Wednesday, April 22, 2009

Etholiadau Ewrop rhan 1 - Iwerddon

'Dwi wedi addo yn y gorffennol agos i geisio darogan canlyniadau etholiadau Ewrop yn Iwerddon a gwledydd Prydain - a 'dwi'n mynd i wneud hynny hyd yn oed os nad oes gennych y mymryn lleiaf o ddiddordeb y bygars - felly dyma ddechrau efo Iwerddon.

Yn gwahanol i Brydain dau amrywiaeth ychydig yn gwahanol o gyfundrefn bleidlesio STV a geir yng Ngogledd Iwerddon a'r Werinieth. Y DUP a Sinn Fein ydi pleidiau mawr y Gogledd ac maent yn debygol o berfformio'n gryf eto'r tro hwn. Bydd plaid gryfaf y Weriniaeth - Fianna Fail yn wynebu etholiadau anodd gan bod eu cefnogaeth wedi cwympo'n sylweddol tros y misoedd diwethaf yn sgil y dirwasgiad. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn etholiadau Ewrop.

Dublin - Roedd pedair sedd yma y tro o'r blaen (FG, FF, Llafur, SF) ond mae'r nifer wedi syrthio i dri - yr unig newid yn y Weriniaeth. Mae'n sicr y bydd un ymgeisydd Fine Gael (Mitchell) ac un Llafur (De Rossa) yn cael eu hethol. Hyd yn ddiweddar byddai dyn hefyd yn meddwl bod sedd Fianna Fail (Ryan) yn gwbl ddiogel ac y byddai Sinn Fein yn colli eu sedd - nhw gafodd y bedwerydd sedd o'r blaen ac roedd eu perfformiad yn y brif ddinas yn wael, tra bod un FF yn dda iawn. Serch hynny mae dau beth wedi digwydd ers hynny - refferendwm Lisbon a chwymp trychinebus FF yn y polau. Aelod Ewrop Dulyn, Mary Lou McDonald arweiniodd y Shinners yn y refferendwm - ac roedd yn hynod effeithiol. Mae polau preifat y pleidiau mawr yn awgrymu y bydd yn cael tua 20% o'r pleidleisiau cyntaf. Os bydd yn cael hyn - a'i bod o flaen ymgeisydd cyntaf FF (Ryan) yna bydd yn ennill sedd. 25% sydd ei angen i gael sedd a bydd nifer fawr o bleidleiswyr adain chwith wedi rhoi eu pleidleisiau cyntaf i ymgeiswyr fel Joe Higgins, ond bydd eu hail bleidleisiau yn mynd i MLM. Felly mi fyddwn yn rhoi'r trydydd i SF tros FF - ond heb llawer iawn o hyder. Felly Llafur, FG, SF.

East - Yr unig beth sy'n gwbl sicr yma ydi y bydd FG (McGuinness) yn cael un sedd. Cawsant ddau y tro o'r blaen, oherwydd iddynt ddewis dau ymgeisydd benywaidd cryf iawn -
Mairead McGuinness ac Avril Doyle. 'Dydi Avril Doyle ddim yn sefyll y tro hwn, ac er bod gwynt yn eu hwyliau, bydd yn anodd iddynt ddal dwy sedd. Felly 'dwi'n gweld Llafur (Childers) yn ennill sedd a FF yn dal eu un nhw - er y bydd ymgeisydd cryf gan y blaid newydd adain Dde gwrth Ewropeaidd Libertas yn gryn her i'r sedd honno.

North West - Sedd hynod o anwadal lle mae gwleidyddiaeth daearyddol cyn bwysiced a gwleidyddiaeth pleidiol. Does yna ddim byd yn sicr yma ag eithrio na fydd Llafur yn ennill sedd. 'Dydi'r byd gwledig, ceidwadol yma gydag ardaloedd ffyrnig o genedlaetholgar ddim yn dir naturiol i blaid ryddfrydig fel Llafur. Er nad ydi FG yn arbennig o gryf yn y rhan yma o'r Byd fel rheol, 'dwi'n meddwl y byddant yn dal eu sedd. Mae'r gweddill yn hynod o agored, ond mae pethau wedi eu cymhlethu gan benderfyniad anisgwyl iawn yr aelod FF presenol,
Sean O Neachtain i beidio a sefyll ychydig wythnosau wedi iddo gael ei ail enwebu.

