Thursday, March 15, 2012

Llongyfarchiadau _ _ _

_ _ _ i Leanne.

A diolch i Dafydd ac Elin am y ffordd aethant ati i gynnal eu hymgyrchoedd.

Leanne 2879 (48%)
Elin 1884 (31%)
Dafydd 1278 (21%)

7 comments:

Anonymous said...

48% i Leanne Wood, o dalgrynnu'n gywir i'r ganran agosaf!

Iwan Rhys

Anonymous said...

Llongyfarchiadau mawr i Leanne!

Doedd maint y fuddugoliaeth ddim yn syndod mawr i nifer ohonom, oherwydd mi wn fod nifer o drigolion radicalaidd y Gymru wledig wedi cefnogi Leanne, a hynny o'r cychwyn cyntaf.

Roeddwn, serch hynny, yn uffernol o siomedig gyda natur cyfweliad Betsan Powys ar Wales Today. Yr oll oedd ar feddwl BP oedd yr hen helynt 'na gyda 'Mrs Windsor' rai blynyddoedd yn ol. Beth am y weledigaeth ffres, y cyfeiriad newydd a'r polisiau radical cyffrous Betsan? Chafwyd fawr o sylw am bethau pwysig felly!

Mae'n berffaith amlwg erbyn hyn, fod holl newyddiadurwyr y BBC, (o Andrew Marr i lawr), naill ai am y gorau, neu dan orchymyn pendant o'r top, i glodfori hynny fedra' nhw ar hen Elisabeth o Windsor, ac i ladd ar weriniaethwyr dewr fel Leanne ym mlwyddyn y jiwbili,(gweler gwefan Rebublic).

Ychydig iawn o'r criw di-asgwrn cefn yma sy'n gwneud unrhyw ymgais bellach i gelu eu cefnogaeth o'r frenhiniaeth a'r teulu brenhinol, ac yn fodlon gweithredu fel newyddiadurwyr cytbwys a di-duedd.

Cywilydd mawr Betsan! Cyfweliad sobor o wael ; chwydlyd o daeogaidd - a chwbl amhroffesiynol.

Un o hogia'r ynys.

Anonymous said...

Cytuno'n llwyr gyda un o hogia o fon.Llongyfarchiadau mawr i Leanne.Ymlaen a ni i'r weriniaeth.

Rhys Llwyd said...

Dwi'n meddwl fod angen llongyfarch aelodau o dîm ymgyrchu Leanne yma yn y Gogledd Orllewin. Roedd angen troi yr ardal yma at Leanne iddi ennill ac fe wnaed hynny yn amlwg. Llongyfarchiadau arbennig i Menna Machreth a thîm y Gogledd Orllewin!

Dylan said...

Gwir iawn Rhys. Da iawn iawn.

Reit. Ymlaen!

Bwlch said...

Beth mae y dewis yma yn dweud i mi fod Plaid Cymru eisiau pwer. Os fydda ni wedi dewi Elin fydda ni amddiffyn yr ardaloedd mwyafrif iaith cymraeg a os fydda ni wedi dewis Dafydd El mi fydda wedi cymeryd sucide pills. Felly cwestiwn ydi a alll Leanne Wood chwalu ardaloedd Coch Llafur a troi nhw wyrdd neu a oes "deal" wedi gwneud i hi cadw y gadair yn gynned i Adam Price cymeryd drosodd mewn ychydig!!!

Unknown said...

Iwan - rhaid if fi ddweud fy mod i wedi siomi gygdag ymddygiad yr arglwydd mawerddog - ar y teledu ag hefyd yn yr hustings a welais. 'Roedd e'n ddrwg ei hwyl, yn anfoesgar weithiau, yn anwibyddu'r cwestiwn oedd wedi ei roi, ac yn dweud am ei brofiad, y bobiol 'roedd yn adnabod, clodfori'r frenihes ag ati, yn lle ateb y cwestiwn. 'Roedd y ddwy ddynes, ar y llaw arall, yn urddasol iawn.