tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post2612860270229155128..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: 'Tegwch' ToriCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger4125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-36030234591220191252011-10-06T17:55:23.468+01:002011-10-06T17:55:23.468+01:00Mae'n gwbl wir bod cyflogau athrawon yn edrych...Mae'n gwbl wir bod cyflogau athrawon yn edrych yn uchel yng Nghymru. Yn wir mae cyflogau'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus yn edrych yn uchel yng Nghymru.

Mae yna reswm am hyn - sef bod cyflogau sector gyhoeddus yn cael eu penu yn 'genedlaethol', ac mae'n rhaid iddynt fod yn gystadleuol yng nghyd destun y sector breifat yn Lloegr - sector sy'n talu cyflogau uchel mewn rhannau o'r wlad honno.

Canlyniad hyn ydi gwneud y sector gyhoeddus yn llawer mwy atyniadol yng Nghymru nag ydyw mewn rhannau sylweddol o Loegr - ac mae'r sector breifat yma'n dioddef yn sgil hynny.

Yr ateb fyddai cael mecanwaith penu cyflog ar wahan yng Nghmru a Lloegr - ond 'dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd wrth gwrs _ _ _ _.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-69048615248187203332011-10-06T11:33:48.780+01:002011-10-06T11:33:48.780+01:00Mae na ddadl ar gyflogau athrawon fan hyn (lle dw ...Mae na ddadl ar gyflogau athrawon fan hyn (lle dw innau wedi cyfrannu):

http://www.golwg360.com/newyddion/addysg/54300-miloedd-o-athrawon-yn-cynnal-streic-un-dydd

Iwan RhysAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-45944997921049589842011-10-06T08:52:10.769+01:002011-10-06T08:52:10.769+01:00Mm, ma cyflogau athrawon yn rhywbeth sydd wedi bod...Mm, ma cyflogau athrawon yn rhywbeth sydd wedi bod ar fy meddwl i'n ddiweddar, wrth i mi synu clywed cymaint yw cyflogau ffrindie coleg imi sydd wedi bod yn athrawon ers rhyw 5-6 blynedd.

Dwi'n dod o deulu o athrawon, ac o brofiad dyw'r issue o 'lawer o wylie' ddim yn ystyriaeth i mi o gwbl - dwi wedi gweld faint mae athrawon cydwybodol (ac mae canran uchel iawn ohonyn nhw yn weithwyr cydwybodol iawn) yn ei weithio yn ddi-dal gyda'r nos a'r penwythnosau a thrwy lawer o'r gwyliau yn aml.

BlogMenai, rwyt ti'n iawn i wrthod cwestiwn y Tori ynghylch cymharu cyflogau athrawon gyda chyflogau cyfartalog ei etholaeth, gan ddweud mai cymharu â chyflogau graddedigion fyddai'n decach. Ond hyd yn oed o wneud hynny, yng Nghymru o leiaf, byddwn i'n tybio bod cyflogau athrawon yn dal i fod yn uwch na'r cyfartaledd, ac yn hynod o deg.

O feddwl y gall athro fod ar rhyw £30mil 5/6 blynedd ar ol gadael coleg (a hynny heb gael dyrchafiad), faint o raddedigion eraill Cymru sy'n gallu gwneud hynny? Pe na byddai'r unigolion hynny wedi mynd i fod yn athrawon ar ol graddio, faint fydde cyfartaledd eu cyflogau nhw nawr (heb gael dyrchafiad)? Nunlle'n agos i £30mil, byddwn i'n tybio.

Iwan RhysAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-53409200146224775932011-10-05T21:59:39.820+01:002011-10-05T21:59:39.820+01:00A'r hen ffefryn - Rhewi treth y cyngor yn Lloe...A'r hen ffefryn - Rhewi treth y cyngor yn Lloegr yn rhoi arian ym mhoced teuluoedd sy'n gweithio'n galed.....

Sut bod rhewi taliad yn rhoi pres yn eich poced?Anonymousnoreply@blogger.com