Wednesday, June 30, 2010

Acenion a 'ballu eto

'Dwi wedi son am hyn o'r blaen, ond mae sylwadau Simon, yn nhudalen sylwadau y blogiad diwethaf, am eiriau Cymraeg yn diflanu o ganlyniad i gael eu defnyddio mewn ffordd ychydig yn wahanol yn y Saesneg wedi gwneud i mi feddwl am y busnes acenion yma eto.

Mae acenion yn dweud mwy wrthym am bobl nag o ble maent yn dod - maent hefyd yn dweud wrthym am sut mae pobl yn gweld eu hunain, a sut maent am i eraill eu gweld. Mae acenion hefyd yn newid yn barhaus. Er enghraifft, 'dwi ddim yn amau nad ydi fy acen i ychydig yn wahanol pan 'dwi wrth fy ngwaith o gymharu a phan rwyf yn siarad gyda phobl oedd yn ffrindiau ysgol i mi. Yn sicr byddaf yn sylwi ar hyn mewn pobl eraill. Pan 'dwi i ffwrdd o'r Gogledd 'dwi'n ddiarwybod i mi fy hun bron yn meirioli fy acen Ogleddol gref yn y Saesneg a'r Gymraeg fel ei gilydd.

Mae'r wraig wedi ei magu yng Nghaerdydd, ond mae wedi byw y rhan fwyaf o'i bywyd yng Nghaernarfon. Pan fydd yn siarad ei hiaith gyntaf - Saesneg - mae ganddi acen Gaerdydd gref, pan mae'n siarad y Gymraeg mae'n siarad efo acen sy'n ddigon nodweddiadol o bobl ochrau Caernarfon. 'Dwi'n 'nabod llawer o fewnfudwyr eraill sy'n siarad y Saesneg yn eu hacenion rhanbarthol (Seisnig gan amlaf), ond sy'n siarad y Gymraeg yn ddigon tebyg i'r ffordd y byddaf i yn gwneud hynny. Mae gen i bump o blant, ac mae yna wahaniaeth yn eu hacenion hwy. Mae dau yn defnyddio acen mwy dosbarth gweithiol na'r tri arall. 'Dwi'n meddwl mai pwy oedd yn digwydd bod yn ffrindiau efo nhw yn yr ysgol oedd yn gyrru hyn.

Ac mae acenion rhanbarthol yn newid wrth gwrs. Yr esiampl mwyaf enwog o hyn mae'n debyg gen i ydi ymlediad Estuary English ar hyd a lled De Lloegr. Acen (neu grwp o acenion efallai) ydi hon sydd yn defnyddio llawer o nodweddion acen ddosbarth gweithiol Llundain, ond sydd eto'n wahanol iddi. Mae'r acen hon nid yn unig wedi ymwthio i ardaloedd daearyddol gwahanol ond mae hefyd wedi ymwthio i fyny'r ysgol gymdeithasol hefyd. Mae yna ddylanwad Estuary English ar y ffordd y bydd wyrion brenhines Lloegr yn siarad.

Mae'n debyg mai newidiadau cymdeithasol sydd y tu cefn i hyn. Mae yna lawer iawn o deithio i'r gwaith a mudo mewnol yn Ne Lloegr y dyddiau hyn, ac efallai bod hynny wedi torri rhai o'r hen raniadau daearyddol, a bod hynny yn ei dro yn rhoi llai o reswm i bobl fod eisiau diffinio eu hunain trwy ddefnyddio acen sy'n gysylltiedig a rhannau cyfyng o Dde Lloegr. Yn yr un ffordd mae newidiadau economaidd tros yr hanner can mlynedd diwethaf wedi gwneud y llinellau rhwng pobl o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn llai eglur o lawer, ac o ganlyniad 'dydi pobl ddim yn teimlo'r angen i ddefnyddio eu hacen i fynegi eu statws dosbarth.

'Dwi'n meddwl i mi son o'r blaen ei bod yn ymddangos i mi bod y gwahaniaeth rhwng acenion lleol yn y Gogledd Orllewin yn llai nag y buont. Pan oeddwn i yn yr ysgol roedd gwahaniaeth amlwg iawn rhwng acen tref Caernarfon, ac acen y pentrefi chwarel o'i gwmpas. Roedd yna hyd yn oed wahaniaeth rhwng y gwahanol bentrefi chwarel. Mae hyn yn wir o hyd, ond 'dwi'n meddwl ei fod yn llai amlwg nag y bu. Ers talwm roedd pobl y chwareli a phobl Caernarfon yn gweithio mewn llefydd gwahanol, ond 'dydi hyn ddim yn wir ers i'r chwareli gau - maen nhw'n gweithio yn yr un llefydd. Mae acen Cofis Dre wedi effeithio ar acen Cofis Wlad, ac mae acen Cofis Wlad wedi effeithio ar acen Cofis Dre. Mae'r gwahaniaeth yn fwy rhwng acen Arfon ag un Dwyfor, ond (yn fy marn i) mae acenion pobl ifanc yn Nwyfor wedi dechrau magu rhai o nodweddion ochrau Caernarfon.

Roeddwn yn digwydd siarad efo rhywun o Bontyclun ddoe. Mae'r pentref wrth gwrs i'r Gogledd Orllewin o Gaerdydd, ac heb fod ymhell o'r M4. Roedd yn mynegi'r farn bod acen y pentref wedi Cymreigio llawer ers iddo fod yn blentyn yno (ac wedi mynd yn fwy tebyg i acen y Cymoedd am wn i). Yn rhyfedd 'dwi wedi rhyw sylwi bod swn llawer mwy Cymreig i acen pobl ifanc sydd wedi eu magu yng Ngogledd Caerdydd nag y bu. Mae cariad un o'r meibion yn dod o Ogledd Caerdydd, a thra nad yw ei hacen fel un (dyweder) Pontypridd, mae'n llawer mwy nodweddiadol o'r Cymoedd nag ydi un fy ngwraig. Mae'n debyg bod pobl Caerdydd yn y gorffennol yn ystyried eu hunain ychydig yn wahanol i weddill Cymru, a bod eu hacen yn adlewyrchu hynny. Mae'n debyg mai mudo mewnol yn y De sydd wedi erydu'r canfyddiad yma i raddau, ond mae ffactorau eraill ar waith - mae Caerdydd ei hun wedi Cymreigio o ran agweddau ei thrigolion cynhenid hefyd - mae'n debyg yn sgil ei datblygiad fel prif ddinas.

Oes yna unrhyw un arall efo sylwadau ynglyn a newidiadau mewn acenion mewn rhannau eraill o Gymru?

13 comments:

Huw said...

Plant o aelwydydd di-Gymraeg yn cael eu dysgu gan athrawon sy'n cymudo. Mae'r acen a'r geirfa mae plant yn ei ddysgu union fel yr athro, nid yr ardal cartrefol. Bron iawn, mae'r acen ddim yn naturiol - mwy o iaith ffurfiol ysgrifenedig na llafar.

Vaughan said...

Wrth reswm mae acenion yn newid.

Roedd addysg Gymraeg yn rhy hwyr i achyb y Wenhwyseg. O ganlyniad mae plant y de-ddywrain naill ai'n siarad rhyw Gymraeg Ddeheuol safonol neu'r hyn oedd arfer cael ei alw'n "Rhydfeleneg"- iaith "Pam Fi, Duw?".

Y cwestiwn sy gen i yw hwn. Os ydy plant wedi clywed a dysgu "fi gyda" a'i debyg gan eu neiniau a'u teidiau a'u mamau a'u tadau onid oes rhaid derbyn hynny bellach fel tafodiaith pa mor bynnag ferwiniaidd i'r glust?

Alwyn ap Huw said...

Pan fo person o'r hen Wynedd sy' dros ei ddeugain oed yn dechrau sgwrs efo fi yn y Saesneg, rwy'n weddol hyderus o wybod ei fod yn iawn troi'r sgwrs i'r Gymraeg. Bydd o neu hi yn siarad Saesneg ag acen sydd yn gwneud yn glir mae Cymro Cymraeg yw'r siaradwr. Does dim modd bod mor sicr efo pobl iau gan eu bod hwy yn dueddol o siarad Saesneg llawer mwy Seisnig. Yr acen y maent yn ei ddefnyddio yw'r hyn yr wyt ti'n ei alw'n Estuary English, ond byddwn i'n ei alw yn acen DJ's Radio Un, neu'n Modern BBC English.

Difyr yw gweld cyfraniad gan Vaughan i'r drafodaeth, oherwydd fy mod i'n credu ei fod o a'i debyg yn gyfrifol am greu acen Cymraeg S4C safonol hefyd.

Oni bai bod dyn yn gwybod o ba le y maent yn dod mae'n anodd dweud os mae Gog neu Hwntw yw pobl fel Vaughan, Dewi Llwyd, Betsan, Elinor Jones, Aled Jones, Rhodri Thomas, Gerallt Pennant, Huw Edwards, Gwanas ac ati. Yr unig "clem" yw ddefnydd o eiriau amlwg fel mas / allan neu lan / fynnu - nid bod hynny'n gywir pob tro. Bydd Dewi yn defnyddio "allan" pan fo Pawb a'i Farn yn dod o'r Gogledd a "mas" mewn rhaglenni a ddarlledir o'r deheubarth .

Mae'r cyfuno acenion / tafodieithoedd 'ma yn digwydd ymysg y werin datws hefyd - yr wyf wedi clywed ambell i ogleddwr ifanc yn son am "joio mas draw" wrth son am noson allan gan fod tinc llawer mwy cŵl i'r fath ymadrodd na sydd i'r ymadrodd "wedi mwynhau yn arw"; neu yn son am lapsochan efo'u cariadon gan fod swsian, ddim cweit yr un peth (gellir rhoi sws i nain, bydda neb byth yn lapsochan efo'i nain!)

