Saturday, June 19, 2010

Plaid Cymru ac etholiadau Cynulliad 2011

Mi fydd y sawl yn eich plith sy'n dilyn y blogosffer Cymreig yn ymwybodol o wahanol broblemau sy'n debygol o wynebu aelodau'r Blaid wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf. Yn wahanol i'r Toriaid er enghraifft mae'r broses o ddewis ymgeisyddion yn un democrataidd, ac felly yn nwylo'r aelodau yn hytrach nag yn nwylo sanhedrin o hen gojars ar frig y blaid.

Gwahaniaeth arall ydi'r ffaith bod gan y Blaid ormod o dalent yn chwilio am rhy ychydig o seddi. Mae hyn yn gwbl groes i'r pleidiau Prydeinig yng Nghymru lle ceir llawer mwy o seddi na sydd o dalent gwleidyddol ar gael i'w llenwi. Ceir awgrymiadau ym mlog John Dixon - Borthlas a blog Vaughan.

Mi fedrwn gasglu'r canlynol o'r awgrymiadau sydd wedi eu taflu o gwmpas hyd yn hyn. Cofiwch awgrymiadau yn unig ydi'r rhain - sibrydion yn y rhithfro fel petai.

  • Nid John Dixon fydd yn sefyll yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro. Bydd Nerys Evans yn rhoi ei henw ymlaen yno.
  • Ar restr De Ddwyrain Cymru, ac nid Caerffili fydd enw Ron Davies.
  • Bydd Bethan Jenkins yn rhoi ei henw ymlaen ar restr De Orllewin Cymru.
  • Yn Ne Clwyd ac nid ar restr y Gogledd fydd Janet Ryder yn sefyll. Bydd Mabobn ap Gwynfor yn rhoi ei enw ymlaen yno hefyd.
  • Bydd enw Dafydd Wigley ar restr y Gogleddd.
  • Bydd enw Adam Price yntau ar restr y Canolbarth a'r Gorllewin.
Hoffwn ychwanegu un neu ddau o sibrydion eraill i'r lobs sgows.

  • Bydd Heledd Fychan yn rhoi ei henw ymlaen ar gyfer rhestr y Gogledd. Bydd enw cynghorydd y Felinheli, Sian Gwenllian yno hefyd.
  • Bydd enw Myfanwy Davies yn cael ei roi ymlaen naill ai ar gyfer Gorllewin De Cymru neu Canol De Cymru.

9 comments:

Alwyn ap Huw said...

Be am Cai Larsen?

Cai Larsen said...

Hmm - 'dwi ddim yn meddwl rhywsut neu'i gilydd.

Anonymous said...

plaid yn warthus unweth eto bethan jenkins ar rhestr ron davies ar rhestr adam price ar rhestr ydyn ni rili eisiau ennill seddi mae'r plaid yn bonkers

Anonymous said...

beth ywr pwynt mynd ar rhestr ni eisie ennill yn sefyll fel islyn gwastraff llwyr os mae myfanwy ron adam dafydd yn mynd ar rhestr os mae nhw i gyd yn myn ar rhestr dyna fe dwin rhoi lan fy aelodaeth dwi di cael diigon o nonsens o ddim brwydro unman

RH said...

Dwi rhyw hanner cytuno efo anon. Os ma'r blaid isho cynnyddu ei seddi ma rhaid curo etholaethau. Os y tacteg ydi sicrhau y "big names" i fewn i'r cynulliad, price, davies a wigley, digon teg. Ond ddim felna ddylsa hi fod.

Ma na "saturation point" efo seddi rhanbarthol (fel ddysgodd y DemRhydd). Cymherwch y tri rhanbarth yn y de, dani fo 2 AC yn yr tair rhanbarth a does modd i ni gynyddu tan dani yn dechra curo seddi etholaethol yna. Felly yn Caerffili ddylsa Ron fod yn sefyll, Castell Nedd Adam ac ati.

Yn anffodus, mae i weld fod gyrfaeodd gwleidyddol rhai pobl yn bwysicach na buddianau eu pharti.

Cai Larsen said...

Ia a naci.

Mae cael rhywun adnabyddus ar y rhestr yn dennu pobl i bleidleisio na fyddai'n gwneud fel arall - ac mae ganddynt bleidlais etholaethol yn ogystal a phleidlais ranbarthol wrth gwrs.

Anonymous said...

dwi rhyw dybio fod Adam yn gweld ei hun fel olynydd Ieuan Wyn ar ben y Blaid - a phob lwc iddo. Dwi fy hun yn bendant y byddai yn gwneud yn wych.
Ond os ydi hyn yn wir, rhaid iddo fod mewn etholaeth i mi nid ar y rhestr.

RH said...

Digon teg Menai. Mae'n anodd mesuro effaith ymgeiswyr rhestr ar pledleisiau etholaethau ond dwi dal yn rhyw tybio sa'n well i ni cael adam price a ron davies (yn sicr) yn sefyll mewn etholaethau ymylol.

Ond, dwi o'r Ynys felly mae'n anodd i mi weld sut mae ymgeiswyr rhanbarthol yn goresgyn (neu yn cael unrhyw effaith o gwbl ar) pleidleisau etholaethol.

Anonymous said...

Efallai y gall y rhai hynny sydd heb lwyddo i ddod yn ymgeiswyr etholaeth roi eu henwau ymlaen ar gyfer y rhestr hefyd.

Unrhyw son am amcanion Llyr Huws Gruffydd? Arwel Lloyd? Steffan Lewis? Mae toreth o dalent ifanc gan y Blaid, ond does yna ddim llawer o ferched ifanc yn dod trwy'r rhengoedd. Mae'n rhaid felly hyrwyddo Nerys Evans a Bethan Jenkins, dwy ferch talentog a hynod alluog.