Thursday, April 02, 2009

Y blogwyr a Chyngor Gwynedd

Hmm - yn ol blog answyddogol Dyfrig Jones, mae blogiau megis blogmenai, blog Gwilym Euros ei flog ei hun a blog Hen Rech Flin yn cynnig cip llawnach ar wleidyddiaeth Gwynedd na'r cyfryngau prif lif - llawnach ond mwy 'unochrog'.


Mae gen i ofn nad ydw i'n cytuno 100%. Yn amlwg mae blogmenai yn gofnod cwbl wrthrychol, dibynadwy a rhesymegol o wleidyddiaeth Gwynedd - ac yn wir gwleidyddiaeth yn gyffredinol. Ar y llaw arall mae blogiau Gwilym ac Alwyn yn ddwy sosban sy'n llawn o lob sgows rhagfarnllyd, unochrog ac un llygeidiog sy'n cael eu cynhyrchu gan bobl sy'n estroniaid llwyr i resymeg. Mae yna fwy o rwdins yn lob sgows Gwilym, mwy o gennin yn un Alwyn. Mae'r blog answyddogol rhywle rhwng yr eithafion yma - yn nes o dipyn at flogmenai reit siwr.


Ceir esiampl o'r diffyg rhesymeg sylfaenol rwyf yn siarad amdano yma. I dorri stori hir iawn yn fyr iawn, ymateb a geir gan Gwilym i ffrae rhyngddo fo a'r cyn gynghorydd Plaid Cymru, Maldwyn Lewis sy'n cael ei chynnal yn y Caernarfon & Denbigh.


Hanfod y ffrae ydi bod Maldwyn yn honni bod cynghorwyr Llais Gwynedd yn dadlau yn siambr y cyngor mewn modd ymysodol a phersonol tra bod Gwilym yn anghytuno'n gryf. Wna i ddim cymryd ochr na gwneud sylw ynglyn a'r ddadl ei hun, gan nad wyf yn mynychu'r cyngor yn aml iawn - ag eithrio i nodi fy mod wedi clywed yr honiad yn cael ei wneud sawl gwaith o'r blaen.


Beth bynnag, mae pethau wedi mynd yn fler - mor fler nes bod Maldwyn wedi dechrau cyfeirio at Gwilym fel Euros, ac mae Gwilym wedi dechrau hefru am y peth ar ei flog. Ond yr hyn sydd mymryn yn ddi reswm ydi bod blog Gwilym yn dadlau nad ydi Llais Gwynedd yn dadlau yn bersonol ac yn ymysodol trwy gyfeirio at Maldwyn fel little Maldwyn ('dydi Maldwyn yn wir ddim ymhlith y mwyaf o blant Duw), honni ei fod wedi poeri ei ddwmi a'i forthwyl sinc allan o'i bram a chyhoeddi llun ohono ar ffurf babi.

Mae'r holl beth yn gwneud i mi feddwl am stori am rhywun sydd bellach hefyd yn gynghorydd - un a gaiff aros yn ddi enw. Gwyddel ydi'r gwr bonheddig sydd o dan sylw, ac roedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth yn ol yn saith degau'r ganrif ddiwethaf - pan oedd y rhyfel yng ngogledd ei wlad yn ei hanterth. Cafodd ei hun mewn ffrae gyda myfyriwr o Sais ar ben y grisiau yn adeilad Undeb y Myfyrwyr. Roedd y ddau yn feddw gaib. Roedd gan y Sais ddamcaniaeth ddiddorol a rhyddfrydig mai'r rheswm am y rhyfel oedd anian y Gwyddelod - roeddynt yn bobl wyllt a di drefn nad oedd a'r gallu i reoli eu teimladau. Roedd ein cyfaill Gwyddelig yn anghytuno.

Aeth hi'n ffrae, ac aeth pethau o ddrwg i waeth. Wedi tipyn o weiddi, collodd y Gwyddel ei dymer a rhoi dwrn i'r Sais yn ei wyneb. Syrthiodd hwnnw i lawr y grisiau, ac mewn chwinciad roedd yn gorwedd ar wastan ei gefn ar waelod y grisiau. Mewn chwinciad arall roedd y Gwyddel ar waelod y grisiau hefyd yn dawnsio ar wyneb ei wrthwynebedd. Wedi ychydig o neidio i fyny ac i lawr gafaelodd yn sgrepan y Sais, ac yng nghanol y gwaed a'r dannedd mynnodd ei fod yn tynnu ei sylwadau sarhaus am anian y Gwyddel yn eu hol.

No comments: