Monday, February 09, 2009

Cymru Morgan = Rwsia Putin?

Bu cryn dipyn o drafodaeth ynglyn a sylwadau ymfflamychol a wnaed gan ddau wleidydd Llafur Cymreig yn ddiweddar, sef Rhys Williams a Ramesh Patel.

Rydym eisoes wedi trafod rant gweddol ddi resymeg Rhys - yr hyn sy'n nodweddu'r darn am wn i yw ei fod yn cwmpasu nifer o stereoteipiau Seisnig ynglyn a natur y Gymru Gymraeg.

Disgrifio'r broses ail strwythuro ysgolion cynradd yng Ngorllewin Caerdydd yn nhermau 'puro ethnig' wnaeth Ramesh. Mae'r ysgol mae plant Ramesh yn ei mynychu - Ysgol Landsdowne - yn debygol o gael ei chau, neu ei symud er mwyn ymateb i'r galw sylweddol sydd yna am addysg Gymraeg yn y rhan yma o'r ddinas.

Mae yna wahaniaeth yn natur y sylwadau wrth gwrs - cafodd Rhys gyfle i bendroni ynglyn a'i erthygl, ac o wneud hynny cynhyrchodd ddarn gwirioneddol anymunol a fyddai'n ymylu ar fod yn hiliol petai wedi ei gyfeirio at leiafrif ethnig yn hytrach nag at grwp ieithyddol a daearyddol.

Roedd sylw Ramesh yn ymfflamychol, ond mae ganddo'r esgys mai yng ngwres y funud - mewn cyfarfod cyhoeddus i amddiffyn Landsdowne - y gwnaed y sylwadau. Mae wedi rhyw hanner ymddiheuro. Serch hynny, dydi'r math yma o iaith ddim yn dderbyniol. Meddyliwch beth fyddai'n digwydd petai rhywun fel Seimon Glyn yn disgrifio mewnfudiad i'r Gymru Gymraeg fel 'puro ethnig'.

Ymateb y wasg, ac yn arbennig felly'r BBC sydd o ddiddordeb i mi yn y blog hwn. Mae Prysor wedi 'sgwennu darn sy'n dehongli ymateb rhyfedd y BBC yn nhermau llyfdra eangach y cyfryngau Cymreig. Yn sicr roedd ymateb y Bib yn un rhyfedd - roedd eu hadroddiadau ynglyn ag erthygl Rhys yn gwneud i'r erthygl edrych yn llawer llai anymunol a hysteraidd nag oedd mewn gwirionedd, a phan y cafodd Rhys ei holi gan y Bib ni wnaed unrhyw ymdrech i wneud iddo gyfiawnhau ei sylwadau.

Adlewyrchir yr agwedd blase yma ym mlog Vaughan Roderick - ac mae sylwadau eithaf ffyrnig gan ambell un, gyda Vaughan yn cael ei gyhuddo o fod yn Llafurwr.

'Rwan dydi Vaughan ddim yn Llafurwr wrth gwrs. Wnaiff o ddim diolch i mi am ddweud hyn (ac yntau yn y swydd mae ynddi), ond mae Vaughan yn genedlaetholwr at flaenau'i fysedd. Ond mae'r ffaith yna ynddo'i ei hun yn codi cwestiwn diddorol - pam na wnaeth Vaughan (fel y Bib yn gyffredinol) fwy o'r peth?

Mae'r ateb yn eithaf syml yn y bon 'dwi'n meddwl. Pan rydym yn gwneud rhywbeth yn broffesiynol (a dyna mae Vaughan yn ei wneud pan mae'n blogio - yn gwahanol i'r mwyafrif llethol ohonom) - rydym yn rhesymu oddi mewn i ffiniau sydd wedi eu gosod gan ddiwylliant ein proffesiwn. Pan mae Vaughan yn blogio, neu'n darlledu, mae'n gwneud hynny oddi fewn i gyd destun arbennig - hive mentality y BBC. 'Does yna ddim yn anarferol yn hynny wrth gwrs - pan y byddaf i yn gweithredu'n broffesiynol, 'dwi'n gwneud hynny oddi mewn i gyfyngiadau tebyg.

