Tuesday, August 04, 2009

Datganiad i'r Wasg Llais Gwynedd

Newydd weld y datganiad hwn i'r wasg ar flog Gwilym Euros Roberts.

I roi mymryn o gefndir cyn cychwyn. Yn sgil cwymp disymwth cynllun ail strwythuro ysgolion diwethaf Cyngor Gwynedd, aethwyd ati i edrych ar bethau o'r newydd, ond mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Yn gyntaf penderfynwyd peidio a rhoi cynllun strategol sir gyfan yn ei le, ond edrych ar pob dalgylch yn unigol ac yn ei dro.



Yn ail ceiswyd adeiladu cymaint o gonsensws a phosibl trwy ymgynghori yn ehangach, a thrwy drosglwyddo llawer o'r cyfrifoldeb am y broses i weithgor traws bleidiol.

Cafwyd cefnogaeth unfrydol i'r cynllun, a sefydlwyd panel aml bleidiol i ymgymryd a'r broses. Y Cynghorydd Seimon Glyn oedd cynrychiolydd Llais Gwynedd ar y gweithgor hwnnw.

Bellach - wedi ystyried un dalgylch yn unig - Bro Dysynni yn Ne Meirion, mae Llais Gwynedd wedi dod a'u cefnogaeth i'r broses i ben, a bydd Seimon Glyn yn ildio ei le ar y gweithgor. 'Dydi hyn ddim yn syndod enfawr i neb - roedd ymdeimlad ers tro bod Llais Gwynedd yn amheus iawn o'r broses, tra'n dal yn ffurfiol yn ei chefnogi. Mae'n debyg bod sefyllfa o'r fath yn anghynaladwy. Mae'n anffodus bod Seimon yn gorfod gadael y gweithgor - bu'n gyfaill cyson a chydwybodol i ysgolion bach ers talwm - ymhell, bell cyn bod neb wedi ystyried bod cymryd cwrs felly yn ffordd o adeiladu gyrfa wleidyddol - ond dyna fo - mae'n debyg bod y llwybr yma'n anhepgor.

Cyn mynd ymlaen, mae un peth ynglyn a'r datganiad yn fy mhoeni - ceir honiad i swyddogion ddatgan yn ystod yr ymgynghoriad yn Nysynni bod 25 ysgol ar restr cau (gudd am wn i). Mae Gwilym wedi gwneud honiad digon tebyg ar ei flog eisoes, ond gan roi enw swyddog yn yr achos hwnnw. Mi adawais y mater ar y pryd gan dybio mai camgymeriad arall oedd y tu ol i'r haeriad.

'Rwan, fedra i ddim deall pam y byddai swyddogion yn gwneud datganiad o'r fath - byddai dweud hyn - neu rhywbeth tebyg - yn tanseilio'r broses yn llwyr o'r cychwyn ac yn chwalu ei hygrededd yn gyfangwbl - ac mae pawb sy'n agos at y broses yn deall hynny'n iawn. 'Dwi heb fod yn rhan o'r broses yn Nysynni wrth gwrs - ac felly 'dwi heb fynychu unrhyw gyfarfodydd - ond byddwn yn rhyfeddu - yn rhyfeddu petai hyn yn wir.

Ta waeth am hynny - mae gen i air o gyngor i Lais Gwynedd, a phawb sydd eisiau gweld dyfodol i ysgolion bach yng Ngwynedd a thu hwnt. Mae fy sylwadau yn cael eu cynnig mewn ysbryd adeiladol, gobeithio y cant eu cymryd yn yr ysbryd hwnnw.

'Mae'r cynllun ail strwythuro bellach wedi ei oddiweddyd gan argyfwng ariannol sy'n sicr o effeithio ar pob awdurdod lleol tros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Bydd cynghorau yn derbyn toriadau cyson a difrifol yn y cyllid maent yn ei dderbyn gan y Cynulliad tros y blynyddoedd nesaf.

Mae dau reswm am hyn - toriadau y bydd rhaid i lywodraeth San Steffan eu gwneud yn y grant a roddir i'r Cynulliad yn sgil y llanast ariannol mae'r DU yn cael ei hun ynddo, a phroblemau yn strwythur fformiwla Barnett - y Barnett Squeeze bondigrybwyll - sy'n debygol o leihau'r arian sy'n cael ei ddatganoli i Gymru o tua £8.5 biliwn - tros y ddegawd nesaf. Mae hyn yn gyfystyr a £2,900 am pob person sy'n byw yn y wlad.

