Saturday, May 21, 2016
Unig lais y Lib Dems yng Nghymru _ _
Monday, December 08, 2008
Kirsty Williams, y Lib Dems a'r BBC

Llongyfarchiadau i Kirsty Williams ar gael ei hethol yn arweinydd y Lib Dems yng Nghymru. Mae blogmenai wedi darogan hyn ers talwm wrth gwrs. Mae blogmenai yn gywir am pob dim, pob amser. Hon yn ddi amau ydi'r joban mwyaf heriol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ystyriwch hyn - gyda'r drefn etholiadol ryfedd sydd gennym yn y Cynulliad y lleiaf o seddi mae'n ymarferol bosibl i'r Lib Dems eu cael ydi pump (hy un ar pob rhestr ranbarthol). Chwe sedd mae'r Lib Dems wedi ei gael ym mhob etholiad Cynulliad hyd yn hyn - un yn fwy na'r lleiafswm posibl. Son am dan gyflawni.
Mae yna reswm amlwg tros y tan gyflawni epic yma wrth gwrs - sef nad oes yna fawr o bwrpas i'r Lib Dems yng nghyd destun gwleidyddiaeth Gymreig. Roedd Kirsty yn son heddiw am ail gynnau gwleidyddiaeth rhyddfrydig - ond dyna'r broblem, mae'r traddodiad rhyddfrydig yn bwysig iawn yng Nghymru, ac mae ei ddylanwad yn fawr ar y pleidiau mawr Cymreig eraill. Dydi bod yn ryddfrydig ddim ynddo'i hun yn rhoi'r hunaniaeth unigryw mae'n rhaid wrtho i lwyddo'n etholiadol. Mae'n anodd gen i weld pa dir gwleidyddol gwag sydd ar gael iddynt mewn gwleidyddiaeth Gymreig, ac felly mae'n anodd gweld Kirsty'n newid pethau.
Ar nodyn arall, roedd ymdriniaeth y BBC o'r gystadleuaeth yn ddigri. Yr ystrydebau oedd yn cael eu gwthio oedd bod Jenny yn 'brofiadol', tra bod Kirsty yn 'garismataidd'. Rwan 'dwi'n gallu meddwl am lawer o ansoddeiriau i ddisgrifio Kirsty - ond 'dydi hi'n sicr ddim yn garismataidd. Mae ei mynegiant llafar yn brenaidd os nad yn glogyrnaidd, 'dydi hi byth yn dweud unrhyw beth gwreiddiol na ffraeth. Ond mae hi'n gymharol ifanc, ac mae'n ddel. 'Fedar y Bib ddim ei disgrifio fel yr ymgeisydd 'del' (am resymau sy'n ymwneud a chywirdeb gwleidyddol a ballu) , felly maent yn defnyddio'r gair 'carismataidd'. Hyd yn oed Vaughan Roderick, wir Dduw.
Thursday, September 11, 2008
Problem Kirsty a'r Democratiaid Rhyddfrydol

Kirsty Williams fydd yn ennill etholiad mewnol y Democratiaid Rhyddfrydol i ddewis arweinydd i'r blaid yn y Cynulliad. 'Dwi fy hun ddim yn ei hystyried yn wleidydd arbennig o dda, nac yn un dda iawn am gyfathrebu - ond mae'n berson gonest a dymunol, ac yn wyneb atyniadol, modern i'r blaid Gymreig.
Newydd ddod ar draws y cyfraniad hwn gan Vaughan Roderick.
Fel arfer gyda Vaughan, mae'n erthygl dreiddgar. Yr hyn mae'n ei ddadlau ydi ei bod yn anodd iawn i blaid Ryddfrydol fod a hunaniaeth unigryw mewn gwlad lle mae'r rhan fwyaf o bobl - a gwleidyddion yn ryddfrydig. Mae'n bwynt da iawn.
Mae hon yn broblem lled barhaol i'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth gwrs. Hoffwn ychwanegu pwynt arall fodd bynnag - mae ganddyn nhw broblem benodol wrth edrych ymlaen i'r etholiad cyffredinol nesaf - a'r etholiad Cynulliad.
Planhigyn rhyfedd ydi'r un Rhyddfrydol - mae'n tyfu pan mae planhigion eraill yn gwywo, ac mae'n gwywo pan mae'r lleill yn tyfu. Er bod ganddynt bleidlais greiddiol eu hunain, mae cydadran cymharol fawr o'u pleidleiswyr yn bobl sydd wedi pechu efo pleidiau eraill pan mae'r rheiny yn amhoblogaidd - y piwis, y blin, y siomedig a'r hunan dosturiol.
'Rwan, os ydi tystiolaeth yr ychydig etholiadau diwethaf i'w gredu, mae dau blanhigyn gwleidyddol yng Nghymru yn tyfu, ac mae un arall yn gwywo, ac yn gwywo'n gyflym iawn ar hynny. Mae Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol yn gwneud yn dda, tra bod y Blaid Lafur - wel - ddim yn gwneud yn dda.
Y broblem i'r Democratiaid Rhyddfrydol ydi'r ffaith bod tair o'u pedair sedd yn y Canolbarth gwledig - etholaethau lle mae naill ai'r Toriaid neu Blaid Cymru yn gryf. Gallant yn hawdd golli Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn a Cheredigion.
Byddant yn disgwyl elwa o chwalfa'r Blaid Lafur yn y dinasoedd - Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd - ond mae'n dra phosibl na fyddant yn gwneud yn ddigon da i ennill seddi o'r newydd.
Felly, y perygl i Kirsty Williams - ydi y bydd ei dwy etholiad cyntaf fel arweinydd yn drychinebus. Byddant yn gwneud yn wael yn etholiadau Ewrop 2009 - byddant pob amser yn tan berfformio mewn etholiadau Ewrop, a gallant yn hawdd golli tair o'u pedair sedd yn etholiad cyffredinol yn 2010.
Y tebygrwydd ydi y bydd Kirsty a'i phlaid yn mynd i etholiadau'r Cynulliad yn 2011 gyda record o fethiant y tu ol iddynt, ac yn ymddangos yn ymylol oherwydd y frwydr rhwng pleidiau'r llywodraeth - Plaid Cymru a Llafur, a'r blaid sy'n rheoli yn San Steffan.
Hwyrach na fydd Kirsty yn arwain am fwy na thair neu bedair blynedd.
Monday, September 21, 2009
Beth mae Kirsty Williams wedi ei wneud i Nick Clegg?

Ar ol y mor o sarhad a daflwyd i gyfeiriad Plaid Cymru pan newidiodd rheiny eu polisi parthed peidio a chael ffioedd myfyrwyr, ar ol yr holl hunan gyfiawnder, ar ol yr holl ystumio, ymddengys bod polisi'r Lib Dems a Phlaid Cymru bellach yn union yr un peth. Mae'r ddwy blaid yn erbyn ffioedd fel mater o egwyddor, ond yn sylweddoli nad oes ganddynt ddewis ond byw efo nhw o dan yr amgylchiadau cyllidol presennol.
Mae'r math yma o beth yn bwysig yn nwy o etholaethau seneddol y Lib Dems - Canol Caerdydd a Cheredigion. Go brin y gwnaiff wahaniaeth yn y cyntaf - mae mwyafrif sylweddol gan y Lib Dems. Nid felly'r ail. Os oedd ganddynt unrhyw obaith o ddal Ceredigion o'r blaen, mae'r gobaith hwnnw bellach wedi mynd.
