Friday, March 02, 2012

Cychwyn ymgyrch Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd

Datganiad i'r wasg - Plaid Cymru, Gwynedd

Plaid Cymru - y blaid sydd â’r profiad i arwain a llywodraethu’n gyfrifol yng Ngwynedd
 
(Lansio Maniffesto 2012 ‘Gweithredu er gwaetha’r wasgfa’).
 
Plaid Cymru yw’r blaid yng Ngwynedd sydd â’r profiad a’r gallu i arwain a llywodraethu yn gyfrifol yn y cyfnod heriol hwn.  Dyna brif neges Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd wrth lansio eu maniffesto ar gyfer Etholiadau Lleol Cyngor Gwynedd ar y 3ydd o Fai eleni. 
 
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae angen dwylo profiadol wrth y llyw ond mae hefyd angen plaid sy’n mynnu bod yn uchelgeisiol dros y sir a’i phobl, er gwaetha’r wasgfa sy’n ein hwynebu ac a fydd yn parhau i’n hwynebu i’r dyfodol.  Plaid Cymru yw’r blaid sydd â’r weledigaeth i greu dyfodol cadarn yng Ngwynedd.  Gan gydio’n dynn yng ngwerthoedd y gorffennol... gwerthoedd sy’n gwneud Gwynedd yn lle unigryw yng Nghymru o ran iaith, diwylliant a thirwedd, rydym yn benderfynol o adeiladu dyfodol llewyrchus i bobl y sir.
 
Mae gweledigaeth Plaid Cymru yng Ngwynedd yn pwysleisio’r cryfder a ddaw o fod yn rhan allweddol o dîm.  O fewn Tîm Gwynedd mae cynghorwyr cymuned a thref, Aelodau Cynulliad, Aelodau San Steffan, Aelodau Tŷ’r Arglwyddi ac Aelod Senedd Ewrop yn cydweithio.  Llwyddodd Tîm Gwynedd i ddenu £300miliwn i’r sir pan oedd y Blaid yn rhannu grym mewn llywodraeth. 
 
Yn ôl y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Nod Plaid Cymru yn yr Etholiad fydd ennill y mwyafrif o seddau ar Gyngor Gwynedd.  Un o’n blaenoriaethau fydd sicrhau bod datblygu’r economi yn flaenllaw yn ein gwaith, er gwaetha’r hinsawdd economaidd.  Mae amryw o ffyrdd i ni weithio ar hyn, ond un ohonynt yw edrych ar greu cyfleon gwaith i gwmnïau lleol trwy adolygu contractau gwaith mawr o fewn y sector cyhoeddus.  Mae cytundebau cyhoeddus sy’n werth £4 biliwn yn cael eu gosod yng Nghymru bob blwyddyn: cytundebau megis darparu bwyd i’n hysgolion, argraffu a chodi adeiladau.   Gan mai dim ond tua hanner y gwaith sy’n dod i gwmnïau o Gymru, dim ond hanner y budd sy’n dod i’r gweithwyr, y perchnogion a’r cymunedau lleol.  Ein nod fydd codi’r canran hwn yng Ngwynedd er mwyn dod â budd economaidd i’n cymunedau o fewn y sir.”
 
“Ym maes plant a phobl ifanc ein nod yw gwella cyrhaeddiad pob plentyn waeth beth fo’i gefndir a’i amgylchiadau.  Dylai ein sustem addysg roi’r cyfle i greu unigolion crwn gyda syniad cryf o berthyn.  Ein nod yw sicrhau cwricwlwm addas ar gyfer anghenion sgiliau gweithlu’r sir gydag anogaeth i fentro.  Mae’r Blaid yn awyddus i barhau i ddatblygu addysg wledig hyfyw i’r dyfodol gan weithio at roi cyfle teg i bob plentyn ar draws Gwynedd.”
 
Gan fod Cyngor Gwynedd yn wynebu bwlch ariannol o £38 miliwn, cynghorwyr Plaid Cymru sydd wedi arwain yn ddoeth wrth fynd i’r afael â’r broblem ddwys yn fuan.  Mae’r Blaid yn anghytuno’n chwyrn â’r toriadau ond yn gorfod ceisio canfod ffordd ymlaen er lles pobl y sir, a hynny o fewn cyllidebau sy’n crebachu.  Dan arweiniad doeth Plaid Cymru, mae strategaeth fanwl ar y gweill i ddelio â’r toriadau llym sy’n dod o San Steffan.  Mae’r Blaid wedi rhoi’r pwyslais ar weithio’n fwy effeithlon yn hytrach na thorri gwasanaethau. 
 
Cafodd y Cyngor ei frolio am ei arweinyddiaeth gadarn mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2011: "Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn Adroddiad Gwella Blynyddol cadarnhaol gan yr Archwilydd Cyffredinol. Mae gwaith cynllunio'r Cyngor ar gyfer 2011-12 wedi gwella'n sylweddol ac wedi'i seilio ar reolaeth effeithiol o arian a threfniadau corfforaethol sy'n gadarn ar lawer cyfrif."
 
Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Plaid Cymru yng Ngwynedd: “Wrth arwain drwy gyni, mae’r Blaid hefyd yn uchelgeisiol dros ddyfodol y Sir.  Rydym yn gweithio’n galed i ddenu buddsoddiad o Ewrop gan Lywodraeth Cymru.  Dim ond un cyngor arall yng Nghymru sy’n denu mwy o arian o Ewrop na Gwynedd.  Wrth gwrs, yn y tymor hir y nod yw y bydd
Gwynedd yn fwy ffyniannus ac na fydd angen yr un lefel o gymorth.  Mae polisïau blaengar y Blaid yn rhoi hyn ar waith.”
 


