Thursday, March 22, 2012

Gareth Hughes a myth y Tori Cymraeg

'Dwi'n rhyw hoffi meddwl fy mod i'n cadw i fyny yn eithaf da efo'r hyn sy'n digwydd ar y blogosffer gwleidyddol Cymreig, ond wnes i ddim sylwi ar sylwadau Gareth Hughes ynglyn a buddugoliaeth Leanne Wood nes i mi weld Golwg heddiw.

The valleys are not the hot bed of radicalism that many a left wing romantic would like to hope, think and make out. No, the typical valley voter is  quite conservative, with a small ‘c’ of course. And a Stanley Baldwin type figure like Carwyn Jones suits them just fine. 
Ms Wood may attract some new idealistic young recruits to the ranks of her party, her enthusiasm and relative youth should do that.  And as her campaign showed, she can energise her own party. 

Getting the voter to desert Labour for a more radical party of the left... others have tried and failed. Looking into the entrails of history the omens are not very promising. 

The Tories are full of glee at the result. They’ve most to gain from the lurch to the left.  The party has, over the last few years, being quietly turning itself into the “Welsh” Conservative party. 
Prominent members of the party like Glyn Davies, David Melding, Jonathan Morgan, Guto Bebb, Paul Davies and former leader Nick Bourne have being pushing for more devolution, more sympathy for the language. 

Forget their initial opposition to devolution, they have the zeal of the newly converted. These right wing welshy Tories aim to hoover up the Plaid Cymru vote. 

Adlewyrchu cred Doriaidd mae Gareth bod yr etholaethau Cymraeg eu hiaith yn y bon yn Doriaidd, ond eu bod yn pleidleisio i'r Blaid oherwydd ffactorau ieithyddol. Y drwg efo'r ddamcaniaeth yma ydi nad oes yna unrhyw dystiolaeth o gwbl i'w chefnogi - dim oll, zilch.

Dau beth sydd yn gyrru'r ffordd y bydd pobl yn pleidleisio mewn gwirionedd ydi traddodiad a ffactorau cymdeithasegol / economaidd.

Mae yna bump etholaeth gyda mwyafrif yn siarad Cymraeg -Ynys Mon, Arfon, Meirion Dwyfor, Ceredigion. Dwyran Caerfyrddin. O'r rhain dim ond unsydd wedi dychwelyd aelod seneddol Toriaidd - sef Ynys Mon ddwy waith ar yn 1979 ac 1983. Ond hyn yn oed yn yr achos hwnnw ni lwyddodd Y Toriaid i gael 40% o'r bleidlais -ac roedd hi'n benllanw ar gefnogaeth y Toriaid tros Brydain. Cyn i'r Blaid ddechrau ennill seddau seneddol yn 74 byddai Ynys Mon yn dychwelyd Llafurwr, felly hefyd Caernarfon, Meirion a Chaerfyrddin. Y Rhyddfrydwyr fyddai'n ennill yn ddi eithriad yng Ngheredigion. Prin bod yna unrhyw gynghorydd Toriaidd yn cynrychioli ward lle mae yna fwyafrif sy'n siarad Cymraeg trwy'r wlad i gyd - ac mae'r sefyllfa yma'n cael ei adgynhyrchu etholiad ar ol etholiad ar ol etholiad. 'Does yna ddim traddodiad gwerth son amdano o bleidleisio i'r Blaid Doriaidd yn y Gymru Gymraeg - ond mae yna gryn dipyn o dystiolaeth o bleidleisio tactegol yn erbyn y blaid honno - er mai mater i flogiad arall ydi hwnnw.

Ac wedyn wrth gwrs mae yna'r ffactorau economaidd. Mae'r cwbl bron o'r Gymru Gymraeg yn ardal Amcan Un, ac felly wedi eu rhifo ymysg y cymunedau mwyaf difreintiedig yn y DU. 'Dydi cymunedau felly ddim yn pleidleisio i'r Dde gwleidyddol (ym Mhrydain o leiaf) - oni bai bod yna draddodiad cryf o wneud hynny yn bodoli yn lleol. Mae yna reswm da iawn am hynny wrth gwrs - anaml iawn y bydd pobl yn pleidleisio yn erbyn eu budd economaidd eu hunain. Yn wir mae tlodi cymharol yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith wedi gwaethygu ers y saith degau, yn union fel mae'r tlodi cymharol yng Nghymoedd y De wedi gwaethygu. Polisiau economaidd Toriaidd ydi un o'r prif resymau am hynny.

