Sunday, April 19, 2009

Gwers o Iwerddon ynglyn a'r rhagolygon i Lafur yn 2010

Ymddiheuriadau am fy absenoldeb cymharol faith - wedi bod yng Ngorllewin Iwerddon am wythnos.

Yr hyn sydd yn taro ymwelydd diweddar a'r Weriniaeth ydi pam mor ofnadwy o ddrud ydi pob dim yno ers i Gordon Brown anfon y bunt i lawr yr un lon a dolar Zimbabwe.

'Rwan, mae pawb yn gwybod am wn i mai camp fawr Llafur Newydd oedd cael elfennau sylweddol o'r dosbarthiadau canol i bleidleisio trostynt yn 1997, a chadw llawer o'r bleidlais honno yn 2001 a 2005. Mae pawb hefyd yn gwybod bod pobl yn fodlon pleidleisio i'r llywodraeth pan maent yn teimlo'n hapus ac yn gyfoethog. Tybed beth wnaiff y Llafurwyr 'newydd' dosbarth canol yma pan maent yn mynd i Ffrainc a Sbaen yn ystod yr haf yma, a darganfod eu bod yn dlotach o lawer na'r Sbaenwyr a'r Ffrancwyr ac na allant fforddio ychydig o Dapas a gwydriaid o win?

Tra rydym ar y thema o'r bleidlais Lafur, mae'r papurau newydd yn wirioneddol erchyll iddynt fory gyda storiau am Smeargate yn ymestyn yr holl ffordd i arweinyddiaeth y blaid tra bod y polau yn rhoi eu pleidlais debygol cyn ised ag y bu ers y rhan gorau o ganrif.

No comments: