Saturday, March 17, 2012

'Amrywio' cyflogau sector cyhoeddus yn y DU

'Does gen i ddim amser i fynd ar ol y stori hon rwan - ond os bydd y llywodraeth yn mynd ymlaen efo'r cynlluniau hyn, dyma fydd y mater gwleidyddol pwysicaf yng Nghymru tros y blynyddoedd nesaf. 'Dwi'n siwr y bydd y blog yma yn dod yn ol at y mater dro ar ol tro ar ol tro.

O safbwynt etholiadol, bydd y ffordd y bydd y pleidiau Cymreig yn ymateb iddi yn waelodol i batrymau etholiadol y blynyddoedd nesaf. Mae yna botensial i bleidlais y Lib Dems a'r Toriaid mewn ardaloedd lle ceir cyflogaeth sector cyhoeddus uchel, chwalu. Mae Caerdydd yn esiampl arbennig o dda o hynny. Mae hyn yn cynnig cyfle hanesyddol i'r .

O safbwynt economaidd, os nad ydi dogma wleidyddol y glymblaid (bod y sector cyhoeddus yn llyffethair ar y sector cyhoeddus mewn ardaloedd tlawd) yn gywir - ac mae pob tebygrwydd nad ydyw'n gywir, gallai Cymru fod mewn dirwasgiad economaidd am flynyddoedd maith.

2 comments:

HC said...

Penderfyniad rhyfeddol gan Osborne - mae'n amlwg nad ydynt yn targedu etholaethau Cymru rhyw lawer ! .
Un peth - hoffwn wybod barn eraill ar hyn -mae UCAC , fy undeb i , wedi bod yn ymladd am flynyddoedd i ddatganoli cyflogau athrawon. Gwrthwynebir hyn yn ffyrnig gan yr NASUWT , sy'n defnyddio dadl ' colli cyflog' i ddenu athrawon Cymru sydd a'u poced yn fwy na'u cydwybod . Os y bydd y CTRB , y corff sy'n pennu cyflogau athrawon yn Lloegr a Chymru, yn cael ei ddileu, a oes modd i'r cynulliad gymeryd ei bwerau ?

menaiblog said...

Yn amlwg yr ymateb o rhan Plaid Cymru dylai fod i ymgyrchu i gael y gyfundrefn gyflogi wedi ei ddarganoli. Bydd pwysau ar yr NAS i newid eu barn yn sgil cyhoeddiad ddoe.