Saturday, September 25, 2010

Tybed os ydi Rod wedi syrthio oddi ar y wagen?


Diolch i Syniadau am dynnu ein sylw at y ffaith i Rod Richards alw am ymddiswyddiad Archesgob Cymru, Barry Morgan oherwydd i hwnnw gyfaddef ei fod yn siarad Cymraeg efo Rowan Williams.

Gobeithio bod Rod yn teimlo'n iawn.

4 comments:

Anonymous said...

Gwaith achlysurol fel pundit sy'n talu'r biliau i Rod dyddiau yma ac mae angen iddo ddweud rhywbeth ymfflamychol / dafft o dro i dro i atgoffa cynhyrchwyr y Post Cyntaf ayyb ei fod yn dal o gwmpas ac ar gael fel rent-y-gob am bris peint neu ddau.

Rwan fod S4C yn gwynebu toriadau efallai fod Rod yn rhyw obeithio bod Wedi 7 am atgyfodi'r eitem od 'na ble byddai pobl yn ffonio i fewn i gael ffrae efo has-been right-wingar ond tro 'ma efo Rod yn sgidiau'r dyn cathod a mwstash.

Anonymous said...

Doniol iawn iawn. Fel rhywun sy'n siarad hanner dwsin o ieithoedd, dwi'n gallu sicrhau Rod nad yw'r arfer o siarad mewn iaith arall fel na fyddai eraill yn deall yn gyfyngedig i archesgobion Cymraeg. Yn wir, mae pawb ar wyneb y ddaear yn ei wneud.

Anonymous said...

Dw i'n meddwl bod gan Rod Richards bwynt. Mae'n rhoi'r argraff i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg bod pobl ond yn defnyddio'r iaith i siarad am bobl y tu ol i'w cefnau.

Anonymous said...

Mi oedd o'n beth twp i'r archesgob ddweud, wedi meddwl.