Wednesday, April 29, 2009

Oes gan y Lib Dems ddiwylliant homoffobig?

Mae Adam Price wedi cael y myll efo'r Lib Dems, fel y gellir gweld yma ac yma.

Mae'n weddol gyffredin i wleidyddion ddechrau ffraeo yn ystod y misoedd sy'n arwain at etholiad - hyd yn oed efo cyd wleidyddion maent wedi cyd dynnu'n iawn efo nhw am flynyddoedd. Mae gweld hyn i gyd yn mynd rhagddo yn hwyl o'r radd eithaf wrth gwrs - hir oes i'r traddodiad. Yr hyn aeth a fy niddordeb i fodd bynnag oedd honiad Adam bod gweithwyr y Lib Dems yng Ngheredigion wedi bod yn cario clecs (cwbl ddi sail fel mae'n digwydd) bod Simon Thomas yn hoyw ac yn llysiewr.

'Dydw i erioed wedi clywed y stori o'r blaen, ond 'dydi hi ddim yn peri llawer o syndod i mi a dweud y gwir - 'dwi'n ddigon hen i gofio is etholiad enwog Bermondsey yn 1983. Hon mae'n debyg oedd yr is etholiad futraf yn hanes modern y DU. Roedd ymgeisydd Llafur, Peter Tatchell yn hoyw, a'i wrthwynebydd Rhyddfrydol Simon Hughes a elwodd o hynny. Cafodd pamffled (di enw) ei ddosbarthu ar ddiwedd yr ymgyrch gyda'r pennawd - Which Queen Will You Vote For? gyda llun o Thatchell (merchetaidd iawn yr olwg) ochr yn ochr a'r frenhines - roedd Tatchell yn wereniaethwr. 'Roedd graffiti gwrth hoyw ar hyd a lled yr etholaeth ac roedd canfaswyr gwrywaidd y Lib Dems yn gwisgo bathodynnau I have been kissed by Peter Tatchell, neu I haven't been kissed by Peter Tatchell.. Cafodd Tatchell ei fygwth yn fynych a chafodd hefyd fwled trwy'r post.

Enillwyd yr is etholiad gan Simon Hughes ar ran y Rhyddfrydwyr (fel roeddem yn eu galw bryd hynny) gyda gogwydd anferthol o 44%. Yn eironig mae Simon Hughes ei hun yn gyfyng rywiol, wedi cael perthnasau rhywiol gyda phobl o'r ddau ryw ac yn ddefnyddiwr gwasanaeth sgwrsio hoyw o'r enw Man Talk. Ond ta waeth, ni ddaeth hynny i'r amlwg ar y pryd, tra bod rhywioldeb Peter Tatchell wedi ei droi yn brif fater trafodaeth yr ymgyrch.



Simon Hughes

Felly ydi'r Lib Dems yn blaid wrth hoyw? Ddim yn fy marn i - plaid wag a di sylwedd ydyw sydd yn aneglur o ran ideoleg sylfaenol a sydd, y rhan fwyaf o'r amser, yn weddol ddi gyfeiriad. Pan nad oes gan blaid gwmpawd sy'n rhoi cyfeiriad iddi nag ideoleg i roi balast iddi nid yw'n gallu gwleidydda ar sail polisi nag ar sail syniadau. Mae ei hymgyrchu yn troi at pob math o fan faterion dibwys - rhai sydd weithiau yn ymwneud a phersenoliaeth a thueddiadau eu gwrhwynewyr. Dyna pam bod rhywioldeb ymgeiswyr weithiau'n cael ei droi'n fater etholiadol, a dyna pam mae'r Lib Dems yn blaid bach mor anymunol. Nid homoffobia ydi'r broblem - y gwacter ystyr yng nghalon y blaid sy'n creu'r gwenwyn.

2 comments:

Anonymous said...

Mae cof Adam yn hollol gywir. Fe fu cryn dipyn o sylw i glyst dlws Simon Thomas (pa fath o ddyn fydda'n gwisgo'r fath beth oedd yr awgrym)ac yr oedd yr honiadau am ei ddiffyg gwerthfawrogiad o gig yn ddigon i'w orfodi i fwyta brecwast llawn yng Ngwesty'r Marine a hynny yng ngwydd y cyfryngau.

O ystyried y fath aberth (brecwast y Marine) y mae'n anodd peidio cydymdeimlo gyda Simon wrth ystyried pa mor aniolchgar fu etholwyr Ceredigion chwe mlynedd yn ddiweddarach.

Cai Larsen said...

A y Marine - pan oeddwn i yn y coleg yn Aber yn oes yr arth a'r blaidd roeddem yn arfer eistedd wrth y ffenest gyda'r nos yn betio ar faint o'r gloch yn union y byddai'r haul yn gorffen machlud.