'Roedd hi'n ddiddorol gweld Tecwyn Thomas ar ddarllediad S4C o'r gynhadledd Lafur yn darogan y byddai Llafur yn ennill o leiaf ddwy sedd yng Nghymru, a'i fod yn gobeithio ychwanegu trydydd.
'Rwan mae'n anodd darogan yn union pa ganran y byddai Llafur ei hangen i ennill tair sedd, gan bod pob dim yn ddibynol ar sut mae pob plaid yn ei wneud - ond mae'n rhesymol nodi y byddai'n rhaid iddynt gael tua 60% o'r bleidlais. 32.5% a gafodd Llafur yn yr etholiadau Ewrop diwethaf yn 2004. Felly mae'n debyg gen i bod Tecwyn o dan yr argraff y gallai Llafur fod ddwywaith mor boblogaidd heddiw mag oedd bum mlynedd yn ol.
Byddai dyn yn meddwl bod perfformiad Tecwyn ei hun yn yr etholiadau lleol yn ward Seiont yn nhref Caernarfon gwta flwyddyn yn ol wedi rhoi rhyw fath o syniad iddo pa ffordd mae'r gwynt etholiadol yn chwythu.
2 comments:
Wedi darllen y ddau bost arall yn dy gyfres darogan y canlyniadau bu bron imi gael hartan o weld y pennawd yma yn fy ffîds. Roeddwn yn poeni mae dyma fyddai dy ddarogan di.
Drwg yr etholaeth Ewropeaidd Gymreig yw ei fod yn rhy fychan i gael newid yn y canlyniad o dan y drefn ethol sydd ohoni. Yn yr etholaethau sydd efo chwech neu ragor o seddi mae yna frwydr am y seddi olaf. Ond i newid pethau yng Nghymru a gogledd orllewin Lloegr bydd angen symudiad mawr iawn yn y bleidlais cyn bydd newid
Gogledd Ddwyrain Lloegr sydd gyda phoblogaeth (ac ychydig o seddi) bach wrth gwrs.
Mae dy bwynt yn gyffredinol yn ddigon teg - ond efallai y bydd newid y tro hwn - byddwn yn edrych ar Gymru yn ddiweddarach.
Post a Comment