Monday, May 31, 2010

Ffigyrau'r mis


A wel - dyma ni efo'r ffigyrau uchaf yn hanes y blog.

Roedd dechrau Mai a diwedd Ebrill yn rhai da iawn wrth gwrs - mae etholiad yn ennyn diddordeb mawr mewn blogiau gwleidyddol.

'Dwi'n rhyw deimlo mai Ebrill a Mai 2011 fydd y tro nesaf i ni gael mwy na 6,000 o ddefnyddwyr unigryw.

Diolch i bawb wnaeth alw heibio - hyd yn oed y sawl ddaeth yma i godi twrw.

Sunday, May 30, 2010

Helynt Treganna - mater plwyfol?

Pob tro bron y bydd Vaughan yn son am saga Ysgol Treganna mae’n rhyw led ymddiheuro oherwydd ei fod yn rhyw led ystyried y mater yn un plwyfol. ‘Does dim rhaid iddo fo wneud hynny wrth gwrs – er mai mater lleol iawn a geir ar un olwg, mae’r goblygiadau sy’n deillio ohono yn rhai hynod o bell gyrhaeddol.

Mae’r stori yn mynd at galon dau o bolisiau llywodraeth y Cynulliad – un sydd yn agos at galon cydadran Llafur y glymblaid, sicrhau cost effeithiolrwydd trwy dorri ar lefydd gweigion mewn ysgolion – ac un sy’n nes at galon Plaid Cymru, ymateb i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru.


Mae’r cyntaf o’r rhain – yr angen i greu cyfundrefn mwy cost effeithiol, wedi creu gwrthdaro ar lefel lleol am rhai blynyddoedd bellach. Mae’r pwysau ar awdurdodau lleol i leihau’r nifer o lefydd gwag yn sylweddol – fe’i ceir yn uniongyrchol o’r Cynulliad gyda grantiau arian cyfalaf yn cael eu clymu i barodrwydd i gau, ac fe’i ceir yn anuniongyrchol gan ESTYN a’r Comisiwn Archwilio.

Beirniadaeth gyffredin gan y Comisiwn, ESTYN a’r gweinidog addysg ydi bod Awdurdodau Lleol yn wastraffus a nad oes ganddynt y dewrder gwleidyddol i fynd i’r afael a llefydd gweigion. Yr unig ffordd o wneud hyn wrth gwrs ydi trwy gau ysgolion. Mae’n ddigon dealladwy nad ydi Awdurdodau Lleol yn awyddus i wneud hyn.


Ceir 243 o lefydd gwag yn ysgolion Saesneg Treganna os ydym yn cyfri’r nifer sylweddol o blant o’r tu allan i’r ward sy’n mynychu ysgolion yno. Os ydym yn diystyru’r rheini mae’r ffigwr yn uwch - 536. Mae’r ddau ffigwr yn sylweddol, ac o ddilyn rhesymeg y Cynulliad ei hun nid oes unrhyw ddadl o gwbl tros gynnal pedair ysgol Saesneg yn Nhreganna – hyd yn oed pe na bai addysg Gymraeg yn rhan o’r cawl – ac mae’n rhan gweddol bwysig o’r cawl yn y rhan arbennig yma o Gymru. Eto o ddilyn rhesymeg y Cynulliad ei hun, mae honni bod cau Landsdowne yn 'niweidiol' i addysg Saesneg yn gwrth ddweud yr hyn mae’r Cynulliad, ei swyddogion, a’i hasiantaethau wedi bod yn ei brygethu i awdurdodau lleol am flynyddoedd.


Pam y dylai Cyngor Caerfyrddin (dyweder) gau ysgolion yno pan mae’r Prif Weinidog ei hun yn dweud bod cau ysgol yn Nhreganna yn mynd i ‘niweidio’ addysg yno? Pam y dylai cynghorwyr yn Sir Ddinbych ‘fod yn ddewr a chymryd penderfyniadau anodd’ pan na all y llywodraeth ym Mae Caerdydd sefyll y tu ol i gynghorau sy’n cymryd penderfyniadau 'anodd' oherwydd bod gwneud hynny yn cymryd dewrder ar ran y llywodraeth yn ogystal a’r awdurdod? A defnyddio idiom hyll braidd o ochrau G’narfon, mae Carwyn Jones wedi gwnio ei din ei hun efo’r penderfyniad yma.


Mae’r ail fater yn bwysicach o ran dyfodol Cymru, a sut wlad fydd hi mewn canrif. O edrych ar y Gymraeg yn nhermau marchnad mae yna ormod o gyflenwi a dim digon a alw ym mron iawn i pob maes – mwy o ffurflenni Cymraeg nag oes yna alw amdanynt, llawer o raglenni teledu nad oes fawr neb yn edrych arnynt, fersiynnau Cymraeg o wefannau cynghorau nad oes yna neb yn eu defnyddio, gwasanaeth bancio twll yn y wal sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer gyfyng o bobl, mwy o gyfieithu nag oes galw amdano ac ati, ac ati.


Yr eithriad mawr wrth gwrs ydi’r peth sydd fwyaf costus i’w ddarparu – addysg Gymraeg. Mae’r galw yma yn llawer, llawer uwch na’r cyflenwad. Oherwydd nad ydi pob cyngor wedi mynd ati i asesu’r galw mae’n anodd bod yn gystact ynglyn a’r gwir alw, ond mae lle i gredu y byddai mwy na 50% o rieni plant Cymru eisiau addysg Gymraeg i’w plant petai ysgol gyfagos ar gael. Tua 20% o blant cynradd sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.


Byddai ymateb i’r galw hwn yn ail strwythuro addysg yng Nghymru yn sylweddol – ac waeth i ni fod yn gwbl onest am y peth – mi fyddai lleihau’r nifer o blant sy’n cael addysg cyfrwng Saesneg o 80% i ddim llawer mwy na hanner hynny - yn arwain at gau ysgolion Saesneg, a llawer iawn ohonynt. O geisio cadw pob ysgol Saesneg yn agored byddai datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn anfforddiadwy – ‘dydi hi ddim yn bosibl cynnal cyfundrefn lle byddai llawer iawn o ysgolion Saesneg gydag efallai 40% neu lai o’u capasiti yn cael ei ddefnyddio. Mi fyddai addysg yn bwyta’r rhan fwyaf o gyllid y Cynulliad.


‘Rwan ‘dwi ddim yn amau am eiliad y bydd rhyw gyfaddawd yn cael ei ddarparu yn Nhreganna, ond os ydi’r llywodraeth yng Nghaerdydd am ddilyn egwyddor o wrthod cau ysgolion Saesneg ar y sail rhyfeddol bod hynny’n 'niweidio' addysg cyfrwng Saesneg pan mae’r galw addysg felly yn plymio fel angor, ni fydd y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg byth, byth yn dod yn agos at gyfarfod a’r galw amdano.


Mae pethau mor syml a hynny mae gen i ofn – mae gwrthod cau ysgolion Saesneg yn golygu mai cyfyng iawn, ac araf iawn fydd datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

Friday, May 28, 2010

Dr Who y blogosffer Cymreig

Diddorol gweld bod Dr Who y blogosffer Cymreig wedi dychwelyd gyda phryd a gwedd newydd - eto fyth.

Mi fydd y lle 'ma'n fwy lliwgar o'i gael yn ei ol.

Cymdeithas yr Iaith yn dadlau tros gau ysgolion!

'Dwi ddim yn tynnu coes.

Mi fyddai'r cynllun mae'r Gymdeithas yn flin iddo gael ei wrthod gan Carwyn Jones wedi arwain at gau ysgol gyda 320 o blant yn mynd iddo, sydd wedi bod (yn ol y posteri) yn 'galon i'r gymuned' am 150 o flynyddoedd.

Thursday, May 27, 2010

Dinasyddion bach ail ddosbarth Caerdydd

Mae'n anodd gen i ddod o hyd i'r geiriau i fynegi fy niflastod o glywed am y tro trwstan diweddaraf yn hanes addysg Gymraeg yng Ngorllewin Caerdydd.