O ran acen Rhydfelyneg onid honno yw dafodiaith y Creuddyn a Glan Clwyd hefyd? Onid ydy Over the Llestri Aled Lewis Evans mor berthnasol i Ysgol Llanhari ac Ysgol Maes yr Yrfa ac ydyw i Ysgol Maes Garmon?

Cai Larsen said...

Mi fyddwn yn derbyn pwynt Vaughan mai tafodiaith ydi tafodiaith - 'does yna fawr o bwynt cwyno amdanyn nhw. Fel y mor maen nhw yno.

O ran HRF - fyddet ti yn gwybod os ydi rhywun o Fangor yn siarad Cymraeg neu beidio ar ei acen wrth siarad Saesneg?

Hefyd mae yna elfen o eironi yn y defnydd gan Ogleddwyr o dermau Deheol fel 'mas draw'. Mae pobl yn eu defnyddio am eu bod yn swnio'n ddigri i'r glust Ogleddol.

Anonymous said...

Fe ddwedodd Alwyn ap Huw: "mae'n anodd dweud os mae Gog neu Hwntw yw pobl fel Vaughan, Dewi Llwyd, Betsan, Elinor Jones, Aled Jones, Rhodri Thomas, Gerallt Pennant, Huw Edwards, Gwanas ac ati."

Fyddwn i ddim yn cytuno gyda hyn o gwbwl. I 'nghlust i, mae'n gwbl amlwg p'un ai o'r gogledd neu'r de mae pob un o'r rhain.

Mae'r Rhydfeleneg yn wych - hi yw'r acen salwaf a phertaf sy'n bodoli!

Iwan Rhys

Vaughan said...

I ymateb i Alwyn. Dydw i ddim yn credu bod 'na acen S4C safonol ond rhai blynyddoedd yn ol fe wnaeth y sianel ymchwil ynghylch gallu pobol i ddeall wahanol fathau o Gymraeg.

Roedd 'na un dafodiaith yr oedd pawb yn ei chael hi'n weddol hawdd ei deall.

Cymraeg ardal Llambed a gogledd Shir Gar oedd honno. Mae'n ymddangos bod dylanwad Pantycelyn yn para hyd heddi(w)!

Cai Larsen said...

Llambed? Llambed? Be ti'n feddwl?

Mae'n rhaid mai Caernarfon ti'n trio ei ddweud mewn gwirionedd!

Anonymous said...

Dwi'n cofio pobl yn honni fod yna wahaniaeth rhwng acen Gorllewin ardal Bangor (sef Penrhos a Capel Graig) ac acen Dwyrain Bangor (Hirael a MaesG). Roedd naill ardal ym mharth stad y Faenol , a'r llall ym mharth stad y Penrhyn. Sylwais i 'rioed ar hynny , ond mi oedd hi'n bosibl dweud gwahaniaeth rhwng acen Bangor ac acen Caernarfon yn syth. Mae hyd yn oed yr acen 'Bangor ai' wedi dechrau diflannu, ond mae'n fwy cyffredin rwan yn ardal Caernarfon.
Un o'r de oedd tad Dewi Llwyd, gyda'r llaw , felly gall fod yna elfen o gymysgwch yna .
Mae ysgolion Cymraeg yn dueddol o gymeryd eu disgyblion o ardaloedd eithaf eang, felly mae'n bosibl fod yna gymysgwch eithaf naturiol.
Mae fy mhlant i'n siarad gydag acenion gwahanol i fi, a gwahanol i'w gilydd , i raddau.

Cai Larsen said...

Roedd yna gryn wahaniaeth rhwng acen Deiniolen a Llanrug ers talwm. Dydi o ddim yna heddiw rhywsut - er bod dylanwad G'narfon yn gryfach ar iaith plant Llanrug na Deiniolen.

Anonymous said...

Dwi'n cytuno fod 'na llawer o gymysgu yn digwydd rhwng acenion y cymoedd ac acen Caerdydd!

Anonymous said...

Hefyd dwi'n credu ei fod yn bosib clywed dylanwad y Wenhwyseg yn y ffordd mae pobl ardal Taf-Elai yn dweud enwau pentrefi lleol yn y Saesneg (dydw i ddim yn siŵr, dysgwr ydw i!)

Beddau = Bedda
Penycoedcae = Pencoedca
Tonyrefail = Tonyrefal

Anonymous said...

check this

My web blog ... attorney bankruptcy lawyer
Here is my webpage ... real estate attorney

Anonymous said...

International Website traffic Product Evaluation - Worldwide Visitors Equipment

Here is my site :: leads for lawyers
Also visit my blog :: attorney leads