A hithau'n drigain mlynedd ers y Blits ymddengys bod cynlluniau ar y gweill i gofio am y 55,000 o aelodau Bomber Command a laddwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Rwan mae dyn yn sylweddoli bod y cyfnod o dan sylw yn un anodd iawn, bod y lluoedd Prydeinig yn wynebu gelyn anymunol iawn, mai'r Almaenwyr a ddechreuodd yr arfer o fomio er mwyn lladd sifiliaid a bod y sawl oedd yn fodlon mentro i mewn i fomar yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ddewr iawn trwy ddiffiniad. Ond - wedyn - mewn difri ydi codi cofeb o'r fath yn briodol? Mae yna eisoes gerflun o Bomber Harris ar y Strand yn Llundain - y sawl oedd yn arwain yr RAF ar y pryd. Achosodd hynny gryn anghydfod pan gafodd ei ddadorchuddio ym 1992.
Ystyriwch y canlynol:
Mae'r amcangyfrifon o faint o sifiliaid Almaeneg a laddwyd oherwydd bomio strategol yn amrywio o 300,000 i 600,000. Nid marw oherwydd eu bod 'yn y ffordd' wnaeth y rhan fwyaf o'r rhain - roeddynt yn cael eu targedu yn fwriadol. Does yna ddim llawer o amheuaeth am hynny - mae hyd yn oed cyfarwyddiadau y Swyddfa Rhyfel ar y pryd yn cadarnhau hynny. Gweler geiriad cyfarwyddyd 5 (S.46368/D.C.A.S)- the primary objective of your operations should be focused on the morale of the enemy civil population and in particular the industrial worker - you accordingly authorized to employ your forces without restriction. Pe byddai strategaeth o'r fath yn cael ei defnyddio heddiw, 'does yna fawr o amheuaeth y byddai'r sawl oedd yn gyfrifol amdani yn cael ei hun mewn llys barn am droseddau rhyfel.
Fel y dywedais, amserau anodd a rhyfel anodd. Ond mae'r syniad o gofeb yn gadael blas drwg yn fy ngheg i mae gen i ofn. 'Dwi'n hoff o gofebau cyhoeddus - ond mae hwn yn un na ddylid ei godi.
1 comment:
Ma'n debyg bod fy nhad-cu wedi chwarae rhan yn yr ymgyrch fomio yma. Roedd fy nhad cu arall yn wrthwynebydd cydwybodol. Wrth edrych yn ol efallai nad oedd yr un ohonyn nhw'n 'gywir' ond rhaid parchu bod y ddau yn meddwl eu bod nhw'n gwneud beth oedd orau ar y pryd.
Fe fyddwn i'n dweud mai cofeb i'r bobol fu farw fyddai hwn yn hytrach na chofeb i gofio'r weithred o droi dinasoedd a threfi'r Almaen yn rwbel. Maen nhw'n haeddu cael eu cofio fel pawb arall oedd yn rhoi eu bywdau eu hunain yn y fantol er mwyn ennill y frwydr yn erbyn Natsiaeth. Dwi'm yn meddwl ei bod hi'n deg cael cofeb i'r rheini fu'n eistedd y tu ol i ddesgiau yn gorchymun y tactegau yma ond ddim i'r rheini fu farw yn eu rhoi ar waith. Yn enwedig gan nad oedd y rhai fu farw ddim syniad a oedd y tactegau'n gwneud mwy o ddrwg na lles yn y pen draw.
Post a Comment