Wednesday, July 22, 2009

Baniwch y bom (strategol o leiaf)

Pan oedd y ganrif a'r mileniwm newydd ar droi ddegawd yn ol, roedd yna lawer o ddelweddau oedd i fod yn rhai eiconig oedd yn nodweddu'r ganrif oedd ar fin marw yn ymddangos yn y wasg - lluniau Andy Warhole. car mini, ffotograffau du a gwyn o Joe diMaggio ac ati. I mi ffotograff o B52 sydd fwyaf addas i gyfleu'r ganrif ddiwethaf.



'Dydw i ddim yn ystyried fy hun heddychwr fel y cyfryw - 'dwi'n derbyn bod rhaid i wladwriaethau, cymunedau ac unigolion amddiffyn eu hunain weithiau. Wedi dweud hynny bydd darllenwyr cyson blogmenai yn gwybod nad oes gen i lawer o amynedd efo'r rheiny sy'n meddwl bod rhyfela yn ffordd effeithiol o wireddu amcanion gwleidyddol.

Edrych ar un agwedd cwbl anerbyniol ar ryfela ydi bwriad y blogiad yma fodd bynnag - bomio strategol - agwedd ar ryfela sydd yn nodweddu'r ganrif ddiwethaf yn anad dim arall. Mae lladd sifiliaid mor hen a rhyfel wrth gwrs - ond llofruddio sifiliaid ar raddfa diwydiannol ydi bomio strategol.

Rydym yn reddfol am wn i yn tueddu i wahanu bomiau i ddau gategori - bomiau niwclear a rhai confensiynol. Mae hyn yn ddigon naturiol ar un olwg oherwydd y gwahaniaeth sylweddol ym mhotensial distrywgar y ddau fath o arf. Ond i mi mae'n fwy rhesymegol i edrych ar fwriad y weithred o fomio ei hun yn hytrach na natur y bomiau a ddefnyddir. Os ydym yn edrych ar bethau yn y goleuni yma gallwn gategorio mewn ffordd ychydig yn wahanol - bomio strategol a bomio tactegol.

Y gwahaniaeth yn syml ydi mai ymysod ar dargedau milwrol ydi bwriad bomio tactegol, tra mai difa adnoddau, cyfleusterau, adeiladau, is strwythurau ac ati a ddefnyddir gan sifiliaid ydi bomio strategol. Weithiau bydd bomio strategol yn ymgais fwriadol i lofruddio cymaint a phosibl o sifiliaid fel yn achos Hiroshima neu Dresden er enghraifft - ond nid lladd sifiliaid ydi'r brif amcan gan amlaf - mae'r sifiliaid yn marw oherwydd eu bod yn gwneud defnydd o is strwythurau a chyfleusterau sifilaidd pan mae gelynion eu gwladwriaeth yn ceisio difa'r is strwythurau a chyfleusterau hynny.



Cyn mynd ymlaen, cip bach ar hanes yr arfer. Mae'n debyg mai'r esiampl cyntaf oedd gollwng 5 bom ar Gare L'Est ym Mharis yn 1914 ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymhen ychydig roedd y ddwy ochr yn bomio milwyr ei gilydd bymtheg y dwsin, a chafwyd rhai ymysodiadau ar ddinasoedd ac ati. Lladdwyd rhai canoedd o sifiliaid yn Lloegr o ganlyniad i ymysodiadau Zeppelin. Fe laddwyd nifer o Almaenwyr hefyd.

Ni ddylai fod o syndod i neb i'r Ymerodraeth Brydeinig barhau efo'r arfer wedi'r rhyfel. 'Roedd yr unig brif weinidog o Gymro, David Lloyd George yn hoff iawn o fomio strategol. Yn ystod ei gyfnod fel prif weinidog o 1916 i 1922 roedd y Llu Awyr Prydeinig yn gyfrifol am fomio strategol yn Irac, Iran, Yr Aifft ac Afghanistan. 'Roedd Lloyd George wedi bod o blaid y math yma o beth trwy ei yrfa - hyd yn oed pan roedd rhaid saethu'r bomiau o ganon pan nad oedd awerynnau i wneud y gwaith - fel mae'r dyfyniad enwog yma ganddo o 1902 yn ei ddangos - Britain reserves the right to bomb niggers. Meddyliwch am honna y tro nesaf rydych yn cerdded heibio'r cerflun ar y maes yng Nghaernarfon.