Y ffaith syml amdani ydi mai'r Blaid Lafur Gymreig ydi'r sefydliad gwleidyddol yng Nghymru, a BBC Cymru ydi'r sefydliad cyfryngol, ac mae'r naill ochr a'r llall yn gwbl ymwybodol o hynny. Yn gyffredinol mae strwythurau sefydliadol yn hoff o strwythurau sefydliadol eraill, maent yn sefyll gyda'i gilydd, ac mae perygl iddynt syrthio efo'i gilydd.

O ganlyniad mae ymateb y BBC i gwahanol storiau yn ymddangos yn un ochrog - ac maent yn un ochrog. Mae nifer wedi tynnu sylw at y cyferbyniad rhwng ymateb y Bib i sylwadau cymharol sobr a phwyllog Seimon ynglyn ag effaith mewnfudo ar y Gymru Gymraeg, a'u hymateb i bregeth casineb Rhys a ieithwedd Paysliaidd Ramesh. Gwir bod amserau'n gwahanol, ac nad ydi'r agenda newyddiadurol yng Nghymru yn cael ei lywio gan ymgyrch gasineb y Welsh Mirror bellach, ond mae sylwedd i'r canfyddiad bod safonau deublyg ar waith. Mae'r sylwadau ynglyn a phwysigrwydd cymharol sylwadau sarhaus Jeremy Clarkson am Gordon Brown a rhai Rhys Williams am Gymry Cymraeg hefyd yn berthnasol.

Mae agwedd y Bib tuag at Llais Gwynedd yn rhan o'r patrwm yma. Bydd pob math o storiau ynglyn a Llais Gwynedd yn fynych ar newyddion y Bib - rhai ohonynt yn wirioneddol ddi ddim. Bydd rhai o'u haelodau yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn gwahanol raglenni radio ac ati. Mae hynny'n ddigon teg - mae'n bwysig bod y Bib yn adlewyrchu pob barn yng Nghymru. Ond lle mae'r Llais y Bobl eraill? - yr un yng Ngwent. Mae'r mudiad hwnnw yn fwy o lawer na Llais Gwynedd - mae ganddynt aelod seneddol, aelod cynulliad, maent yn rheoli cyngor i bob pwrpas ac mae eu dylanwad yn ymestyn y tu allan i'r sir maent wedi cychwyn ynddi. Mewn hanner un sir mae Llais Gwynedd yn ddylanwadol.

Eto mae'r ateb yn weddol syml - draenen yn ystlys y Blaid Lafur ydi Llais y Bobl. Draenen yn ystlys Plaid Cymru ydi Llais Gwynedd. Dydi Plaid Cymru ddim yn golofn sefydliadol Gymreig - dyna'n union ydi'r Blaid Lafur - fel BBC Cymru.

Neu cymerer y ffordd yr oedd y Bib yn delio efo canlyniadau'r etholiadau lleol y llynedd. Dyma'r etholiadau mwyaf llwyddiannus yn hanes Plaid Cymru, a'r rhai mwyaf trychinebus i Lafur ers degawdau cynnar y ganrif diwethaf. Prif ffocws y Bib oedd y ffaith i Lais Gwynedd gipio dwsin o seddi ar un cyngor - un allan o'r dau ar hugain.

Ni fyddai'r tueddiad cyfundrefnol yma i wyro tuag at Lafur mor bwysig petai'r cyfryngau eraill yng Nghymru o farn gwleidyddol arall - neu o leiaf yn ddi duedd. Ond nid felly mae pethau wrth gwrs - Trinity Mirror sydd ag hegemoni ar wasg brint yng Nghymru - yn lleol ac yn genedlaethol. Mae'r grwp yma'n driw iawn i Lafur ar raddfa Cymreig a Phrydeinig. Felly mae bron i pob cyfrwng newyddion Cymreig yn edrych ar wleidyddiaeth yn yr un ffordd - ac mae'r ffordd honno yn ffafriol i Lafur ac yn anffarfiol i bawb arall. Gor ddweud fyddai honni bod Cymru Rhodri Morgan yn ymdebygu i Rwsia Putin yn unffurfiaeth gwleidyddol y ffynonellau newyddion- ond mae yna wirionedd mewn gor ddweud weithiau.

