2). Corbyn. Mae perfformiad Llafur yn yr etholiad yma am ladd y ddadl mai'r canol ydi'r lle i fod yn wleidyddol am genhedlaeth. Roedd y canlyniad bron yn gymaint o slap i'r traddodiad Blairaidd nag oedd i'r Toriaid.
3). Mae'r Dib Lems mewn lle du iawn yng Nghymru - 62 o seddi cyngor enillwyd gan blaid fwyaf celwyddog yn y wlad, nid oes ganddynt yr un aelod seneddol am y tro cyntaf erioed i bob pwrpas a dim ond Kirsty Williams sydd ganddynt yn y Cynulliad, ac mae hithau yn fwy o aelod annibynnol na dim arall.
4). Yr Alban. Mae'n bosibl bod pleidleisio tactegol i'r Toriaid gan Lafurwyr gwrth annibyniaeth wedi caniatau i May barhau fel Prif Weinidog. Mae gwleidyddiaeth yr Alban hefyd wedi ei Ulstereiddio - yn bennaf diolch i'r Toriaid. Mae'r math yma o wleidyddiaeth yn fwy ffyrnig, cynhenus, ac anymunol na gwleidyddiaeth gweddill y DU. Toriaid Ruth Davidson sy'n gyfrifol am hyn i raddau helaeth.
5). Gogledd Iwerddon. Y DUP ydi plaid mwyaf eithafol ac yn wir boncyrs y DU o ddigon. Ar sawl cyfri maent ymhellach i'r Dde nag UKIP. Mae May am orfod dibynnu ar eu pleidleisiau nhw - ac mi fydd yna bris i'w dalu. Gallai hynny beryglu elfennau o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a hefyd mae yna oblygiadau i Brexit. Gan y bydd y DUP yn mynnu na fydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i unrhyw ran arall o'r DU gallai hynny olygu y bydd rhaid i'r Toriaid anghofio am Brexit caled, neu gallai olygu Brexit caled ar ffin y Gogledd a'r Weriniaeth - rhywbeth fyddai'n arwain at y DU yn gadael yr UE heb gytundeb - rhywbeth fyddai'n arwain at anhrefn llwyr. Gallai'r DUP hefyd orfodi'r Toriaid i beidio ag ad drefnu'r ffiniau etholaethol - byddai newidiadau yn gostus i'r DUP. Yn y cyfamser mae'r canol gwleidyddol wedi ei sgubo o'r neilltu, ac mae'r etholaethau ar hyd y ffin bellach yn wyrdd tywyll, tywyll, tywyll. Mae gwleidyddiaeth y dalaith wedi ei bolareiddio yn llwyr - ac mae Brexit a'r ffin wrth galon y polareiddio hynny.
6). Plaid Cymru. Ag ystyried grym y llif i Lafur yng Nghymru mae cynyddu ein seddi yn erbyn y llanw wedi bod yn gryn gamp - er ein bod hefyd wedi bod yn lwcus iawn yn Arfon a Cheredigion ag ystyried maint y mwyafrifoedd. Ar y llaw arall gwleidyddiaeth unigryw y Gymru Gymraeg sydd wedi caniatau i hyn ddigwydd, a rydym unwaith eto ymhell o dorri tir newydd yn y Gymru ddi Gymraeg.
7). Llafur Cymru. Canlyniad da iawn iddyn nhw yng Nghymru - diolch i'r Blaid Lafur Brydeinig. Ar ol pleidleisio i Lafur am ganrif a chael ein hunain ar waelod pob tabl economaidd rydan ni wedi pleidleisio i Lafur eto, ac wedi gwneud hynny mewn niferoedd sylweddol iawn - mwy felly nag ydym wedi ei wneud ers cyfnod maith.
8). Y Toriaid. Ha, ha.
9). UKIP. Ha, ha, ha, ha, ha _ _ _
8 comments:
Ar ran y Blaid mi ddudwn i fod nifer o bobol ifanc wedi eu ysbrydoli gan Corbyn ar maniffesto Llafur. Mae yna lawer wedi nodi yn fan hyn (Dwyfor a Meirionydd) y bydda nhw wedi pleidleisio i Lafur pe bai yna ymgeisydd a oedd yn byw yn lleol.Ar y llaw arall does dim angen digaloni yn llwyr gan fod yna bobl ifanc wedi pleidleisio a chanfasio ir blaid hefyd yn ystod yr ymgyrch. Mae yna gryn dipyn o bobol yn gofyn bellach beth yw egwyddorion y blaid. Does yna yn fy marn i,
1. Dim digon o gyfeiriad ar ran annibyniaeth,
2. Dim digon o wahaniaeth rhyngddom ni a Llafur,
3. Dim digon o sticio at egwyddorion ar faterion megis ynni Niwcliar na ynni adnewyddol
4. Dim digon o weledigaeth ar ran cynllun economaidd i Gymru annibynol ( mae angen polisiau radical yn y maes yma).
5. Pam ar wyneb daear bod hi'n gymaint o gwffas i gael cefnogaeth cynghorwyr Plaid Cymru tros beidio a newid y CDLL yma yn Wynedd ac amddiffyn yr Iaith.
6. Arewinyddiaeth Leanne. Yr adborth ar y cyfan yw ei bod yn berson hoffus ond ddim yn tanio'r enaid.Mae angen cyfathrebwr gwell o lawer.
7. Roedd angen ymgeisydd ieuengach yn Ynys Mon ac efallai fod angen ystyried yn Arfon hefyd bellach.
8. Trefniadau lleol angen eu atgyfnerthu. Mae canoli pethau yn Gaerdydd yn gam gwag.
9. Mae gan y dde o fewn y Blaid ormod o ddylanwad ac er fod y polisiau cenedlaethol ir chwith nid yw hynny yn cael ei adlewyrchu yn lleol.
10. Gosod nod ar gyfer refferendwm annibyniaeth erbyn 2025.
M
hylo Cai,
parthed Arfon fedri di ymhelaethu ar yr hollt ieithyddol? Ai myfyrwyr Bangor oedd yn esbonio'r cynydd ym mhleidlais Llafur?
yr un ffenomenem ym Môn, hwyrach gyda trigolion Caergybi'n yn pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ond yn aros adre adeg etholiad y cynulliad?
newydd weld sylwadau ym mlog Glyn Adda am fyfyrwyr yng Ngheridigion
Helo Cai.
I ymateb yn sydyn i'r postiad ynglyn a'r etholiad:
Dwi'n credu bod angen i'r Blaid yn Arfon ofyn cwestiynnau eithaf caled i'w hun ar un peth sef pa mor simsan ydi'r gafael ar y
sedd yng ngwyneb ffactorau allanol. O ran fy hun mae'n rhaid i mi gyfaddef mod i yn credu fod PC rhyw 5-10 mlynedd oddi wrth ryw fath o 'crisis of legitimacy' yn yr ardaoloedd Cymraeg os nad fyddwn ni yn ail-ystyried tactegau.
Yn yr un modd o edrych ar Geredigion mae'n amlwg taw y Lib Dems (ag i raddau Gwyrdd ag UKIP) yn colli pleidleisiau a gafodd wedyn eu rhannu rhwng Llafur a Tori ddaru sdicrhau y fuddugoliaeth - tydi hynny wrth gwrs yn tynnu dim oddi ar Ben Lake nag ymgyrch PC Ceredigion oedd yn wych. Ond rhaid cytuno efo sylwadau Roger Scully am berygl sbinio yr etholiad yma fel buddugoliaeth i Blaid Cymru.
O ran difodiant y 'canol' gwleidyddol. Ddim yn gwbwl sicr o hyn ond rhaid nodi taw amgylchiadau economaidd ffafriol iawn y 90'au hyd at 2008 roddodd fodd i Lafur newydd a dwi'n credu fod y shift i'r chwith a'r dde ar hyn o bryd yn ymateb hwyr i'r argyfwng ariannol.
Gwion.
Dwi heb edrych ar y data yn iawn Wiliam, ond y patrwm cyffredinol oedd ymchwydd ym mhleidlais Llafur yn nwyrain yr etholaeth.
Dwi'n cytuno efo llawer iawn y mae Joniesta yn ei ddeud...heblaw am pwynt 9 am y dde yn y Blaid ..dwi ddim yn gwybod pwy ydi'r bobol yma bellach!! Ond yn sicr angen gwell a chryfach cynlluniau economaidd er mwyn ein gwahaniaethu oddi wrth llafur ..hefyd angen ail-ystyried y math o bolisiau / safbwyntiau asgell chwith yr ydan ni wedi bod yn eu arddel sydd yn bolisiau sy'n apelio at yr elfen ryddfrydol addysgiedig ar y chwit h ac nid at y bobol hynny sydd yn poeni am waith, tai, gwasnaethau a chyflogau - sef yr hyn sy'n pryderu'r werin bobol go iawn. Mae'r chwith yn eglwys wleidyddol eang iawn a da ni yn yr enwad anghywir!!!
Mae angen edrych ar faint ma Hywel yn wneud ochrau Bangor. Oes mae na swyddfa yma ond ydion rhan or gymuned? Hawdd meddwl mai yng Nghaernarfon mae ennill y sedd yma ond mae na gefnogaeth gryf ym Mangor PAN mae'r AS yn amlygu ei hun
Mae Leanne Wood wedi bod yn ddinistriol i'r blaid yr etholiad yma, a rhaid iddi ymddiswyddo ar fyrder. Yn y dadleuon a ddarlledwyd, y cwbl a gafwyd oedd ymosodiadau ar UKIP, llymder a Brexit. Fe lwyddodd i gorlannu pleidleisiau i'r Blaid Lafur yn ardderchog. Mae arnaf ofn fod gormod o edmygedd cudd o Corbyn o fewn arweinyddiaeth Plaid cymru - gwelwyd hyn hyd yn oed ar ol yr etholiad. Bu'r pwyslais undonnog ar 'amddiffyn Cymru rhag llymder/Ceidwadwyr/Brexit' yn naratif diflas, fwyfwy Prydeinig, ers blynyddoedd. Mae'n amlwg nad yw anibyniaeth yn golygu dim i Leanne Wood o'i gymharu a disodli'r Ceidwadwyr. Fel y gwelodd Nicola Sturgeon, tydi'r 'arhoswyr' tybiedig ddim o reidrwydd yn genedlaetholwyr, a dylid fod wedi anelu at ddenu 'ymadawwyr' hefyd.
Camgymeriad dybryd oedd ail-enwebu Ieuan Wyn Jones - mewn capel o bob man ! Daeth yn amlwg o lwyddiant lleol Sion Jones fod y Blaid Lafur, yn araf bach, yn ail-gydiad yn ieuenctid y Gogledd Orllewin. Tydi Dafydd Iwan na Bryn fon yn apelio dim at ein ieuenctid bellach, ac mae cyfryngau cymdeithasol Prydeinig yn dipyn mwy dylanwadol na S4C.
Mae Leanne Wood a'i chylch chwithig yn talu mwy o sylw i Wyrddion a Guardinistas Lloegr nac ydynt i'r Fro Gymraeg a'i chenedlaetholwyr.
Post a Comment