Thursday, October 13, 2011

Cheryl i ddwyn grymoedd oddi wrth y Cynulliad

Mae'r ffaith na lwyddodd Cheryl Gillan i'w chael ei hun i wadu y gallai'r llywodraeth gymryd grym oddi wrth y Cynulliad yn dilyn adroddiad y Comisiwn Silk yn dweud mwy am Cheryl Gillan ac agweddau gwaelodol y Toriaid tuag at ddatganoli na dim arall.

Mae Gillan wedi gwneud cyfres o ddatganiadau ers dod yn ysgrifennydd gwladol sy'n awgrymu nad oes ganddi fawr o glem am wleidyddiaeth Cymru.  Yn wir daeth yn amlwg nad oedd yn gwybod pwy ydi Prif Weinidog Cymru yn ystod ymgyrch etholiadol 2010.



'Dwi'n siwr y byddai llawer o Doriaid yn hoffi cymryd grym yn ol oddi wrth y Cynulliad, ac mae'n bosibl bod Gillan yn eu plith.  Ond y realiti ydi nad ydi hi'n wleidyddol bosibl i blaid sydd a chefnogaeth leiafrifol yng Nghymru godi dau fys ar ganlyniadau refferendwm 1997 a 2011.  Byddai hynny'n wir ar yr amser gorau, ond mae'r syniad yn gwbl chwerthinllyd pan maent mewn clymblaid yn San Steffan efo'r Lib Dems, a phan fyddai ymgais o'r fath yn creu hollt rhwng y Blaid Doriaidd yn San Steffan a Bae Caerdydd. 

2 comments:

Anonymous said...

Ni fyddai'r commisiynwyr sydd ganddynt yn awgrumu unrhyw beth o'r fath fyddwn i'n meddwl. Byddai Ap Gwilym yn ymddiswyddo petai pethau'n symud i'r cyfieiriad yma bid sicr? Er, dwi ddim yn gybod yn iawn sut mae'r pethau yma yn gweithio.

Unknown said...

Gobeithio neuth hi diro!
'Taw beth - fe fydd hi wedi ymddiswyddo erbyn i'r adrodiad gael ei gyhoeddi - dros HS2 - ddim byd i wneud a Chymru!