thanks
 
Hywel
 
 
 
Llythyr/Message  A
 
 
 
Ar gyfer cwsmeriaid presenol/ For current customers:
 
Annwyl Linda Clayton
 
Rwy’n deall fod Scottish Power yn bwriadu trosglwyddo 32 o swyddi o’ch canolfan yng Nghaernarfon i Wrecsam.  Credaf fod hyn yn anheg ar y staff yng Nghaernarfon.  Nid yw’n ymarferol iddynt fudo i Wrecsam ar fyr rybudd, ac mae taith ddyddiol o 150 o filltiroedd yn amlwg yn gwbl afresymol.  Deallaf fod nifer o’r gweithwyr yn rieni gyda chyfrifoldebau a byddai hyn yn ei gwneud hi’n anoddach fyth iddynt deithio i Wrecsam.
 
Mae’r 32 swydd yma yn hynod o werthfawr i’r economi leol.  Mae Caernarfon yn un o ardaloedd craidd yr iaith Cymraeg, a byddai unrhyw ergyd economaidd i’r dref hefyd yn ergyd i’r iaith Gymraeg ei hun.
 
Rwyf hefyd yn bryderus y byddai ansawdd y gwasanaeth Cymraeg yr ydych yn ei ddarparu mewn perygl.  Mae’r staff yng Nghaernarfon yn bobl galluog a phrofiadol ac rwy’n siwr y byddai’n anodd i chi recriwtio staff cystal mewn ardal arall.
 
Cefais ar ddeall na fuoch yn hyrwyddo y gwasanaeth Cymraeg yn ddigonol yn ddiweddar.  Clywais hefyd fod pobl sydd yn ffonio’r llinell Gymraeg yn aml yn methu cael drwodd at siaradwr Cymraeg ac yn gorfod siarad Saesneg.
 
Pe byddech yn bwrw mlaen gyda’r newid niweidiol yma, byddai’n rhaid i mi ail ystyried fy ymrwymiad atoch fel cwsmer i Scottish Power.
 
Rwy’n gofyn i chi ail ystyried eich penderfyniad yn ddi-ymdroi.  Credaf fod cyfle rhagorol i chi dyfu y nifer o gwsmeriaid sydd ganddoch sy’n dewis y Gymraeg.
 
Byddai’r cynnig yma yn siwr o niweidio eich enw da fel cwmni.
 
Yn gywir
 
 
 
Dear Linda Clayton
 
I have been told that Scottish Power intends to transfer 32 jobs from your centre in Caernarfon to Wrexham.  I think that this is unfair to the staff in Caernarfon.  It is not practical for them to move to Wrexham at short notice, and a daily journey of 150 miles is clearly out of the question.  I understand that many of the workers have parental responsibilities which will make it even more difficult for them to travel to Wrexham.
 
These 32 jobs are very valuable to the local economy.  Caernarfon is one of the heartland areas for the Welsh language any economic blow is also a blow to the Welsh language itself. 
 
I am concerned that the quality of the Welsh language service that you provide will be endangered.  The staff at Caernarfon are able and experienced people and I am sure that it will be difficult to recruit staff of a similar quality elsewhere.
 
I have also been told that the Welsh language service that you provide has not been promoted adequately over the last few years and that people who phone the Welsh language line are often put through to non Welsh speakers.
 
If you go ahead with this damaging change, as a Scottish Power customer I will have to reconsider my commitment to your company.
 
Please change this decision immediately.
 
I believe that there is a huge opportunity for you to grow the number of customers you have who use Welsh. 
 
This proposal will damage your company’s good name.
 
Yours sincerely
 
 
Llythyr/Message B
 
 
 
Ar gyfer darpar gwsmeriaid / for potential customers:
 
Annwyl Linda Clayton
 
Rwy’n deall fod Scottish Power yn bwriadu trosglwyddo 32 o swyddi o’ch canolfan yng Nghaernarfon i Wrecsam.  Credaf fod hyn yn anheg ar y staff yng Nghaernarfon.  Nid yw’n ymarferol iddynt fudo i Wrecsam ar fyr rybudd, ac mae taith ddyddiol o 150 o filltiroedd yn amlwg yn gwbl afresymol.  Deallaf fod nifer o’r gweithwyr yn rieni gyda chyfrifoldebau a byddai hyn yn ei gwneud hi’n anoddach fyth iddynt deithio i Wrecsam.
 
Mae’r 32 swydd yma yn hynod o werthfawr i’r economi leol.  Mae Caernarfon yn un o ardaloedd craidd yr iaith Cymraeg, a byddai unrhyw ergyd economaidd i’r dref hefyd yn ergyd i’r iaith Gymraeg ei hun.
 
Rwyf hefyd yn bryderus y byddai ansawdd y gwasanaeth Cymraeg yr ydych yn ei ddarparu mewn perygl.  Mae’r staff yng Nghaernarfon yn bobl galluog a phrofiadol ac rwy’n siwr y byddai’n anodd i chi recriwtio staff cystal mewn ardal arall.
 
Cefais ar ddeall na fuoch yn hyrwyddo y gwasanaeth Cymraeg yn ddigonol yn ddiweddar.  Clywais hefyd fod pobl sydd yn ffonio’r llinell Gymraeg yn aml yn methu cael drwodd at siaradwr Cymraeg ac yn gorfod siarad Saesneg.
 
Pe byddech yn bwrw mlaen gyda’r newid niweidiol yma, ni fyddwn yn debygol o ystyried symud fy nghyfri o’m cwmni presenol at Scottish Power.
 
Rwy’n gofyn i chi ail ystyried eich penderfyniad yn ddi-ymdroi.  Credaf fod cyfle rhagorol i chi dyfu y nifer o gwsmeriaid sydd ganddoch sy’n dewis y Gymraeg. 
 
Byddai’r cynnig yma yn siwr o niweidio eich enw da fel cwmni.
 
Yn gywir
 
 
Dear Linda Clayton
 
I have been told that Scottish Power intends to transfer 32 jobs from your centre in Caernarfon to Wrexham.  I think that this is unfair to the staff in Caernarfon.  It is not practical for them to move to Wrexham at short notice, and a daily journey of 150 miles is clearly out of the question.  I understand that many of the workers have parental responsibilities which will make it even more difficult for them to travel to Wrexham.
 
These 32 jobs are very valuable to the local economy.  Caernarfon is one of the heartland areas for the Welsh language any economic blow is also a blow to the Welsh language itself. 
 
I am concerned that the quality of the Welsh language service that you provide will be endangered.  The staff at Caernarfon are able and experienced people and I am sure that it will be difficult to recruit staff of a similar quality elsewhere.
 
I have also been told that the Welsh language service that you provide has not been promoted adequately over the last few years and that people who phone the Welsh language line are often put through to non Welsh speakers.
 
If you go ahead with this damaging change, as a potential Scottish Power customer I would be very reluctant to transfer my business to your company.
 
Please change this decision immediately.
 
I believe that there is a huge opportunity for you to grow the number of customers you have who use Welsh. 
 
This proposal will damage your company’s good name.
 
Yours sincerely
 
 
 
 
 

Sunday, May 06, 2012

Canlyniadau'r etholiadau lleol a'r dyfodol i'r Blaid

Dwi'n rhyw gytuno efo Alwyn a Jason bod y canlyniadau i'r Blaid ddydd Iau yn well na mae'r cyfryngau wedi awgrymu. Llwyddwyd i sefyll yn gryfach na'r pleidiau unoliaethol sy'n rheoli yn Llundain yn erbyn y llanw Llafur, ac roedd y Blaid yn ail clir. Yn wir roedd y canlyniad ymysg y tri gorau yn hanes y Blaid mewn llywodraeth leol.

Yn bwysicach efallai! mae yna is strwythur yn sefyll ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Cadwyd presenoldeb yn yr ardaloedd mae'r Blaid wedi llwyddo i sefydlu presenoldeb tros y ddegawd diwethaf - Wrecsam, Torfaen, ardaloedd dosbarth gweithiol yng Nghaedydd ac ati. Bydd yr amgylchiadau yn haws yn 2017 - bydd Llafur ar lefelau lleol a Chynulliad wedi gorfod cymryd llawer - llawer iawn o benderfyniadau amhoblogaidd, ac ar ben hynny mae'n ddigon posibl y byddant yn rheoli yn San Steffan erbyn hynny hefyd.

Dwi'n digwydd bod yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Dwy sedd yn unig sydd gan y Blaid yma bellach - mae'r ddwy yn y Tyllgoed. Ond ni fyddai'n cymryd newid mawr i ni ad ennill y seddi a gollwyd yng Nghreigiau, Glan yr Afon a'r Tyllgoed, ac ennill tair sedd ychwanegol yn Grangetown. Byddai hynny'n rhoi cyfanswm o 10 sedd. Byddai gogwydd ychydig yn fwy yn dod a thair sedd arall yn Elai, er bod rhaid cyfaddef i Mr Patel & co sefydlu gafael go gadarn ar Dreganna bellach. Mae cael gwleidydd fel Neil McKevoy ar Gyngor Caerdydd yn rhoi cyfle gwych i fynd ar ol pob cam amhoblogaidd y bydd rhaid i Lafur eu cymryd.

Ond mae dibynnu ar lanw a thrai etholiadol fel hyn yn gam gwag yn y pendraw - rydym yn agored i don arall o boblogrwydd Llafuraidd ymhellach yn y dyfodol. Yr hyn sydd rhaid ei wneud ydi difa'r ddadl tros bleidleisio i Lafur - ac ar un olwg dylai hynny fod yn hawdd. Mae llawer o'r sawl a bleidleisiodd i Lafur ddydd Iau wedi gwneud hynny oherwydd eu bod yn meddwl bod gwneud hynny yn ffordd o'u hamddiffyn eu hunain, eu cymunedau a Chymru. Yr eliffant yn ystafell Llafur ydi'r ffaith bod hanes yn dweud wrthym yn gwbl glir nad ydi pleidleisio i Lafur yn amddiffyn Cymru, cymunedau nag yn wir unigolion.

Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud i Lafur 'ennill' pob etholiad o bob math yng Nghymru ers 1918. Ac eto rydym yn dlotach na'r unman arall yn y DU, mae mwy o amddifadedd yma, mwy o ddibyniaeth ar y wladwriaeth les, mwy o ddiweithdra hir dymor, llai o fuddsoddiad, llai o gynhyrchu, llai o gyfoeth. Fydd yr ychydig flynyddoedd nesaf ddim gwahanol - bydd ein perfformiad economaidd cymharol yn parhau i syrthio yn ol, ac yn ol ac yn ol. Mae'r blog yma wedi trafod y rheswm pam ar sawl achlysur - does gennym ni ddim mynediad i'r lefrau economaidd fydda'n ein galluogi i wneud iawn am ein hanfanteision strwythurol a daearyddol.

Mae dyn yn deall pam na fyddai cyd bleidiau unoliaethol Llafur eisiau gwneud llawer o hyn - ond dyma'r unig opsiwn sydd ar gael i'r Blaid mewn gwirionedd - tynnu sylw at fethiant y presennol, methiannau'r gorffennol a chynnig llwybr cadarnhaol a chredadwy i gywiro'r sefyllfa yn y dyfodol. Mae pethau mor syml a hynny yn y bon.

Saturday, May 05, 2012

Etholiadau Gwynedd - ambell i sylw brysiog

Mi fyddaf yn trafod yr etholiadau yn ehangach maes o law, ond yn y cyfamser ambell i sylw brysiog ynglyn a sut aeth pethau yng Ngwynedd:

Ni thorrodd y don Lafuraidd ar draethau Gwynedd - gydag eithriad rhyfedd Bethel. Yn wir roedd y cochion yn lwcus ar y coblyn o gadw pedair sedd - cadwodd Gwen ei sedd yn Nhregarth o chwe phleidlais (mwy o fwyafrif nag a gafodd o'r blaen erbyn meddwl), dychwelwyd Brian eto fyth yn ddi wrthwynebiad, ac enilliodd David Gwynfor sedd gan y Blaid gyda 66 o bleidleidiau yn unig a phedwar o fwyafrif yn un o Rotten Boroughs Gwynedd ym Mangor.

