Wednesday, March 14, 2012

A'r arweinydd newydd fydd _ _ _

_ _ _, wel 'dwi ddim yn gwybod wrth gwrs.  Serch hynny mi geisiaf fod ychydig yn ddewrach nag oedd Vaughan Roderick ar Wales Today heddiw (neu efallai y dyliwn ddweud mai bod yn llai doeth na Vaughan ydw i mewn gwirionedd).

Dweud oedd Vaughan bod Elin wedi cychwyn ar y blaen, bod Leanne wedi cymryd yr awenau pan ymunodd a'r ras , bod Dafydd El wedi dangos arwyddion o gryfder yn ddiweddar, a'i bod bellach yn amhosibl darogan y canlyniad.

Yn y cyfamser mae 'pol' ar lein Golwg360 yn awgrymu rhywbeth hollol wahanol - bod Leanne am ennill o filltir.  Rwan mae'r 'pol' yn ymarferiad digon difyr a di niwed yn yr ystyr ei fod wedi ei ryddhau pan mae'n rhy hwyr iddo effeithio ar y canlyniad, ond 'dydi o ddim o ddefnydd mawr i ddarogan y canlyniad.  Dau o reolau euraidd polio ydi mai y grwp sy'n pleidleisio y dylid ei bolio, a bod y sawl sy'n cael eu polio yn gynrychioladol o'r grwp yn ei gyfanrwydd.  'Dydi ymarferiad Golwg360 ddim yn cyfateb a'r naill reol na'r llall, felly mae gen i ofn nad pol mohono yn ystyr arferol y term hwnnw. 



Ond 'dydi'r ffaith nad ydi pol yn un gwyddonol ddim yn golygu o anghenrhaid ei fod yn anghywir - ac yn fy marn bach i mae trefn yr ymgeiswyr yn y pol yn debygol o gael ei wireddu wedi'r cyfri cyntaf 'fory.  Ond 'dwi ddim yn meddwl y bydd Leanne cymaint ar y blaen na mae Golwg360 yn awgrymu.  Mae Golwg360 yn awgrymu y caiff Leanne 61%, Elin 25% a Dafydd El 14%.  Byddwn yn hoffi i hynny fod yn wir - mae'n well cael canlyniad cwbl glir - ond byddwn yn disgwyl i bleidleisiau DET ac Elin fod yn uwch ac un Leanne i fod yn is.  Byddwn hefyd yn disgwyl i ail bleidleisiau DET dorri i Elin ar ratio o leiaf 6:4 - efallai 2:1.  Golyga hyn bod Leanne (dyweder) angen tua 45% ar y cyfri cyntaf os ydi Elin yn cael 35% - a chymryd bod DET yn cael 20% (a dylai gael cymaint a hynny).  Neu i roi pethau yn symlach, mae Leanne angen bod 10% yn glir o Elin ar y cyfri cyntaf er mwyn bod yn siwr o ennill.  'Dwi'n rhyw feddwl y bydd yn llwyddo i wneud hynny.

'Dwi'n prysuro i ddweud fy mod yn seilio fy marn yn llwyr ar bobl 'dwi wedi siarad efo nhw.  Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny yn aelodau yn yr ardal 'dwi'n byw ynddi  - ond 'dwi wedi siarad efo pobl o rannau eraill o Gymru hefyd.  'Dydi'r dull yma ddim yn un gwyddonol wrth gwrs - ond mae mymryn yn fwy gwyddonol na phol Golwg360 yn yr ystyr mai aelodau'r Blaid yn unig 'dwi yn eu cyfri.

Beth bynnag, dyna fy mewath i.  Mi gewch chi hwyl yn chwerthin ar fy mhen 'fory os ydw i ymhell ohoni. 

7 comments:

Dylan said...

Gobeithio'n fawr iawn dy fod yn agos ati!

maen_tramgwydd said...

Hefyd, cant y cant!

Anonymous said...

Dyma fy nyfaliad i.

Ar ddiwedd y rownd gyntaf:

Leanne Wood - 48%
Elin Jones - 31%
Dafydd E-T - 21%

Wedyn ail bleidleisiau DET yn hollti 14% i EJ, a 7% i LW.

Gan olygu mai Leanne Wood fyddai'r enillydd (gyda 55%, os yw'n gwneud synnwyr adio'r ailbleidleisiau fel hyn).

Sgwn i pa ganran o'r aelodau fydd wedi pleidleisio? Dros 90%, byddwn i'n tybio.

Iwan Rhys

Anonymous said...

Roeddwn i'n union gywir ar yn fy nyfaliad yn y rownd gynta:
LW 48%,
EJ 31%
DET 21%
!

Oedd rhywun yn cynnig potel o win tro ma?!

Iwan Rhys

Cai Larsen said...

Gofyn i Guto Bebb

Dylan said...

haha chwarae teg Iwan!

maen_tramgwydd said...

'Spot on' Iwan!!!