'Dwi yn y gorffennol wedi gwneud fy hun ychydig yn amhoblogaidd trwy fynegi amheuon ynglyn a'r cynllun penodol o symud Ysgol (Gymraeg) Treganna i safle Ysgol (Saesneg) Heol Landsdowne a chau'r ysgol honno. Roedd yn ymddangos i mi yn gallach i gau'r ysgol mae Treganna yn rhannu safle efo hi ar hyn o bryd, Radnor Road neu ddilyn y trywydd o godi adeilad newydd yn agos at Bont Elai. Yn y diwedd penderfynodd y cyngor fynd ati i ddilyn y trywydd o gau Landsdowne, ac a bod yn deg efo nhw roedd hyn yn dilyn ymgynghori cyflawn - llawer mwy cyflawn na sy'n statudol angenrheidiol. Gyda digwyddodd hynny roeddwn fwy neu lai yn gefnogol i'r cynllun gan ei fod beth bynnag ei wendidau, yn ateb problemau'r gyfundrefn addysg gynradd yn yr ardal - y galw anferth (sydd tu hwnt i gapasiti'r cyngor i'w ddiwallu) am addysg Gymraegl, a'r llefydd gwag cynyddol yn y sector cyfrwng Saesneg.

Rwan mae'r cynllun wedi bod ar ddesg y Gweinidog Addysg yn y Cynulliad am flwyddyn yn aros am benderfyniad. Y Prif Weinidog ddaeth i benderfyniad yn y diwedd. Mae hyd yn oed cwn ar y palmentydd yn gwybod pam bod pethau wedi cymryd cymaint o amser. Mae'r mater yn un gwleidyddol ffrwydrol mewn ardal sy'n hynod o sensetif i'r Blaid Lafur. Mae Llafur wedi colli cefnogaeth ar hyd a lled y brif ddinas ers 1997 pan enillwyd y bedair etholaeth seneddol ganddynt. Roedd hyn yn rhannol oherwydd y smonach a wnaeth Cyngor Caerdydd o dan reolaeth Llafur a'u harweinydd yn y ddinas ar y pryd, Russell Goodway. Bu tro ar fyd a pherfformiodd Llafur yn dda yn y brif ddinas yn etholiad San Steffan eleni, ac maent yn ol pob tebyg yn teimlo eu bod wedi troi cornel. Byddant yn gobeithio ad ennill Gogledd Caerdydd yn etholiad y Cynulliad yn 2011, a rhoi tolc ym mwyafrif y Lib Dems yng Nghanol Caerdydd. Byddant hefyd yn gobeithio ad ennill y ddinas yn etholiadau'r cyngor yn 2012.

Os ydynt i wneud hyn mae'n rhaid iddynt ail gysylltu efo'u cefnogwyr creiddiol. Mae'r rhan fwyaf o ddigon o blant Heol Landsdowne o gefndir dosbarth gweithiol, ac mae rhywbeth yn dynesu at hanner ohonynt o rhyw leiafrif ethnig neu'i gilydd. Mae'r grwpiau hyn yn bwysig i Lafur yng Nghaerdydd. Ymhellach, mae yna le cryf i gredu bod gwrthwynebiad Llafur i gau Heol Landsdowne yn y gorffennol wedi bod o fudd gwleidyddol iddi. Yn etholiadau'r cyngor yn 2008 cadwodd Llafur eu tair sedd yn ward Treganna er iddynt gael cweir gan Plaid Cymru mewn dwy ward gyfagos - Glan yr Afon a'r Tyllgoed - ac er bod Treganna yn edrych yn fwy anodd i Lafur ar sawl cyfri. Mewn geiriau eraill, roedd y penderfyniad a wnaethwyd heddiw yn un gwleidyddol - neu i fod yn fwy manwl yn etholiadol wleidyddol.

Mae eglurhad Carwyn Jones am ei benderfyniad yn hynod ddadlennol, ac yn egluro beth ydi'r sgor yn iawn. Er y byddai'r cynllun o fudd i addysg Gymraeg, byddai'n andwyol i addysg Saesneg. Ymddengys mai'r rheswm am hyn ydi oherwydd y byddai plant Landsdowne yn mynd i safle Ysgol Treganna / Radnor Road ar hyn o bryd - mae'r ddwy ysgol ar yr un safle. Mae Carwyn o'r farn nad yw'r safle'n addas ar gyfer trefn mynediad dau ddosbarth. Dyna sydd yno i pob pwrpas ar hyn o bryd - ond bod yna ddwy ysgol - un mor llawn nes bod plant allan ar y coridorau - ar y safle. Ond 'dydi hynny ddim yn bwysig - plant sy'n cael addysg Gymraeg sy'n cael eu haddysgu mewn coridorau, nid rhai sy'n cael addysg Saesneg. Mae yna ddinasyddion dosbarth cyntaf, a rhai ail ddosbarth yn y brif ddinas 'da chi'n gweld, ac mae'r broses o wahanu'r geirf a'r defaid yn cychwyn yn gynnar iawn.

Yn y diwedd y Blaid Lafur ydi'r Blaid Lafur. Mi allant son am bwysigrwydd delio efo llefydd gweigion mewn ysgolion, am orfodi cynghorau i asesu ac ymateb i'r galw am addysg Gymraeg, am Iaith Pawb ac ati ac ati. Ond eilradd ydi'r pethau hynny wrth ymyl buddiannau etholiadol y Blaid Lafur. Mae hynny yn dod o flaen pob dim - gan gynnwys y ffaith y bydd llawer o awdurdodau yn cymryd y peth i gyd fel nod a winc (chwadl y Sais) nad oes rhaid iddynt gymryd llefedd gweigion mewn ysgolion o ddifri ac nad oes rhaid iddynt gymryd eu dyletswydd i ymateb i alw gan rieni am addysg cyfrwng Cymraeg o ddifri.

Gan fy mod mewn hwyliau chwerw, un gair bach i Gymry Cymraeg Caerdydd. Mae'n amlwg o'r ffigyrau etholiadol bod y rhan fwyaf ohonoch yn cefnogi pleidiau unoliaethol (Llafur yn bennaf) ac yn arbennig felly mewn etholiadau San Steffan. Mae croeso i chi wneud hynny wrth gwrs, ond peidiwch a disgwyl cael unrhyw ffafr ganddynt - hyd y byddwch mewn mwyafrif. Oherwydd eich niferoedd dydych chi ddim digon pwysig iddynt, a gallwch ddisgwyl cael eich cicio o gwmpas y lle os ydi hynny'n llesol i gynlluniau etholiadol y Blaid Lafur.


Dwi wedi dwyn y ddelwedd uchod o'r blog penigamp, Syniadau. 'Dwi'n mawr obeithio nad ydi'r awdur yn meindio. Mae safle Heol Landsdowne ar dop y llun ar y chwith, ac mae Treganna / Radnor Road ar y gwaelod ar y dde.

Wednesday, May 26, 2010

Arolwg YouGov o etholiad cyffredinol 2010 yng Nghymru

Mae YouGov ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cynnal arolwg cynhwysfawr (sampl 1457) o'r sawl a bleidleisiodd yn yr etholiad diweddar. Cafodd y gwaith maes ei wneud wedi'r etholiad ond cyn ffurfio'r glymblaid.

