Wednesday, October 05, 2011

'Tegwch' Tori

Fydda i ddim yn gwrando ar Taro'r Post yn aml, ond gan fy mod ar streic heddiw mi es i Landudno, a chlywed diwedd y rhaglen ar y radio yn y car.  Roedd Guto Bebb wrthi'n mynnu cael gwybod faint o athrawon sydd ar gyflog cyfartalog ei etholaeth - tua £23,000 mae'n ymddangos.

Rwan mae'n anodd gweld yn iawn beth sydd gan Guto - mae'n eithaf amlwg i'r ynfytyn gwirionaf bod cyflog cyfartalog grwp graddedig proffesiynol sydd a mwyafrif llethol ei aelodau yn gweithio'n llawn amser am fod yn sylweddol uwch na chyflog cyfartalog pawb mewn etholaeth dlawd yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Yr hyn mae Guto yn ei wneud mae'n debyg ydi ceisio apelio at ymdeimlad o 'degwch' ymysg y gwrandawyr - ond Tori ydi Guto, ac mae tegwch Tori yn beth dethol iawn.  Er enghraifft mae Guto yn credu y dylai'r sawl sydd ar gyflogau cyfartalog yn ei etholaeth dalu treth incwm ar yr un raddfa a fo ei hun sy'n ennill tair gwaith cymaint a nhw, y criw o filiwnyddion sy'n hel o gwmpas y bwrdd cabinet pob wythnos a Richard Branson a Lakshmi Mittal a'u tebyg.

Mae hefyd yn drawiadol mai mewn cyfnod o doriadau bod y llywodraeth Doriaidd yn dod o hyd i bres i rewi trethi'r cyngor yn Lloegr, ac yn blagardio y dylai'r Cynulliad wneud yr un peth yng Nghymru.  Mae toriadau o'r fath o fwy o les i bobl sy'n byw mewn tai cymharol ddrud - fel aelodau seneddol Toriaidd er enghraifft - nag ydyw i bobl sydd ar gyflogau cyfartalog mewn ardaloedd fel Aberconwy.

Gan mai'r banciau sydd wedi ein cael ni yn y twll y cawn ein hunain ynddo - a gan bod Guto mor hoff o 'degwch', byddai dyn yn disgwyl y byddai'n galw am ddeddfu er mwyn ei gwneud yn anodd i'r banciau wneud taliadau enfawr i'w huchel swyddogion.  Ond fedra i ddim dod ar draws unrhyw alwad ganddo am hynny. 

Ond dyna fo - dyna beth ydi tegwch Tori - defnyddio 'tegwch' fel dadl i leihau'r hyn sydd ar gael i filiynau o bobl yn y gweithlu, tra'n sicrhau nad oes yna unrhyw dramgwydd i'r eisoes gyfoethog fynd hyd yn oed yn gyfoethocach.

4 comments:

Anonymous said...

A'r hen ffefryn - Rhewi treth y cyngor yn Lloegr yn rhoi arian ym mhoced teuluoedd sy'n gweithio'n galed.....

Sut bod rhewi taliad yn rhoi pres yn eich poced?

Anonymous said...

Mm, ma cyflogau athrawon yn rhywbeth sydd wedi bod ar fy meddwl i'n ddiweddar, wrth i mi synu clywed cymaint yw cyflogau ffrindie coleg imi sydd wedi bod yn athrawon ers rhyw 5-6 blynedd.

Dwi'n dod o deulu o athrawon, ac o brofiad dyw'r issue o 'lawer o wylie' ddim yn ystyriaeth i mi o gwbl - dwi wedi gweld faint mae athrawon cydwybodol (ac mae canran uchel iawn ohonyn nhw yn weithwyr cydwybodol iawn) yn ei weithio yn ddi-dal gyda'r nos a'r penwythnosau a thrwy lawer o'r gwyliau yn aml.

BlogMenai, rwyt ti'n iawn i wrthod cwestiwn y Tori ynghylch cymharu cyflogau athrawon gyda chyflogau cyfartalog ei etholaeth, gan ddweud mai cymharu â chyflogau graddedigion fyddai'n decach. Ond hyd yn oed o wneud hynny, yng Nghymru o leiaf, byddwn i'n tybio bod cyflogau athrawon yn dal i fod yn uwch na'r cyfartaledd, ac yn hynod o deg.

O feddwl y gall athro fod ar rhyw £30mil 5/6 blynedd ar ol gadael coleg (a hynny heb gael dyrchafiad), faint o raddedigion eraill Cymru sy'n gallu gwneud hynny? Pe na byddai'r unigolion hynny wedi mynd i fod yn athrawon ar ol graddio, faint fydde cyfartaledd eu cyflogau nhw nawr (heb gael dyrchafiad)? Nunlle'n agos i £30mil, byddwn i'n tybio.

Iwan Rhys

Anonymous said...

Mae na ddadl ar gyflogau athrawon fan hyn (lle dw innau wedi cyfrannu):

http://www.golwg360.com/newyddion/addysg/54300-miloedd-o-athrawon-yn-cynnal-streic-un-dydd

Iwan Rhys

menaiblog said...

Mae'n gwbl wir bod cyflogau athrawon yn edrych yn uchel yng Nghymru. Yn wir mae cyflogau'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus yn edrych yn uchel yng Nghymru.

Mae yna reswm am hyn - sef bod cyflogau sector gyhoeddus yn cael eu penu yn 'genedlaethol', ac mae'n rhaid iddynt fod yn gystadleuol yng nghyd destun y sector breifat yn Lloegr - sector sy'n talu cyflogau uchel mewn rhannau o'r wlad honno.

Canlyniad hyn ydi gwneud y sector gyhoeddus yn llawer mwy atyniadol yng Nghymru nag ydyw mewn rhannau sylweddol o Loegr - ac mae'r sector breifat yma'n dioddef yn sgil hynny.

Yr ateb fyddai cael mecanwaith penu cyflog ar wahan yng Nghmru a Lloegr - ond 'dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd wrth gwrs _ _ _ _.