Mae'r cyfryngau yn tueddu i weld gwleidyddiaeth Gwynedd mewn termau cystadleuaeth ffyrnig rhwng y Blaid a Llais Gwynedd, ond rhywsut neu'i gilydd roedd y frwydr rhyngddynt yn eithaf di niwed y tro hwn. Do, mi lwyddodd Llais i ddiorseddu un cynghorydd Plaid Cymru ym Motwnnog, ond dyna'r unig ward i weld cynghorydd o'r naill blaid yn colli ei sedd i'r llall. Mi gollodd y Blaid seddi, ac mi enilliodd seddi - ond ddim yn erbyn Llais Gwynedd. Mi enillodd Llais seddi, ond ar draul ymgeiswyr annibynnol. Gall y ddwy blaid fod yn fodlon ac yn anfodlon ar yr un pryd. Roedd perfformiad y ddwy blaid ychydig yn well nag oedd yn 2008, ond byddai'r Blaid wedi gobeithio ennill grym yn llwyr, a methodd wneud hynny o drwch adain pryf, tra byddai Llais wedi hanner gobeithio dod yn ail, ond ni lwyddwyd i wneud hynny chwaith.

Mae'r map o Wynedd bellach yn edrych yn eithaf rhyfedd, gyda'r Blaid yn dominyddu yn yr ardaloedd trefol ac ym Meirion, tra bod Llais yn dominyddu yn Nwyfor. Mae Llafur yn dal ei gafael ar eu mymryn bregus yn y Gogledd Ddwyrain tra bod y Lib Dems bron iawn wedi eu gwasgu allan o Fangor. Mae'r Annibyns yn ymddangos yma ac acw ar hyd y sir.

Yn ol eu harfer wnaeth y Toriaid ddim trafferthu efo Gwynedd. Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud eu bod wedi canolbwyntio eu holl ymdrechion ar un ward yn unig, gan ennill 98 o bleidleisiau yn honno.

Felly, i grynhoi - mi gymrodd Gwynedd ei lwybr bach gwleidyddol ei hun - un sydd wedi ei intergreiddio'n llwyr oddi wrth weddill Cymru. Mi gafodd y patrymau gwleidyddol ehangach cyn lleied o effaith ar Wynedd nag a gafodd patrymau Gwynedd ar weddill Cymru.

Diweddariad - ymddiheuriadau i'r Toriaid, roedd ganddynt ymgeisydd yn Nhywyn hefyd - daeth yn olaf.

Friday, May 04, 2012

Sibrydion o Wynedd

Does yna ddim o'r isod yn sicr - does yna ddim un bleidlais wedi ei chyfri.

Bethel - Llafur (PC colli)
Menai Caernarfon - Plaid cadw
Peblig Caernarfon - PlId cadw
Cadnant - Plaid cadw
Deiniolen - Annibynnol (Plaid colli)
Bontnewydd Plaid cadw
Llandwrog Ann cadw
Penygroes Plaid cadw
Talysarn LlG ennill
Llanaelhaearn Ll G ennill
Llanystumdwy Plaid cadw
Nefyn - LlG colli i Annibynnol
Bermo Plaid ennill gan Llafur
Brithdir Plaid cadw
Cricieth - annibynnol ennill Plaid colli.
Gogledd Pwllheli - plaid ennill gan annibynnol
Marchog LlFur colli i annibynnol
Botwnnog - agos PC / Llais
Aberdaron Plaid Cadw
Pentir Plaid cadw
De Pwllheli - LlG cadw
Seiont LlG cadw - ail sedd yn ansicr.
Tremadog LlG cadw
Dwyrain Port - annibynnol ennill gan Plaid
Dewi - Plaid colli i Annibynnol
Morfa Nefyn - Plaid Cadw
Gerlan - Plaid cadw
Clynnog - LlG cadw
Llandwrog - LlG cadw

Plaid yn ennill pob sedd maent wedi sefyll amdanynt ym Meirion gydag eithriad posibl Tywyn.

Mae nifer o seddi yn agos iawn. Tregarth agos, Llanllyfni agos, Botwnnog agos, Waunfawr agos.

Mae nifer o seddi ym Mangor yn agos iawn, ac mae yna bosibilrwydd y gall y Blaid gipio seddi'r Lib Dems ym Menai. Ond mae'n bosibl y collir seddi eraill - pethau'n agos iawn mewn nifer.

Gallai'r Blaid gael cyn lleied a 32 neu cymaint a 42. 38 sydd ei angen i ennill grym llwyr.

