Saturday, May 08, 2010

'Llwyddiant' Llafur yng Nghymru - nodiadau o Arfon

Reit - un neu ddau o argraffiadau cynnar o'r etholiad. Fel mae Vaughan yn awgrymu roedd yr etholiad yma yn siomedig i'r Blaid, ac un o'r prif resymau am hynny oedd i Lafur berfformio yn weddol effeithiol yng Nghymru - ac yn arbennig felly yn yr etholaethau lle'r oedd 'rhaid' iddynt ddal eu gafael. Llwyddodd Llafur Cymru yn rhyfeddol i amddiffyn llawer o seddi oedd dan fygythiad. Roedd Arfon yn un o'r etholaethau roedd Llafur angen ei dal - methwyd a gwneud hynny, ond mae'r ffordd yr aethant ati yn i geisio amddiffyn y sedd yn ddadlennol o safbwynt perfformiadau cymharol gryf Llafur mewn etholaethau ymylol eraill yng Nghymru.

Cyn cychwyn efallai y dyliwn egluro i'r bobl nad ydynt yn adnabod y Gogledd yn dda nad ydi Arfon yn sedd wledig - mae mwyafrif llethol y boblogaeth yn byw mewn trefi neu bentrefi sylweddol. Yn gymdeithasegol mae Arfon yn fwy tebyg o lawer i Lanelli nag ydyw i Feirion Dwyfor.

Er iddyn nhw fethu dal eu gafael yn Arfon, llwyddwyd i gadw'r gwympyng nghanran eu pleidlais i -3.5%, ffigwr oedd yn sylweddol is na'r gwymp ehangach yng Nghymru. Felly hefyd seddi eraill oedd dan fygythiad - Ynys Mon (-1.3%) Llanelli (-4.5%), Gogledd Caerdydd (-1.9%), Gorllewin Caerdydd (-3.6%), Dyffryn Clwyd (-3.6%) ac ati. Yn y cyfamser mewn seddi diogel megis y Rhondda (-12.8%) neu Gwm Cynon (-10.5%) roedd eu pleidlais yn cwympo fel carreg, ac felly roedd pethau hefyd yn rhai o'r seddi oedd eisoes wedi eu colli, Gorllewin Clwyd (-11.3%) er enghraifft.

Mae Dyfrig yn trafod y patrwm pleidleisio rhanbarthol yn Arfon yma. Er bod yr hyn mae'n ei ddweud ar y pwnc hwnnw yn ddigon cywir, nid y patrwm rhanbarthol ydi'r un arwyddocaol o safbwynt egluro sut y llwyddodd Llafur i gadw cymaint o'u seddi 'ymylol' yng Nghymru, ond yr un cymdeithasegol. Y patrwm pwysig o safbwynt strategaeth etholiadol ydi bod Llafur wedi llwyddo i ddal eu tir yn rhyfeddol o dda mewn wardiau lle mae nifer helaeth o dai cyngor. Targedu'r bobl sydd yn byw yn y wardiau hynny a'u dychryn oedd prif dacteg Llafur yn Arfon. Yn eironig ddigon mae'r dirwasgiad enbyd sydd wedi ei greu gan Lafur yn gwneud y bygythiadau yn fwy effeithiol nag y byddant hebddo. 'Dwi'n eithaf siwr mai hynny oedd yn digwydd y tu hwnt i Arfon hefyd.

Llwyddwyd i wneud hyn trwy dynnu sylw at bethau anymunol a sbesiffig iawn a 'fyddai' yn digwydd petai y Toriaid yn dod i rym - toriadau mewn budd daliadau, codi tal i'r henoed am deithio ar y bws, codi am brescripsiwns ac ati, ac ati. Rydym eisoes wedi trafod y ffaith mai mater i'r Cynulliad ydi rhai o'r bygythiadau honedig, a bod eraill yn cael eu gwneud ar sail hynod amheus - ond roeddynt yn fygythiadau effeithiol.

'Dydi cefnogwyr 'naturiol' Llafur heb ddod allan i'w cefnogi yn Arfon ers 2005, mi ddaeth llawer ohonynt y tro hwn ac mi ddaethant ar sail rhesymegol. Os ydych yn poeni am sut yr ydych am brynu dillad ysgol i'r plant, mae stori y bydd credydau treth plant yn cael eu torri i'r bon am wneud i chi feddwl - a phleidleisio - mewn ffordd arbennig.

Mi allwn droi ein trwynau ar yr arfer 0 wleidydda mewn ffordd sy'n cymryd mantais o ofnau pobl sydd yn fregus ac yn ddibynnol iawn ar y wladwriaeth, a gwneud hynny yn aml ar sail anonest, ond fedrwch chi ddim gwadu ei fod yn rhoi cymhelliad pwerus i bobl bleidleisio tros Lafur. Mae'n neges llai gonest ond mwy effeithiol na dweud - os bydd gennym ni rym mewn senedd grog byddwn yn mynnu bod £300m y flwyddyn llai o doriadau yn wynebu Cymru.

Felly gellir egluro llwyddiant Llafur i amddiffyn cymaint o seddau ymylol Cymreig yn eithaf hawdd - dewis eu hetholaethau a dychryn eu pleidlais graidd yn yr etholaethau hynny i'r graddau eu bod teimlo'r angen i fwrw pleidlais trostynt er mwyn amddiffyn eu buddiannau tymor byr eu hunain. Syml ond effeithiol.

4 comments:

Dyfrig said...

Dwi'n cytuno gyda dy ddadansoddiad, i raddau helaeth. Ond dwi ddim yn siwr os gellid priodoli yr ofn yr oedd pobl yn ei deimlo yn llwyr i dactegau bwriadol Llafur. Fy marn bersonol i yw bod gwreiddiau twfn i wrth-Doriaeth broydd diwydiannol Cymru. Pan mae etholwyr y broydd hyn yn credu bod y llywodraeth Brydeinig yn ddiogel yn nwylo Llafur, maent yn fodlon aros adref, neu arbrofi gyda phleidiau eraill. Ond unwaith mae'r bygythiad o lywodraeth Geidwadol yn dod yn real, mae'r hen deyrngarwch greddfol hwnw yn dod i'r wyneb.
A dwi'n deall y teimlad yn iawn. Roedd fy meddwl i wedi bod ar Arfon ers wythnosau, ond pan ddarllenais yn y Guardian dydd Iau bod y Ceidwadwyr yn debygol o enill mwyafrif, roeddwn innau'n teimlo rhyw ofn afresymol. Ac fe glywais sawl un yn ei fynegi ym Methesda ar ddiwrnod yr etholiad - "Dio'm ots pwy sy'n enill, cyn bellad a bo'r Toriaid ddim yn cael mewn".
Mae Llafur yn gwneud eu gorau i ecsbloitio'r ofn hwn, ond dwi ddim yn credu eu bod yn ei greu. Mae yn byw yn ddwfn yn is-ymwybod llawer o bobl, sydd yn dal i weld etholiadau San Steffan fel ras rhwng dwy blaid. Fe gawn weld yn ystod y dyddiau nesaf os yw'r ffordd hon o wleidydda mewn perygl gwirioneddol o gael ei newid.

menaiblog said...

Dwi ddim yn anghytuno efo dim o hyn Dyfrig. Sylwadau digon treiddgar - fel arfer.

Anonymous said...

Dwi ddim yn aghytuno gyda dy ddadansoddiad ond mae ffactorau eraill
Mae'r grwp yma o bobl yn fwy tebgol o fod yn darllen y wasg brydeinig, yn gwrando ar radio prydeinig ac yn gwylio teledu prydeinig dyna yw ei dylanwadau.

Tydi'r Blaid ddim yn cael ei hystyried yn eriolwr ar ran y dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd yma. Yn wir fe fyddai mwyafrif y grwp yma o'r farn ei bod yn asgell dde yn arbennig o gofio proffil aelodaeth.
Dyma sydd yn ei gwneud yn anodd apelio.

menaiblog said...

Anhysb - roedd pleidlais y Blaid hefyd yn uchel yn y wardiau tlotaf - yn arbennig y rhai Cymraeg eu hiaith.