Dyma rai o'r canfyddiadau:


  • Roedd 40% wedi gwneud eu meddyliau i fyny ynglyn a phwy y byddant yn pleidleisio iddo ymhell, bell cyn yr etholiad. Penderfynodd 37% sut i bleidleisio yn ystod yr ymgyrch.
  • Y Lib Dems ddioddefodd waethaf oherwydd pleidleisio tactegol gyda mwy o'u cefnogwyr yn pleidleisio i rhywun arall am resymau tactegol na'r un blaid arall (a 'dwi ddim yn tynnu coes).
  • Carwyn Jones ydi'r arweinydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, wedyn Ieuan Wyn Jones, wedyn Kirsty Williams a dyn yr ystafell molchi sy'n olaf.
  • Roedd 49.3% o'r sawl a holwyd yn dweud na fyddent byth yn pleidleisio i'r Toriaid o gymharu a 52.7% oedd yn dweud hynny am UKIP. Y ffigyrau ar gyfer y Lib Dems, Llafur a'r Blaid oedd 17.3%, 28.7% a 30.7% - yn y drefn yna.
  • Plaid Cymru oedd a'r ganran uchaf o'i phleidlais yn dod o gategoriau cymdeithasol A,B ac C1. Llafur ac Eraill oedd a'r ganran isaf.
  • Y Toriaid oedd yr olaf o'r bedair prif blaid ymysg y sawl oedd a hunaniaeth Gymreig, ond nhw oedd y cyntaf ymysg y sawl sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr.
  • Bydd pleidlais Llafur a'r Lib Dems yn cynyddu yng nghydadran etholaethol etholiadau'r Cynulliad tra bydd pleidlais y Toriaid a Phlaid Cymru yn disgyn. Yn y cydadran rhanbarthol bydd pleidlais y Lib Dems yn cynyddu'n sylweddol iawn gyda phleidlais y pleidiau mawr eraill yn cwympo. Golyga hyn y bydd gan Llafur 28 o seddi, y Lib Dems 12 gyda Phlaid Cymru a'r Toriaid yn cael 10 yr un.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl am weld mwy o bwerau i'r Cynulliad, ac mae mwyafrif clir o'r farn bod y wlad yn cael ei rheoli'n well ers dyfodiad y sefydliad.
  • Mae mymryn tros hanner yn bwriadu pleidleisio 'Ia' gydag ychydig llai na thraean am roi croes wrth 'Na'. Yn bisar braidd mae mymryn mwy o blaid yr un pwerau a'r Alban na sydd o blaid yr argymhellion fydd yn cael eu hystyried yn ystod y refferendwm. Mae gan yr Alban fwy o bwerau o lawer na'r hyn a argymhellir ar gyfer Cymru wrth gwrs.
Mi fyddaf yn dod yn ol at un neu ddau o'r pwyntiau uchod yn ystod y dyddiau nesaf, ond gair bach o rybudd - cafodd yr ymarferiad ei gynnal yn dilyn cyfnod o wythnosau o Brydaineiddio gwleidyddiaeth Cymru gan y cyfryngau. Bydd ein gwleidyddiaeth yn raddol ddad Brydaineiddio tros y misoedd nesaf. Os bydd y Lib Dems yn ennill deuddeg sedd yn etholiadau'r Cynulliad mi fyddaf yn syrthio ar fy ngliniau wrth draed y cerflyn anghynnes o Lloyd George ar faes Caernarfon (yr un efo llwyth o faw adar ar ei ben) ac yn bwyta fy nhrons melyn gorau - yn gyhoeddus ar b'nawn Sadwrn.

Diolch i RWJ am y data.

Tuesday, May 25, 2010

A oes bradwr yn y ty hwn?

Mi fydd dilynwyr y blogosffer Cymraeg yn ymwybodol o'r digwyddiadau yn Siambr Dafydd Orwig ddoe, gyda phobl (ac aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn arbennig) yn yr oriel gyhoeddus oedd yn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc ger y Bala yn cyhuddo cynghorwyr Plaid Cymru o frad. Mae Dyfrig Jones, Guto Dafydd ac eraill wedi dweud eu pwt ynglyn a'r mater. Ceir mwy yma.


Cyn i mi gychwyn hoffwn bwysleisio nad bwriad y blogiad yma ydi cefnogi na gwrthwynebu cau Ysgol y Parc, na'r un ysgol arall. Yn hytrach ymgais ydyw i wneud ychydig o sylwadau ynglyn a natur cenedlaetholdeb Gymreig ar sail digwyddiadau ddoe.


Mae’r term bradwr yn un sarhaus ym mhob rhan o Gymru wrth gwrs, ond bu gwenwyn anarferol yn perthyn iddo yng nghymunedau Dyffryn Ogwen – megis Gerlan , y gymuned a gynrychiolir gan Dyfrig Jones ar Gyngor Gwynedd. Y rheswm am hyn ydi bod i’r term ystyr a defnydd penodol iawn yn ystod Streic Fawr y Penrhyn – y digwyddiad hanesyddol enwog sydd wedi gadael eu cysgod tros y Dyffryn hyd heddiw.


‘Dwi ddim am aros llawer efo hanes y streic, mae’n weddol adnabyddus bod y streic yn chwarel y Penrhyn ymysg yr hiraf a’r mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol y DU. Arweiniodd at ddioddefaint gwirioneddol yn yr ardal, ac oherwydd amgylchiadau dychwelodd llawer o’r gweithwyr at wyneb y graig cyn i’r streic ddod i ben. Roedd yr arwyddion – Nid Oes Bradwr yn y Ty Hwn yn fater o gryn falchder i’r sawl oedd mewn sefyllfa i’w osod yn ffenest y ty – yn arbennig felly at y diwedd fel y gorfodwyd mwy a mwy o ddynion i ddychweld i’w gwaith. Mae’r creithiau cymunedol a adawyd gan y streic yn ddiarhebol wrth gwrs, gyda drwg deimlad rhwng teuluoedd bradwyr a’r sawl arhosodd yn ffyddlon i’r streic yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth fel rhyw lun ar drysor teuluol.


‘Rwan o safbwynt y blogiad yma y cwestiwn diddorol ydi hwn – beth yn union oedd y bradwyr yn ei fradychu? Ar un olwg mae’r ateb yn syml – y streic. Ond mae mwy iddi na hynny, byddai’r cwbl o’r streicwyr yn perthyn i ddosbarth gweithiol diwydiannol, mi fyddant bron yn ddi eithriad gyda’r Gymraeg yn famiaith iddynt, a byddai’r rhan fwyaf (er nad y cwbl) yn anghydffurfwyr o ran daliadau crefyddol. Nid oedd perchnogion y Penrhyn yn syrthio i’r un o’r categoriau hyn wrth gwrs. Ar olwg arall roedd y bradwr (yng ngolwg y gymuned ehangach) yn bradychu yr hyn oedd, ei gymuned, ei deulu, ei lwyth - roedd yn bradychu ei hunaniaeth ei hun.


Daw hyn a ni yn ol at fradwyr Y Parc. Pam bod pobl megis Ffred Ffransis ac Osian Jones yn ei chael mor hawdd i ddefnyddio’r term ymfflamychol yma mewn perthynas a chenedlaetholwyr oherwydd eu bod yn cymryd penderfyniad fydd yn arwain at gau ysgol mewn cymuned wledig iawn. O edrych ar bethau o bell mae’n anodd gweld bod yna gysylltiad agos rhwng syniadaeth wleidyddol genedlaetholgar (yr hyn fyddai'n nodweddu cynghorwyr Plaid Cymru ac yn eu gwahanu oddi wrth y gweddill a bleidleisiodd i gau) ac ymrwymiad i gynnal ysgolion o faint arbennig. Nid yw penderfyniadau i gau ysgolion yn arwain at gyhuddo cenedlaetholwyr y gwledydd Celtaidd eraill o frad.


Er enghraifft mae yna 33 o ysgolion cynradd a dwy ysgol uwchradd wedi eu cau yn yr Alban yn ystod blwyddyn ysgol 2009 / 2010. Mae yna gynghorwyr o genedlaetholwyr wedi pleidleisio o blaid y cau ar lefel lleol, ac mae yna weinidog (Mike Russell) o genedlaetholwr wedi cadarnhau’r penderfyniadau ar lefel cenedlaethol. Hyd y gwn i ‘does yna neb yn cyhuddo’r SNP o frad. Cenedlaetholwraig ydi'r gweinidog tros addysg yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ac mae hithau wedi bod yn cadarnhau penderfyniadau mae cynghorwyr ei phlaid wedi eu cymryd i gau ysgolion. 'Does yna neb yn disgrifio Sinn Fein fel bradwyr am y rheswm yna beth bynnag. 'Dydi hyn ddim yn golygu nad oes gwrthwynebiad i gau ysgolion yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon wrth gwrs, mae gwrthwynebiad chwyrn mewn rhai lleoedd. Y gwahaniaeth ydi nad ydi'r penderfyniadau i gau yn cael eu gwneud yn gyfystyr a gweithredoedd o frad.


Fy nheimlad i ydi bod y bennod fach ddiweddar yn eithaf dadlennol o ran deall natur – a rhai o brif wendidau – cenedlaetholdeb Cymreig. Nid ydi cymunedau gwledig iawn Cymraeg eu hiaith yn arbennig o nodweddiadol o Gymru, o Wynedd, nag o’r Gymru Gymraeg hyd yn oed. Mae’r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg Gwynedd yn byw mewn wardiau trefol neu fwrdeisdrefol. Mae mwyafrif llethol pobl Cymru yn byw mewn llefydd felly hefyd. I’r graddau hynny mae cyhuddo cenedlaetholwyr, sydd yn aml yn cynrychioli cymunedau trefol o fradychu cymunedau gwledig yn ymddangos afresymegol.


Ond mae mwy iddi na hynny wrth gwrs – mae’r ddelfryd o Gymru Gymraeg wledig yn rhywbeth sydd wedi treiddio i’r ffordd mae llawer o Gymry Cymraeg yn diffinio eu Cymreictod. Mae hefyd yn rhywbeth sy’n rhan o lawer o’n llenyddiaeth – hyd yn oed llenyddiaeth y pentrefi chwarel. Ar un lefel felly cyhuddiad o fradychu delfryd sy’n annwyl i lawer o Gymru Cymraeg a geir. Ydi hi’n bosibl bradychu delfryd? ‘Dwi ddim yn meddwl rhywsut – mae’n wahanol i fradychu hunaniaeth.


Ond mae yna haenen arall i’r sefyllfa. Nid delfryd yn unig sy’n cael ei fradychu yng ngolwg y sawl sy’n gwneud y cyhuddiad – bradychir ardal neu fro hefyd. Yn wahanol i’r Alban neu Ogledd Iwerddon mae brogarwch yng Nghymru gyda gafael gadarnach ar ddychymyg, a felly deyrngarwch pobl, na chenedlaetholdeb. Mae hyn oherwydd gwendid y syniadaethau sydd ynghlwm a chenedlaetholdeb Cymreig yn hytrach na chryfder brogarwch. ‘Does gennym ni ddim set o ddadleuon cryf wedi eu ffurfio tros annibyniaeth, dim syniad clir am yr hyn sy’n ein gwneud yn un genedl er ein gwahaniaethau, dim ymdeimlad o genedlaetholdeb sific (yn hytrach na llwythol), dim ymdeimlad o ffyddlondeb i ddelfryd genedlaethol, dim llawer o fytholeg sy’n atyniadol i garfanau sylweddol o bobl wedi tyfu o gwmpas y syniadaeth.


Dyma pam bod yr holl stori yn achosi’r fath ddiflastod i mi – mae’n taflu pelydr di drugaredd o oleuni oer ar wendidau seicolegol y traddodiad cenedlaetholgar Gymreig. Mae’r syniadaeth sy’n cynnal y ffordd mae llawer ohonom yn dehongli’n gwlad wedi ei wreiddio mewn delfryd o’r hyn y ‘dylai’ Cymru fod yn hytrach na’r hyn ydyw mewn gwirionedd, ac mae’n is raddio’r cenedlaethol a’r hyn sy’n gyffredin rhyngom– hanfod cenedlaetholdeb – tra'n dyrchafu y lleol a’r hyn sy’n ein gwahanu.

Sunday, May 23, 2010

Gwersi i'w dysgu, a rhai i beidio eu dysgu o etholiad San Steffan 2010

Mae'r blog yma wedi nodi ar sawl achlysur bod ennill etholiad yn eithaf syml os ydym yn edrych ar wneud hynny fel proses yn hytrach nag edrych ar yr anhawsterau. Gellir dorri'r broses i bump cam syml:

(1) Llunio neges, neu'n hytrach gyfres o negeseuon sy'n atyniadol i amrediad eang o bobl.
(2) Cyfathrebu'r negeseuon a'r grwpiau o etholwyr perthnasol.
(3) Adnabod pwy sy'n perthyn i'r grwpiau perthnasol.
(4) Cadw mewn cysylltiad efo'r grwpiau hynny - yn arbennig pan mae etholiad yn dynesu.
(5) Sicrhau bod yr unigolion oddi mewn i'r grwpiau yn mynd i bleidleisio ar ddiwrnod (neu y dyddiau hyn, yn ystod cyfnod) yr etholiad.

Rwan, mae etholiadau San Steffan yn anodd i'r Blaid oherwydd ei bod yn anodd iddi weithredu cam 2 yn effeithiol. Mae unrhyw ymgais i gyfathrebu'r neges - pa mor bynnag atyniadol ydi honno yn groes i'r naratif etholiadol ehangach Brydeinig, ac oherwydd hynny mae gweithredu'r holl broses yn mynd yn anodd. 'Dydi'r broblem yma ddim yn bodoli mewn etholiad Cynulliad - mae neges y Blaid yn rhan greiddiol o'r naratif Cymreig, ac o ganlyniad rydym yn ymladd ar dir sy'n gyfartal a phawb arall. Dyma un o'r prif resymau pam y bydd canran y Blaid o'r bleidlais yn aml yn ddwy waith yr hyn yw yn etholiadau San Steffan yn rhai'r Cynulliad.

O ganlyniad i hyn mi fyddwn yn dadlau bod rhai gwersi i'w dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf o'r etholiadau sydd newydd fod, ond bod perygl 'dysgu' gwersi nad ydynt yn berthnasol os ydym yn edrych ar etholiadau San Steffan a Chynulliad fel anifeiliaid sydd fwy neu lai yr un peth. Felly dyma fy ymdrech i:

Gwersi i'w dysgu:

(1) Dylai prif lefarwyr y Blaid gyfleu'r un neges. Roedd gan y Blaid stori dda mewn perthynas ag ariannu teg i Gymru eleni, ond ni chafodd y pwynt ei wneud gan nifer o brif lefarwyr y Blaid, ac nid oedd yn ffocws i'r ymgyrch.

(2) KIS - Keep it Simple. Pan nad oes neges gyson mae pethau'n mynd yn gymhleth gyda negeseuon sy'n croes ddweud ei gilydd yn cael eu cyfleu. Yr unig beth sydd ei angen ydi set gweddol fach o bolisiau atyniadol sy'n dal y llygaid - fel y cafwyd yn etholiad Cynulliad 2007. Dylai tynnu sylw at y rheiny a'u hegluro fod yn ffocws yr ymgyrch.

(3) Ansawdd ymgeisyddion. Roedd peth anwastadedd yma. Roedd gan y Blaid ymgeisyddion penigamp yn yr etholaethau a enillwyd, ac roedd ganddynt rhai penigamp mewn rhai lle nad oedd gennym fawr o obaith fel Trefaldwyn, Gorllewin Clwyd, Castell Nedd, Wrecsam a Chwm Cynon, ac mewn ambell i etholaeth lle'r oedd gobaith fel Llanelli ac Aberconwy. Mae'n bwysig i blaid sydd y tu allan i'r naratif etholiadol allu cynnig rhywbeth amgen - megis ymgeisydd o'r radd uchaf. 'Dydi o ddim mor bwysig i bleidiau sydd oddi mewn i'r naratif. Gan fod Pleidwyr at ei gilydd yn ymddiddori mwy yn y Cynulliad na San Steffan, mae'n dra thebygol y bydd gennym amrediad eang o ymgeisyddion cryf iawn y flwyddyn nesaf. Mae'n debyg y bydd yr hyn y byddwn ni'n ei roi gerbron yr etholwyr yn llawer, llawer gwell na'r hyn fydd yn cael ei gynnig gan neb arall.