Fel y dywedais, sibrydion yn unig ydi'r uchod

Tuesday, May 01, 2012

Etholiadau dydd Iau a phol YouGov

Mae fy nghyfaill Simon Dyda wedi cyhoeddi ffigyrau'r pol YouGov diweddaraf ar ei flog.  Yn fras - yng nghyd destun y polio sy'n ymwneud a'r etholiadau lleol - mae'r ffigyrau yn dangos cynnydd sylweddol ym mhleidlais Llafur (21%), cwymp sylweddol ym mhleidlais  Annibynnol a'r Lib Dems, a chwymp llai ym mhleidlais Plaid Cymru a chynnydd bach ym mhleidlais y Toriaid.

Rwan, 'dydw i ddim yn un sy'n diystyru polau nad ydw i'n hoffi eu canlyniad, ac yn y gorffennol mae'r blog yma wedi bod yn euog o chwerthin ar ben pobl sy'n gwneud hynny.  Ond 'dwi am wneud eithriad o'r pol yma - mae yna agweddau arno sy'n peri cryn broblem i mi.


'Dydi'r broblem ddim yn ymwneud a'r Blaid fel y cyfryw - mae'r pol yn darogan cwymp o tua 3% yn ei phleidlais.  Mae hynny'n bosibl -  canlyniadau 2008 oedd y rhai gorau yn hanes y Blaid ar lefel lleol. 

Yr hyn sy'n peri mwy o broblem ydi'r cynnydd yn y bleidlais Doriaidd.  Mae'r polau Prydeinig yn awgrymu y bydd pleidlais y Toriaid yn cwympo cymaint ag 17% tra bod pleidlais Llafur yn codi 8%.  Mae hyn yn newid anferthol.    Rwan mi fedra i gredu bod Plaid Lafur Carwyn Jones yn gwneud yn well nag un Ed Milliband, ond fedra i ddim credu bod Plaid Doriaidd Andrew R T Davies yn gwneud yn llawer, llawer gwell nag un David Cameron.  Dwi'n deall bod y gwaith maes wedi dyddio rhyw gymaint, a bod llawer o ddwr gwleidyddol wedi mynd o dan y bont ers ei gymryd - ond dydi hynny ddim yn egluro poblogrwydd cymharol y Toriaid yn y pol newydd. 

Yn fy marn bach i mi bydd dwy brif stori yn dod i'r amlwg fore Gwener.  Y gyntaf bydd Llafur yn ail gipio cynghorau a gollwyd ganddynt yn ystod y deuddeg mlynedd diwethat - a byddwn yn disgwyl i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd fod ymhlith y rheiny.  Y stori arall fydd cyflafan cynghorwyr Toriaidd. 

Mi fydd yna straeon eraill hefyd. Dwi ddim yn amau bod YouGov yn gywir bod cwymp sylweddol am fod yn y gynrychiolaeth Annibynnol. Mae'r nifer o gynghorwyr Annibynnol wedi bod yn cwympo'n gyson am ddegawdau, ond atalwyd y cwymp hwnnw yn 2008 pan bleidleisiodd llawer o bobl yn rhai o'r Cymoedd i ymgeiswyr Annibynnol fel protest yn erbyn Llafur. Mi fydd y gogwydd hanesyddol yn cael ei ail sefydlu ddydd Iau, ac mi fydd y gogwydd hwnnw yn un amlwg iawn.

O ran y Lib Dems, rydym wedi hen gymryd yn ganiataol y bydd eu pleidlais yn cwympo, ond 'dydw i ddim yn meddwl y bydd y gwymp mor drawiadol ag un y Toriaid - beth bynnag mae YouGov yn ei ddweud. Byddant yn colli'r grym sydd ganddynt ym mhob cyngor maent yn ei arwain - ond y nhw fydd y prif wrthblaid ynddynt o hyd.

O ran y Blaid, 'dwi'n eithaf ffyddiog y byddwn yn ail o'r pleidiau o ran nifer cynghorwyr, ac y byddwn yn dal ein tir yn lled dda o ran canran y bleidlais. Mae'n debygol y byddwn yn dal Gwynedd, ac er y bydd dal Caerffili yn anodd mae'n bosibl ac mae yna bosibilrwydd rhesymol o gipio Ceredigion.

O - a byddaf yn mynd ati i fwyta fy nhrilbi os bydd Llafur yn cael y 48% o'r bleidlais gel mae YouGov yn ei awgrymu.