Thursday, April 09, 2009

Pam mor effeithiol ydi gwleidydda ar y We?

Bu cryn son tros y dyddiau diwethaf am oruwchafiaeth Plaid Cymru ar y We o’n cymharu a’r pleidiau unoliaethol – mae hyd yn oed Gwilym Euros yn cydnabod hynny, felly mae’n rhaid ei fod yn wir. Y cwestiwn mwy diddorol efallai ydi pam mor bwysig ydi goruwchafiaeth digidol?

Mae’r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol bod gwleidyddiaeth etholiadol yn sylfaenol syml, a bod deall pam mor syml ydyw mewn gwirionedd yn gam mawr tuag at lwyddiant etholiadol. Yn y bon pedwar cydadran sydd i lwyddiant etholiadol:

(1) Creu naratif gwleidyddol sy’n apelio at garfanau arwyddocaol o etholwyr.
(2) Adnabod y carfanau hynny a’u lleoli.
(3) Cysylltu efo nhw, ac aros mewn cysylltiad efo nhw.
(4) Sicrhau bod y carfanau dan sylw yn pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

Wrth ystyried pam mor ddefnyddiol ydi unrhyw beth o safbwynt etholiadol rhaid gwneud hynny yng nghyd destun yr uchod. Er enghraifft mae llwyth o bres yn amlwg yn ddefnyddiol o safbwynt pob un o’r pedwar cydadran uchod – gall gael ei ddefnyddio i dalu am ymchwilio i’r math o naratif sydd am apelio at niferoedd arwyddocaol o bobl a’u lleoli nhw, gall gael ei ddefnyddio i farchnata’r naratif, a gall gael ei ddefnyddio i dalu am hysbysebion i annog pobl i fynd allan i bleidleisio.

Beth am y We felly? Mae’n amlwg yn ffordd hynod effeithiol o gyfathrebu naratif a gall gael ei ddefnyddio mewn modd sy’n cyfathrebu gyda charfanau penodol o bobl – Cymry Cymraeg, myfyrwyr ac ati. Gall hefyd gael ei defnyddio i gysylltu’n uniongyrchol efo pobl er mwyn eu hannog i bleidleisio, i ofyn am gymorth etholiadol, cymorth ariannol ac ati – a gallai gael ei defnyddio i helpu llunio naratif trwy ddarganfod pa faterion sy’n mynd a bryd pobl.

Mewn geiriau eraill, o’i defnyddio’n feddylgar mae potensial mawr i’r We i bleidiau gwleidyddol – ond mae perygl gor ddweud pethau. Mae’n amlwg bod cefnogaeth grwp cyfryngol prif lif megis Trinity Mirror i’r Blaid Lafur (a chefnogaeth oddefol y BBC yng Nghymru i’r blaid honno) yn gor bwyso goruwchafiaeth y Blaid ar y We o bell ffordd.

Mae sawl rheswm am hyn. Y pwysicaf ydi bod mwy o bobl o lawer yn defnyddio’r cyfryngau traddodiadol na sy’n defnyddio gwefannau gwleidyddol. Mae hyn oherwydd bod pobl yn defnyddio’r cyfryngau traddodiadol yn bennaf i gael gwybodaeth am bethau mwy ‘diddorol’ na gwleidyddiaeth – cynhebrwng Jade Goody, canlyniadau gemau pel droed, newyddion lleol, sgandalau rhywiol ac ati. Mae’r cyfryngau yn cario storiau gwleidyddol yn ogystal a rhai sydd ag apel ehangach iddynt, ac o ganlyniad mae pobl yn cael mynediad i wleidyddiaeth y cyfrwng yn ddiarwybod iddyn nhw eu hunain.

