FPleidleisio tactegol ydi thema'r diwrnod gyda Peter Hain yn galw am bleidleisio gwrth Doriaidd, Ron Davies yn gofyn i Lafurwyr Aberconwy i bleidleisio i'r Blaid er mwyn cadw'r Tori allan, y Daily Mirror yn ceisio dweud rhywbeth neu'i gilydd ynglyn a'r pwnc, a Syniadau yn awgrymu pleidleisio tactegol er mwyn diwygio'r gyfundrefn bleidleisio lwgr sydd ohoni .
Mae'n rhaid i mi ddweud mai'r unig alwad oedd yn achosi syndod i mi oedd un Hain. Fe gofiwch ei fod ar ddechrau'r ymgyrch yn argymell pleidleisio tactegol yn yr ystyr Llafuraidd honno bod rhaid i bawb fotio i Lafur. Erbyn heddiw mae'n awgrymu y dylai pobl bleidleisio yn erbyn Llafur mewn rhai etholaethau er mwyn cadw'r Tori allan.
Yn yr holl flynyddoedd 'dwi wedi bod yn gwylio etholiadau fedra i ddim cofio neb sydd mewn safle tebyg i un Hain yn gwneud awgrym o'r fath. Yn wir 'dwi'n eithaf siwr y byddai'r ffasiwn alwad wedi arwain at ddi swyddo digon disymwth ym mhob etholiad cyn hwn.
Os oes yna unrhyw un digwyddiad yn dangos cymaint mae Llafur wedi gwywo ac edwino ers y dyddiau pan roedd y blaid honno yn ei hanterth yn ol yn niwedd y naw degau, Peter Hain yn ceisio cadw ei ddwylo ar rym gwleidyddol trwy annog pobl i bleidleisio yn erbyn llawer o'i ymgeiswyr ydi hwnnw.
No comments:
Post a Comment