Tuesday, March 13, 2012

Dyfodol y Gymraeg a gor besimistiaeth

'Dwi'n meddwl fy mod eisoes wedi nodi'r eironi mai'r sawl sydd fwyaf parod i ddatgan bod y Gymraeg ar farw ydi rhai o'r rheiny sydd yn ei charu, a phobl sy'n wrthwynebys iawn iddi. Mae'r grwp cyntaf yn credu bod canu cloch cnul yr iaith yn ffordd o ysgogi ymyraeth sylweddol i'w hachub, tra bod yr ail grwp yn credu'r gwrthwyneb - bod canfyddiad bod yr iaith ar farw yn ei gwneud yn ddi bwrpas i roi statws swyddogol a chyfreithiol iddi.

Roeddwn yn meddwl am hynny wrth ddarllen sylwadau gan ddarllenwr anhysbys oedd wedi cymryd yn erbyn rhai o'r sylwadau roeddwn wedi eu tynnu o adroddiad diweddar ar gyflwr yr iaith. Roedd y cyfranwr wedi rhyw gymryd bod y ffaith i mi ddewis rhai ystadegau cymharol gadarnhaol yn awgrymu fy mod o'r farn bod popeth yn dda ar yr iaith. Mae hwn yn ymateb cyffredin i unrhyw sylwadau cadarnhaol am ddyfodol yr iaith - ac mae'n ymateb amhriodol.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi ei bod yn hynod anodd dod i gasgliadau pendant ynglyn a dyfodol yr iaith - mae yna rymoedd yn milwrio o'i phlaid, ac mae yna rai sy'n gweithio yn ei herbyn, ac mae'r ffordd maent yn rhyngberthnasu yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.

Ar yr ochr gadarnhaol mae statws yr iaith yn llawer uwch nag oedd hanner canrif yn ol, mae mwy o alw a darpariaeth o ran addysg Gymraeg, ceir ewyllys da cyffredinol tuag ati, mae iddi statws cyfreithiol, mae'n bwysicach o lawer ym myd gwaith erbyn hyn, mae'r ganran o siaradwyr yn cynyddu'n gyflym yn rhai o ardaloedd Seisnig traddodiadol y wlad, mae'r ganran o blant sy'n siarad Cymraeg yn uwch nag ydi canran yr henoed ac mae'r nifer abserliwt o siaradwyr yn uwch nag y bu ers degawdau.



Ar yr ochr arall mae yna lai o bobl yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf nag a fu, mae rhannau o'r Gymru Gymraeg o dan gryn bwysau - weithiau oherwydd mewnlifiad, weithiau oherwydd trosglwyddiad ieithyddol gwael ac weithiau oherwydd cyfuniad o'r ddau - ac mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn gwneud ond ychydig o ddefnydd ohoni. Tra bod yr iaith yn fwy gweledol nag a fu, mae'n llai clywadwy.

Yr hyn sy'n bwysig os ydi dyfodol y Gymraeg yn bwysig i ni ydi bod yn onest am ei sefyllfa. Mae gwneud iddi edrych yn wanach nag ydyw mewn gwirionedd yn niweidiol i'w statws ac i ganfyddiad pobl ei bod werth i'w dysgu. Mae bod yn or optimistaidd hefyd yn niweidiol oherwydd bod hynny yn lleihau'r pwysau i hybu'r iaith mewn ffordd addas. 

Mae deall a hydnabod y ffactorau cadarnhaol o safbwynt yr iaith yr un mor bwysig ag ydi adnabod y bygythiadau iddi. 

8 comments:

Anonymous said...

Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig iawn i fod yn realistig hefyd. Y ffaith yw dwi'n byw mewn un o ardaloedd mwya' Saesneg ei iaith sef Casnewydd ac mae'n anhygoel faint o bobl sy eisiau anfon eu plant i ysgolion Cymraeg erbyn hyn. Hefyd, mae yna Fenter Iaith sy'n hybu'r iaith erbyn hyn yn y ddinas. Fyddech chi ddim wedi dychmygu'r fath o beth ugain mlynedd yn ôl. Dwi'n gwybod bod 'na her ddifrifol ynglŷn â'r iaith yn y fro a hoffwn i weld cymorth cyfreithiol er mwyn cadw'r ardaloedd yna'n Gymraeg ond mae'n hollol bwysig adnabod bod ardaloedd fel y de a'r dwyrain yn bwysig iawn hefyd. Fel rhywun sy wedi dysgu'r iaith fel oedolyn a nawr sy'n magu ei blentyn yn y Gymraeg (y person cyntaf yn fy nheulu i ers cant o flynyddoedd) dwi eisiau teimlo bod y frwydr yn un werth chweil a dyn ni ddim yn gwastraffu'n amser wrth fynnu ar y Gymraeg yn ein cornel fach o Gymru ond weithiau mae'n amlwg bod rhai bobl yn rhy awyddus i ddatgan bod yr iaith ar fin marw. Diolch am bostio hwn Blog Menai oherwydd ar ôl darllen yr holl stwff yn ddiweddar ar ddyfodol yr iaith on i'n dechrau poeni'n ofnadwy mai magu fy merch yn y Gymraeg oedd yn wastraff amser! Mae 'na broblemau ond mae 'na bethau i'w dathlu hefyd.

menaiblog said...

Diolch am y sylwadau.

Mae'n wir bod y Gymraeg yn ail godi yn y De Ddwyrain, ond mae'r naratif bod yr iaith ar farw yn y Fro hefyd yn ddiffygiol.

Mae'n wir bod yna ardaloedd yn y Gorllewin lle mae o dan cryn bwysau. Ond mae yna rannau o'r Fro lle mae'n dal ei thir hefyd.

'Does yna ddim stori syml - mae'n un gymhleth.

Ioan said...

Ti'n meddwl bod barn pobol yn dibynu ar lle mae nhw'n byw - yma'n de Ynys Mon / Arfon mae na ddigon o reswm i fod yn optimistaidd, a'r de-ddwyrain am resymau hollol wahanol. Dwi'n amau os baswn ni'n byw yn Dyffryn Amman / Caergybi, faswn ni ddim yn gallu gweld dim byd ond newydd drwg ym mhob man...

Anonymous said...

Gan i Ioan sôn am Gaergybi, dyma fy mhwt i ar y dre honno.

Tan chydig ddiwrnodau yn ol, roeddwn i'n byw yng Nghaergybi, ac rwy wedi bod yn byw yno neu'n ymweld â'r dre yn go rheolaidd dros y 6/7 mlynedd diwethaf, gan i mi ganlyn ac wedyn priodi merch o'r dre. Cyn dechrau mynd yno, roeddwn i wedi cael deall, gan naratif fy nghyd-Gymry mae'n siwr, nad oedd braidd neb yn siarad Cymraeg yno. Ond nid hynny yw fy mhrofiad i o gwbwl. Roeddwn i'n gweld ac yn clywed y Gymraeg yn y dre bob dydd - yn nghanol y dre yn ogystal ag allan yn y siopau mawr ar gyrion y dref. Pan fyddwn i'n mynd i gaffis y dre, roeddwn i'n mwynhau gwrando a chyfri faint o'r bobl yno oedd yn siarad Cymraeg, ac anaml iawn oedd hynny'n is na thraean. Weithiau byddai hyd at ddau-draean o'r cwsmeriaid yn siarad Cymraeg. A dyna sut oedd pethau ar y stryd ac yn yr archfarchnadoedd hefyd. Ac wrth gwrs, dim ond gallu cyfri'r rhai'r oeddwn i'n eu clywed yn siarad Cymraeg oeddwn i - falle bod rhai o'r lleill yn gallu siarad Cymraeg hefyd, ond eu bod nhw yng nghwmni rhai di-Gymraeg ar y pryd.

Dwi, a fy nheulu yng nghyfraith (sy'n byw yn dre) hefyd yn sylwi bod cynnydd wedi bod yn faint o Gymraeg a glywn ni yno dros y 6 mlynedd diwethaf. Mae fy mam yng nghyfraith (oedd yn athrawes yn yr ysgol uchradd am ryw ugain mlynedd) yn gwbl grediniol bod dyfodiad y Cynulliad wedi newid agwedd plant yr ysgol yn llwyr at eu Cymreictod a'r iaith.

Mae Ysgol Morswyn - ysgol gynradd Gymraeg y dre - yn orlawn (agosau at 200 o blant), ac yn galw allan am estyniad neu adeilad newydd, tra bod trafodaeth ar orfod cau un o'r ysgolion Saesneg.

