Mi fydd yna ddigon o amser i gnoi cil ar etholiad hynod o ddiddorol (yn ogystal a siomedig) maes o law.
Yn y cyfamser mi hoffwn ddarogan beth fydd yn digwydd tros y dyddiau nesaf. Mi fydd Clegg a Cameron yn cael sgwrs ac mi fydd Clegg yn gofyn am PR. Yn amlwg bydd Cameron yn gwrthod, ond ar ol hir a hwyr bydd yn cyfaddawdu trwy gynnig PR ar gyfer Ty'r Arglwyddi ac efallai Senedd dai Cymru a'r Alban. Bydd hefyd yn mynnu y bydd y seddi San Steffan yn cael eu ad drefnu'n llwyr ar sail poblogaeth gyfartal - tua 74,000 i pob etholaeth. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar Gymru - tair sedd yng Nghaerdydd, dwy yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a'r cylch yn mynd at Ddwyfor Meirion a Bangor a Dyffryn Ogwen yn mynd at Ynys Mon er enghraifft. 'Dwi wedi edrych ar hyn yn y gorffennol.
'Dwi'n siwr y bydd yna elfennau eraill i'r cytundeb - dealltwriaeth ar sut i fynd ati i ddelio efo'r twll yn y cyfrifon cenedlaethol, joban i Clegg a Cable ac ati, ond y newidiadau yn y drefn etholiadol fydd yn cipio'r fargen.
No comments:
Post a Comment