'Iechyd' ydi'r rheswm swyddogol, ond y son ydi bod polau preifat FF yn dangos nad oedd ganddo unrhyw obaith o gwbl o ennill. Mae hyn yn arwyddocaol gan ei fod yn byw yn Galway, sir mwyaf poblog yr ardal o ddigon. Yr unig ymgeisydd arall o Galway ydi arweinydd Libertas Declan Ganley - ac os na fydd FF yn dod o hyd i ymgeisydd cryf (O'Cuiv efallai) o Galway, yna bydd ganddo gyfle da iawn o gael ei ethol.

Bydd y sedd sy'n weddill yn mynd i FF, yr aelod presenol annibynnol Marian Harkin neu Padraig Mac Lochlainn (SF). Bydd yr olaf o'r rhain yn cael mor o bleidleisiau yn Donegal ac ar hyd y ffin, ac mae'n debygol o fod o flaen Harkin a'r ddau ymgeisydd FF ar ol i'r pleidleisiau cyntaf gael eu cyfri. Serch hynny bydd Harkin yn dennu mwy o ail a thrydydd pleidleisiau, a byddwn yn disgwyl iddi gael y trydydd sedd oni bai bod Mac Lochlainn o fewn tafliad carreg i'r cwota o 25% wedi'r cyfri cyntaf. Felly FG, Libertas ac Annibynnol (oni bai bod FF yn cael ymgeisydd cryf o Galway).


South - Yr unig beth sy'n gwbl sicr yma ydi y bydd Brian Crowley (FF) yn cael ei ethol. Mae Crowley, sydd ag anabledd corfforol sylweddol, ymhlith gwleidyddion mwyaf poblogaidd yr ynys. Ni fydd amhoblogrwydd presenol FF yn gwneud llawer o wahaniaeth yma - byddai'n cael ei ethol i bwy bynnag y byddai'n sefyll. Byddwn yn rhoi cryn fet y bydd yn arlywydd y wlad rhyw ddiwrnod. Er bod ymgeiswyr FG yn rhai gwan (Kelly a Burke), mae'n dra thebygol y bydd y naill neu'r llall yn cael ei ethol o dan yr amgylchiadau sydd ohoni. Bydd y sedd olaf rhwng yr aelod annibynnol presenol Kathy Sinott a'r ymgeisydd Llafur (Kelly). Byddwn yn disgwyl i Sinott ddal ei sedd. Felly FF, FG, Annibynnol.

Gogledd Iwerddon -Tair sedd sydd yma, ac mae'n sicr y bydd y ddwy cyntaf yn mynd i Sinn Fein a'r DUP. Byddwn yn disgwyl i SF ddod ar ben y pol gan bod plaid newydd Unoliethol - (TUV) sy'n gwrthwynebu cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn sefyll. Ni fyddant yn ennill sedd - ond mae'n ddigon posibl y byddant yn cael hyd at 20,000 o bleidleisiau. Mae'r trydydd sedd wedi mynd i'r UUP yn ddi eithriad yn y gorffennol - ac mae'n debyg, ond ddim yn sicr y bydd hynny'n digwydd y tro hwn.

Mae'r bleidlais genedlaetholgar wedi bod yn tyfu'n gyflym yn ddiweddar, ac mae'r hollt tair ffordd yn y bleidlais Unoliaethol yn broblem. Er bod STV yn caniatau i bobl bleidleisio i gymaint o ymgeiswyr ag y mynant, mae'n llai effeithiol na hollt dwy ffordd. Felly mae'n bosibl i'r SDLP gael y sedd er bod y bleidlais unoliaethol yn uwch na'r un genedlaetholgar. Mae'n debyg y bydd gweriniaethwr eithafol yn sefyll hefyd, ond ni fydd yn cael digon o bleidleisiau i wneud gwahaniaeth. Felly 'dwi'n darogan SF, DUP, UUP - ond mae yna bosibilrwydd gwirioneddol y bydd dau genedlaetholwr yn cael ei ethol am y tro cyntaf erioed.

Felly'r cyfanswm tros y wlad fydd:

FF - 2 (4 ar hyn o bryd)
FG - 4 (5)
Llafur - 2 (1)
SF - 2 (2)
DUP - 1 (1)
UUP - 1 (1)
Annibynnol - 2 (2)
Libertas - 1 (0)

Mi fyddwn yn edrych ar Loegr y tro nesaf.

No comments: