Sunday, May 23, 2010

Gwersi i'w dysgu, a rhai i beidio eu dysgu o etholiad San Steffan 2010

Mae'r blog yma wedi nodi ar sawl achlysur bod ennill etholiad yn eithaf syml os ydym yn edrych ar wneud hynny fel proses yn hytrach nag edrych ar yr anhawsterau. Gellir dorri'r broses i bump cam syml:

(1) Llunio neges, neu'n hytrach gyfres o negeseuon sy'n atyniadol i amrediad eang o bobl.
(2) Cyfathrebu'r negeseuon a'r grwpiau o etholwyr perthnasol.
(3) Adnabod pwy sy'n perthyn i'r grwpiau perthnasol.
(4) Cadw mewn cysylltiad efo'r grwpiau hynny - yn arbennig pan mae etholiad yn dynesu.
(5) Sicrhau bod yr unigolion oddi mewn i'r grwpiau yn mynd i bleidleisio ar ddiwrnod (neu y dyddiau hyn, yn ystod cyfnod) yr etholiad.

Rwan, mae etholiadau San Steffan yn anodd i'r Blaid oherwydd ei bod yn anodd iddi weithredu cam 2 yn effeithiol. Mae unrhyw ymgais i gyfathrebu'r neges - pa mor bynnag atyniadol ydi honno yn groes i'r naratif etholiadol ehangach Brydeinig, ac oherwydd hynny mae gweithredu'r holl broses yn mynd yn anodd. 'Dydi'r broblem yma ddim yn bodoli mewn etholiad Cynulliad - mae neges y Blaid yn rhan greiddiol o'r naratif Cymreig, ac o ganlyniad rydym yn ymladd ar dir sy'n gyfartal a phawb arall. Dyma un o'r prif resymau pam y bydd canran y Blaid o'r bleidlais yn aml yn ddwy waith yr hyn yw yn etholiadau San Steffan yn rhai'r Cynulliad.

O ganlyniad i hyn mi fyddwn yn dadlau bod rhai gwersi i'w dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf o'r etholiadau sydd newydd fod, ond bod perygl 'dysgu' gwersi nad ydynt yn berthnasol os ydym yn edrych ar etholiadau San Steffan a Chynulliad fel anifeiliaid sydd fwy neu lai yr un peth. Felly dyma fy ymdrech i:

Gwersi i'w dysgu:

(1) Dylai prif lefarwyr y Blaid gyfleu'r un neges. Roedd gan y Blaid stori dda mewn perthynas ag ariannu teg i Gymru eleni, ond ni chafodd y pwynt ei wneud gan nifer o brif lefarwyr y Blaid, ac nid oedd yn ffocws i'r ymgyrch.

(2) KIS - Keep it Simple. Pan nad oes neges gyson mae pethau'n mynd yn gymhleth gyda negeseuon sy'n croes ddweud ei gilydd yn cael eu cyfleu. Yr unig beth sydd ei angen ydi set gweddol fach o bolisiau atyniadol sy'n dal y llygaid - fel y cafwyd yn etholiad Cynulliad 2007. Dylai tynnu sylw at y rheiny a'u hegluro fod yn ffocws yr ymgyrch.

(3) Ansawdd ymgeisyddion. Roedd peth anwastadedd yma. Roedd gan y Blaid ymgeisyddion penigamp yn yr etholaethau a enillwyd, ac roedd ganddynt rhai penigamp mewn rhai lle nad oedd gennym fawr o obaith fel Trefaldwyn, Gorllewin Clwyd, Castell Nedd, Wrecsam a Chwm Cynon, ac mewn ambell i etholaeth lle'r oedd gobaith fel Llanelli ac Aberconwy. Mae'n bwysig i blaid sydd y tu allan i'r naratif etholiadol allu cynnig rhywbeth amgen - megis ymgeisydd o'r radd uchaf. 'Dydi o ddim mor bwysig i bleidiau sydd oddi mewn i'r naratif. Gan fod Pleidwyr at ei gilydd yn ymddiddori mwy yn y Cynulliad na San Steffan, mae'n dra thebygol y bydd gennym amrediad eang o ymgeisyddion cryf iawn y flwyddyn nesaf. Mae'n debyg y bydd yr hyn y byddwn ni'n ei roi gerbron yr etholwyr yn llawer, llawer gwell na'r hyn fydd yn cael ei gynnig gan neb arall.