Mewn amgylchedd cyllidol fel hyn ni fydd cael y Cynulliad i sefydlu rhagdybiaeh i beidio a chau ysgolion yn gwneud iot o wahaniaeth. Ceir rhagdybiaeth tebyg yng Ngogledd Iwerddon - ond mae'r Gweinidog Addysg yno - Catriona Ruane yn arwyddo'r papurau i gau ysgolion yn syrffedus o aml - Newtownbreda Primary, Maghera High School, St Colmcille’s Primary, Benburb Primary eleni er enghraifft. Mae'r ddemograffeg yng Ngogledd Iwerddon yn llawer cryfach nag yw yng Ngwynedd.

Mae'n dra phosibl y bydd toriadau cyllidol yn arwain at gau ysgolion yng Ngwynedd a thu hwnt - ailstrwythuro ysgolion neu beidio - sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau neu beidio - oherwydd na fydd llywodraethwyr yn gallu fforddio i'w cadw nhw'n agored. Hyd y gwn i dim ond Plaid Cymru sy'n ymgyrchu i ddiwigio Barnett mewn modd fydd yn sicrhau bod Cymru'n cael ei hariannu'n deg. Efallai fy mod yn gwneud cam a nhw, ond dydw i ddim yn cofio i mi glywed gair o gefnogaeth i'r ymdrech yma gan y Blaid o gyfeiriad Llais Gwynedd.

Felly - ar pob cyfri ymgyrchwch i gael rhagdybiaeth i beidio a chau, ymgyrchwch yn erbyn yr egwyddor o ail strwythuro - ond os nad ydi'r amgylchiadau cyllidol priodol yn bodoli wnaiff hyn ddim cadw ysgolion bach yn agored mae gen i ofn - a dim ond Plaid Cymru sy'n ceisio gwneud rhywbeth am hynny ar hyn o bryd.

11 comments:

Anonymous said...

http://www.electoralcommission.org.uk/party-finance/database-of-registers/statements-of-account

Llais Gwynedd heb gofrestru incwm.

menaiblog said...

'Dwi ddim yn siwr o'r rheolau - ond byddwn yn tybio bod angen cynhyrchu incwm o fwy na hyn a hyn cyn bod rhaid cofrestru.

Fyddwn i ddim yn dychmygu bod LlG mewn sefyllfa i gynhyrchu llawer a dweud y gwir.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai,
Ti'n iawn i ddweud os yw'r sylwadau yma'n gywir, yna mae hynny'n tanseilio'r holl broses. Fel aelod o Bwyllgor Craffu Plant a Phobol ifanc y Cyngor gallai ddychmygu mae'n debyg y byddai hynny yn dy bryder i ti.
Mae yna dystion i'r hyn gafodd ei ddweud yn y Pwyllgor hwnnw...DOEDDWN I DDIM YNO...serch hynny does gennyf ddim lle i amau gair yr unigolion yma, ac nac ydi nid ydyn't i gyd yn aelodau Llais Gwynedd ac does ganddyn nhw ddim agenda wleidyddol, jyst isio'r addysg gorau i blant Bro Dysynni mae nhw.
Dwi'n gofyn i ti ac eraill felly sydd a lles ac addysg plant mewn golwg i ymuno a ni a gifyn am roi'r gorau i'r sham yma sydd yn sarhad ar athrawon, rhieni a llywodraethwyr gan fod agenda gydd y swyddogion wedi gael ei rhyddhau yn y cyfarfod yma. Mae Liz Saville Roberts, Cynghorydd mae gennyf feddwl ohoni wedi dweud fod angen trafodaeth aeddfed ar y mater yma. Dwi yn cytuno a chlodfori hynny ond mae hefyd angen trafodaeth agored heb agenda's cydd ac dyna mwy na dim sydd wedi arwain at y cyhoeddiad yma ac fel tithau mae hynny yn fy siomi i ond serch hynny mae o hefyd wedi miniogi'r penderfyniad i fynnu gwell i'n plant ni ac i'n cymunedau, nid yn unig gan Gyngor Gwynedd ond hefyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Gyda llaw ANON, ar fater cyfrifon Llais Gwynedd, does dim stori yma fel trysorydd newydd Llais Gwynedd gallaf eich sicrhau fod y Comisiwn Etholiadol yn fodlon gyda'n cyfrifon er fod problemau wedi bod wrth eu cyflwyno. Gallaf hefyd gadarnhau fel mae Cai wedi son, nad ydw i mor brysur a thrysorydd Plaid Cymru ;-))

Shadrach said...