Gwersi i beidio eu dysgu:

(1) Peidio a chodi disgwyliadau. Mae Vaughan yn beirniadu'r Blaid am godi disgwyliadau yn etholiadau San Steffan. 'Dwi'n anghytuno. Mewn etholiad lle mae'r naratif etholiadol (oedd yn cael ei gynnal i raddau helaeth gan y corff cyhoeddus mae Vaughan yn gweithio iddo) yn anwybyddu plaid, mae'n rhaid i'r blaid honno greu ei naratif ei hun. Mae pwysleisio'r posibilrwydd o ennill yn un ffordd o wneud yn union hynny. 'Dydi o ddim ots os ydi'r cyrff cyfryngol sydd wedi gadael y Blaid allan o'r naratif etholiadol wedyn yn mynd ati i bortreadu methu ag ennill rhai o'r seddi targed fel 'trychineb' . Llwyddodd y Blaid i berfformio'n dda ar lefel Cynulliad yn dilyn etholiadau San Steffan 'siomedig' yn 99 ac yn 07. Yn y bon, dydi o ddim ots os ydi'r Bib a'r Western Mail yn portreadu perfformiad plaid maent yn ei lled anwybyddu fel 'tychineb' - ar ochr y pleidiau Prydeinig maen nhw beth bynnag. Beth ydi'r ots am eu barn nhw?


(2) 'Dydi gwaith caled ar lawr gwlad ddim yn gweithio. Rydym eisoes wedi edrych ar yr air war a'r ground war etholiadol. Mae yna lefydd yng Nghymru lle nad yw llawer iawn o waith caled ar lawr gwlan wedi ei wobreuo efo pleidleisiau newydd. Mae gwaith etholiadol llawr gwlad yn llai effeithiol mewn etholiad lle mae'r papurau newydd a'r tonfeddi yn dominyddu pethau. Ni fydd etholiad Cynulliad 2011 wedi ei dominyddu gan y cyfryngau, a bydd gwaith caled ar lawr gwlad yn dod a llawer mwy o wobr. I'r graddau yma mae etholiadau Cynulliad yn rhai llawer mwy traddodiadol na rhai San Steffan.

(3) Arweinyddiaeth ydi'r broblem. Dydi'r arweinyddiaeth ddim yn broblem. Wnes i ddim pleidleisio i arweinydd presenol y Blaid oherwydd tra'n cydnabod bod ganddo allu trefniadol nid oeddwn yn meddwl ei fod yn ddigon effeithiol ar y teledu - ac yn arbennig felly mewn dadl gyhoeddus. Ar y cychwyn gwireddwyd fy ofnau, ond mae Ieuan wedi prifio fel arweinydd. Roedd ben ac ysgwydd yn well nag arweinyddion y pleidiau unoliaethol yn y dadleuon Cymreig.

Strategaeth y babi, y dwmi a'r goets

Mae'n ddigri nodi bod Waleshome.org wedi cymryd at y syniad - ahem - gwrieiddiol a wyntyllwyd yn Golwg yn ddiweddar mai'r ymateb mwyaf priodol i'r Blaid ei chymryd i beidio ag ennill sedd ar lefel San Steffan fyddai peidio a sefyll yno eto. Strategaeth y babi, y dwmi a'r goets fel petai.

Mae'r blog yma wedi dadlau ar sawl achlysur bod yna rhywbeth digon Darwinaidd am wleidyddiaeth etholiadol. Mi fyddai dilyn y cwrs yma yn fwy trychinebus i'r blaid na strategaeth goroesi'r Dodo o gerdded at bobl oedd am ei guro i farwolaeth efo morthwyl. O leiaf 'doedd y Dodo ddim yn curo fo'i hun i farwolaeth efo morthwyl.

'Dwi ddim eisiau swnio fel llyfr hunan gymorth, ond 'dydw i ddim yn meddwl bod fawr ddim o'i le ar yr egwyddor nad oes yna'r fath beth a phroblem, dim ond her, a bod her yn rhywbeth i fwynhau mynd i'r afael a fo. Mae'r egwyddor yma yn un tipyn iachach o ran dyfodol tymor hir y Blaid na'r un a awgrymir gan Waleshome a Golwg.

Friday, May 21, 2010

Pam na chaiff Cymru ostyngiad yn y Dreth Gorfforiaethol?

Mi wnes i ddigwydd dod ar draws y dyfyniad yma o gytundeb clymbleidiol y Lib Dems a'r Toriaid. Yn amlwg, cyfeirio at Ogledd Iwerddon mae'r darn:

We will work to bring Northern Ireland back into the mainstream of UK politics, including producing a government paper examining potential mechanisms for changing the corporation tax rate in Northern Ireland.

A gadael o'r neilltu idiotrwydd ceisio dod a Gogledd Iwerddon i'r mainstream of UK politics trwy greu cyfundrefn drethiannol wahanol i Ogledd Iwerddon nag i weddill y DU, mae'r datganiad yn codi mater digon diddorol, a pherthnasol i ni yma yng Nghymru.

Un o'r prif bileri sy'n cynnal cyfoeth diweddar Iwerddon ydi'r ffaith bod y wlad wedi llwyddo i ddenu cyfanswm anhygoel o fuddsoddiad tramor i mewn i'r wlad. Yn y gorffennol roedd hyn yn anodd - wedi'r cwbl pa fusnes fyddai'n trafferthu lleoli ar ynys anghysbell ar gyrion Ewrop sydd ymhell o farchnadoedd mawr Ewrop a thalu am yr holl gostau trafnidiaeth? Llwyddodd y Weriniaeth i wneud iawn am y broblem ddaearyddol yma trwy osod y raddfa dreth corfforiaethol (hy y dreth mae cwmniau yn ei dalu ar eu helw) yn is na'r unman yn Ewrop. Mae treth corfforiaethol y Weriniaeth yn 12.5% o gymharu a 21% i 28% yn y DU (yn ddibynnol ar faint y cwmni), 37.5% yn yr Eidal neu 33.33% yn Ffrainc er enghraifft.

Rwan, mae'n hawdd gweld pam bod hyn yn broblem yng Ngogledd Iwerddon. Does yna'r un cwmni cynhyrchu am leoli yn Newry (dyweder) pan y gallent leoli ychydig filltiroedd tros y ffin yn Dundalk a thalu efallai hanner y dreth corfforiaethol. Un o'r rhesymau am dlodi Gogledd Iwerddon ydi nad ydynt yn gallu cystadlu am fuddsoddiad efo eu cymydog agosaf. Mi fyddai gostwng y dreth corfforiaethol yno yn gwneud synnwyr economaidd llwyr.

Ond y gwir amdani ydi nad ydi ein sefyllfa ni yng Nghymru yn wahanol iawn i un Gogledd Iwerddon. Rydym ymhell o farchnadoedd Ewrop, ond mae gennym yr un dreth corfforiaethol na sydd gan De Lloegr - rhanbarth sy'n agos at farchnadoedd y cyfandir, a sydd hefyd yn ddigon poblog a chyfoethog i fod yn farchnad sylweddol ar ei liwt ei hun. Rydym hefyd yn cystadlu efo'e economi dreth isel sydd i'r Gorllewin i ni. Os ydi'r glymblaid yn ystyried ei bod yn syniad da i ostwng y dreth yma yng Ngogledd Iwerddon, beth ydi'r broblem os caiff ei gostwng yng Nghymru?

Thursday, May 20, 2010

Mae pethau'n edrych yn addawol _ _

Gadewch i ni weld - dim ariannu teg i Gymru, etholiad Cynulliad 2015 i gael ei boddi gan etholiad San Steffan er mwyn chwyddo'r nifer o Doriaid a Lib Dems ym Mae Caerdydd, refferendwm o bosibl ar yr un diwrnod ag etholiad Cynulliad 2011 er mwyn llusgo cymaint a phosibl o wrth ddatganolwyr (sydd wrth gwrs yn debygol o fod yn Lib Dems neu Doriaid) i fotio.

Mae'n weddol amlwg bod y glymblaid yn Llundain, beth bynnag eu rhethreg ar lefel San Steffan, yn bwriadu rhoi eu buddiannau pleidiol nhw eu hunain yn gyntaf ac anghenion y genedl yn ail yma yng Nghymru.

Gwleidyddiaeth 'newydd' yn San Steffan, a dos go dda o hen wleidyddiaeth yma yng Nghymru.

Mae hi'n mynd yn unig yma

Gwilym Euros wedi rhoi'r gorau iddi, a rwan y blog Cymraeg ei iaith gwleidyddol hynaf am wn i - Hogyn o Rachub.

'Dydi hynny ddim yn gadael llawer o bobl sy'n blogio am wleidyddiaeth yn y Gymraeg - Vaughan, (ond mae'n rhan o'i waith), Y Trefor Tw (ond mae un o'r blogiau hynny'n llawer mwy gwleidyddol na'r llall), y blog Llais Gwynedd gwych sy'n weddill, Rhys Llwyd sy'n son am wleidyddiaeth pan nad yw'n son am grefydd, Hen Rech Flin wrth gwrs, mae Plaid Wrecsam yn blogio'n Gymraeg weithiau a Chynghorwyr Plaid Cymru Sir Gar, y blog newydd - Blog y Blogiwr Cymraeg, Morfablog sy'n son am wleidyddiaeth ambell waith, Blog Answyddogol sy'n blogio am wleidyddiaeth os yw'n blogio o gwbl, BlogDogfael sydd hefyd yn ymdrin a gwleidyddiaeth weithiau, Pendroni sydd wedi cynhyrchu ambell i flogiad Cymraeg _ _ _

Damia fo, dyna fi wedi dechrau rhestru - sy'n gamgymeriad, dwi'n bownd o bechu rhywun trwy anghofio amdano - ond wedi dweud hynny mae'n teimlo ychydig yn llai unig o'u rhestru nhw!

Tuesday, May 18, 2010

Gawn ni Jonathan Evans plis Mr Cameron?


Nid am y tro cyntaf na'r tro olaf mae blogmenai yn cytuno 100% efo Syniadau. Awgrymu, wel dweud mae'r blog y tro hwn nad ydi Cheryl Gillan yn addas i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Tros Gymru.

Mi fyddwch yn cofio 'dwi'n siwr i'r Toriaid benderfynu cyflwyno Nick Bourne ger ein bron yn y ddadl olaf wedi iddi ddod yn amlwg yn y ddadl flaenorol nad oedd Cheryl yn rhy siwr pwy oedd Prif Weinidog Cymru.

Canolbwyntio mae Syniadau ar arfer anymunol Cheryl o fod yn Gymraes pan mae hynny'n handi, a pheidio a bod yn Gymraes pan mae'n haws peidio a bod yn un, ond mae hefyd yn cyfeirio at y ffaith na all Cheryl weld problem efo cael etholiad Cynulliad ac un San Steffan ar yr un diwrnod ym Mai 2015.

Rwan 'dydi o ddim yn syndod mawr na fyddai Tori yn meindio llawer petai'r ddadl Gymreig yn cael eu boddi'n llwyr gan un San Steffan, ac mai dadleuon Prif Weinidogol San Steffan fyddai'n penderfynu pwy fyddai Prif Weinidog Cymru. Ond wir Dduw mi fyddech yn meddwl y byddai ganddi rhyw fath o gydymdeimlad efo'r pleidleisiwr a'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru - gan gynnwys ei phlaid ei hun.

Ymddengys bod gan y Toriaid gynlluniau i leihau'r nifer o seddi seneddol yng Nghymru o 40 i tua 29 erbyn yr etholiad nesaf. Nid oes yna gynlluniau felly ar gyfer y Cynulliad. Felly mae Cheryl am wneud i bobl bleidleisio mewn dwy etholaeth wahanol ac mewn dau etholiad gwahanol ar yr un diwrnod. Mae hefyd am orfodi'r pleidiau gwleidyddol lleol i ymladd dau etholiad gwahanol mewn dwy etholaeth wahanol ar yr un diwrnod.

Meddyliwch am y peth mewn difri calon. Mae'n debyg mai dwy etholaeth fydd yng Nghaerfyrddin yn yr etholiad San Steffan nesaf, ond mi fydd yna dair (a chyfri'r un sy'n sownd i Dde Penfro) yn yr etholiad San Steffan. Mae'n fwy na phosibl y bydd Penarth wedi gadael De Caerdydd ac mai tair sedd fydd yn y brif ddinas yn yr etholiadau San Steffan, ond mi fydd yna bedair - Penarth yn gynwysiedig - yn yr un Cynulliad. Sut goblyn mae pleidiau lleol am ymladd etholiadau o dan yr amgylchiadau hyn, a sut goblyn mae'r etholwyr am fod efo'r syniad lleiaf beth sy'n mynd ymlaen.

Felly plis Mr Cameron, rhowch rhywun sydd o leiaf yn hanner call i ni - fel Jonathan Evans - mi fydd Cheryl wedi achosi anhrefn llwyr ar hyd y wlad mae gen i ofn.

Monday, May 17, 2010

Anwybyddu'r eliffant yn y 'stafell fyw

Mae yna aml i un yn y Gogledd sy'n eiddigeddus iawn o'r buddsoddiad sydd wedi ei gyfeirio tua'r De, ac yn arbennig felly ardal Caerdydd. Efallai mai'r prif symbol o hynny ydi'r adeiladau a'r is strwythur sydd wedi ymddangos o gwmpas y pwll hwyaid yr ydym yn ei adnabod fel Bae Caerdydd.

Yr hyn a fyddai'n synnu llawer o fy nghyd Ogleddwyr ydi bod llawer o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Yn wir yn ol mynegai amddifadedd Cymru, Trebiwt 2, sy'n ffinio efo'r Bae ydi'r ail ward dlotaf yng Nghymru. Mae Elai 2 yn bumed ar hugain, Elai 3 yn ddeugeinfed. Mae yna ddeg ward yng Nghaerdydd yn dlotach na'r un dlotaf yng Ngwynedd - Peblig yng Nghaernarfon. Hon ydi'r ward Gymreiciaf yng Nghymru o ran iaith gyda llaw. Mae hi hefyd yn ward 'dwi wedi byw ynddi am rai blynyddoedd.

Yr hyn sy'n ddiddorol o edrych i lawr y mynegai ydi mai yr wardiau tlotaf ydi'r rhai mwyaf triw i'r Blaid Lafur at ei gilydd. Rwan, mae'r rhan fwyaf o'r wardiau hyn yn dlawd heddiw, roeddynt yn dlawd hanner canrif yn ol, ac roeddynt yn dlawd dri chwarter canrif yn ol. Maent wedi cefnogi'r Blaid Lafur trwy gydol y cyfnod yn y gred y byddai'r blaid honno yn amddiffyn eu buddiannau - ac maen nhw'n dal yn dlawd, ac mae'r gwahaniaeth rhwng y tlotaf a'r cyfoethocaf mewn cymdeithas o bosibl yn fwy nag yw wedi bod ar unrhyw bryd ers degawdau cynnar y ganrif ddiwethaf.

Yn y blogiad diwethaf roeddwn yn nodi mai un o'r problemau sy'n wynebu'r Blaid mewn etholiadau cyffredinol ydi bod y tirwedd yn anodd iddi oherwydd nad yw'r broses etholiadol yn gofyn cwestiynau i'r pleidleiswyr sy'n eu harwain i ystyried rhoi croes i'r Blaid. 'Dydan ni ddim wedi llwyddo eto i osod cwestiwn i ddechrau gwneud iawn am hyn. Mae methiant parhaol a pharhaus y Blaid Lafur i ddiwallu anghenion eu cefnogwyr craidd yn rhoi cyfle i ni ofyn cwestiwn hynod bwerus - pam?

Flynyddoedd yn ol arferwn weithio yn un o wardiau eraill mwyaf difreintiedig Cymru - Morawelon yng Nghaergybi. Mae'r ward yn ffinio efo porthladd Caergybi, ac efallai dwsin o weithiau pob dydd mi fydd y fferi yn docio ac yn poeri allan ugeiniau o loriau enfawr sy'n cario nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu yn yr Iwerddon ar eu ffordd i farchnadoedd tir mawr Ewrop. Mi fyddant yn gyrru am efallai naw deg milltir o dir Cymru - tir sy'n gwbl ddiffaith o ran diwydiant cynhyrchu. Maent yn dod o wlad sydd ymhellach oddi wrth canolfanau poblogaeth Ewrop na Chymru, gwlad sydd heb adnoddau crai gwerth son amdanynt a gwlad gydag is strwythur trafnidiaeth israddol i un Cymru - neu dyna oedd y sefyllfa hyd yn ddiweddar. Ac maent yn dod o wlad llawer, llawer cyfoethocach na Chymru - hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

Mae'r eglurhad tros paradocs yma ynghlwm a'r prif bolisi sy'n ein gwneud yn wahanol i'r pleidiau unoliaethol, a thrwy gadw'n rhy ddistaw am hwnnw a pheidio holi yn ddigon taer am fethiant Llafur rydym yn anwybyddu'r eliffant yn y 'stafell fyw.

Sunday, May 16, 2010

Mae'r ateb yn dibynnu ar y cwestiwn

Mae cyfaill sydd bellach yn blogio o dan yr enw Blog y Blogiwr Cymraeg wedi gofyn i mi gynnig rhyw lun ar ddadansoddiad ar berfformiad ‘siomedig’ y Blaid yn yr etholiad cyffredinol. ‘Dwi’n credu bod yna rhai gwendidau yn ymgyrch y Blaid, ac mi edrychaf ar rhai o’r rheiny maes o law. Heddiw fodd bynnag ‘dwi am edrych ar rhywbeth sydd efallai yn bwysicach – y rheswm strwythurol pam bod y Blaid pob amser yn perfformio oddi fewn i rychwant eithaf cyfyng mewn etholiadau cyffredinol, beth bynnag ydi’r perfformiad mewn etholiadau eraill. Rhag ofn bod rhywun yn amau gwirionedd yr hyn ‘dwi ‘newydd ei ‘sgwennu rhestraf isod y ganran o’r bleidlais a enillwyd gan y Blaid ym mhob etholiad cyffredinol ers i Gwynfor ennill is etholiad Caerfyrddin:



1970 – 11.5%

1974 (Chwefror) – 10.8%

1974 (Hydref) – 10.8%

1979 – 8.1%

1983 – 7.8%

1987 – 7.3%

1992 – 9%

1997 – 9.9%

2001 – 14.3%

2005 – 12.6%

2010 – 11.3%


Mae’r patrwm yn un hynod o gyson – amrediad o 7%, canolrif o 10.8% a chymedr o 10%,. Mae’n anhebygol bod ffactorau yn ymwneud a thactegaeth a strategaeth y blaid mewn etholiadau unigol yn cael effaith sylweddol ar y patrwm. Mae’n batrwm sydd wedi ei adeiladu i mewn i strwythur y broses etholiadol yng Nghymru. ‘Dwi am geisio egluro pam bod hyn yn digwydd trwy edrych ar y broses etholiadol mewn ffordd ychydig yn wahanol i’r arfer. ‘Dwi am ystyried y broses o fwrw pleidlais fel ateb i gwestiwn, neu yn hytrach gyfres o gwestiynnau – rhai yn bwysicach na’i gilydd - mae’r etholiad yn gorfodi’r etholwyr i ddelio efo nhw cyn mynd ati i bleidleisio.


Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yma’n rhyw ymwybodol fy mod yn anorac braidd ar faterion yn ymwneud a gwleidyddiaeth etholiadol Iwerddon, a fy mod yn yr arfer od braidd o ddwyn i gof rhyw stori neu gilydd ynglyn a rhyw etholiad neu’i gilydd yn yr Iwerddon i wneud pwynt am wleidyddiaeth cyfoes Cymru. Fel rheol ‘dwi’n dewis rhywbeth o hen hanes etholiadol y Weriniaeth, ond y tro hwn mae’r stori yn dod o etholiad cyffredinol (Prydeinig) 2010 yng Ngogledd Iwerddon.


Bu Fermanagh South Tyrone yn nwylo Sinn Fein ers 2001. Mae’r sedd yn eiconig yn hanes etholiadol diweddar y Gogledd oherwydd bod y cydbwysedd gwleidyddol yn nes yno nag yw mewn unrhyw etholaeth arall, ac oherwydd mai yma y cafodd yr ymprydiwr newyn Bobby Sands ei ethol yn aelod seneddol tra ar ei wely angau yn ol yn 1981. Hon hefyd yw'r unig sedd orllewinol sy'n dal yn enilladwy i'r Unoliaethwyr, boddwyd gweddill y Gorllewin o ganlyniad i gyfradd geni Pabyddol uchel yn ystod wyth degau a naw degau y ganrif ddiwethaf. Mae’r etholaeth yn emosiynol bwysig i’r ddwy ochr fel ei gilydd.

Roedd yn edrych fel petai pethau am newid y tro hwn oherwydd i’r Urdd Oren lwyddo i berswadio’r pleidleisiau unoliaethol beidio a sefyll yn erbyn ei gilydd a mynd ati i ddewis ymgeisydd cytunedig. Dewiswyd unigolyn digon credadwy a pharchus o’r enw Rodney Connor.


Roedd hyn yn peri cryn broblem i Sinn Fein. Nid oedd gan y blaid genedlaetholgar leiaf - yr SDLP - y diddordeb lleiaf mewn cytundeb tebyg, a golygai hyn byddai Sinn Fein yn colli’r sedd yn weddol hawdd petai’r cydbwysedd pleidleisio arferol rhwng Sinn Fein a’r SDLP yn cael ei gynnal,. Yr ateb wrth gwrs oedd mynd tros ben arweinyddiaeth yr SDLP a cheisio dwyn perswad ar gefnogwyr y blaid i roi benthyg eu pleidlais i Sinn Fein.


Roedd hyn yn dalcen caled. Er bod Sinn Fein wedi corlanu fwy neu lai y cwbl o’r bleidlais ddosbarth gweithiol Pabyddol yng Ngogledd Iwerddon y tu allan i Derry ac ambell i boced arall, mae’r rhan fwyaf o bobl dosbarth canol yn driw o hyd i’r SDLP, yn arbennig y sawl sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus. Roedd y rhan fwyaf o Babyddion dosbarth canol Fermanagh South Tyrone yn bleidleiswyr SDLP. Byddai rhoi croes i Sinn Fein yn groes iawn i’r graen i’r bobl yma – byddai ganddynt broblem gwirioneddol ynglyn a pharchusrwydd a hyd yn oed foesoldeb pleidleisio i blaid sydd a chysylltiadau agos efo rhyfel hir, chwerw a gwaedlyd yr IRA yn erbyn y wladwriaeth Brydeinig.


Rwan y prif gwestiwn etholiadol fel arfer i Babydd yng Ngogledd Iwerddon ydi hwn – pwy ydych eisiau eu hethol i’ch cynrychioli – aelod o’r SDLP ynteu aelod o Sinn Fein? Y sialens i Sinn Fein oedd newid y cwestiwn, neu o leiaf ychwanegu cwestiwn pwysicach na’r un arall – a dyna a wnaethant. Y cwestiwn yr oeddynt yn ei ofyn oedd hwn – ydych chi eisiau i’r Urdd Oren ddewis eich aelod seneddol?


Oherwydd bod eu dwy sedd orllewinol, wledig arall yn gwbl ddiogel roeddynt mewn sefyllfa i daflu llawer o’r peiriant etholiadol anferth sydd ganddynt i’r gorllewin o’r Afon Bann at yr etholaeth i ail adrodd y cwestiwn yma ar stepan drws pob Pabydd, ac wrth giat pob Eglwys ar ol yr Offeren hyd at syrffed. Llwyddwyd i haneru pleidlais yr SDLP. Roedd yna ddigon (o 4 yn unig) o Babyddion yn gweld y cwestiwn ynglyn a’r Urdd Oren yn bwysicach na’r un arferol. ‘Dydi o ddim ots pam mor barchus a thriw i’r sefydliad ydi Pabydd yng Ngogledd Iwerddon, mae ei ganfyddiad o’r Urdd Oren yn un cwbl, cwbl negyddol.


Y gamp etholiadol yma oedd fframio’r cwestiwn etholiadol cynradd mewn ffordd oedd yn newid canfyddiad llawer o bobl o’u rhesymau tros bleidleisio i blaid arbennig.

