Saturday, October 01, 2011

Gwreiddiau Peter Hain yn ymddangos trwy'r pridd unwaith eto

Mae ymateb Peter Hain i fuddugoliaethau Plaid Cymru yng Ngwynedd nos Iau yn adrodd cyfrolau am y dyn, ac yn bwysicach mae'n adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y Blaid Lafur yng Nghymru tuag at Gymry Cymraeg.


Yr hyn sydd gan Hain mewn gwirionedd ydi bod y canlyniadau yn rhai y dylid eu diystyru oherwydd bod yr etholiadau wedi eu cynnal yn y Gymru Gymraeg.  Mae yna is destun poenus o amlwg i'r ffordd yma o edrych ar bethau - 'dydi pleidleisiau Cymry Cymraeg ddim yn gyfwerth a phleidleisiau pobl eraill, a gellir felly beidio a chymryd o ddifri ganlyniadau etholiadol mewn wardiau sydd a mwyafrioedd llethol o'u hetholwyr yn siarad yr iaith.

Ac mae yna is destun i'r is destun wrth gwrs.  Pan mae gwleidyddion Llafur fel Chris Bryant yn amddiffyn hawl Roger Lewis a'i debyg i awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn is ddynol, mae'n gwneud hynny am reswm amlwg iawn - mae agweddau fel rhai Lewis yn atgyfnerthu ac yn rhesymoli'r  naratif Llafur bod pleidleisiau Cymry Cymraeg yn rhai nad oes gwerth iddynt.

Wrth ymateb i sylwadau Bryant yn ddiweddar  awgrymais ei bod yn niweidiol i pob grwp lleiafrifol o fewn cymdeithas os ydi aelodau  rhai o'r grwpiau hynny yn ceisio creu hierarchiaeth o grwpiau y dylid eu parchu - a gosod y grwp maen nhw eu hunain yn digwydd perthyn iddo ar frig yr hierarchiaeth honno. Mae ymgais o'r fath hefyd yn awgrymu diffyg goddefgarwch ar ran y sawl sydd yn ei gwneud.

Yn yr un modd byddwn yn awgrymu i Hain y byddai'n arfer mwy priodol i wleidydd blaenllaw mewn gwlad oddefgar, fodern a gwar i roi'r un parch i ddyfarniadau etholwyr ym mhob rhan o'r wlad, beth bynnag eu cefndir, beth bynnag eu hiaith.  Mae barn etholwyr Glan yr Afon, Treorci, Penrhyndeudraeth, Y Friog a Phorthcawl yn haeddu'r un parch yn union a'i gilydd - mae pleidleisiau eu trigolion yn gyfwerth - maent yn ddinasyddion cyfartal.

'Does yna ddim lle i aparteid etholiadol yn y Gymru sydd ohoni.

6 comments:

Dyfed said...

Dwi ddim yn siwr fy mod i'n cytuno efo dy gasglad di am Hain y tro hwn. Tydi dweud fod y Blaid wedi 'retreat to their heartlands' ddim yn gyfystyr a dweud nad yw pleidlais Cymry Cymraeg yn gyfwerth ag unrhyw bleidlais arall.

Yn wir, mae posib dadlau bod Hain yn gywir yn ei ddadansoddiad - na ddylem oddi fewn i'r Blaid gymryd gormod o gysur cenedlaethol o gipio Gwynedd yn ei hôl.

Serch hynny, dwi'n ymfalchio eich bod chi dros y dŵr wedi llwyddo i wneud hynny. Fel Monwysyn dwi'n hynod eiddigeddus!

menaiblog said...

Os mai son am berfedd dir daearyddol/ etholiadol mae Hain (yn hytrach nag un ieithyddol), pam bod ei agwedd at lwyddiant Llafur ym Mlaenau Gwent (coming back to Labour) mor wahanol i'w agwedd tuag at lwyddiant y Blaid yng Ngogledd Meirion?

Siônnyn said...

'dw i yn gorfoleddu pob tro y wela i Hain yn gnweu datganiad dwl fel hwn - hen ddyn yn methu digymod a'r byd sydd ohoni, yn dangos ei wenidid drwy ymosod ar bobol pryd bynag y mae'n meddwl fod cyfle. Mae e'n gwneud niwed bach i achos ei blaid pob tro mae yn agor ei ben, felly, Cadw Ati, Pedr!

Y trafferth yw for ganddo ni un union 'run fath yn y Blaid. Beth i wneud, tybed?

Dyfed said...

Prin y byddai fod wedi dweud fod ei blaid ei hun yn 'retreating to the heartlands' nac ychwaith y byddai am greu unrhyw naratif sy'n awgrymu fod y Blaid 'ar ei ffordd yn ol'.

Ti'n siwr fod yn iawn yn awgrymu ei fod am ein paentio ni fel plaid cornel fechan Gymraeg o Gymru - ac nad oes gennym ddim i'w gynnig i weddill Cymru. Sydd yn hen broblem i ni wrth gwrs ac o bosibl yn dal i fod yn broblem hyd heddiw.

Simon Brooks said...

Tueddu cytuno efo Menaiblog. Mae Plaid Cymru = Plaid Gwynedd (sef y dyfyniad a briodolir i'r sbin-ddoctor Llafuraidd) yn golygu Plaid Cymru = plaid siaradwyr Cymraeg. Llawfer yw "Gwynedd" i Lafur am gymunedau Cymraeg.

Ond weithiau, cofiwch, mae'r Blaid ei hun yn hwrjo'r naratif ma. Bob tro mae'r Blaid yn cyhoeddi yn eu cynhadledd nad plaid i'r Cymry Cymraeg neu'r ardaloedd Cymraeg yn unig mohoni (digwyddiad blynyddol bellach), mae'n rhoi hwb bach i union yr un neges mae Llafur yn ceisio ei meithrin, wrth dynnu sylw at natur ieithyddol peth o'i phleidlais graidd.

Siônnyn said...

Cytuno 's Simon - dyna un o'r rhesymay y bydda i yn pleidleisio dros Leanne am arweinydd - cafodd ei chodi yn ddi Gymreageg yn y Rhondda, fydd yn diddymu'r ddelwedd 'LLLLLParty of the Welsh language' am byth os enillith hi. Mae'r ffaith fod hi'n ferch, yn ifanc, ag mor egniol hefyd yn ddoniau dymunol iawn i ni. Ac mae'r ffaith ei bod more ddeallus a meddylgar yn fonws mawr hefyd.