Ar y llaw arall mae gwefannau gwleidyddol yn tueddu i ganolbwyntio’n llwyr ar wleidyddiaeth, ac o ganlyniad mae’r sawl sydd yn eu defnyddio yn tueddu i fod a diddordeb mewn gwleidyddiaeth – ac mae barn wleidyddol pobl felly yn tueddu i fod yn anhyblyg ac yn ddi gyfnewid – ac wrth gwrs ‘does yna ddim llawer ohonyn nhw.

Dydi hyn ddim yn golygu am funud nad ydwyf yn gweld gwerth i wleidydda ar y We – i’r gwrthwyneb – fyddwn i ddim yn gwastraffu amser yn blogio’n wleidyddol petawn yn credu hynny. Yr hyn ‘dwi’n ei ddadlau ydi mai cyfyng ydi effaith gwleidydda ar y We pan mai’r bwriad ydi cyffwrdd yn unig efo’r cigfyd ag argyhoeddi’r sawl sy’n defnyddio’r gwefannau gwleidyddol yn unig.

Mae’n gweithio’n well o lawer pan mae’n llifo i mewn i’r cigfyd. Y ffordd y gellir gwneud hyn ydi trwy arfogi’r sawl sydd yn ei ddarllen gyda dadleuon a ffeithiau y gallant hwy yn eu tro eu defnyddio yn y cigfyd wrth gyfathrebu gyda’r bobl o’u cwmpas. Dyna sy’n gwneud gwleidydda ar y We yn ddiddorol ac yn heriol – does yna ddim pwrpas ailadrodd yr hyn a geir ar y cyfryngau traddodiadol – mae digon o hynny i’w gael yn barod. Mae’n rhaid cynnig perspectif gwreiddiol, ond un sy’n berthnasol i’r byd gwleidyddol go iawn.

Y perygl o wleidydda ar y We ydi syrthio am y syndrom Martin Eaglestone – cyn ymgeisydd Llafur mewn aml i etholiad yn Arfon. Bydd rhai’n cofio bod blog Martin yn lloerig o gynhyrchiol yn y misoedd cyn etholiadau’r Cynulliad yn 2007 – ac roedd llawer o bobl oedd yn dilyn gwleidyddiaeth ar y We, ond nad oedd yn gwybod llawer am wleidyddiaeth Arfon yn meddwl y byddai’n gwneud yn dda.



Ond ni wnaeth yn dda – cafodd gweir. Roedd y rheswm am hynny’n weddol syml – ychydig iawn o wleidydda oedd yn ei wneud ar lawr gwlad a ‘doedd yr hyn roedd yn ei ddweud ar ei flog ddim yn berthnasol i wleidyddiaeth llawr gwlad. Roedd yn llwyr ddibynol ar flogio aneffeithiol a di ddychymyg.

‘Dwi ddim yn meddwl i’w wrthwynebydd (Alun Ffred Jones) erioed dorri gair ar flog, ond roedd yn brysur yn cyfarfod efo pobl go iawn ar stadau tai Caernarfon a Bangor ac roedd ganddo beiriant etholiadol effeithiol yn gefn iddo.

I roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol – gwleidydda atodol ydi gwleidydda ar y We ar hyn o bryd – gwleidydda traddodiadol ydi’r gwleidydda pwysig – ond o’i ddefnyddio’n ddychmygus gall fod yn atodiad pwysig, a thros amser bydd yn dod yn bwysicach.

1 comment:

Hogyn o Rachub said...

Dwi'n cytuno, ond mi fyddwn yn brysio i ategu bod 'na ambell un o flogwyr Cymru (ac nid chdi dwi'n cyfeithio at, gyda llaw!) yn dueddol o feddwl bod ganddyn nhw ddylanwad mawr oherwydd eu blogiau hefyd - ydi, mae'n ffordd arall o gyfleu neges, ond y gwir ydi y tu hwnt i gylch bach iawn o pobl sy'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth Cymru, sydd i bob pwrpas yn eu gwneud nhw'n ffordd ddigon aneffeithlon o ymgyrchu.