'Dwi'n deall mai ymgeisyddion rhestr y Gogledd ar ran y Blaid fydd:
1) Llyr Hughes Griffiths
2) Heledd Fychan
3) Dyfed Edwards
4) Liz Saville Roberts
'Dwi'n rhyw ddeall hefyd na fydd Gareth Jones yn sefyll yn etholaeth Aberconwy, felly mae'n bosibl y bydd rhai o'r ymgeiswyr na ddaeth ar frig y rhestr yn ystyried rhoi eu henwau ymlaen ar gyfer ymgeisyddiaeth Aberconwy. Mae'n anodd (er nad yn amhosibl) gweld y Blaid yn ennill mwy nag un sedd restr yn y Gogledd.
4 comments:
Heb Gareth Jones yn Aberconwy gallai fod mewn perygl, o o leiaf ddau gyfeiriad yn fy marn i - ond pwy ag wyr. Ond ta waeth mae'n braf gweld ymgeiswyr cryf iawn ar restr y gogledd.
Diolch i drefn mai nid Dyfed Edwards a Liz Saville sydd uchaf ar y rhestr neu mi fuasai pob ysgol fach yng Ngogledd Cymru yn y fantol!!
Efallai ddysga nhw wers ar ol hyn a'r Blaid hefyd--cofiwch eich gwreiddiau bois!!
Diolch byth nad dienw oedd yr unig un oedd yn dewis rhestr y gogledd. Mae Llyr, Dyfed a Heledd yn WYCH - ac mae'n bryd i dinosors Llais Gwynedd feddwl fwy am ADDYSG y plant na'u cadw mewn adeiladau o'r 19eg ganrif!
Dinosors Llais Gwynedd huh aelod llawn o'r Blaid sy'n siarad yma. Aelod ers 30 o flynyddoedd neu fwy ond yn flin iawn gyda Cynghorwyr y Blaid yma yng Ngwynedd.Oes mae angen cau lle mae'r niferoedd yn isel iawn ond da chi gadw'ch lonydd i'r gweddill ac yn enwedig yng nghadarnleoedd y Gymraeg- hynny yw yr ychydig lefydd Cymreig sydd ar ol erbyn hyn. Trist iawn Di-enw arall!!
Post a Comment