Problem y Blaid mewn etholiadau San Steffan ydi’r ffaith mai’r prif gwestiwn sy’n cael ei osod ger bron yr etholwyr ydi – pwy ddylai reoli Prydain? Mae yna gwestiynau eraill wrth gwrs, gan gynnwys pwy ydych eisiau fel cynrychiolydd lleol yn San Steffan? ac a ddylai Cymru gael mwy o ymreolaeth gwleidyddol? ac ydych eisiau cynrychiolydd sydd am roi Cymru’n gyntaf? Ond y cwestiwn cynradd ydi’r un sy’n ymwneud a rheolaeth tros y wladwriaeth. ‘Does yna ddim llawer o bobl am ateb y cwestiwn yma efo’r geiriau Plaid Cymru, ac mae’r ffaith diymwad yna’n egluro i raddau helaeth llinell cymharol fflat cefnogaeth y Blaid mewn etholiadau San Steffan.


Mae etholiadau eraill yn wahanol.wrth gwrs. Pwy ddylai reoli Cymru? sydd bwysicaf mewn etholiad Cynulliad. Efallai mai pwy ddylai eich cynrychioli ar y Cyngor? sydd bwysicaf yn y rhan fwyaf o Gymru mewn etholiadau lleol, ac o bosibl beth yw eich hoff blaid? sydd bwysicaf mewn etholiad Ewrop. Mewn is etholiad seneddol ydych chi eisiau rhoi cic dan din i’r llywodraeth? ydi’r cwestiwn cynradd yn aml. Dyna pam bod y Blaid yn perfformio’n llawer gwell yn yr etholiadau hyn – mae’r cwestiynnau yn wahanol, ac mae pwysigrwydd cymharol y cwestiynau hynny hefyd yn wahanol - ac o ganlyniad mae’r ateb yn aml yn wahanol ac yn fwy ffafriol i’r Blaid.


Daw hyn a ni at y cwestiwn pwysig. Ydi hi’n bosibl i bleidiau fel Plaid Cymru neu’r SNP fframio cwestiwn sy’n bwysicach na’r un ynglyn a phwy sy’n rheoli’r wladwriaeth mewn cyfundrefn lle mae’n rhaid iddynt – yn wahanol i’r pleidiau Gwyddelig sy’n gweithredu mewn hinsawdd etholiadol mewnblyg, plwyfol - gystadlu yn erbyn y pleidiau mawr Prydeinig. O bosibl yr ateb gonest i hynny ydi na. Ond ‘dydi hynny ddim yn golygu na ellir gofyn cwestiynau gwell na’r rhai yr ydym yn eu gofyn ar hyn o bryd i’r etholwr. Byddwn yn ystyried rhai cwestiynau posibl yn ystod y dyddiau nesaf.

Thursday, May 13, 2010

Cabinet i'ch cynrychioli

* Y llun wedi ei ddwyn o flog gwirioneddol wael o'r enw Liberal Conspiracy.

Newyddion da - cabinet i'ch cynrychioli ac un sy'n gynrychioladol ohonoch.

David Cameron - Witney (De Lloegr)
Nick Clegg - Sheffield Hallam (Swydd Efrog)
Theresa May - Maidenhead (De Lloegr)
George Osborne - Tatton (Swydd Gaer)
William Hague - Richmond (Swydd Efrog)
Ken Clarke - Rushcliffe (Canolbarth Lloegr)
Patrick McGloughlin - West Derbyshire (Canolbarth Lloegr)
Caroline Spelman - Meriden (Canolbarth Lloegr)
Andrew Mitchell - Gedling (Canolbarth Lloegr)
Eric Pickles - Brentwood (De Lloegr)
Michael Gove - Surrey Heath (De Lloegr)
Chris Huhne - Eastleigh (De Lloegr)
Andrew Lansley - South Cambridgeshire (De Lloegr)
Owen Paterson - North Shropshire (Canolbarth Lloegr)
Vince Cable - Twickenham (Llundain)
Lord Strathclyde - dim etholaeth
Danny Alexander - Inverness ac ati (yr Alban)
Iain Duncan Smith (Llundain)
David Lowes - Youvil (De Lloegr)
Cheryl Gillan - Chesham (De Lloegr)
Liam Fox - Woodspring (De Lloegr)
Philip Hammond - Runnymead (De Lloegr)
Jeremy Hunt - South West Surrey (De Lloegr)
Lady Warsi - dim etholaeth

Felly dyna n,i 12 gydag etholaeth yn Ne Lloegr, 3 yng Ngogledd Lloegr, 5 yng Nghanolbarth y wlad honno ac 1 o'r Alban.

Cafodd y rhan fwyaf eu haddysg mewn ysgol breifat (tri yn Eton), pedair dynes yn unig a'r mwyafrif llethol wedi bod i Rydychen neu Gaergrawnt. Yn amlwg does yna neb yn cynrychioli etholaeth yng Nghymru - mi fyddwn ni yn cael ein cynrychioli gan Cheryl Gillan (Cheltenham Ladies' College a The College of Law) sydd yn ol pob golwg yn fwy addas na'r un o'r Toriaid sydd ag etholaeth yng Nghymru er nad ydi hi'n rhy siwr pwy ydi prif weinidog Cymru.

Wednesday, May 12, 2010

A ddaw hegemoni Llafur yn ei ol?

Mae cryn son wedi bod (gan Dicw ymhlith eraill) bod dyddiau hir hegemoni Llafur yng Nghymru ar fin dod i ben. Ar yr olwg gyntaf mae'r etholiad diweddaraf yn cadarnhau hynny gyda'r bleidlais Llafur o 36.2% yng Nghymru ymysg y perfformiadau mwyaf gwachul yn hanes y blaid yma.

Yr hyn sy'n hawdd i'w anghofio, fodd bynnag ydi ein bod ni wedi bod yn y fan yma o'r blaen. Ym 1983,
37.5% oedd eu canran o'r boblogaeth gyda'r Toriaid ar 31%. Yn wir syrthiodd mwy o'u seddi i'r Toriaid y tro hwnnw na'r tro hwn.

Llwyddodd Llafur i ail adeiladu eu pleidlais yn rhyfeddol o gyflym wedi hynny - yn gynt o lawer nag a wnaethant tros weddill Prydain. Yn 1987 cawsant 45.1% ac yn 1992 gwnaethant yn well eto gan sgorio 49.5% . Erbyn 1997 roeddynt ar 54.8%. Byddai dychwelyd at law farw hegemoni Llafur yn drychineb hanesyddol i Gymru.

Ydi hyn yn debyg o ddigwydd eto?

Y perygl yw y gallai. Llwyddodd Llafur i bortreadu ei hun bryd hynny fel y blaid Gymreig oedd yn ffocws i'r gwrthwynebiad i'r mesurau amhoblogaidd oedd yn cael eu gweithredu o Loegr (toriadau mewn gwariant cyhoeddus, treth y pen, cau'r pyllau glo ac ati). Os ydi Plaid Cymru am osgoi gadael i hyn ddigwydd drachefn mae'n rhaid mynd ati i ddangos nad Llafur ydi ffocws i'r gwrthwynebiad i'r hyn sydd o'n blaenau. Roedd yn anodd bryd hynny oherwydd bod Llafur mor fawr a ninnau mor fach ac yn derbyn cyn lleied o sylw cyfryngol.

Y tro hwn fodd bynnag gallai pethau fod yn wahanol oherwydd bodolaeth y Cynulliad. Gall hwnnw fod yn ffocws i'r gwrthwynebiad, ac fel plaid lywodraethol mae'n proffeil ni'n weddol uchel yno. Gallai llawer o'r mantais etholiadol a enillodd Llafur yn yr 80au a'r 90au ddod i'n cyfeiriad ni. Ond byddai'n golygu ymarfer dull o wleidydda llawer mwy ymysodol (abrasive fyddai'r gair Saesneg efallai) na sy'n arferol i ni.

Mewn geiriau eraill byddai'n golygu ymarfer gwleidyddiaeth mewn ffordd mwy tebyg i'r ffordd y bydd Llafur yn ei ymarfer. Cwrteisi, parchusrwydd a neis, neisrwydd ydi gwendidau gwleidyddol mwyaf y Blaid. 'Dwi'n gwybod bod gwleidydda fel hyn yn estron i ni, ond y gamp tros y blynyddoedd anodd sydd i ddod fydd ymddangos yn fwy ymysodol o wrth Lundeinig na'r Blaid Lafur. O wneud hynny, gallwn osgoi ffawd yr wyth degau a'r naw degau.