Llais Gwynedd ydy'r cachwrs mwya, a mae pobol Gwynedd yn dechrau gweld trwyddu nhw. Mae nhw'n gwbwl anghyfrifol.

Shadrach said...

Llais Gwynedd ydy'r cachwrs mwya, a mae pobol Gwynedd yn dechrau gweld trwyddu nhw. Mae nhw'n gwbwl anghyfrifol.

menaiblog said...

Mae gen i ofn na alla i gredu i'r sylwadau yna gael eu gwneud - fedra i jyst ddim - mi fyddai goblygiadau'r peth yn rhy bell gyrhaeddol.

Ti'n dweud na wnest ti glywed y sylwadau dy hun - mi fyddwn i'n bod yn ofalus iawn cyn ailadrodd y sylwadau honedig, heb son am eu gwneud yn sail tros u bedol polisi - heb fod yn 100% saff o fy mhethau.

'Dwi'n cymryd fod cofnodion o'r cyfarfod wedi eu cymryd - felly mater bach fyddai gwirio pethau - y naill ffordd neu'r llall.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

digon teg, ac dwi'n cytuno a thi ond mi roedd Seimon Glyn a Louise Hughes yno gan gynnwys amryw o athrawon swyddogion a rhieni ac llywodraethwyr.
Hyd y gwn i tydi'r swyddog waneth y sylw ddimwedi gwadu gwneud y sylw hynny ac fel dwi'n dweud mae tystion i'r hyn a ddywedwyd ac bydd os bydd cofnodion a cofnod o'r cyfarfod hwnnw byddai rhwyn yn disgwyl y bydai'r sylw o'r fath wedi ei nodi ac o bosib ar y tap os recordwyd y cyfarfod.
Ar fater o tro u pedol ar bolisi, does dim, bod yn gyson yr ydym ni ac i fod yn deg mi rhoddwyd pob chwarae teg i'r broses hyd at y datganiad yma gan y swyddog.
Gwyddost yn iawn y gwaith mae Seimon wedi ei wneud ar y mater yma ac nid ar chwarae bach mae o na ni yn cefnu ar y broses fel ac y mai.

menaiblog said...

Fedra i ddim credu'r stori mae gen i ofn.

Mae rhywun neu'i gilydd yn sglefrio ar rew tenau yn y fan yma 'dwi'n credu.

Dyfrig said...

Fel yr ydw i wedi ei ddweud ar flog Gwilym Euros, dyw sylwadau (honedig) y swyddog ddim yn ddigon o reswm i beidio a chyfrannu at y broses o ad-drefnu addysg gynradd. Aelodau Etholedig y Cyngor sydd yn gwneud y penderfyniad i gau ysgol, nid swyddogion. Drwy gymeryd rhan yn y broses ymgynghori, mae'r aelodau yn gallu dylanwadu ar y nifer o ysgolion a fydd yn cau. Drwy dynnu nol o'r broses ymgynghori, mae Llais Gwynedd yn sicrhau na fydd llais eu cefnogwyr hwy yn cael eu glywed.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig - Nid drwy'r broses hon mae'n unig mae sicrhau fod llais pobl sydd am warchod ysgolion bychan yng Ngwynedd yn cael ei chlywed.
Does bellach dim hygrededd i'r broses fel ac y mae'n sefyll, chwbwl ydi hi bellach ydi'r hen gynlluniau yn cael eiu gweithredu ar lefel dalgylchol.
Mae angen rhoi'r gorau iddi a dechrau eto.
Byddwn yn gwneud cynnigion o'r newydd maes o law.
Gyda llaw nid jyst cefnogwyr Llais Gwynedd sydd yn bryderus am yr ad-drefnu yma, mae cefnogwyr pob Plaid, gan gynwnnwys Plaid Cymru yn hynod siomedig ac yn ddrwg dybus iawn efo be sydd yn digwydd.
Dwi hefyd wedi ymateb i dy sylwadau ar fy mlog innau.

Anonymous said...

Beth am y newid sydd wedi bod i'r cynllun ma--ardal Eifionydd wedi'i symud 0 2012 i 2010 a gwaeth fyth gadael i ni wybod ar ddiwrnod ola'r tymor--DREWI Cai!!