Sunday, May 16, 2010

Mae'r ateb yn dibynnu ar y cwestiwn

Mae cyfaill sydd bellach yn blogio o dan yr enw Blog y Blogiwr Cymraeg wedi gofyn i mi gynnig rhyw lun ar ddadansoddiad ar berfformiad ‘siomedig’ y Blaid yn yr etholiad cyffredinol. ‘Dwi’n credu bod yna rhai gwendidau yn ymgyrch y Blaid, ac mi edrychaf ar rhai o’r rheiny maes o law. Heddiw fodd bynnag ‘dwi am edrych ar rhywbeth sydd efallai yn bwysicach – y rheswm strwythurol pam bod y Blaid pob amser yn perfformio oddi fewn i rychwant eithaf cyfyng mewn etholiadau cyffredinol, beth bynnag ydi’r perfformiad mewn etholiadau eraill. Rhag ofn bod rhywun yn amau gwirionedd yr hyn ‘dwi ‘newydd ei ‘sgwennu rhestraf isod y ganran o’r bleidlais a enillwyd gan y Blaid ym mhob etholiad cyffredinol ers i Gwynfor ennill is etholiad Caerfyrddin:



1970 – 11.5%

1974 (Chwefror) – 10.8%

1974 (Hydref) – 10.8%

1979 – 8.1%

1983 – 7.8%

1987 – 7.3%

1992 – 9%

1997 – 9.9%

2001 – 14.3%

2005 – 12.6%

2010 – 11.3%


Mae’r patrwm yn un hynod o gyson – amrediad o 7%, canolrif o 10.8% a chymedr o 10%,. Mae’n anhebygol bod ffactorau yn ymwneud a thactegaeth a strategaeth y blaid mewn etholiadau unigol yn cael effaith sylweddol ar y patrwm. Mae’n batrwm sydd wedi ei adeiladu i mewn i strwythur y broses etholiadol yng Nghymru. ‘Dwi am geisio egluro pam bod hyn yn digwydd trwy edrych ar y broses etholiadol mewn ffordd ychydig yn wahanol i’r arfer. ‘Dwi am ystyried y broses o fwrw pleidlais fel ateb i gwestiwn, neu yn hytrach gyfres o gwestiynnau – rhai yn bwysicach na’i gilydd - mae’r etholiad yn gorfodi’r etholwyr i ddelio efo nhw cyn mynd ati i bleidleisio.


Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yma’n rhyw ymwybodol fy mod yn anorac braidd ar faterion yn ymwneud a gwleidyddiaeth etholiadol Iwerddon, a fy mod yn yr arfer od braidd o ddwyn i gof rhyw stori neu gilydd ynglyn a rhyw etholiad neu’i gilydd yn yr Iwerddon i wneud pwynt am wleidyddiaeth cyfoes Cymru. Fel rheol ‘dwi’n dewis rhywbeth o hen hanes etholiadol y Weriniaeth, ond y tro hwn mae’r stori yn dod o etholiad cyffredinol (Prydeinig) 2010 yng Ngogledd Iwerddon.


Bu Fermanagh South Tyrone yn nwylo Sinn Fein ers 2001. Mae’r sedd yn eiconig yn hanes etholiadol diweddar y Gogledd oherwydd bod y cydbwysedd gwleidyddol yn nes yno nag yw mewn unrhyw etholaeth arall, ac oherwydd mai yma y cafodd yr ymprydiwr newyn Bobby Sands ei ethol yn aelod seneddol tra ar ei wely angau yn ol yn 1981. Hon hefyd yw'r unig sedd orllewinol sy'n dal yn enilladwy i'r Unoliaethwyr, boddwyd gweddill y Gorllewin o ganlyniad i gyfradd geni Pabyddol uchel yn ystod wyth degau a naw degau y ganrif ddiwethaf. Mae’r etholaeth yn emosiynol bwysig i’r ddwy ochr fel ei gilydd.

Roedd yn edrych fel petai pethau am newid y tro hwn oherwydd i’r Urdd Oren lwyddo i berswadio’r pleidleisiau unoliaethol beidio a sefyll yn erbyn ei gilydd a mynd ati i ddewis ymgeisydd cytunedig. Dewiswyd unigolyn digon credadwy a pharchus o’r enw Rodney Connor.


Roedd hyn yn peri cryn broblem i Sinn Fein. Nid oedd gan y blaid genedlaetholgar leiaf - yr SDLP - y diddordeb lleiaf mewn cytundeb tebyg, a golygai hyn byddai Sinn Fein yn colli’r sedd yn weddol hawdd petai’r cydbwysedd pleidleisio arferol rhwng Sinn Fein a’r SDLP yn cael ei gynnal,. Yr ateb wrth gwrs oedd mynd tros ben arweinyddiaeth yr SDLP a cheisio dwyn perswad ar gefnogwyr y blaid i roi benthyg eu pleidlais i Sinn Fein.


Roedd hyn yn dalcen caled. Er bod Sinn Fein wedi corlanu fwy neu lai y cwbl o’r bleidlais ddosbarth gweithiol Pabyddol yng Ngogledd Iwerddon y tu allan i Derry ac ambell i boced arall, mae’r rhan fwyaf o bobl dosbarth canol yn driw o hyd i’r SDLP, yn arbennig y sawl sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus. Roedd y rhan fwyaf o Babyddion dosbarth canol Fermanagh South Tyrone yn bleidleiswyr SDLP. Byddai rhoi croes i Sinn Fein yn groes iawn i’r graen i’r bobl yma – byddai ganddynt broblem gwirioneddol ynglyn a pharchusrwydd a hyd yn oed foesoldeb pleidleisio i blaid sydd a chysylltiadau agos efo rhyfel hir, chwerw a gwaedlyd yr IRA yn erbyn y wladwriaeth Brydeinig.


Rwan y prif gwestiwn etholiadol fel arfer i Babydd yng Ngogledd Iwerddon ydi hwn – pwy ydych eisiau eu hethol i’ch cynrychioli – aelod o’r SDLP ynteu aelod o Sinn Fein? Y sialens i Sinn Fein oedd newid y cwestiwn, neu o leiaf ychwanegu cwestiwn pwysicach na’r un arall – a dyna a wnaethant. Y cwestiwn yr oeddynt yn ei ofyn oedd hwn – ydych chi eisiau i’r Urdd Oren ddewis eich aelod seneddol?


Oherwydd bod eu dwy sedd orllewinol, wledig arall yn gwbl ddiogel roeddynt mewn sefyllfa i daflu llawer o’r peiriant etholiadol anferth sydd ganddynt i’r gorllewin o’r Afon Bann at yr etholaeth i ail adrodd y cwestiwn yma ar stepan drws pob Pabydd, ac wrth giat pob Eglwys ar ol yr Offeren hyd at syrffed. Llwyddwyd i haneru pleidlais yr SDLP. Roedd yna ddigon (o 4 yn unig) o Babyddion yn gweld y cwestiwn ynglyn a’r Urdd Oren yn bwysicach na’r un arferol. ‘Dydi o ddim ots pam mor barchus a thriw i’r sefydliad ydi Pabydd yng Ngogledd Iwerddon, mae ei ganfyddiad o’r Urdd Oren yn un cwbl, cwbl negyddol.


Y gamp etholiadol yma oedd fframio’r cwestiwn etholiadol cynradd mewn ffordd oedd yn newid canfyddiad llawer o bobl o’u rhesymau tros bleidleisio i blaid arbennig.

Problem y Blaid mewn etholiadau San Steffan ydi’r ffaith mai’r prif gwestiwn sy’n cael ei osod ger bron yr etholwyr ydi – pwy ddylai reoli Prydain? Mae yna gwestiynau eraill wrth gwrs, gan gynnwys pwy ydych eisiau fel cynrychiolydd lleol yn San Steffan? ac a ddylai Cymru gael mwy o ymreolaeth gwleidyddol? ac ydych eisiau cynrychiolydd sydd am roi Cymru’n gyntaf? Ond y cwestiwn cynradd ydi’r un sy’n ymwneud a rheolaeth tros y wladwriaeth. ‘Does yna ddim llawer o bobl am ateb y cwestiwn yma efo’r geiriau Plaid Cymru, ac mae’r ffaith diymwad yna’n egluro i raddau helaeth llinell cymharol fflat cefnogaeth y Blaid mewn etholiadau San Steffan.


Mae etholiadau eraill yn wahanol.wrth gwrs. Pwy ddylai reoli Cymru? sydd bwysicaf mewn etholiad Cynulliad. Efallai mai pwy ddylai eich cynrychioli ar y Cyngor? sydd bwysicaf yn y rhan fwyaf o Gymru mewn etholiadau lleol, ac o bosibl beth yw eich hoff blaid? sydd bwysicaf mewn etholiad Ewrop. Mewn is etholiad seneddol ydych chi eisiau rhoi cic dan din i’r llywodraeth? ydi’r cwestiwn cynradd yn aml. Dyna pam bod y Blaid yn perfformio’n llawer gwell yn yr etholiadau hyn – mae’r cwestiynnau yn wahanol, ac mae pwysigrwydd cymharol y cwestiynau hynny hefyd yn wahanol - ac o ganlyniad mae’r ateb yn aml yn wahanol ac yn fwy ffafriol i’r Blaid.


Daw hyn a ni at y cwestiwn pwysig. Ydi hi’n bosibl i bleidiau fel Plaid Cymru neu’r SNP fframio cwestiwn sy’n bwysicach na’r un ynglyn a phwy sy’n rheoli’r wladwriaeth mewn cyfundrefn lle mae’n rhaid iddynt – yn wahanol i’r pleidiau Gwyddelig sy’n gweithredu mewn hinsawdd etholiadol mewnblyg, plwyfol - gystadlu yn erbyn y pleidiau mawr Prydeinig. O bosibl yr ateb gonest i hynny ydi na. Ond ‘dydi hynny ddim yn golygu na ellir gofyn cwestiynau gwell na’r rhai yr ydym yn eu gofyn ar hyn o bryd i’r etholwr. Byddwn yn ystyried rhai cwestiynau posibl yn ystod y dyddiau nesaf.

2 comments:

Blogiwr Cymraeg said...

Fel arfer ti gwneud pwynt teg iawn yma. Yr cwestiwn neu'r ddadl sw ni rhoi yn ol fasa hyn:

1) Er fod y canran yn eithriadol o debyg i'r Blaid ar draws y blynyddoedd, da ni rwan yn ennill pleidleisiau mewn ardaloedd yr oeddan ni ddim cynt...neu dim gymaint cynt beth bynnag. Ar yr un pryd dan ni di colli tir mewn seddi eraill: Ynys Mon, Ceredigion etc.
2) Wrth gwrs fel dwi gwbod o dy flog dy fod yn cytuno, da ni angen symud ymlaen ag enill canran fwy nid aros yn llonydd.

Cai Larsen said...

Digon teg. Mi geisiwn ymateb i'r pwyntiau hynny hefyd.