Ac wedyn mae'r datblygiad enfawr yn St Athan yn cael cic trwy'r ffenest. 'Dydi hynny ddim yn debygol o effeithio'n uniongyrchol ar y Lib Dems - does ganddyn nhw ddim gobaith ym Mro Morgannwg - ond mae'r Fro yn gymharol agos at Gasnewydd a Chaerdydd - ardaloedd sydd yn gryf iddynt ar lefel llywodraeth leol o leiaf. Eto mae eu unig sedd yn y De - Canol Caerdydd yn agos, a byddant yn gobeithio gwneud argraff yn Nwyrain Casnewydd.
Hefyd mae'r son gan Clegg am savage cuts am fod tua mor boblogaidd yng Nghymru a cherddoriaeth Leonard Cohen mewn ysbyty sy'n arbenigo mewn trin pobl sy'n dioddef o iselder ysbryd. Mewn gwlad lle mae canran uchel o'r boblogaeth yn gweithio yn y sector cyhoeddus, fydd yna ddim llawer o bobl yn dawnsio ar y strydoedd pan mae Nick yn gwintyllu'r syniad o rewi cyflogau sector cyhoeddus.
Felly pedair sedd sydd ganddynt yng Nghymru ar hyn o bryd - 'doedd pethau ddim yn edrych yn arbennig o dda yng Ngheredigion beth bynnag, mae Lembit yn gwneud ei orau glas i roi Trefaldwyn i Glyn Davies (trydydd oedden nhw yno yn etholiadau Ewrop gydag UKIP o'u blaenau), ac roedd y Toriaid yn gyfforddus o'u blaenau yn yr etholiad Ewrop yng ngardd gefn Kirsty - Brycheiniog a Maesyfed. Tybed os mai Canol Caerdydd yn unig fydd ar ol ganddynt ar ol Mai 2010?
Fedra i ddim dychmygu mai Nick Clegg ydi hoff berson y Lib Dems Cymreig ar hyn o bryd - ac mae o'n gwestiwn diddorol pam ei fod yn gwneud y ffasiwn ddatganiadau mor agos at etholiad. Mae'r ateb yn weddol hawdd - mae Lloegr yn bwysicach o lawer yn etholiadol i'r Lib Dems nag ydi Cymru - ac mae'r tirwedd etholiadol yn dra gwahanol yno i'r Lib Dems nag ydi yng Nghymru.
Mae gan y Lib Dems ddau ffrynt etholiadol yn Lloegr - etholaethau dinesig a threfol lle maent yn ymladd yn erbyn Llafur a rhai mwy gwledig - ond mwy cyfoethog o lawer yn Ne Lloegr yn bennaf. Y Toriaid ydi'r gelyn yma. Oherwydd bod gogwydd sylweddol yn erbyn Llafur nid oes rhaid iddynt boeni am eu seddi dinesig - yn wir maent yn debygol o ennill mwy.
Ond oherwydd bod gogwydd sylweddol tuag at y Toriaid mae perygl mawr i'r seddi mwy gwledig a chyfoethog - ac mae yna fwy o lawer o'r rheiny. Os bydd y Lib Dems yn mynd i etholiadau San Steffan efo cynlluniau i wario'n drwm, bydd yn hawdd i'r Toriaid ddychryn etholwyr cyfoethog trwy ddarogan cynnydd anferth yn eu trethi - felly mae'n rhaid dangos eu bod am docio ar wariant - ond ceisio gwneud hynny mewn modd sydd ddim yn niweidiol yn etholiadol. 'Dydi Sain Athan ddim yn agos at nifer sylweddol o seddi ymylol Toriaidd / Lib Dem, gallant bechu myfyrwyr oherwydd nad oes ganddyn nhw gartref arall - yn Lloegr o leiaf. Cod ydi savage cuts am dim trethi uwch.
Felly 'dydi Kirsty druan na'r Lib Dems Cymreig ddim wedi pechu Nick Clegg o gwbl. Ond maen nhw'n anlwcus bod natur y tirwedd gwleidyddol Prydeinig yn gorfodi Clegg i wneud a dweud pethau sy'n niweidiol iddynt.
