Saturday, April 04, 2009
Datganoli ac annibyniaeth
Digwydd gweld Cynog Dafis ar y newyddion y diwrnod o'r blaen yn dadlau tros ddadganoli pellach i Gymru ar y sail bod 'pob tystiolaeth' yn awgrymu bod mwy o ddatganoli yn gwneud annibyniaeth yn llai tebygol.
Mi fedraf weld pam ei fod yn cyflwyno'r ddadl yma - mae'n sicr y bydd y gwrth ddatganolwyr yn ceisio troi'r refferendwm yn un sy'n ymwneud ag annibyniaeth a nid datganoli - a bydd yn rhaid sicrhau bod y ddadl yn cael ei hymladd ar sail y cwestiwn fydd ger bron yr etholwyr, ac nid ar sail y cwestiwn yr hoffai Touig, Davies, Kinnock a'u hundeb bach o fradwyr proffesiynol ei drafod.
Serch hynny, dydi dadlau bod 'pob tystiolaeth' yn awgrymu bod datganoli yn cryfhau'r achos unoliaethol ddim yn ffeithiol gywir - ac nid yw'n briodol cyflwyno dadleuon sydd yn _ _ _ wel _ _ _ ddim yn wir. Dylid gadael hynny i Touig et al. Mi'r rydan ni tipyn bach yn well na hynny gobeithio.
'Dwi ddim yn siwr at beth mae Cynog yn ei gyfeirio pan mae'n dweud 'pob tystiolaeth.' Mae'n debyg gen i mai'r hyn sydd ganddo mewn golwg ydi bod y ganran sydd yn dweud wrth gwmniau polio eu bod o blaid annibyniaeth yng Nghymru yn is heddiw nag oedd ddeg mlynedd yn ol. Mae un o'r prif resymau am hyn yn un technegol - mae polwyr heddiw yn cynnig mwy o opsiynau - felly mae'n dilyn bod y nifer sy'n dewis pob opsiwn yn tueddu i fod yn is. Yn yr Alban wrth gwrs, mae'r ganran sy'n honni eu bod o blaid annibyniaeth yn amrywio - ond yn ol un pol piniwn cymharol ddiweddar byddai 50% o Albanwyr o blaid annibyniaeth petai'r Toriaid yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae rhai sefyllfaoedd lle mae datganoli wedi bod yn nodwedd lled barhaol o lywodraethu democrataidd - yr UDA er enghraifft. Ond mae yna sefyllfaoedd eraill lle mae wedi arwain at annibyniaeth. Er enghraifft Awstralia. Dyma'r llinell amser a arweiniodd at annibyniaeth yno:
1885 - ffurfio corff gwan iawn 'cenedlaethol' Federal Council of Australasia.
1898 – 1900 - refferednwms ynglyn a mwy o ddatganoli.
1900 - Y Commonwealth of Australia Constitution Act. Erbyn hyn roedd Awstralia yn nes o lawer at annibyniaeth - ond roedd San Steffan yn parhau a'r hawl i ddeddfu tros Awstralia ac i weithredu ar ei rhan mewn materion tramor.
1927 - Royal and Parliamentary Titles Act 1927. 'Roedd y newid yma'n eithaf sylfaenol ar y pryd, er ei fod yn ymddangos yn fater technegol erbyn hyn. Roedd y brenin yn newid o fod yn frenin Awstralia yn benodol yn hytrach na brenin ar y Gymanwlad yn gyffredinol.
1931 - Statute of Westminster. Roedd hyn i bob pwrpas yn gydnabyddiaeth ffurfiol o annibyniaeth Awstralia gan senedd Prydain.
1986 - Australia Act. Er bod Awstralia wedi bod yn annibynnol i bob pwrpas ymarferol am hanner canrif a mwy, dyma'r ddeddf a arweiniodd at ddileu unrhyw hawl ar ran San Steffan i lunio deddfau sydd yn effeithio ar Awstralia.
'Rwan mae'r patrwm yma o ddatganoli yn arwain at annibyniaeth yn un sydd wedi ei ailadrodd lawer gwaith, mewn llawer o wledydd. 'Dydi bodolaeth y patrwm ddim yn profi na fyddai annibyniaeth wedi ei ennill oni bai am ddatganoli wrth gwrs - ond mae'n sicr yn gwrth brofi'r ddamcaniaeth fod pob tystiolaeth yn dangos nad yw datganoli yn arwain at annibyniaeth.
Mi fydd rhai gwledydd yn ennill eu hannibyniaeth mewn ffyrdd eraill wrth gwrs - trwy ryfela gan amlaf. Dyma ddigwyddodd yn Iwerddon ac Unol Daleithiau'r America er enghraifft. Yr hyn sy'n ddiddorol o ran America oedd bod datganoli eisoes wedi ei ganiatau i'r taleithiau. Yr hyn wnaeth y gwahaniaeth oedd sefydlu'r First Continental Congress yn 1774 - pan ddaeth y taleithiau at ei gilydd am y tro cyntaf. Fel yn achos y Federal Council of Australasia symudodd pethau yn gyflym tuag at annibyniaeth wedyn - ond trwy ddulliau trais y tro hwn.
Mae'r Iwerddon yn gwahanol i'r graddau na chaniatawyd unrhyw ddatganoli (hyd ei bod yn rhy hwyr). Serch hynny roedd y weithred o sefydlu (yn groes i ddymuniadau llywodraeth Prydain y tro hwn wrth gwrs) Dáil Éireann yn 1919 yn gydadran allweddol yn y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at sefydlu'r Wladwriaeth Rydd ym 1922.
Yn fy marn bach i mae datganoli yn tueddu arwain at annibyniaeth pan fod teimlad o arwahanrwydd ac o genedligrwydd yn datblygu. Gall hyn ddeillio o wahaniaethau diwylliannol, pellter daearyddol o'r 'famwlad', neu gyfuniad o'r ddau.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Rhag ofn nad ydych chi'n gwybod, Mae PlaidLive.com nawr yn fyw - ac yn creu stream byw o negeseuon Twitter, lluniau flickr, videos youtube a rhai blogiau gan gynnwys eich blog chi.
Hwyl
Plaid2.0
Diolch gyfaill.
OT
Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw sylwadau neu syniadau:: Pleidiol
Post a Comment