Monday, March 05, 2012

S4C yn dangos ei flaenoriaethau

Felly mae awdurdodau S4C wedi dod i'r casgliad nad ydi Ras yr Wyddfa i gael ei ddarlledu eleni. Mae' n debyg mai'r rheswm am hyn ydi bod ein sianel genedlaethol o dan yr argraff bod darparu rhaglen nofio o'r Gemau Olympaidd yn Llundain yn bwysicach na darlledu ras o Lanberis. Ymhellach daeth y sianel i'r casgliad hwn er gwaetha'r ffaith i bwyllgor y ras newid dyddiad y digwyddiad er mwyn gwneud pethau yn haws i S4C.

Rydym eisoes wedi nodi bod tua £400m o'r £9.3bn mae'r gemau yn gostio yn dod o Gymru. Rydym hefyd wedi nodi mai £417,415 (0.1%) o'r contractau a gafodd busnesau Prydeinig ddaeth i Gymru. Ymhellach rydym wedi son nad oes fwy neu lai ddim o'r chwaraeon a'r gemau am gael eu cynnal yn y wlad hon, a bod yna wariant gorffwyll ar gemau (megis pel law) nad oes fwy neu lai neb yn y DU yn eu chwarae - £3m i adeiladu sgwadiau,a £44m i godi stadiwm 7,000 sedd yn achos pel law. Rydym hefyd wedi son am yr £80m fydd yn cael ei wario ar y seremoni agoriadol, a'r swm rhyfeddol o arian bydd yn rhaid dod o hyd iddo ar gyfer y trefniadau diogelwch. 'Dydi'r ffaith nad ydym hyd yn oed yn cael cyflwyno tim yn y  gystadleuaeth heb fynd yn ddi sylw chwaith.

Yr hyn nad oedd yn eglur hyd yn ddiweddar ydi bod S4C yn ystyried bod darparu rhaglenni ar y jambori tramor, gwastraffus yma yn bwysicach nag ydi darparu rhaglenni ar chwaraeon Cymreig sy'n cael eu trefnu yng Nghymru, eu cynnal yng Nghymru, sy'n dennu llawer o gystadleuwyr o Gymru a sydd yn hynod boblogaidd yng Nghymru. A hynny er gwaetha'r ffaith y bydd fflyd o sianeli Saesneg yn darlledu'r digwyddiadau Olympaidd ar union yr un pryd ag y bydd S4C gwneud hynny.

Felly gallwn gymryd y bydd hyd yn oed sefydliadau Cymreig fel S4C yn dilyn esiampl llywodraeth Prydain ac yn rhoi blaenoriaethau'r Gemau Olympaidd o flaen rhai Cymry a Chymru. Da iawn bois.

6 comments:

maen_tramgwydd said...

Mae nhw'n paratoi i fod o dan nawdd Corfforaeth Ddarlledu Lloegr.

Mae angen ymarfer i ffitio'i mewn yn weddus.

Tybed faint o'r dreth rydym ni fel Cymru yn talu i'r Gorfforaeth sydd yn cael ei wario ar gynhyrchu rhaglenni yn, neu am, ein gwlad?

Anonymous said...

Mae hyn yn symptom. Un peth da iawn roedd Wedi 7 yn ei wneud oedd adolygu neu rhoi sylw i lyfrau Cymraeg newydd.

Wrth fynd yn tabloid y peryg yw na fydd Heno yn gwneud hyn. Bydd hyn felly yn golled i'r diwylliant Gymraeg ehangach, fydd, maes o law, yn tanseilio a gwanhau Heno ac S4C.

Dyma'r wers fawr o'r ddegawd ddiwethaf. Mae gwneud y diwylliant Gymraeg i fod yn ddim mwy na chyfieithiad o'r diwylliant Saesneg; fod peidio 'creu ghettos' chwedl ddrwg enwog cyn gadeirydd Bwrdd yr Iaith; fod 'bod yn broffesiynnol' ac yn 'gyfoes' yn tanseilio hyder mewnol y diwylliant Gymraeg sydd yn y pendraw yn tynnu arian allan o'r diwylliant yna ac yn gwnhau y peuoedd lle mae statws i'r Gymraeg. Mae hefyd yn edrych yn naff ac yn waeth 'ddim yn gweithio'.

Rhan o job S4C ydy noddi y diwylliant Cymraeg a Chymreig ac mae hynny'n cynnwys chwaraeon Cymru - lîg cenedlaethol pêl-droed Cymru, ie rygbi a digwyddiadau fel Râs yr Wyddfa neu ddigwyddiadau tebyg.

HC said...

Yn drist iawn, torrwyd ar hyd y rhaglen 'Sgorio' . Mae'n anochel y byddant yn canolbwyntio ar brif glybiau Ewrop a'r Saisgarwyr yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam, ac anwybyddu y timau sy'n dryw i Gymru.

brwynen said...

Siomedig iawn iawn am hyn, dwi wrth fy modd yn gwylio Ras Yr Wyddfa

Anonymous said...

What's up to every one, for the reason that I am genuinely eager of reading this weblog's post tο be
updated on a rеgular basis. It сarries nіce data.
My web-site ; permanent hair removal

Anonymous said...

ӏ was recommеnded this blog by mу cousin.
I'm not sure whether this post is written by him as nobody else know such detailed about my difficulty. You are wonderful! Thanks!

Look into my website: Sfgate.Com