Monday, September 20, 2010
Newyddion drwg Kirsty mae gen i ofn

Felly mae Kirsty Williams bellach o blaid clymbleidio yn y Cynulliad ar ol chwarae rhan allweddol yn y digwyddiadau a sicrhaodd i'r Glymblaid Enfys farw yn y groth yn 2007.
Mae'n fater o loes i mi orfod torri'r newyddion drwg iddi nad ydi hi'n debygol o fod mewn clymblaid o unrhyw fath wedi'r etholiad nesaf. Beth bynnag mae'r pleidiau yn dweud ar hyn o bryd am gadw eu opsiynau'n agored ac ati, mae'r tirewdd gwleidyddol wedi newid yn llwyr ers 2007.
Byddai clymbleidio efo'r Lib Dems yng Nghymru tra yn ymladd yn erbyn y toriadau y byddai'r blaid honno yn eu hanfon o San Steffan yn gymhlethdod na fydd Llafur Cymru yn debygol o'i chwenych. Mi fyddai hefyd yn anodd iawn i Blaid Cymru glymbleidio yn erbyn Llafur efo dwy blaid fyddai'n cael eu cysylltu'n agos a phroses o chwalu gwariant cyhoeddus yng Nghymru.
Neu i edrych ar y peth mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae'r ffaith i Lib Dems Clegg neidio i'r gwely efo Toriaid Cameron yn dra thebygol o sicrhau mai gwely gwag fydd gan Lib Dems Kirsty am bedair blynedd arall. Mi fyddai'n wenwyn gwleidyddol i'r Blaid, neu i Lafur gysylltu eu hunain efo nhw, hheb son am rannu gwely.
Tuesday, May 24, 2016
Yr etholiad yn Arfon - ychydig o nodiadau
Wednesday, July 29, 2015
Llefarydd y Dib Lems ar ddim byd o gwbl
- Leader: Tim Farron MP
- Economics: Baroness Susan Kramer
- Foreign Affairs/Chief Whip/Leader of the house: Tom Brake MP
- Defence: Baroness Judith Jolly
- Home Affairs: Alistair Carmichael MP
- Health: Norman Lamb MP
- Education: John Pugh MP
- Work and Pensions: Baroness Zahida Manzoor
- Business: Lorely Burt
- Energy and Climate Change: Lynne Featherstone
- Local Government: Mayor of Watford, Cllr Dorothy Thornhill
- Transport: Baroness Jenny Randerson
- Environment and Rural Affairs: Baroness Kate Parminter
- International Development: Baroness Lindsay Northover
- Culture Media and Sport: Baroness Jane Bonham-Carter
- Equalities: Baroness Meral Hussein-Ece
- Justice/Attorney General: Lord Jonathan Marks
- Northern Ireland: Lord John Alderdice
- Scotland: Willie Rennie MSP, Leader of the Scottish Liberal Democrats
- Wales: Kirsty Williams AM, Leader of the Welsh Liberal Democrats
- Campaigns Chair: Greg Mullholland MP
- Grassroots Campaigns: Cllr Tim Pickstone, Chair of the Association of Liberal Democrat Councillors
Tuesday, September 17, 2013
A'r broblem fach efo araith Adam Price
Saturday, February 28, 2015
Araith Kirsty Williams i'w phlaid
Friday, June 09, 2017
Sylwadau brysiog ar etholiad ddoe
Wednesday, June 12, 2013
Dilynwyr trydarwyr gwleidyddol
J Lamont - Llafur - 4554
R Davidson - Tori - 4386
A Salmond - 39568
Rhag bod rhywun eisiau gwybod y ffigyrau Cymreig cyfatebol ydi:
Leanne Wood - 7911
Carwyn Jones - 7492
Kirsty Williams - 4100