ON - Pan 'dwi'n son am y Bib, BBC ac ati, son am BBC Cymru ydw i. Mae'r ddadl ychydig yn gwahanol mewn cyd destun Prydeinig.

ONN - O edrych yn ol 'dwi'n ofni fy mod braidd yn llawdrwm ar Vaughan. Mae llais newyddiadurol Vaughan yn fwy Cymreig a Chymraeg nag un nemor neb arall sy'n gweithio i'r Bib - diwylliant mewnol y Bib ydi'r broblem, nid Vaughan.

8 comments:

Anonymous said...

Dwi'n amau fod nifer yn y BBC yng Ngaerdydd wedi gweld dim o'i le ag erthygl Rhys Williams gan ei fod yn lleisio beth yw by-olwg gwaelodol nifer ohonynt. Doedd e ddim yn dweud unrhyw beth arbennig o newydd felly. Dyna'r rheswm (a'r ffaith fod pobl ddim yn darllen Cymraeg) na chafodd fwy o sylw y tu hwnt i Gymru.

Wrth feddwl am y peth, gwnaeth BLaid Cymru gam gwag a pheidio ymateb i sylwadau Rhys. Dwi'n meddwl y dylse Elin Jones yn sicr wedi sefyll dros ei hetholaeth Cynulliad ac 'etholaeth' amaethyddol.

Anonymous said...

Falle bod Vaughan yn genedlaetholwr yn y bon.....ond mae'n gwybod yn iawn pwy sy'n talu ei gyflog (nid an-sylweddol tebyg iawn). Mae'r BBC hefyd yn chwarae i agenda Llafur ar lefel Prydeinig. Ti wedi gweld post mwya diweddar Vaughan?....Nick Bourne eto.....

Cai Larsen said...

Nifer o bwyntiau yma:

(1) Mae'r BBC hefyd yn chwarae i agenda Llafur ar lefel Prydeinig - wel ia a naci - mae'r Bib yn boen i Lafur ar lefel Brydeinig - ond oherwydd eu bod yn cynnal critique o'r Chwith.

(2) Ti wedi gweld post mwya diweddar Vaughan?....Nick Bourne eto..... - Gwir - mae'r cyfryngau Cymreig am rhyw reswm yn meddwl bod ganddynt rol bwysig ym mhroses penu pwy ydi'r arweinydd Ceidwadwyr Cymru.

(3) Dwi'n amau fod nifer yn y BBC yng Ngaerdydd wedi gweld dim o'i le ag erthygl Rhys Williams gan ei fod yn lleisio beth yw by-olwg gwaelodol nifer ohonynt - efallai bod rhai yn y Bib yn cytuno efo Rhys - ond 'deference' i Lafur sy'n gyrru pethau - dyna pam mae'r sylwadau yn cael eu tan liwio, yn gwahanol i'r drefn gyfryngol arferol o or liwio. Dyna pam mae pobl sydd yn amlwg yn genedlaetholwyr yn rhesymu'n broffesiynol mewn ffordd sy'n sylfaenol wrth genedlaetholgar.

(4) Wrth feddwl am y peth, gwnaeth BLaid Cymru gam gwag a pheidio ymateb i sylwadau Rhys. Dwi'n meddwl y dylse Elin Jones yn sicr wedi sefyll dros ei hetholaeth Cynulliad ac 'etholaeth' amaethyddol - Mae'n debyg bod hyn yn wir. Byddai'n anodd i'r Blaid or ymateb cyn ein bod yn rhan o glymblaid efo Llafur - ond dylai rhywun amddiffyn cymdogion Rhys Williams rhag ei enllib - byddai beirniadaeth pwyllog yn dderbyniol.