Cafodd y Llu Awyr Prydeinig gryn lwyddiant wrth ymarfer y dechneg yn Irac yn ystod y cyfnod, o dan arweinyddiaeth Bomber Harris wrth ymosod ar bentrefi Cwrdaidd ac Iraci efo bomiau confensiynol a nwy. Fel y dywedodd Harris - The Arab and Kurd now know what real bombing means, in casualties and damage. They know that within 45 minutes a full-sized village can be practically wiped out and a third of its inhabitants killed or injured. Roedd y bomio hwn yn hynod lwyddiannus o ran gwireddu amcanion y llywodraeth.

Llai llwyddiannus ond mwy adnabyddus oedd ymysodiadau Llu Awyr yr Almaen ar Guernica yng Ggwlad y Basg ac ymysodiad Llu Awyr Siapan yn Guangzhou, China.



Y bomio strategol mae'r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd a fo ydi'r hyn a ddigwyddodd yn yr Ail Ryfel Byd. Wna i ddim aros efo hyn ag eithrio i nodi iddo arwain at farwolaeth hyd at 61,000 0 sifiliaid Prydeinig, 500,000 o sifiliaid yn Japan a 600,000 yn yr Almaen. Os oes rhywun a diddordeb, ceir yr hanes yn llawn yma.

Y tueddiad am wn i ydi i feddwl am yr Ail Ryfel Byd fel penllanw'r arfer - ond yn rhyfedd iawn lladdwyd llawer, llawer mwy o bobl o ganlyniad i fomio strategol yn y degawdau yn dilyn y rhyfel. Er enghraifft cafodd mwy na 50% o ddeunaw dinas yng Ngogledd Korea eu difa yn ystod rhyfel yr Americanwyr yn y wlad honno (1950 - 1953). 'Dydi hi ddim yn glir faint o bobl a laddwyd o ganlyniad i'r bomio, ond credir i rhwng 1,500,000 a 3,000,000 o sifiliaid farw yn ystod y rhyfel - nid bomio strategol a laddodd y cwbl wrth gwrs - ond roedd yn gydadran arwyddocaol.

Mae'n debyg i hyd at 4,000,000 o sifiliaid farw yn rhyfel Vietnam (1959 - 1975). Eto nid yw'n glir faint fu farw o ganlyniad i fomio strategol - ond roedd bomio strategol yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn, iawn yn ystod y rhyfel yma.



Ail ryfel Irac ydi'r esiampl diweddar mwyaf adnabyddus o fomio strategol - a bu farw llawer o sifiliaid o ganlyniad i fomio - ond nid oedd pethau ar raddfa tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Vietnam a Korea. Mae'r blog yma eisoes wedi edrych ar rhai o'r delweddau anymunol oedd yn gysylltiedig ag ymysodiadau Llu Awyr Israel ar Lain Gaza a chafwyd bomio strategol a arweiniodd at farwolaethau sifiliaid yn ddiweddar yn Ne Osetia.



'Rwan, fel y dywedais ar y cychwyn 'dwi ddim yn heddychwr, er nad ydw i'n hoffi rhyfeloedd, ond mae'n ymddangos i mi bod ymgyrchoedd heddychwyr yn methu am un o ddau reswm - naill ai am eu bod yn rhy gyffredinol - eisiau atal rhyfel yn ei gyfanrwydd - tasg amhosibl, mae rhyfel yn rhan o'r cyflwr dynol - neu am eu bod yn canolbwyntio ar amcanion penodol ond amhosibl, neu o leiaf hynod anhebygol - diarfogi niwclear er enghraifft.

Byddwn yn tybio y byddai'n well canolbwyntio ar adeiladu ar yr hyn sydd ar gael eisoes. Mae Pedwerydd Confensiwn Geneva eisoes yn amddiffyn sifiliaid oddi wrth milwyr gwladwriaeth sydd wedi goresgyn eu gwlad, neu'r rhan o'r wlad maent yn digwydd byw ynddi. Petai'r Confensiwn yn cael ei ymestyn i wahardd gwledydd rhag ymosod ar gyfleusterau ac is strwythurau sifilaidd pan nad oes milwyr yn eu defnyddio, a phetai arweinwyr gwladwriaethau a byddinoedd sy'n torri'r Confensiwn yn cael eu hunain o flaen eu gwell yn yr Hague , byddai peryglon rhyfeloedd i sifiliaid yn llawer, llawer llai.

Byddai'r peryglon i filwyr yn llai hefyd - byddai rhyfeloedd yn anos o lawer i'w hennill os na fyddai'n bosibl ymosod ar gyfleusterau sifilaidd, a byddai gwladwriaethau'n llai parod i fynd i ryfel ar chwarae bach. Byddent yn cael eu gorfodi i wneud y peth call - trafod a chymodi.

No comments: