Tuesday, September 14, 2010

Is etholiadau Gwynedd - etholiad Cyngor Gwynedd - Seiont

Mi edrychwn ni yn gyntaf ar yr etholiad cyngor sir yn ward Seiont. Mae'r ward yn ne orllewin tref Caernarfon - a 'dwi'n credu fy mod yn gywir i nodi mai dyma'r ward fwyaf poblog yng Ngwynedd, ac mae ymysg y Cymreiciaf o ran iaith yng Nghymru. Dim ond ei chymydog yn ne Caernarfon, Peblig a Phen y Groes (Gwynedd) sy'n Gymreiciach. Dau gynghorydd annibynnol oedd yn cynrychioli'r ward hyd yn ddiweddar, a galwyd yr is etholiad yn dilyn marwolaeth anisgwyl un o'r rheiny, Bob Anderson. Mi edrychwn ar yr ymgeiswyr fesul un.

James Endaf Cooke, Llais Gwynedd. Mae unrhyw un sy'n gweithio mewn siop brysur yn y ward mae'n sefyll i fynd yn gynghorydd arni mewn sefyllfa fanteisiol. Mae gweithio mewn siop sglodion sy'n gwneud sglodion blasus iawn yn fantais pellach am wn i. Yn ychwanegol at hynny, mae ganddo gefnogaeth rhai o'r bobl busnes sy'n cadw siopau yn agos at ei siop sglodion - ac mae gan y rheiny ffenestri da i roi posteri ynddynt. Serch hynny mae gan Endaf ambell i beth sy'n gweithio yn ei erbyn hefyd. Yn gyntaf nid yw'n byw yn yr ward - mae'n byw rhai milltiroedd i ffwrdd yn Llanllyfni. Mae'r ffaith ei fod yn treulio ei ddyddiau yn yr ward yn sicrhau nad yw hynny yn anfantais marwol, ond 'dydi o ddim yn help. Yn bwysicach efallai, gallai'r ffaith ei fod yn sefyll yn enw Llais Gwynedd brofi i fod yn gryn dramgwydd iddo.

Mae'r canfyddiad (ffug fel mae'n digwydd) bod gormod o bres cyhoeddus yn cael ei wario ar lannau'r Fenai yn greiddiol i ddealltwriaeth y meicrogrwp o'r Byd a'i bethau. A bod yn deg efo'r Llais, maent wedi gweithredu mewn modd cyson a'r camargraff hwn ers eu ffurfio. Maent o ganlyniad wedi gweithredu yn gyson mewn modd sy'n groes i fuddiannau Caernarfon - rhedeg at y papurau newydd pan gafodd Ysgol Syr Hugh Owen grant arbennig gan yr Awdurdod Addysg i'w cynorthwyo i ddod tros problemau ariannol, troi trwyn ar y cynllun i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol yr Hendre, mynegi'r farn mai trefi 'mawr' fel Caernarfon ddylai gynnig lloches i'r cwbl o'r di gartref, gwrthwynebu gwerthu adeilad y Goleuad, gwrthwynebu'r camau a arweiniodd at ddatblygu ardal Doc Fictoria, argymell sacio 600 o weithwyr y Cyngor (mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn byw yn ardal Caernarfon) ac ati.

Felly, o safbwynt ymgeisyddiaeth Endaf mae'n weddol bwysig iddo nad ydi record Llais Gwynedd parthed Caernarfon yn dod yn amlwg i drigolion Seiont. Y gwrthwyneb sy'n wir am yr ymgeiswyr eraill wrth gwrs.

Mae gan Llinos Mai Thomas, Ymgeisydd y Toriaid nifer o anfanteision hefyd. Y gwahaniaeth rhyngddi hi ac Endaf ydi ei bod yn anodd dod ar draws unrhyw ffactor o'i phlaid. Hyd y gwn i, dydi hi ddim yn un dda am wneud sglodion, mae'n byw yn Ynys Mon, ac mae'n gweithio ym Mangor. Mi fydd yna ganfyddiad - yn gam neu'n gymwys - ei bod ond yn sefyll er mwyn codi ei phroffeil ar gyfer ennill ymgeisyddiaeth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad. 'Dydi'r blaid mae'n sefyll trosti ddim am helpu chwaith. Proffeil cymdeithasegol dosbarth gweithiol sydd i Seiont (er bod iddi rannau dosbarth canol). Roedd pleidlais y Toriaid ymhell, bell o dan 20% yno yn etholiadau San Steffan eleni - ac mewn etholiadau San Steffan y bydd y Toriaid yn gwneud orau gan amlaf.

Yn rhyfedd iawn, 'dydw i erioed wedi dod ar draws yr ymgeisydd annibynnol, Gareth Edwards er i'r ddau ohonom fyw yn yr un tref am flynyddoedd mawr. Mae'n ddyn busnes, a deallaf ei fod yn gyfrifol am y wefan, Caernarfon on Line. Mae ganddo'r fantais o fod yn berson o'r dref ac o fyw yn weddol agos at y ward. Safodd mewn etholiad cyngor tref rhai blynyddoedd yn ol, ond chafodd o fawr o lwyddiant. Bydd yn gobeithio am lawer iawn mwy o lwc y tro hwn.

Byddaf serch hynny yn dod ar draws yr ymgeisydd Llafur, Tecwyn Thomas yn weddol aml - yn ystod etholiadau pan mae'r ddau ohonom yn ymgyrchu i bleidiau gwahanol. Er gwaethaf hynny byddaf yn cael Tecwyn yn un parod iawn i sgwrsio, ac mae gwrando arno yn ddiddorol i unrhyw un sydd a diddordeb yn y Blaid Lafur - fel un o hoelion wyth y blaid yn Arfon, ac yn wir yng Nghymru, mae ganddo wybodaeth drylwyr am y blaid honno. Mae iddo'r fantais bod yna bleidlais greiddiol eithaf cryf i'w blaid yn y ward, bod Llafur efo hanes cymharol ddiweddar o ennill sedd yma, a'i fod o ei hun wedi cynrychioli'r ward ar y cyngor sir, a'r cyngor tref yn y gorffennol. Ond mae ganddo nifer o anfanteision i ymgodymu a nhw hefyd.

Yn gyntaf fe'i dewiswyd i gynrychioli'r Blaid Lafur o flaen cynghorydd Llafur ar y cyngor tref - Gerald Parry. Mae Seiont yn ward dau aelod, a bydd Gerald a Tecwyn yn cyd redeg yn aml. Mi fydd Gerald yn ddi eithriad yn gwneud yn well na Tecwyn. Yn wir etholwyd Gerald i'r cyngor tref yn 2008, tra daeth Tecwyn ar waelod y pol. Mae'r rheswm am hyn yn eithaf amlwg - 'does gan Tecwyn fawr o ddiddordeb yn ochr caib a rhaw bod yn gynghorydd - rhedeg negeseuon i'r etholwyr, tra'i fod efo mwy o ddiddordeb yn yr agweddau strategol a gwleidyddol i'r swydd. Mae gen i beth cydymdeimlad efo'r agwedd yma yn bersonol - ond ysywaeth 'dydi'r etholwyr ddim yn gweld pethau felly. Mae yna gwyno ar led ar hyn o bryd bod Llafur 'wedi dewis y boi rong'. Petai hynny'n datblygu i ganfyddiad bod Llafur wedi rhoi ei hystyriaethau ei hun o flaen rhai'r dref, byddai'n creu cryn niwed etholiadol iddynt mewn ardal sydd a chryn falchder lleol yn perthyn iddi.

Menna Thomas, Plaid Cymru ydi'r ymgeisydd sy'n weddill. Anhawster Menna ydi nad dyma'r ward orau i'r Blaid yng Nghaernarfon. Tra bod y Blaid yn cynrychioli wardiau eraill y dref ar y cyngor sir, mae'n gryn gyfnod ers iddi fod a chynghorydd sir yn y ward dwy sedd yma. Serch hynny mae Menna yn byw yn y ward (yn wahanol i'r gweddill) ac mae'n gynghorydd tref trosti. Daeth yn gyfforddus o flaen Tecwyn Thomas yn etholiadau 2008. Mae'n weithgar yn y ward, ac mae wedi cael sylw yn y wasg leol ers iddi gael ei hethol. Hefyd does yna ddim mymryd o amheuaeth bod buddiannau Caernarfon yn bwysig iddi hi a'i phlaid.

1 comment:

Anonymous said...

ddarllenias i erioed gymaint o fwydro plentynaidd