Cyhoeddwyd pum pol piniwn (Prydeinig) neithiwr - ac fel arfer roeddynt yn weddol wahanol i'w gilydd. Gallwch weld y manylion yma ac yma os oes gennych ddiddordeb yn y math yma o beth.
'Dwi heb son rhyw lawer am bolau piniwn fel rheol - mae yna ormod ohonyn nhw ac mae'n anodd gwybod beth i'w wneud o'r gwahaniaethau rhwng rhai ohonyn nhw. Serch hynny mae'r polau sy'n cael eu cymryd yn nyddiau diwethaf ymgyrch etholiadol yn aml yn arwyddocaol, nid cymaint oherwydd eu bod yn gywir nag am eu bod yn aml yn dangos gogwydd fydd weithiau yn cael ei chwyddo ar ddiwrnod yr etholiad ei hun. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai diweddaraf yn dangos gogwydd bach at y Toriaid ac oddi wrth y Lib Dems gyda Llafur yn aros yn yr unfan. Nid yw'n ymddangos i Bigotgate wneud mymryn o ddrwg i Lafur er gwaethaf yr holl rincian dannedd ar y pryd, gyda llaw.
Beth bynnag, a chymryd y polau presennol fel maen nhw, a chymryd bod y gogwydd yn gyson tros y DU mae pob un yn rhoi'r Toriaid yn gyntaf o ran seddi, Llafur yn ail a'r Lib Dems yn drydydd. Maen nhw i gyd hefyd yn awgrymu mai senedd grog fydd yn ein haros tros y misoedd nesaf o leiaf.
Yr hyn sy'n ychwanegu cryn ansicrwydd i'r sefyllfa ydi ei bod yn anhebygol y bydd y gogwydd yn unffurf ar hyd y DU. Yn y gorffennol roedd gogwydd etholiadol yn tueddu i fod yn debyg iawn ar hyd y DU, ond mewn etholiadau diweddar cafwyd llawer mwy o amrywiaeth rhanbarthol. Mae'n ddigon posibl y bydd y duedd yma'n parhau ac yn cryfhau.
Ffactor arall sy'n gwneud darogan yn anodd ydi ei bod yn lled sicr y bydd yna cryn dipyn o bleidleisio tactegol yn erbyn Llafur. Mae'r polau piniwn i gyd yn awgrymu'n gryf mai dyma'r llywodraeth mwyaf amhoblogaidd ers i bawb gael y bleidlais ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. O dan amgylchiadau felly bydd pobl yn aml yn pleidleisio'n negyddol yn erbyn y llywodraeth. Digwyddodd hyn ar raddfa eang pan daflwyd yr ail lywodraeth mwyaf amhoblogaidd allan ym 1997.
Y prif amrywiaeth yn y polau ydi'r bleidlais a roddir i Lafur - mae Angus Reid yn awgrymu mai 23% y byddant yn ei gael tra bod ICM yn rhoi 29% iddynt. Mae gwahaniaeth mawr rhwng y ddau ffigwr yma - ac mae'n cyfieithu i wahaniaeth arwyddocaol mewn seddi. Mae Angus Reid yn gyson yn rhoi llai o bleidleisiau i Lafur na'r un cwmni arall, ac mae'n newydd (ac felly heb ei brofi) i wleidyddiaeth Prydeinig. Mae gan y cwmni, fodd bynnag, record dda mewn gwledydd eraill.
Yn hanesyddol polau sydd ar eithafion yr amrediad arferol sy'n tueddu i fod yn gywir. Mae gan gwmniau polio Prydeinig hanes hir o or gynrychioli'r bleidlais Lafur. Maent wedi ceisio addasu eu methodoleg tros y blynyddoedd i ddelio efo'r sefyllfa yma. Byddwn yn gwybod pa mor llwyddiannus fu'r newidiadau hynny erbyn bore dydd Gwener.
O edrych yn ol tros yr uchod 'dwi'n rhyw boeni fy mod wedi cynhyrchu mwy o fwg nag o oleini. Hwyrach mai'r ffordd orau o grisialu'r sefyllfa ydi fel hyn - mi fydd yna gryn amrywiaeth yng nghanlyniadau etholaethau unigol gyda phobl sydd yn edrych yn saff yn colli eu seddi, a rhai sy'n ymddangos i fod mewn perygl yn eu cadw nhw.
Cyfle da i'r sawl sydd a gwybodaeth fewnol leol ennill ceiniog neu ddwy gan y bwci mi dybiwn.
No comments:
Post a Comment