Monday, April 06, 2009

Croeso i Pleidiol

Da gweld bod gwefan newydd sbond newydd ymddangos - Pleidiol

'Dwi'n siwr y bydd yn cyfranu as yr oruwchafiaethsydd gan y Blaid a'i chefnogwyr ar y We ar hyn o bryd.

Hefyd mae Plaidlive.com hefyd yn ddatblygiad arloesol.

6 comments:

Anonymous said...

Menai - sori i ddangos fy nhwprda, ond dwi ddim cweit yn deall beth yw pwrpas y wefan yma a sut mae fod yn wahanol i wefan ganolog y Blaid. H.y. pam nad yw'r stwff yma ar y wefan ganolog? Ydw i wedi methu rhywbeth?

Pleidiwr

Mae'n annibynnol (ond yn gefnogol) o Blaid. Y nod yw creu fersiwn Plaid o ConservativeHome.

Cai Larsen said...

Mae o'n gwestiwn eithaf da a dweud y gwir.

Mae'n debyg gen i bod gwefannau sy'n gefnogol i blaid wleidyddol, ond nad ydynt yn cael eu cynnal gan y blaid honno yn ychwanegiad i'r ddarpariaeth a gynigir ganddi - ac yn cynnig perspectif ychydig yn gwahanol.

Pwynt arall ydi bod sector gwirfoddol y Blaid yn bwysig, a bod ymdeimlad o berchnogaeth ymysg y sector honno hefyd yn bwysig.

Anonymous said...

Diolch am ateb Simon.

So, mae'n cynnig adroddiad a sylwebaeth ar y Blaid ond heb fod angen cytuno a phopeth mae'r Blaid yn ei wneud?

Onid yw'n berygl (os pergyl yw'r gair?) i'r wefan yma fod yn bwysicach nag un y Blaid yn ganolog. H.y. beth yw pwynt i wefan y Blaid felly?

Mae 'ochr wirfoddol' yn neis iawn, ond mae hwn yn fenter fawr ac yn dipyn o waith i Simon ... dwi'n gobeithio er dy fwyn di eu bod nhw'n dy dalu di! Fel arall, fydd y wefan yn dod i ben ymhen 6 mis oherwydd ei fod yn gymaint o waith i rhywun ei wneud yn ddi-dal!

Roedd rhedeg Ordovicius am ddwy flynedd yn lot fwy o waith, ond mae'n dal i fynd!

Onid yw'n berygl (os pergyl yw'r gair?) i'r wefan yma fod yn bwysicach nag un y Blaid yn ganolog.

Ha! Ni fydd hynny yn digwydd. Hyd yn oed petai Pleidiol yn dod yn wefan boblogaidd, dydi hi ddim yn cynnig yr un pethau, gwybodaeth na gwasanaethau â gwefan ganolog plaid wleidyddol. Ni fyddai neb yn cymharu ConservativeHome, LabourHome na LibDemVoice â gwefannau canolog eu pleidiau, a dw'i ddim yn gweld sut gallai neb wneud y fath gymhariaeth yn achos Pleidiol chwaith.

Anonymous said...

Diolch Simon.

Wedi gweld dy bostiadyn gofyn am awgrymiadau i ffrydau newyddion i Pleidiol. Gan 'mod i ddim am gofrestri i ymateb i dy gais ar Ordovicius, ga' i awgrymu ffrwd newyddion gan www.eurolang.net a www.nationalia.cat fel ffrydau eraill o newyddion?