Monday, September 13, 2010

Un gair bach arall am y gynhadledd

Cymhariaeth rhwng dwy araith sydd gen i heddiw - un Ron Davies ddydd Sadwrn, ac un arall y llynedd.

Yr araith wnaeth yr argraff yng nghynhadledd y llynedd oedd un Adam Price. Roedd yn ymdrech gaboledig, effeithiol a soffistigedig, gyda'r gymysgedd o hiwmor a grafitas a'r gallu i osod y tirwedd gwleidyddol sydd ohoni mewn cyd destun hanesyddol sy'n nodweddu areithiau gorau Adam. Ymysodiad chwyrn ar y Toriaid oedd prif ffocws yr araith honno. Rhywbeth a wylltiodd Llais Gwynedd yn gacwn gyda llaw.

Roedd araith Ron Davies yn wahanol fath o araith - un nad oedd iddi bolish Adam, ond roedd yn effeithiol iawn serch hynny - yn arbennig felly'r rhan lle'r aeth ati i ddatgymalu seiliau syniadaethol y Blaid Lafur Gymreig.

Ac efallai mai'r hyn y dylid ei gofio yn annad dim arall ydi mai'r Blaid Lafur, ac nid y Blaid Doriaidd ydi prif elyn Plaid Cymru, ac yn wir prif elyn Cymru. Mae hyn yn wir, er bod y rhan fwyaf ohonom sydd oddi mewn Blaid yn llawer nes i'r Blaid Lafur nag i'r Toriaid ar sawl cyfrif. Er mai cyffredinoli ydw i yma wrth gwrs, mae serch hynny yn wir i ddweud bod y Toriaid yn apelio at elfennau mewn cymdeithas Gymreig lle nad oes yna hunaniaeth Gymreig gref. Dyna pam mae y rhan fwyaf o'i haelodau seneddol yn cynrychioli ardaloedd sydd a llawer o bobl gydag hunaniaeth Brydeinig. 'Dydi pobl o'r fath ddim ar gael i Blaid Cymru beth bynnag - 'dydi achos Cymru ddim yn bwysig iddyn nhw.

Ar y llaw arall mae prif gadarnleoedd Llafur yn yr ardaloedd sydd a'r hunaniaeth Gymreig gryfaf, ac mae cefnogaeth y bobl hyn i Lafur wedi ei seilio ar eu tlodi, a'u dibyniaeth materol ar y wladwriaeth Brydeinig. Mae'r ddibyniaeth yma yn greiddiol i gefnogaeth Llafur yng Nghymru. Mae hefyd yn greiddiol i lwyddiant yr achos unoliaethol yng Nghymru.

A dyna pam bod yna fwy i'w dynnu o araith Ron nag un Adam. Dylai hoelio sylw ar y berthynas rhwng tlodi, anhyblygrwydd ac aneffeithlonrwydd ymateb y wladwriaeth Brydeinig i dlodi yng Nghymru a thaeogrwydd cibddall y Blaid Lafur Gymreig i'r wladwriaeth honno fod yn greiddiol i neges etholiadol y Blaid. Llafur ydi'r gelyn nid y Toriaid - a felly mae hi wedi bod erioed. Chwalu tirwedd syniadaethol y Blaid Lafur yng Nghymru ydi'r unig ffordd o baratoi'r tir y gellir sefydlu gwladwriaeth Gymreig arno.

3 comments:

Anonymous said...

Roedd Ron yn llygad ei le ac mae'r blogiad yma'n deall yr amcan o glosio at Llafur er mwyn eu mygu. Mae ceidwadaeth Llafur yn stopio Cymru rhag symud ymlaen.

Aled G J said...

Cytuno.Nid cymaint swm a sylwedd araith Ron Davies oedd yn bwysig dydd Sadwrn ond arwyddocad yr ergydion gwrth-Lafur. I'm meddwl i mae'n bwysig nad ydi'r Blaid yn gor-wneud hi hefo'r ymosodiadau ar doriadau'r Condems- dwi'n meddwl bod llawer o bobl yn synhwyro ym mer eu hesgyrn bod rhaid wrth lawer o'r toriadau hyn gwaetha'r modd. Yn hytrach dylent hoelio'r sylw ar pwy sydd wedi'n rhoi ni yn y ffasiwn gawl, sef Llafur Newydd, ynghyd ag ymosod ar record warthus y Blaid Lafur Gymreig yng Nghymru dros yr holl blynyddoedd. Law yn llaw a hynny mae isio cyflwyno'r syniadau newydd sydd cymaint eu hangen ar Gymru wrth gwrs.

Anonymous said...

this is very good for you, ybg :)