Dwi'n credu mai'r prif reswm dros y canfyddiad cyffredinol nad oes braidd dim Cymraeg yng Nghaergybi yw ei bod hi'n dre yn Sir Fon, sydd â chanran gymharol uchel yn siarad Cymraeg. Sdiciwch Gaergybi yng nghanol y cymoedd, dweder, ac fe fydde hi'n cael ei hystyried yn dre lle mae nifer sylweddol yn siarad Cymraeg.

Caerfyrddin oedd fy nhref leol i nes oeddwn i'n 18 oed, ac wedi hynny fe fues i'n byw yn Aberystwyth am 5 mlynedd. Byddwn i'n dweud bod lefel debyg o Gymraeg i'w chlywed ar strydoedd Caergybi ag sydd ar strydoedd Caerfyrddin ac Aberystwyth, sydd yn groes i'r hyn y byddai llawer yn tybio.

Rwy bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Iwan Rhys

Anonymous said...

Pwynt arall ar y Gymraeg yng Nghaergybi, a gor-besimistiaeth.

Mae llawer o'r rhai sy'n siarad Cymraeg yng Nghaergybi yn ddihyder eu Cymraeg. Dwi'n nabod un ddynes ers 5 mlynedd, a dim ond ychydig wythnosau'n ol y clywais i hi'n siarad Cymraeg gynta. Eto, mae'n bosib bod llawer o hynny yn deillio o'r ffaith bod y dre yn Sir Fôn, ac wedyn Gwynedd nesaf at Fôn, lle mae canrannau uchel yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, ac yn hyderus iawn eu Cymraeg. A dwi wedi clywed llawer iawn o ddirmyg at dref Caergybi, a'i Chymraeg, gan bobl ym Môn a Gwynedd, sydd yn bwydo i mewn i ddiffyg hyder pobl Caergybi, mae'n siwr gen i.

Bu trafodaeth ar rai o'r blogs yn ddiweddar ar y niferoedd sy'n dweud yn y cyfrifiad eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Mae Nic Dafis, ymhlith eraill, wedi awgrymu bod llawer sydd yn gallu siarad Cymraeg i lefel go uchel yn teimlo'n rhy ddihyder i dicio'r blwch i ddweud eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Dwi'n cyd-fynd gyda'r theori honno, ac fe fyddwn i'n tybio bod nifer fawr o bobl felly yn byw yng Nghaergybi. Beth bynnag a ddywed y cyfrifiad a'r arolygon am y niferoedd sy'n siarad Cymraeg yng Nghaergybi, gallwch ychwanegu 50% ato'n hawdd, ddweden i.

Iwan Rhys

Ioan said...

Nes ond defnyddio Caergybi gan fod o'n engraifft o ystadegau 'uffernol' yn Census 2001 e.e. y nifer o blant oedd yn gallu siarad Cymraeg yn disgyn, etc.

Anon - ti'n hollol iawn bod 'na nifer uchel o siaradwyr Cymraeg yng Ngaergybi - dipyn mwy na Caernarfon os dwi'n cofio'n iawn.

Gobeithio bod ti'n iawn am Caergybi - rheswm arall i bawb fod yn optimistaidd, ond ddim yn or-optimistaidd naci Cai..!

Brwynen said...

Rhaid imi gytuno Blog Menai. Yn yr wythdegau roedd proffwydo mawr fod y mewnlifiad ar fin lladd yr iaith yn gelain, ac eto mae'r gymraeg yn dal i fynd fel ac y mae hi wedi gwneud drwy dros fil o flynyddoedd o broffwydo gwae!

Just o'm mhrofiad i o Gaerdydd, mae'n syfrdanol gymaint yn fwy o gymraeg sydd iw glywed ar y stryd, tafarn, siop, iw gymharu a'r saithdegau.

Anonymous said...

Brwynwen : Tyrd i Geredigion. O'r aradaloedd yma y daeth dy 'dorfeydd' Cymraeg Caerdydd, a gadael y Brummies a'r Scousers i
feddiannu a thrawsnewid y Fro Gymraeg. Y mae 'proffwydo gwae' J.R. Jones ac Emyr Llew yn y 70au wedi dod yn wir ym mhentrefi'r Gorllewin .
Prin yw'r Gymraeg a glywais ar fy ymweliad diwethaf a Chaerdydd - fel yn Aberystwyth , clywais fwy o Bwyleg ac Urdu.