Un enghraifft o fuddsoddiad, yn sgîl cydweithio llwyddiannus yng Ngwynedd, yw datblygiad £1.8miliwn, Canolfan Fenter Congl Meinciau ym mhentref Botwnnog, Pen Llŷn.  Agorwyd y ganolfan ym mis Tachwedd y llynedd ar safle hen orsaf betrol segur a hen ffermdy Congl Meinciau.  Mae’r ganolfan yn darparu caffi a chyfleusterau ar gyfer busnesau bach gan gynnwys ystafell hyfforddi.  Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy ar gyfer pobl leol a chwblhawyd y rhan yma o’r prosiect ym mis Mawrth 2011 ar gost o £1.45miliwn.  Rhoddwyd blaenoriaeth i bobl leol symud i’r tai, pobl gyda chysylltiad â chymunedau Botwnnog, Aberdaron a Thudweiliog.  Dangosodd asesiad o’r ardrawiad ieithyddol fod y cynllun tai wedi cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg fel iaith gymunedol.  Datblygwyd y prosiect gan Gymdeithas Tai Eryri mewn cydweithrediad â Chyngor  Gwynedd, Cymunedau’n Gyntaf Pen Llŷn a Llywodraeth Cymru.
 
 
Fel rhan o’r gwaith datblygu gan Gymdeithas Tai Eryri, sicrhawyd swyddi i bobl leol, wrth i’r cytundeb adeiladu fynd i gwmni lleol, Derwen Llŷn Cyf.  Mae’r ganolfan yn gwneud defnydd helaeth o dechnolegau ynni adnewyddol ac wedi cyrraedd safon arbennig o fewn y maes amgylcheddol ym Mhrydain.
 
Yn ôl Y Cynghorydd Glyn Roberts sy’n cynrychioli trigolion Botwnnog ar Gyngor Gwynedd: “Mae effaith buddsoddiad o’r fath mewn ardal mor wledig yma ym Mhen Llŷn yn anhygoel.  Mae’r Ganolfan Fenter yn adnodd gwych cymunedol, economaidd a thwristaidd i’r ardal.  Mae’r Bwyty ar y safle yn denu pobl o bell ac agos, ac mae’n lleoliad bywiog a phrysur.  Mae hi’n wych o beth ein bod wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad i adeiladu 12 tŷ fforddiadwy ym Motwnnog hefyd er mwyn diogelu dyfodol teuluoedd ifanc yma ym Mhen Llŷn.  Mae’n braf o beth gweld ein bod fel Cynghorwyr yn gallu cydweithio ag eraill i ddod â chynlluniau gwerth chweil i’n hardaloedd ledled Gwynedd.” 

3 comments:

Anonymous said...

Faint un union o fusnesau bach sydd felly wedi cartrefu yng Nganolfan Fenter Congl Meinciau?

Rwy'n siwr bod lleisiau'r siaradwyr heddiw yn atseinio drwy'r adeilad!

Anonymous said...

Fel rhywun sy'n gweithio gyda chynghorau ar draws y Gogledd, rhaid dweud mai Cyngor Gwynedd sydd ar y blaen o ran dealltwriaeth o anghenion pobl lleol a strategaeth arbedion sy'n gwneud synnwyr.

Ie, mae lot o bobl yn erbyn cau ysgolion, cartrefi preswyl ayb (fel arfer pobl sydd ddim yn defnyddio'r gwasanaethau hyn nag yn deall y rhesymeg tu ôl i'r penderfyniadau, ond sy'n barod iawn i godi stŵr am y peth) ond o ran gwerth am arian, mae'r Cyngor yn ceisio rheoli gwasanaethau mewn ffordd sy'n golygu fod pob ceiniog o dreth y cyngor a buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at greu newid cynaliadwy.

Mae rhai swyddi’r Cyngor ar gyflog rhu uchel, mae rhai swyddi yn gwneud i rywun meddwl “be’ ddiawl ydi gwerth hwn?”, mae rhai gynlluniau yn edrych fel 'white elephants', ond mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn waith da.

Arweinyddiaeth Plaid Cymru sydd wedi creu hyn ac wedi creu diwylliant o barodrwydd gydweithio mewn ffordd gall gyda phleidiau eraill. Bechod nad ydi rhai pleidiau a chynghorwyr wedi gweld hyn, ond dwi’n cyfaddef fod adran cyfathrebu’r Cyngor angen rhoi llawer mwy i mewn i gyfathrebu’r llwyddiannau a’r rhesymau tu cefn i rai penderfyniadau, hy mae trigolion sy’n gwneud defnydd o wasanaethau yn y sir yn dweud mai dyma beth maen nhw eisiau i’r dyfodol ac nid oes gan gynghorydd unigol yr hawl i farnu ar sail ‘point-scoring' a gwleidyddiaeth blentynnaidd.

Efo’r sefyllfa ariannol, mae angen pobl cryf wrth y llyw efo polisïau realistig a chadarn. Dyna pam fod Plaid ar y blaen yng Ngwynedd.

Un o Eryri said...

Maniffesto arbennig,gan fawr obeithio y byddaf yn aelod o'r Cyngor Newydd i helpu gwireddu'r cynlluniau
Gwynfor Owen