Gwersi i beidio eu dysgu:

(1) Peidio a chodi disgwyliadau. Mae Vaughan yn beirniadu'r Blaid am godi disgwyliadau yn etholiadau San Steffan. 'Dwi'n anghytuno. Mewn etholiad lle mae'r naratif etholiadol (oedd yn cael ei gynnal i raddau helaeth gan y corff cyhoeddus mae Vaughan yn gweithio iddo) yn anwybyddu plaid, mae'n rhaid i'r blaid honno greu ei naratif ei hun. Mae pwysleisio'r posibilrwydd o ennill yn un ffordd o wneud yn union hynny. 'Dydi o ddim ots os ydi'r cyrff cyfryngol sydd wedi gadael y Blaid allan o'r naratif etholiadol wedyn yn mynd ati i bortreadu methu ag ennill rhai o'r seddi targed fel 'trychineb' . Llwyddodd y Blaid i berfformio'n dda ar lefel Cynulliad yn dilyn etholiadau San Steffan 'siomedig' yn 99 ac yn 07. Yn y bon, dydi o ddim ots os ydi'r Bib a'r Western Mail yn portreadu perfformiad plaid maent yn ei lled anwybyddu fel 'tychineb' - ar ochr y pleidiau Prydeinig maen nhw beth bynnag. Beth ydi'r ots am eu barn nhw?


(2) 'Dydi gwaith caled ar lawr gwlad ddim yn gweithio. Rydym eisoes wedi edrych ar yr air war a'r ground war etholiadol. Mae yna lefydd yng Nghymru lle nad yw llawer iawn o waith caled ar lawr gwlan wedi ei wobreuo efo pleidleisiau newydd. Mae gwaith etholiadol llawr gwlad yn llai effeithiol mewn etholiad lle mae'r papurau newydd a'r tonfeddi yn dominyddu pethau. Ni fydd etholiad Cynulliad 2011 wedi ei dominyddu gan y cyfryngau, a bydd gwaith caled ar lawr gwlad yn dod a llawer mwy o wobr. I'r graddau yma mae etholiadau Cynulliad yn rhai llawer mwy traddodiadol na rhai San Steffan.

(3) Arweinyddiaeth ydi'r broblem. Dydi'r arweinyddiaeth ddim yn broblem. Wnes i ddim pleidleisio i arweinydd presenol y Blaid oherwydd tra'n cydnabod bod ganddo allu trefniadol nid oeddwn yn meddwl ei fod yn ddigon effeithiol ar y teledu - ac yn arbennig felly mewn dadl gyhoeddus. Ar y cychwyn gwireddwyd fy ofnau, ond mae Ieuan wedi prifio fel arweinydd. Roedd ben ac ysgwydd yn well nag arweinyddion y pleidiau unoliaethol yn y dadleuon Cymreig.

4 comments:

Blogiwr Cymraeg said...

Dwi cytuno hefo rhan helaeth o dy bwyntiau am berfformiad y blaid. Yn wir, ychydig iawn sydd o gysylltiad rhwng perfformiad y Blaid yn Llundain a Chymru yn y cynulliad.