Duw a wyr beth fyddai ymateb Touig, Murphy a Bryant petai rhyw bleidiwr neu'i gilydd yn gwneud sylwadau cyffelyb am eu hetholwyr nhw.

Anonymous said...

Yr hyn sy'n fy rhyfeddu i yw fod Vaughan Roderick wedi dewis trafod erthygl yn dwyn teitl "Casau'r Cymru Cymraeg" yn fwriadol ysgafn!
Dwi'n darllen blog Vaughan yn eitha' cyson ac i mi mae yna gysondeb yn ei ymdriniaeth o bynciau gwleidyddol. Ceir dadansoddi treiddgar ac ar y llaw arall ceir tipyn o hwyl diniwed ar gownt ambell i dro trwstan ar ran ambell wleidydd. Ond mae ei ymateb i erthygl Rhys Williams mor anodweddiadol ohono a'r hyn sy'n rhyfeddach fyth yw nad yw wedi ceisio gwneud iawn am ei ymateb tila. 'Sgwn i pam?
Ac o ran gwleidyddion Plaid Cymru - tila iawn.

Anonymous said...

Re: sylwadau Patel. Nid oes unrhyw dystiolaeth mai "yng ngwres y funud" y gwnaeth ei sylwadau. Nid yw sylwadau llafar o angenrheidrwydd yn rhai byrfyfyr. Roedd sylwadau Patel yn gywilyddus, ac mae amharodrwydd Rhodri Morgan i'w sacio yn gywilydd mwy. Mae defnyddio rhethreg hil-laddiad wrth gyfeirio at ddarpariaeth addysg mewn iaith leiafrifol yn waeth o lawer yn fy marn i na sylwadau Rhys (er bod y rheiny hefyd yn annerbyniol).

Cai Larsen said...

Simon

'Dwi'n derbyn nad oes gen i dystiolaeth mai sylwadau byrfyfyr oedd rhai'r bonwr Patel. Os nad oeddynt maent yn fwy difrifol o lawer. Gobeithio nad ydynt yn rhan o strategaeth i chwistrellu gwenwyn gwleidyddiaeth hil i gylchrediad y ddadl addysg Gymraeg. Byddai'n strategaeth hynod niweidiol i bawb.

Hanna said...

Tydi Ramesh Patel ddim yn riant yn Ysgol Lansdowne, gwleidydd a gwas cyflogedig i Brif Weinidog Cymru a'r Blaid Lafur ydi o, a hefyd Llywodraethwr yn Lansdowne. Roedd o wedi paratoi ei araith yn y cyfarfod cyhoeddus ac yn dyfynnu canrannau (ffeithiol anghywir mae'n wir).
Mae'n anghywir i'w bortreadu fel rhiant tambaid wnaeth gam-ddefnyddio geiriau. Mae o'n gynghorydd ac yn fy nghynrychioli fi a fy mhlant i fod. Mae ei fos, Rhodri Morgan i fod i gynrychioli fy muddiannau i a 'mhlant hefyd. Duw รข'n helpo ni.

Cai Larsen said...

Hanna - nid amddiffyn Ramesh oedd fy mwriad - dwi wedi dweud sawl gwaith nad yw ei sylwadau yn dderbyniol.

Serch hynny, mae gwahaniaeth rhwng ymysodiad gwrth Gymreig oer - fel un Rhys - a'r pethau sy'n cael eu dweud yng ngwres ymgyrch amddiffyn ysgol - rydym ni yng Ngwynedd yn ymwybodol iawn o'r emosiwn mae hynny'n ei greu.

Mae'r ensyniad mae Simon yn ei wneud - sef bod Llafur yn lleol yn ceisio troi'r ddadl addysg Gymraeg yn ddadl sy'n ymwneud a hil, neu o leiaf hunaniaeth ethnig - yn peri gofid i mi.

Mae gwleidyddiaeth hil ac ethnig yn ei hanfod yn wenwynig, ac mae ehangu addysg Gymraeg yn Nhreganna trwy gau Landsdowne yn gynhenus. Mae cyfuno'r elfennau hyn yn anghyfrifol - mae'n gymysgedd ffrwydrol.