Wednesday, October 12, 2011

Sut y gallai'r Toriaid atal llywodraethau mwyafrifol Llafur yn y dyfodol

Mae gen i ofn na alla i gytuno efo sylwadau Roger Scully yn sgil cyhoeddi astudiaeth Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Pwynt Roger ydi bod pob dim yn milwrio o blaid Llafur ym mis Mai, ac y dylai fod yn fater o ofid iddynt na chafwyd mwyafrif llwyr o dan amgylchiadau felly.  'Rwan mi hoffwn i gredu bod Roger yn gywir - ond mae gen i ofn nad ydyw.  Mi fyddai Llafur efo mymryn o lwc wedi gallu sicrhau mwyafrif llwyr ym mis Mai.  Er enghraifft roedd Llafur o fewn 8% neu lai i'r Toriaid mewn tair etholaeth - Preseli Penfro, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro ac Aberconwy.  Byddai ennill Aberconwy, neu y ddwy sedd Sir Benfro wedi rhoi mwyafrif llwyr i Lafur.  Yn ychwanegol at hynny mae'r blaid wedi ennill holl seddi eraill y Toriaid yn y gorffennol cymharol agos.

Yn bwysicach mae dadansoddiad Roger yn anwybyddu hanes etholiadol Cymru.  Er bod datganoli yn brofiad cymharol newydd i ni, mae yna hen hanes o Lafur yn adeiladu cefnogaeth yn gyson a thros amser yng Nghymru - ar pob lefel - pan mae'r Toriaid yn rheoli yn Llundain.  Mae'r 42% o'r bleidlais a gafodd Llafur yn etholiadau eleni ar yr ochr isel - fel rheol (mewn etholiadau San Steffan) mae Llafur yn cael rhwng 45% a 55% pan mae'r Toriaid mewn grym ar y lefel honno - hen ddigon i gael mwyafrif llwyr mewn etholiadau Cynulliad.  Rwan 'dwi'n deall nad ydi etholiadau Cynulliad a rhai San Steffan yr un peth, ond 'dwi'n meddwl bod yna batrwm clir sy'n dangos bod llywodraethau Toriaidd - yn arbennig rhai sy'n parhau am gyfnodau sylweddol - yn llesol i Lafur yng Nghymru.  'Dydi llywodraeth fwyafrifol Llafur yn y dyfodol ddim yn rhywbeth y gellir ei ddiystyru o bell ffordd os ydi'r Toriaid yn parhau mewn grym yn Llundain.

Mae'r rhesymau am hyn yn weddol eglur - mae llywodraethau Toriaidd yn tueddu i docio ar wariant cyhoeddus, mae cyfradd gweddol uchel o boblogaeth Cymru yn ddibynol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar wariant cyhoeddus.  Felly mae'n naturiol iddynt droi at blaid sy'n dweud ei bod am gynyddu gwariant cyhoeddus, a sydd a gobaith realistig o gael eu hethol.

Mae lled hegenomi Llafur yng Nghymru wedi ei adeiladu ar yr amgylchiadau hyn, ac mae o fewn gallu'r llywodraeth Doriaidd i chwalu'r seiliau hynny.  Os ydi pwerau trethu yn cael eu datganoli i Gaerdydd bydd perthynas yn cael ei sefydlu rhwng gwariant cyhoeddus yng Nghymru a lefelau trethiant yng Nghymru.  Neu i edrych ar bethau mewn ffordd arall, bydd cost i wireddu addewidion Llafur.  Bydd yn ddiddorol gweld tros y blynyddoedd nesaf os bydd greddf wrth ddatganoli'r Toriaid yn eu hatal rhag cymryd y cam a fyddai'n gwneud y mwyaf posibl o niwed i'r Blaid Lafur yng Nghymru - datganoli pwerau trethu.

1 comment:

Anonymous said...

Cytuno efo ti Cai. Meddwl fod Roger wedi camddarllen lefel fot Llafur. Gallent fod wedi ennill 31 sedd.

Ti yn berffaith iawn am natur pleidlais Llafur. Byddai'r Toriaid yn gwneud cyfiawnder a democratiaeth Cymru a phleidlais y blaid Geidwadol. Dyma fydd y ffordd o docio ar fwyafrif Cymru ac hoffwn weld Plaid Cymru yn dechrau bod yn fwy hyderus, symud yr agenda wleidyddol, tanseilio naratif Llafur a stopio son am 'fair funding' (Cymru flaws, wan - naratif Llafur).

Y cwestiwn diddorol wedyn, os gawn ni bwer trethiannol, yw sut fydd asgell chwith plaid Cymru yn ymateb wrth weld fod pobl ddim yn pleidleisio dros drethi uwch. Beth fyddan nhw yn blaenoraethu ac a fydd iaith a diwylliant Cymru ar ei cholled er mwyn gwario arian ar yr NHS sanctaidd a'r schoolandhodpitals?

Efallai o'r diwedd y cawn ni blaid Gaulist sydd o blaid cenedlwladwriaeth Gymreig gref.