Andrew RT Davies - 2071
Monday, March 27, 2017
Etholiadau'r cyngor - Powys
Mae'n siwr nad oes yna lawer o flogiadau - na dim arall - lle mae'r geiriau Plaid Cymru a Powys yn ymddangos ar yr un pryd. Serch hynny mae'n fwy na phosibl y bydd etholiadau cyngor 2017 yn torri tir newydd o safbwynt y Blaid. Yn hanesyddol cafwyd sawl grwp annibynnol ym Mhowys, gan gynnwys rhai oedd yn honni bod yn annibynnol o'r grwpiau annibynnol eraill - un ac oll. Cafwyd hyd yn oed grwp annibynnol yn ardal Llanwddyn oedd yn datgan ei fod annibynnol oddi wrth pawb arall, ond yn hapus i ddweud eu bod dan adain y Ceidwadwyr - beth bynnag mae hynny yn ei olygu. Mewn geiriau eraill mae yna hanes o lanast - rhywbeth sy'n nodweddu cynghorau sy'n cael eu rheoli gan grwpiau annibynnol. Gallwn - fodd bynnag - fod yn siwr bod newid am fod y tro hwn. Mae 14 cynghorydd yn ymddeol ym Maldwyn yn unig. Gallai hanner y cynghorwyr presenol yn hawdd ymddeol neu golli eu seddi ym mis Mai. Nod y Ceidawadwyr ydi bod yn brif blaid y cyngor - ac maent y. targedu pentrefi Dyffryn Hafren a De Powys gan geisio adeiladu ar eu llwyddiant yn etholiadau San Steffan yn 2015. Mae ganddynt gyfle rhesymol i wireddu hyn. O safbwynt Plaid Cymru, does ganddi ddim un aelod ar y cyngor presennol, yn wir dim ond un ymgeisydd oedd ym Maldwyn tro diwethaf a chwpl yn Ne Powys. Y tro hwn bydd o leiaf 12 yn sefyll yng Ngogledd y Sir yn arbennig felly yn ardal Dyffryn Dyfi, yr ardal o gwmpas Llanfair Caereinion a Llanfyllin, ardal y Drenewydd a rhai o bentrefi Dyffryn Hafren. Gobaith y Blaid yn yr etholiadau yma ydi ethol cynghorwyr sir am tro cyntaf yn ogystal ag ethol pobl i gynghorau trefi Drenewydd, Llanidloes, Machynlleth a'r Trallwng. Yn hanesyddol ar lefel San Steffan mae Maldwyn wedi bod yn gadarnle Rhyddfrydol, tra bod Brycheiniog a Maesyfed wedi bod a hanes ychydig yn fwy cymhleth. Ym Maldwyn mae'r Dib Lems wedi cael cweir gan y Toriaid yn ddiweddar tra bod y Toriaid hefyd wedi ennill tir ym Mrycheiniog a Maesyfed - lle nad Kirsty Williams ydi eu gwrthwynebwraig. Mae yna bosibilrwydd y bydd gan y Blaid fwy o ymgeiswyr na'r Dib Lems ym mis Mai. Ar hyn o bryd mae gan y Dib Lems 3 chynghorydd ym Maldwyn, er bod un ohonynt yn ymddeol y tro hwn. Mae posibilrwydd y gall y Blaid ennill mwy o seddi na'r Dib Lems ym Maldwyn - a byddai hynny'n creu cyfle o lunio naratif mai'r Blaid ydi 'r prif wrthwynebwyr i'r Toriaid yn y rhan honno o'r sir - canfyddiad o'i wireddu fyddai'n ddigon ynddo"i hun i ennill pleidleisiau yn y dyfodol. Byddai chwe sedd yn ganlyniad gwych - ond byddai un yn welliant sylweddol ar y sefyllfa sydd ohoni. *Diolch i Elwyn Vaughan am wybodaeth. |
Friday, March 06, 2015
Lluniau'r wythnos
Sunday, October 18, 2009
Gair o gydymdeimlad i'r Lib Dems

Mi fydd darllenwyr cyson blogmenai yn gwybod bod gennyf barch mawr tuag at y Lib Dems.