Dwi yn anhytuno ag un pwynt sef y pwynt dros yr arweinydd. Dwi ddim ishio gweld Ieuan yn cael ei ddymchwel, bydda hynnu yn gwneud dim lles i ni. Be dwi am ei weld yn hytrach ydi edrychiad arall ar 'strwythyr arweinyddiaeth y blaid. Toes na ddim 5 capten mewn tim da. Felly rhaid penderfynnu a'r strwythyr arweinyddol effeithiol nid creu system o arweinyddion i ddal un dyn i fynu.

Ti yn bendant yn iawn hefyd y bydd gaith ar lawr gwlad yn cael mwy o effaith yn y etholiad y cynulliad ond rhaid i ni wneud yn well trwy gyfrynnau eraill hefyd.

Os am gael 3-4 prif neges fel ti yn awgrymu (sydd yn sicr y peth iawn i neud), dylai fod ffordd syml o gael y neges drosodd.

Mi wnaeth Blair hyn yn effeithiol hefo'r gardyn yn '97. Rwan dwi ddim yn awgrymu gweud hynnu, yn hytrach rhaid i ni fel Plaid ddarganfod y syniad newydd nesaf fydd yn dal dychymyg.

Mewn byd marchnata, mae defnydd o gyfrynnau yn newid yn ddyddiol a rhaid i'r blaid ddysgu cael ei lle ar y sianeli newyddion a'r papurau drwy dynnu sylw at eu hunain....be a elwir yn marchnata stynt".

Wel, does na ddiawl o neb yn sbio ar fy mlog i felly dwi di parablu yn fama yn lle! Gobeithio fod hynnu yn iawn blog menai!

Cai Larsen said...

Croeso Blogiwr.

Y ffordd orau i gael rhywun i edrych ar dy flog ydi dweud rhywbeth gwirioneddol ymfflamychol o bryd i'w gilydd - er mi fyddi'n gwneud llawer o elynion!

ON - dwi'n dod draw i dy flog weithiau.

Aled G J said...

Mae nifer o bwyntiau dilys fan hyn o ran yr anawsterau a wynebodd PC yn yr etholiad. Ond imi problem fwya Plaid sydd yn arwain y mudiad cenedlaethol cymreig ydi ei bod yn rhy "managerial" ei naws, a hynny mewn tirwedd gwleidyddol sydd wedi ei nodweddu'n llwyr gan yr elfen "managerial" hon. "Make a Difference" oedd prif slogan yr ymgyrch, ond y gwir amdani ydi nad oedd y Blaid yn ddigon gwahanol i'r pleidiau eraill. Roedd angen llawer mwy o gythraul wrth gyflwyno gweledigaeth amgen Gymreig yn ystod yr etholiad aeth heibio . Dwi'n anghtuno'n llwyr a dy bwynt di am IWJ. Falle ei fod o wedi perfformio'n dda ar y teli, ond fel y dangosodd perfformiad y Lib Dems, dydi gwneud yn dda ar y teli ddim yn golygu gwneud yn dda yn y blychau pleidleisio. Mae IWJ yn sumbol perffaith o'r diwylliant "managerial" hwn sydd wedi llethu'r radicaliaeth gynhenid sydd ynghlwm wrth neges graidd Plaid Cymru. Y gwir amdani ydi bod dirfawr angen persenoliaeth fawr ar genedlaetholdeb Cymreig yn ystod y blynyddoedd nesaf yn wyneb symudiad pincer y canoli Prydeinig cyfryngol a'r coloneiddio parhaus sy'n digwydd o dan ein trwynau. Thal hi ddim parhau i fod yn "managerial" yn wyneb y bygythiad deuol hwn.

Cai Larsen said...

Aled - 'dwi'n cytuno efo llawer o hyn.

Cyn i'r blog yma gael ei wthio i brif lif gwleidyddiaeth y Blaid gan obsesiwn LlG (ac elfennau o'r wasg) am yr hyn mae'r blog yn ei leisio, roedd ethos rheolaethol y Blaid yn darged yma o bryd i'w gilydd.

Hwyrach y dyliwn fynd yn ol i'r tir yna ambell waith.