Thursday, July 30, 2009

Paradocs anffodus ariannu ysgolion yng Nghymru


Yn ol ffigyrau sydd wedi eu rhyddhau gan y Cynulliad yn ddiweddar ceir gwahaniaeth arwyddocaol rhwng gwariant ar addysg gan gwahanol gynghorau Cymru.

Yr awdurdod sy’n gwario’r lleiaf ar addysg uwchradd ydi Powys, sy’n gwario £3,692 y plentyn. Ar y pegwn arall mae Ceredigion yn gwario £4,864 y plentyn. Mae’r amrediad felly yn £1,172 y plentyn. Mae’r gwahaniaeth yma’n syfrdanol. O gymharu dwy ysgol o 1,000 o blant ceir gwahaniaeth yn eu cyllidebau o £1,172,000. Mae hyn yn creu gwahaniaeth cwbl anerbyniol yng ngallu’r ddwy ysgol (ddamcaniaethol) i gyflogi staff dysgu a chymorthyddion yn ogystal phrynu adnoddau, gwasanaethau ac ati.

‘Dydi’r sefyllfa yn y sector gynradd ddim cyn waethed – ond mae’r bwlch eto’n fawr. Caerffili ydi’r awdurdod sy’n gwario leiaf - £2,901 y pen, tra bod Ceredigion (eto) sy’n gwario fwyaf - £3,784. Mae’r amrediad yn £883 y tro hwn – neu £264,300 o wahaniaeth mewn ysgolion o 300. Eto mae’r gwahaniaeth yma’n sylweddol iawn.

Yr eglurhad a geir ydi mai mater i awdurdodau lleol ydi gosod eu blaenoriaethau eu hunain. ‘Dydi hyn ddim yn dderbyniol – sut y gallai fod yn dderbyniol i ysgol mewn un awdurdon fod a miliwn o bunnoedd yn fwy nag un arall? Mae blaenoriaethau’r ysgolion ar y gwaelod yn amlwg yn amhriodol.

‘Rwan yr ateb syml i hyn oll fyddai datganoli cyllid yn uniongyrchol o’r Cynulliad i ysgolion – trefn fwy tebyg i un Lloegr (mae mwy o arian y pen yn cael ei wario ar addysg yn Lloegr gyda llaw). Ond byddai trefn o’r fath yn creu problemau sylfaenol mewn ardaloedd gwledig. Ar hyn o bryd mae fformiwlau cyllido awdurdodau gwledig yn cynnig elfen o warchodaeth i’r ysgolion lleiaf (hy maent yn derbyn mwy o bres y pen nag ysgolion mwy). Y rheswm am hyn ydi bod yr ysgolion hyn yn bwysig yn y siroedd gwledig.

Yng nghyd destun Cymru gyfan byddant yn anhebygol o dderbyn triniaeth mor ffafriol, gan bod ysgolion bach yn llai pwysig o edrych ar bethau o gyd destun Cymru gyfan – mae’r byd yn edrych yn wahanol os ydym yn edrych arno o Gaerdydd yn hytrach nag Aberystwyth. Mae’n dra thebygol y byddai newid o’r math yma yn arwain at gau llawer iawn o’r ysgolion lleiaf.
Esiampl o ddileu un anghyfiawnder dim ond i greu anghyfiawnder arall gwaeth.

3 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Da iawn Cai.
Os ti isio gwneud rhywbeth am yr anghyfiawnder, yna ymuna gyda Llais Gwynedd, yr unig Blaid sydd yn gwneud safiad dros ysgolion yng Ngwynedd.

menaiblog said...

Fi fyddai'r cyntaf i ddweud bod angen mwy o bres ar ysgolion yng Ngwynedd - ond mae'r gwariant y pen yma'n cymharu'n dda efo'r cymedr cymreig - yn arbennig felly yn y sector uwchradd.

Anonymous said...

I am rеgular vіsitoг, hοw are уou everybody?
Thіs pаragraph posted at thiѕ site is truly pleasant.
my webpage :: 1 month loan