Trist felly yw nodi bod eu dau wleidydd mwyaf adnabyddus yng Nghymru yn cael ffrae hyll yn gyhoeddus.
Nid dyma'r tro cyntaf i bethau fynd yn fler yng nghorlan y Lib Dems ers i Kirsty Williams gydio yn yr awenau. Gobeithio nad oes yna fwy o'r math yma o beth ar y ffordd.
Trist iawn, very sad.
Sunday, July 06, 2014
Mwy am y Lib Dems
Un o nodweddion trawiadol pol diweddaraf YouGov ydi cyn lleied o newid sydd yng nghefnogaeth y Toriaid a Phlaid Cymru o gymharu a 2010. Yn wir does na ddim cynnydd mawr yng nghefnogaeth Llafur - llai na 5%. Y newidiadau mawr ydi'r cwymp sylweddol yng nghefnogaeth y Lib Dems (colli tri chwarter eu pleidlais) a'r cynnydd mawr yng nghefnogaeth UKIP.
Mae'n ymddangos felly bod y rhan fwyaf o ddigon o'r pleidleisiau fydd ar gael yn 2015 yn dod oddi wrth cyn gefnogwyr y Lib Dems. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r pleidleisiau yma'n mynd i Lafur ac UKIP. Ond dydi hynny ddim yn gorfod digwydd. Maen nhw trwy ddiffiniad yn bleidleisiau anwadal.
Beth am edrych am funud ar yr etholaeth roedd Mike Priestly yn sefyll ynddi yn 2010? Petai'r Lib Dems yn colli cymaint o bleidleisiau na mae YouGov yn awgrymu yna byddai tua 4,400 o'r 5,786 pleidlais a gafodd Mike Priestly yn 2010 ar gael i rhywun neu'i gilydd. Byddai hynny'n hen ddigon i roi Llafur o flaen y Toriaid, ac yn wir petai ymgeisydd y Blaid, Dafydd Meurig, yn dod ar draws naratif fyddai'n apelio at fwyafrif da o'r cyn Lib Dems mi fyddai Aberconwy yn fwyaf sydyn yn sedd ymylol dair ffordd.
Yn amlwg mae denu canran uchel o gyn bleidleiswyr plaid arall i un corlan yn beth hynod o anodd i'w wneud, ond cyn bleidleiswyr Lib Dems ydi'r garfan mwyaf niferus o bobl sydd ar gael. Mae unrhyw un sydd eisiau gwneud yn dda yn etholiad 2010 angen strategaeth i apelio at y garfan sylweddol yma o bleidleiswyr.
Monday, May 02, 2011
UKIP i gael seddi ar Fai 5?
Petai'r ffigwr hwnnw'n cael ei wireddu byddai'n sicr y byddai'r blaid wrth Gymreig, asgell dde yn ennill seddi. Yn wir, petai eu pleidlais wedi ei ddosbarthu y fwy cyson nag un y Lib Dems - ac mae yna beth lle i gredu y gallai hynny fod yn wir, yna gallent gael mwy o seddi na phlaid Kirsty Williams.
Monday, May 11, 2015
Beth mae etholiadau'r San Steffan yn ei ddweud wrthym am etholiadau'r Cynulliad 2016?
Thursday, February 16, 2017
O ble daw'r pres i achub yr Egin?
Wednesday, October 20, 2010
Pam bod cynlluniau Hunt yn farwol i ddarlledu cyfrwng Cymraeg

Oni bai am ddifrifoldeb y goblygiadau, byddai yna rhywbeth digri - mewn ffordd grotesg - am y syniad o S4C yn cael ei hwrjio o un aelwyd ddi groeso i un arall fel rhyw hen ewythr sydd wedi hen golli ei bwyll, ei ddannedd a phob rheolaeth ar ei bledren, yn cael ei hun yn rhan o rhyw anghydfod teuluol ynglyn ag etifeddiaeth. Yn arbennig ag ystyried yr holl drafferth mae'r sianel wedi mynd iddo i fod yn barchus, yn sefydliadol, i bihafio ac i beidio a chicio yn erbyn y tresi.
