Saturday, April 25, 2009

Cyfarfod Carchar i Gaernarfon yn Theatr Seilo


Rhywsut, rhywfodd fe gefais fy hun yn cadeirio cyfarfod cyheddus oedd wedi ei drefnu gan gangen Plaid Cymru Caernarfon i drafod y carchar arfaethiedig yng Nghaernarfon neithiwr.

'Daeth tua 150 o bobl i holi, mynegi eu safbwyntiau ac wrando ar Alun Ffred, Hywel Williams a Dyfed Edwards. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn erbyn y datblygiad - byddwn yn mai tua 60:40 oedd pethau. 'Dydi hyn ddim yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl y dref yn erbyn wrth gwrs - 'dwi'n siwr bod mwyafrif da o blaid y datblygiad - mae cyfarfodydd cyhoeddus yn tueddu i ddenu pobl sydd yn erbyn pethau.

Ta waeth, cyflwynwyd amrediad anhygoel o eang o ddadleuon yn erbyn - 'dwi'n nodi'r rhai y gallaf eu cofio isod. Mae rhai ohonynt yn gall, ac mae rhai ohonynt _ _ _ wel ddim yn gall.

(1) Bydd yn gwthio prisiau tai i fyny.
(2) Bydd yn gwthio prisiau tai i lawr.
(3) Bydd yr adeilad yn hyll ac mae'r ardal yn ddel.
(4) Bydd teuluoedd y carcharorion yn dod i fyw i'r ardal ac ni fydd gair o Gymraeg i'w glywed yng Nghaernarfon.
(5) Bydd pobl leol yn symud o Gaernafon.
(6) Bydd Mwslemiaid yn cael eu denu i'r ardal.
(7) Bydd nodwyddau ar hyd y 'maes gwag' i gyd.
(8) Bydd yn creu problemau traffic.
(9) Bydd yr holl asbestos sydd ar y safle yn cael ei chwythu i Fangor (meddai cyfaill o Fangor).
(10) Y dylid gwneud rhywbeth sy'n creu swyddi sy'n cynnig cyflogau uchel iawn ar y safle.
(11) Bydd yn niweidiol i'r amgylchedd.
(12) Bydd yn effeithio ar gyfraddau yswiriant.

Hyd y gwelaf, dim ond dwy ddadl sydd o blaid.

(1) Bydd yn cynnig darpariaeth Gymreig ar gyfer carcharorion Cymraeg eu hiaith sy'n gorfod mynd i Lerpwl ar hyn o bryd.
(2) Bydd yn creu canoedd ar ganoedd o swyddi ac yn rhoi chwystrelliad economaidd gwerth miliynau yn flynyddol i ardal sydd wedi wynebu problemau economaidd a than fuddsoddi dybryd am genedlaethau.

Barnwch chi.

2 comments:

Anonymous said...

Dwi ddim yn byw yn yr ardal yma ac yn ymarferol byddwn yn cefnogi syfydlu carchar yno. Ond, yn ddelfrydol gwell byddai sefydlu carchar llai ar gyfer carcharorion lleol hy carcharorion Cymreig. Bydd hynna yn cyflawni un o dy anghenion di. Faint o'r rhain fydd yn dod o thu hwnt i Gymru? O rhan swyddi.....dwi wirinoneddol ddim yn siwr. Ie....bydd yn dod a degau o swyddi os nad cant neu ddau OND, os yw economi ardal yn cael ei seilio ar rywbeth tebyg i garchar.....man a man i chi roi'r ffidil yn y to nawr.

Cai Larsen said...

Wel - bydd yn creu canoedd lawer o swyddi - ond mae cryn dipyn o weithgaredd economaidd arall ar hyd glannau deheol y Fenai - Llywodraeth Leol yng Nghaernarfon, Parc Menai (sy'n ddatblygiad sylweddol iawn) wrth Bont Britania, siopau, Y Brifysgol ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Yr ardal yma ydi prif leoliad gwaith y Gogledd Orllewin ac mae'n gwasanaethu ardal ehangach o lawer.