Yn ol efo'r gyfres fach o erthyglau chwerw a sbeitlyd gan Gwilym Owen sy'n ymddangos pob pethefnos yn Golwg yr ydym ni heddiw mae gen i ofn.
Buddugoliaeth Leanne Wood yn yr etholiad am arweinyddiaeth y Blaid sydd wedi esgor ar chwerder Gwilym y tro hwn. Byddwch yn cofio i Gwilym fynegi ei farn yn ddi amwys mai Dafydd Elis-Thomas ddylai gael y joban am ei fod yn meddwl bod Dafydd fel yntau yn credu mai cefnogi'r Blaid Lafur ydi priod bwrpas Plaid Cymru.
Yn ystod erthygl go faith sydd yn ymdrin a'r Blaid a dim arall mae Gwilym yn datgan, awgrymu neu ensynu bod y canlyniad yn rhywbeth i'w wneud efo cyfryngis a thrydarwyr, bod Leanne yn ddi sylwedd ac yn siarad mewn ystradebau, bod Adam Price yn anghymwys i arwain Comisiwn Economaidd y Blaid, bod Adam yn aros ei gyfle i gael cymryd lle Leanne, bod y trydarwyr yn aros eu cyfle i roi cyllell yng nghefn Leanne a bod pamffled gan y Blaid ym Mangor yn dangos bod y cyfryw blaid yn dioddef o hunanfodlonrwydd swrth.
Rwan o ddarllen y golofn mae'n weddol amlwg nad oes gan Gwilym fawr o glem beth digwyddodd ar Fawrth 15. Mi fanteisiaf ar y cyfle i egluro iddo.
Ganwyd Gwilym rhwng y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ei fywyd mae Cymru wedi pleidleisio i'r Blaid Lafur - plaid Gwilym - ym mhob etholiad - yn ddi eithriad. Roedd Cymru yn dlawd y diwrnod y ganwyd Gwilym, ac mae'n dal yn dlawd. Yn wir, mewn termau cymharol mae'n dlotach heddiw nag oedd bryd hynny. 'Dydi bron i ganrif o bleidleisio i Blaid Gwilym wedi gwneud dim - dim oll i godi statws economi Cymru mewn cymhariaeth a gweddill y DU. Mae yna reswm digon syml am hyn - mae'r Blaid Lafur, fel y pleidiau unoliaethol eraill, wedi gwrthwynebu i Gymru gael ei dwylo ar yr arfau economaidd pwysig a allai ganiatau iddi godi uwchben ei hanfanteision strwythurol a daearyddol. Mae hyn fwy neu lai mor wir yn yr oes ddatganoledig yma ag oedd erioed.
Adlewyrchiad ydi buddugoliaeth Leanne (a'r bleidlais uchel i Elin) bod trwch aelodaeth Plaid Cymru o'r farn y dylem fel Cymry gymryd meddiant ar yr arfau hynny a'u defnyddio i wella ein statws economaidd ein hunain. Mae'r Blaid Lafur, er gwaethaf pob tystiolaeth i'r gwrthwyneb, yn credu mai disgwyl i Lundain sortio pethau i ni ydi'r ffordd orau o fynd ati.
Mi fydd y canfyddiad bod rhaid i ni gymryd yr awenau ac edrych ar ol ein ffawd economaidd ein hunain yn cynyddu tros y blynyddoedd nesaf, tra bydd y canfyddiad mai gadael pethau i eraill sydd orau yn crebachu.
Mae Gwilym a Leanne yn cynrychioli dwy ffordd cwbl wahanol o edrych ar wleidyddiaeth Cymru, gyda'r naill yn cefnogi plaid sy'n credu mewn dibyniaeth, osgoi cymryd cyfrifoldeb a beio eraill am ein problemau, a'r llall yn credu mewn cymryd cyfrifoldeb tros ein tynged a herio ein hunain i wneud y gorau o'r hyn ydym. Mae Gwilym yn cynrychioli gorffennol methiannus Cymru, tra bod Leanne yn sefyll tros ddyfodol mwy gobeithiol. Arwydd bod diwylliant gwleidyddol Cymru yn newid oedd canlyniad Mawrth 15, ac arwydd bod ysgrifen ar y mur i wleidyddiaeth llwfr a dibynnol Gwilym.
8 comments:
ydw i'n i'n iawn i gredu bod gwilym owen wedi bod yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr ail ryfel byd ar sail cenedlaetholdeb cymreig?
ai fi sy di cael hynny'n anghywir? oherwydd mae hynny a'r stwff mae o'n i sgwennu'r dyddia hyn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr.
Rwyt ti'n gywir - ond bryd hynny oedd pryd hynny a rwan ydi rwan.
Byddwn yn tybio nad yw Gwilym yn ddigon hen i fod wedi dangos cydwybod parthed ymuno neu ymwrthod a'r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Byddai pawb sydd ddal ar dir y byw a oedd yn ddigon hen i ymladd neu i ymwrthod ag ymladd yn y rhyfel dros ei 85 bellach; ydi Gwilym mor hen รข hynny?
Cofier fod gwasanaeth cenedlaethol wedi parhau tan ddiwedd y 50au (58 ?)
A wrthododd gymeryd rhan yn hwnnw ?
Ni chredaf fod Gwilym Owen mor hen a hynny.
81 oed ydi Gwilym.
Fe gyhoeddodd Gwilym Owen hynangofiant -digon difyr - rai blynyddoedd yn ol , a dwi'n trio cofio lle gwnes i roi o. Un peth sydd ganddo fo a fi yn gyffredin yw'n drwgdybiaeth o nepotistiaeth a ffafriaeth yn y byd darlledu. Mae'n dra llawdrwm ar y dosbarth canol yn gyffredinol , a chredaf fod ei gyfnod yng Nghaerdydd wedi chwyddo 'chip' ar ei ysgwydd i fod yn drawst enfawr .
Gwnaeth GO ei wasanaeth milwrol - national service - yn y Llu Awyr.
Chwarae teg i GO . Mae'n lambastio nepotistiaeth afiach S4C yn rhifyn heddiw o 'Golwg' .
Post a Comment