'Dwi wedi canfasio llawer iawn o fewn y Gymru Gymraeg tros y degawdau, ac mi fedra i ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon mai creadur prin ydi'r Tori Cymraeg ei iaith, a'r lled Dori Cymraeg ei iaith. Efallai eu bod yn bodoli yn eu miloedd yn nychymyg rhai Toriaid ac yn wir yn nychymyg Gareth Hughes - ond mae'n uffernol o anodd dod o hyd iddynt ar lawr gwlad.

9 comments:

Dylan said...

Mae Ceidwadwyr yn hoffi'r myth yma, ond dylid cofio bod Llafur yn manteisio'n fawr arni hefyd. Mae'n fodd o berswadio rhai pobl (o gymoedd y de, er enghraifft) na ellir ymddiried ym Mhlaid Cymru "achos mae'n cael ei rheoli gan geidwadwyr siwdo-dorïaidd o'r gorllewin; dim ots be mae'r ymgeisydd lleol yn ei ddweud". Mae'r un celwydd yn gweithio'n yr Alban hefyd, gyda Llafur yn cymryd pob cyfle i alw'r SNP yn "Tartan Tories".

Gwelir y myth ar led hefyd yn rhai o'r sylwadau ar waelod yr erthygl yma ar WalesHome.

menaiblog said...

Cweit Dylan - ond hwyrach bod y fytholeg yma ar farw yn yr Alban.

Anonymous said...

Ddes i i'r casgliad sbel yn ol fod Gareth Hughes yn hen hac llafuraidd heb ddimbyd positif I ddweud am y blaid. End of.

menaiblog said...

Yn rhyfedd iawn dyna fy union farn i am Gwilym Owen.

Anonymous said...

A finnau'n meddwl yr union run peth am John Stevenson.

menaiblog said...

Mae b bron iawn fel petai yna ffatri newyddiadurwyr yn rhywle yn y Gogledd - ffatri efo un mowld yn unig.

Anonymous said...

Mae i wneud â meddylfryd ac athroniaeth y Chwith Ryngwladol - h.y. y Chwith sy'n ochri efo'r diwylliant ac iaith fwyafrifol.

Mewn ysgrif yn y Neue Rheinische Zeitung yn 1849 soniodd Engles am y 'abfaelle voelker' ('pobloedd sbwriel' neu efallai 'gweddillion bobloedd' neu 'sbwriel bobloedd', 'ethnic trash' yw cyfieithiad un arbenigwr, mae'n anodd cyfieithu).

Y bobloedd yma oedd y Basgiaid, Albanwyr Gaeleg, Llydawyr, Serbiaid etc. pobloedd geidwadol, gwledig cyn-ddiwydiannol. Byddai'r bobl yma yn cael eu sgubo o'r neilltu gan nad oeddynt eto'n ddiwydiannol ac felly methu camu i'r cam nesa o ymdaith dosbarth.

Nawr, gellid darllen hwn yn y modd 'bositif' sef fod pobloedd sy'n perthyn i ddiwylliant ac iaith gyfalafol a diwylliannol wan (dim sefydliadau, dim cyfalaf yn yr iaith etc) yn siwr o deisyfu i ymuno â'r diwylliant fwyafrifol fwrgais - Sbaeneg, Ffrangeg, Saesneg etc.

Neu, gellid ei darllen fel faswn i'n gwneud sef fod Engels (a Marx a'r llinyn herciog ond di-derfyn ar y Chwith hyd y dydd hwn) yn gweld dim angen na phwrpas i'r pobloedd yma a'i bod o bod ei hiaith a'u diwylliant o'i hanian yn geidwadol a gwrth-chwyldroadol ac felly bod rhaid cael eu gwared fel endid arwahan er mwyn ymdaith y Dosbarth Gweithiol. Cofier i'r erthygl gael ei sgwennu drannoeth chwyldroadau 1848 lle roedd Engels yn gweld rhai carfannau/pobloedd geidwadol yn erbyn y Chwyldro (yn rhyfedd ddigon, ni gafwyd Chwyldro ym Mhrydain na Rwsia ond ni ddisgrifiwyd diwylliant ac iaith y cenhedloedd yna'n wrth-Chwyldroadol o ran natur ac angen eu difa).

Dyma'n narlleniad i. Mae felly yn rhan o DNA y Chwith Ryngwladol fod nifer o ieithoedd 'llai' o'u haniad yn geidwadol, adweithiol ac asgell dde. Mae'r agwedd yma at y Gymraeg a Phlaid Cymru a 'siaradwyr Cymraeg', 'wledig' (darllenner Ceidwadol, adweithiol, seinoffobaidd) o'i cymharu â Saesneg, trefol (Ryddfrydig, Asgell Chwith, Blaengar, Ryngwladol) dal i fodoli.

Roedd rhan o'r disgwrs yma i'w weld adeg etholiad Leanne Wood v Elin Jones (dim bai ar yr un o'r ddau nau'i cefnogwyr, ond yn hytrach y wasg a'r blogesffêr ehangach).

Dwi'n tybio fod elfen o'r agwedd hyn dal yn rhan o feddylfryd y Chwith Brydeinig.

Yn ychwanegol wrth gwrs mae'r pwynt amlwg sef fod Plaid Cymru yng Ngwynedd (fel Llafur yn y Cymoedd) yn blaid fwyafrifol. I fod yn blaid fwyafrifol a chadw'ch lle, mae'n rhaid adlewyrchu barn y bobl yn eang ac rydych, drwy ddiffiniad, yn cynnwys cwmpas ehangach o gymdeithas. Mae'n haws bod yn 'radical' os nad ydych mewn pwer.

http://www.newsnetscotland.com/index.php/scottish-opinion/3166-too-poor-to-be-independent-the-same-old-story.html

Anonymous said...

Penllanw’r Torïaid ym Môn (ac yn wir yn y Fro Gymraeg) oedd cyfnod Keith Lander Best. Ond, roedd ei bleidlais o bob amser o dan 40%. 39% yn ’79, a 37.5% yn ’83. Mi fyddai Ieuan gyda llaw wedi ei guro yn 1987 petai o wedi sefyll.

Dyw pleidlais Albert Owen chwaith ddim wedi cyrraedd y 40%, er ei fod wedi ennill deirgwaith. Yn wir, y tro diwethaf, roedd canran Llafur o gwmpas y traean.

Ar y llaw arall mae IWJ a’r Blaid wedi mynd dros y 40% dair gwaith. 43% yn ’87, 53% ym 1999, a 41.4% llynedd, ac mae’n debyg y bydd yr 18,580 o bleidleisiau a gafodd Ieuan yn 1987 yn record wnaiff sefyll am byth.

Mae hanes diweddar yr ynys, ar lefel San Steffan, Caerdydd a Chyngor Sir, yn dangos fod y Blaid yn gallu gwneud yn dda ym mhob rhan o’r ynys. Rhai ardaloedd yn unig sy’n gefnogol i’r Torïaid.

Casgliad. Mae trigolion yr ynys ‘geidwadol’ hon yn llawer mwy parod i gefnogi pleidiau’r chwith, sef y Blaid a’r Blaid Lafur, na bwrw pleidlais dros Blaid Seisnig Geidwadol – Plaid Cyfoethogion De-ddwyrain Lloegr.

Fe ddylai Gareth Hughes, o bawb, fod yn ymwybodol o hyn.

Un o hogia'r ynys

Anonymous said...

Roedd post diweddar ar flog Golwg360 yn cyfeirio at y pwnc hwn, ac fe ddwedwyd rhywbeth fel . . . a fydd ffermwyr cyfoethog Môn yn cael eu denu i bleidleisio i'r Toriaid yn hytrach na Phlaid Cymru o weld bod Plaid Cymru yn cefnogi codi trethi uwch ar y rhai sy'n ennill fwyaf?

Ond wir, faint o ffermwyr ym Môn sydd
(i) yn gwneud elw o ragor na £150,000 y flwyddyn (ar ol i'w cyfrifwyr medrus fod wrthi'n lleihau'r ffigur cyn ised â phosib); a
(ii) fel arfer yn pleidleisio i Blaid Cymru?

Oes yna ddwsin? Bosib. Os felly, pob croeso i'r toriaid gael y 12 pleidlais hynny.

Iwan Rhys