Saturday, October 22, 2011

Etholiad arlywyddol Iwerddon 3

Gan nad ydw i'n debygol o gael cyfle i flogio llawer am ychydig ddyddiau waeth i ni gael cip hynod frysiog ar y pum ymgeisydd nad ydym wedi edrych arnynt hyd yn hyn.

I ddechrau dyna i ni Martin McGuinness - 'dydw i ddim angen dweud gormod amdano fo mae'n debyg, ond ni fydd yn ennill - yn rhannol oherwydd ymateb rhyfeddol o hysteraidd y wasg a'r darlledwr cenedlaethol, RTE i'w ymgeisyddiaeth, ond yn bwysicach oherwydd methiant ei blaid i ddeall nad ydi naratif sy'n gweithio yn y Gogledd ddim o anghenrhaid yn gweithio yn y De.  .


Ac wedyn dyna i ni Dana, neu Rosemary Scallon sydd fwyaf enwog am ennill yr Eurovision Song Contest i'r Iwerddon ddeugain mlynedd yn ol. Ers hynny mae wedi cymryd dinasyddiaeth Americanaidd, wedi mabwysiadu gwleidyddiaeth nid anhebyg i un y Tea Party, wedi bod yn aelod seneddol Ewropiaidd, wedi sefyll am yr arlywyddiaeth ac wedi sefyll i fod yn aelod seneddol Gwyddelig.  'Does ganddi hi ddim gobaith o gwbl.


Ymgeisydd plaid fwyaf poblogaidd y Weriniaeth, Fine Gael ydi Gay Mitchell. Yn anffodus Gay ydi un o wleidyddion lleiaf poblogaidd y Weriniaeth, ac o ganlyniad fydd o ddim yn cael ei ethol. Duw yn unig a wyr pam gafodd ei ddewis.



Ar y llaw arall un o blediau lleiaf poblogaidd Iwerddon ar hyn o bryd ydi Fianna Fail
. 'Dydyn nhw heb hyd yn oed gynnig ymgeisydd swyddogol, ond maen nhw wedi ceisio sleifio ymgeisydd tua'r arlywyddiaeth heb i neb sylwi - rhywbeth nodweddiadol o'r blaid.  Gwnaed hyn trwy gefnogi Sean Gallagher -  rhywun oedd hyn yn ddiweddar iawn ar eu pwyllgor gwaith cenedlaethol, ond sydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Er bod yna pob math o'r straeon am y misti manars ariannol arferol o'i gwmpas mae'r cyn ddyn o Dragon's Den Iwerddon yn hynod boblogaidd - ac yn edrych yn debygol o ennill ar hyn o bryd. Byddai llwyddo i gael eu dyn eu hunain yn Phoenix Park yn yr amgylchiadau sydd ohonynt yn gryn dysteb i allu Fianna Fail i wneud y gorau o'r gwaethaf.



Yr ymgeisydd olaf ydi Mary Davis. Mae'r ymgeisydd annibynnol wedi gwneud pob math o bethau teilwng iawn, megis trefnu'r gemau Olympaidd i'r anabl yn Iwerddon yn 2003 - ond mae pob dim o bwys mae wedi ei wneud oherwydd ei bod ar ryw gwango neu'i gilydd. Bydd y canfyddiad ei bod yn frenhines y cwangos yn sicrhau na fydd yn dod yn agos at ennill yr arlywyddiaeth.

2 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Sefyllfa Gallagher yn ddiddorol iawn, hwyrach neith o ennill ar y bleidlais gyntaf ond i lle eith yr ail bleidlais. Mae gan Gallagher 40% a Michael D 26% a MMcG ar 13% hefo Norris, Mitchell, Dana a Mary Davies wedyn ar lai na 10%. Os eith ail bleidleisiau MMcG i Michael D fe fydd hi'n agos iawn heb son am ail bleidleisiau Gallagher ei hyn.

Cai Larsen said...

Na - mi fyddai'r ffigyrau yna yn sirhau mai Gallagher fyddai'n ennill.