Mae yna aml i un yn y Gogledd sy'n eiddigeddus iawn o'r buddsoddiad sydd wedi ei gyfeirio tua'r De, ac yn arbennig felly ardal Caerdydd. Efallai mai'r prif symbol o hynny ydi'r adeiladau a'r is strwythur sydd wedi ymddangos o gwmpas y pwll hwyaid yr ydym yn ei adnabod fel Bae Caerdydd.
Yr hyn a fyddai'n synnu llawer o fy nghyd Ogleddwyr ydi bod llawer o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Yn wir yn ol mynegai amddifadedd Cymru, Trebiwt 2, sy'n ffinio efo'r Bae ydi'r ail ward dlotaf yng Nghymru. Mae Elai 2 yn bumed ar hugain, Elai 3 yn ddeugeinfed. Mae yna ddeg ward yng Nghaerdydd yn dlotach na'r un dlotaf yng Ngwynedd - Peblig yng Nghaernarfon. Hon ydi'r ward Gymreiciaf yng Nghymru o ran iaith gyda llaw. Mae hi hefyd yn ward 'dwi wedi byw ynddi am rai blynyddoedd.
Yr hyn sy'n ddiddorol o edrych i lawr y mynegai ydi mai yr wardiau tlotaf ydi'r rhai mwyaf triw i'r Blaid Lafur at ei gilydd. Rwan, mae'r rhan fwyaf o'r wardiau hyn yn dlawd heddiw, roeddynt yn dlawd hanner canrif yn ol, ac roeddynt yn dlawd dri chwarter canrif yn ol. Maent wedi cefnogi'r Blaid Lafur trwy gydol y cyfnod yn y gred y byddai'r blaid honno yn amddiffyn eu buddiannau - ac maen nhw'n dal yn dlawd, ac mae'r gwahaniaeth rhwng y tlotaf a'r cyfoethocaf mewn cymdeithas o bosibl yn fwy nag yw wedi bod ar unrhyw bryd ers degawdau cynnar y ganrif ddiwethaf.
Yn y blogiad diwethaf roeddwn yn nodi mai un o'r problemau sy'n wynebu'r Blaid mewn etholiadau cyffredinol ydi bod y tirwedd yn anodd iddi oherwydd nad yw'r broses etholiadol yn gofyn cwestiynau i'r pleidleiswyr sy'n eu harwain i ystyried rhoi croes i'r Blaid. 'Dydan ni ddim wedi llwyddo eto i osod cwestiwn i ddechrau gwneud iawn am hyn. Mae methiant parhaol a pharhaus y Blaid Lafur i ddiwallu anghenion eu cefnogwyr craidd yn rhoi cyfle i ni ofyn cwestiwn hynod bwerus - pam?
Flynyddoedd yn ol arferwn weithio yn un o wardiau eraill mwyaf difreintiedig Cymru - Morawelon yng Nghaergybi. Mae'r ward yn ffinio efo porthladd Caergybi, ac efallai dwsin o weithiau pob dydd mi fydd y fferi yn docio ac yn poeri allan ugeiniau o loriau enfawr sy'n cario nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu yn yr Iwerddon ar eu ffordd i farchnadoedd tir mawr Ewrop. Mi fyddant yn gyrru am efallai naw deg milltir o dir Cymru - tir sy'n gwbl ddiffaith o ran diwydiant cynhyrchu. Maent yn dod o wlad sydd ymhellach oddi wrth canolfanau poblogaeth Ewrop na Chymru, gwlad sydd heb adnoddau crai gwerth son amdanynt a gwlad gydag is strwythur trafnidiaeth israddol i un Cymru - neu dyna oedd y sefyllfa hyd yn ddiweddar. Ac maent yn dod o wlad llawer, llawer cyfoethocach na Chymru - hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
Mae'r eglurhad tros paradocs yma ynghlwm a'r prif bolisi sy'n ein gwneud yn wahanol i'r pleidiau unoliaethol, a thrwy gadw'n rhy ddistaw am hwnnw a pheidio holi yn ddigon taer am fethiant Llafur rydym yn anwybyddu'r eliffant yn y 'stafell fyw.
No comments:
Post a Comment