Ond mae'n rhaid rhoi hynny i un ochr oherwydd bod deilliannau posibl y fargen a drawyd echnos rhwng y llywodraeth a'r Bib yn ymylu ar fod yn farwol i S4C. Wna i ddim ail adrodd yr hyn sydd wedi ei ddweud heddiw gan John Walter Jones, Alun Ffred na Chymdeithas yr Iaith. Y pwynt yr hoffwn ei wneud fodd bynnag ydi bod honiad Cheryl Gillan ar Wales Today neithiwr bod y llywodraeth yn gosod darlledu cyfrwng Cymraeg ar sail cadarn naill ai'n gelwyddog, neu'n brydachu'r ffaith bod gan Cheryl holl allu ymenyddol dafad sydd wedi cael clec ar ei phen efo morthwyl. Mi egluraf pam - yn syml iawn, iawn fel y gall hyd yn oed Cheryl ddeall.
Roedd darlledu Cymraeg ar sail gadarn cyn i blaid Cheryl gael eu dwylo ar rym gwleidyddol yn San Steffan - o ganlyniad i'r ffaith iddynt ennill yr etholiad cyffredinol yn Lloegr. 'Dydi o ddim rwan. Mae dau brif reswm am hyn.
Yn gyntaf mi fydd cyllideb y sianel yn nwylo corff sy'n cystadlu yn uniongyrchol yn ei herbyn mewn amrediad eang o feysydd. Felly mi fydd pwysau sylweddol - oddi mewn ac o'r tu allan i strwythurau swyddogol - i S4C addasu yr hyn mae'n ei ddarparu er mantais i'r Bib, ac yn groes i fuddiannau'r sianel Gymraeg. Mae'n dra thebygol y bydd hyn yn arwain at golli mwy o wylwyr na fydd eisoes wedi eu colli o ganlyniad i'r £25m fydd eisoes wedi ei dorri, cyn i weddillion bydol S4C gael ei drosglwyddo i Portland Place.
Yn ail mae'n anodd gweld sut na fydd rhaid i S4C orfod cystadlu am adnoddau gyda holl gydrannau eraill y Bib, ac mae'n anos fyth gweld sut goblyn mae'n bosibl iddynt gystadlu am yr adnoddau hynny. 'Dydi'r Bib heb ei ffurfio i amddiffyn darlledu cyfrwng Cymraeg, 'dydi cyflawni'r rol yna ddim am gario fawr o bwysau oddi mewn i'w chyfundrefn dyrannu cyllid. Neu i roi'r peth mewn ffordd arall 'dydi S4C gyda'i chynulleidfa fechan a'i chostau cynhyrchu uchel ddim yn gwneud fawr o synnwyr yn nhermau'r ffordd mae'r Bib yn edrych ar y Byd. Faint bynnag o adnoddau mae S4C yn ei gael - petai hynny ond yn £20m, mae'n mynd i ymddangos yn ddrud i benaethiaid y Bib. Cyn gynted a throsglwyddir S4C i grafangau'r Bib bydd yn cychwyn ar daith i lawr allt serth tuag at ddifancoll.
Byddai wedi bod yn llawer, llawer gwell trosglwyddo'r holl, job lot i'r Cynulliad - hyd yn oed os na fyddai yna lawer o adnoddau ariannol yn dod i'w ganlyn. Mae yna gefnogaeth wleidyddol i'r cysyniad o ddarlledu cyfrwng Cymraeg ym Mae Caerdydd - ar draws y pleidiau. 'Does yna ddim mewath o gefnogaeth i hynny yn Portland House. A hyd yn oed petai'r Cynulliad yn penderfynu na allai ariannu'r sianel ac yn ei chau, ein penderfyniad ni fyddai fo, mi fyddai'n rhan o'n gwleidyddiaeth ac mi fyddai'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o fyw efo'n penderfyniad. Efo'r drefn yma mae pob dim allan o'n gafael, allan o'n rheolaeth, y tu allan i'n strwythurau a'n diwylliant gwleidyddol.
A thra ein bod mewn hwyliau chwerw, ydych chi'n cofio'r lluniau o David Cameron yn dod i Gaerdydd yn fuan wedi iddo gael ei godi'n brif weinidog (a'r het wirion Kirsty Williams yn rhedeg i estyn croeso iddo)? Dangos parch at y sefydliadau datganoledig oedd y syniad am wn i. Mae'r penderfyniad yma - sydd wedi ei gymryd heb ymgynghori efo S4C, nag efo'r Gweinidog Diwylliant a Threftadaeth yng Nghaerdydd, nag efo'r Bib yng Nghymru - nag o bosibl hyd yn oed efo'r Swyddfa Gymreig ei hun (heb son am fan bethau megis pobl Cymru wrth gwrs) - yn dangos hyd a lled y parch hwnnw. Zilch.
Wednesday, May 26, 2010
Arolwg YouGov o etholiad cyffredinol 2010 yng Nghymru
Dyma rai o'r canfyddiadau:
- Roedd 40% wedi gwneud eu meddyliau i fyny ynglyn a phwy y byddant yn pleidleisio iddo ymhell, bell cyn yr etholiad. Penderfynodd 37% sut i bleidleisio yn ystod yr ymgyrch.
- Y Lib Dems ddioddefodd waethaf oherwydd pleidleisio tactegol gyda mwy o'u cefnogwyr yn pleidleisio i rhywun arall am resymau tactegol na'r un blaid arall (a 'dwi ddim yn tynnu coes).
- Carwyn Jones ydi'r arweinydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, wedyn Ieuan Wyn Jones, wedyn Kirsty Williams a dyn yr ystafell molchi sy'n olaf.
- Roedd 49.3% o'r sawl a holwyd yn dweud na fyddent byth yn pleidleisio i'r Toriaid o gymharu a 52.7% oedd yn dweud hynny am UKIP. Y ffigyrau ar gyfer y Lib Dems, Llafur a'r Blaid oedd 17.3%, 28.7% a 30.7% - yn y drefn yna.
- Plaid Cymru oedd a'r ganran uchaf o'i phleidlais yn dod o gategoriau cymdeithasol A,B ac C1. Llafur ac Eraill oedd a'r ganran isaf.
- Y Toriaid oedd yr olaf o'r bedair prif blaid ymysg y sawl oedd a hunaniaeth Gymreig, ond nhw oedd y cyntaf ymysg y sawl sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr.
- Bydd pleidlais Llafur a'r Lib Dems yn cynyddu yng nghydadran etholaethol etholiadau'r Cynulliad tra bydd pleidlais y Toriaid a Phlaid Cymru yn disgyn. Yn y cydadran rhanbarthol bydd pleidlais y Lib Dems yn cynyddu'n sylweddol iawn gyda phleidlais y pleidiau mawr eraill yn cwympo. Golyga hyn y bydd gan Llafur 28 o seddi, y Lib Dems 12 gyda Phlaid Cymru a'r Toriaid yn cael 10 yr un.
- Mae'r rhan fwyaf o bobl am weld mwy o bwerau i'r Cynulliad, ac mae mwyafrif clir o'r farn bod y wlad yn cael ei rheoli'n well ers dyfodiad y sefydliad.
- Mae mymryn tros hanner yn bwriadu pleidleisio 'Ia' gydag ychydig llai na thraean am roi croes wrth 'Na'. Yn bisar braidd mae mymryn mwy o blaid yr un pwerau a'r Alban na sydd o blaid yr argymhellion fydd yn cael eu hystyried yn ystod y refferendwm. Mae gan yr Alban fwy o bwerau o lawer na'r hyn a argymhellir ar gyfer Cymru wrth gwrs.
Diolch i RWJ am y data.








