Tuesday, April 28, 2009
Alun Davies i sefyll tros Lafur ym Mlaenau Gwent?
Ymddengys bod y Llafurwr o arddeliad, Alun Davies yn bwriadu rhoi'r gorau i'w sedd ranbarthol yn y Cynulliad er mwyn sefyll tros Lafur ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn benderfyniad rhyfedd.
Mae'n debygol iawn y bydd Llafur wedi cael cweir na welwyd ei thebyg ers dyddiau Michael Foot druan yn 1983. Pan mae sefyllfa felly'n digwydd mae pethau'n tueddu i fynd o ddrwg i waeth am ychydig flynyddoedd gyda moral yn syrthio trwy'r llawr a phobl yn gweld bai ar ei gilydd.
O dan yr amgylchiadau yma mae'n debyg y byddai Llafur yn methu yn eu hymgais i ennill Blaenau Gwent yn ei ol - ac mae'n debyg y byddant hefyd yn methu ennill unrhyw seddi yn y Gorllewin a'r Canolbarth. Byddai hynny'n sicrhau sedd ranbarthol i Alun - hyd yn oed petai'r bleidlais ranbarthol Lafur yn cwympo'n sylweddol. Felly mae'n bwriadu ffeirio sedd saff am un sydd ymhell, bell o fod yn saff. Mi fedrwn ni beidio a chymryd gormod o sylw o'r stwff bod ei galon yn Nhredegar - mae wedi hen adael y lle.
O edrych ar bethau'n rhesymegol mae'n anodd iawn deall beth sy'n mynd ymlaen. Gellir fodd bynnag gael cliw am beth sy'n mynd ymlaen o'r sylwadau hyn - Yng Nghynhadledd y Toriaid yng Nghaerdydd cefais ginio efo Alun, fe ddywedodd mai ei fwriad oedd tynnu llygaid ST (sy'n ei gasau fe ymddengys) oddi ar y LD's. Tybiaf iddo lwyddo.. Gwleidydd Toriaidd eithaf adnabyddus sy'n gwneud y sylwadau - a 'dwi'n ei adnabod yn ddigon da i wybod na fyddai wedi gwneud y sylw oni bai ei fod yn wir.
Felly ymddengys i Alun sefyll yng Ngheredigion tros Lafur yn 2007 nid cymaint er mwyn ennill sedd ei hun, ond er mwyn atal Simon Thomas rhag ennill y sedd. Hynny yw mae ei benderfyniadau gwleidyddol yn cael eu gyrru mwy gan ei deimladau personol tuag at gwahanol unigolion nag unrhyw beth arall. O ddarllen ei sylwadau personol ac anghymhedrol am Trish Law, mae'n hawdd credu nad yw'n or hoff ohoni. Mae ei gyfraniadau emosiynol yn y wasg a'r ffaith ei fod yn cynhyrfu mor hawdd hefyd yn adrodd cyfrolau. Dyna yn ol pob tebyg mae'n sefyll ym Mlaenau Gwent, nid am unrhyw reswm rhesymegol, ond oherwydd ei fod yn casau Trish Law.
Efallai nad gwleidyddiaeth ydi'r priod broffesiwn i unigolion sydd yn seicolegol ddiffygiol.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
Dwi'n hoff o Alun er gwaetha popeth. Fe wnaeth gamgymeriad yn gadael Plaid Cymru. Petai'n fwy pwyllog a mwy goddefol o eraill byddai'n wleidydd mawr iawn.
Mae'r boi yn wleidydd gyrfa o'r math gwaethaf. Gwynt teg ar ei ôl o, uda i.
Ni wn os yw dy ddehongliad yn gywir neu ddim Mr Menai. Serch hynny, o ddarllen y dyfyniad onid ST sy'n casau Alun Davies ac nid y ffordd arall rownd?
Ia - dyna mae'r dyfyniad yn ei ddweud - ond dwi'n credu bod yr awgrym bod y teimlad yn mynd y ddwy ffordd yn eithaf amlwg.
Post a Comment